Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Cynghorwyr P. Edwards, A. Fox a T.J. Jones.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 26AIN O FAI, 2021. pdf eicon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

DIRPRWYO AWDURDOD I SWYDDOGION. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn cynnig, pan wneir ceisiadau am drwydded cerbyd sy'n cydymffurfio'n llawn â holl amodau'r drwydded ac eithrio nad yw capasiti'r injan yn llai na 1200cc,

bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i swyddogion ddelio â'r ceisiadau hyn, dim ond os ydynt yn fodlon bod y dechnoleg injan newydd o safon sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng yr injan dan sylw ac injan 1200cc yn gymharol ddibwys.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod rhaid i ymgeiswyr ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu ar hyn o bryd pan wneir cais am eithriad o Amod 13(e) o Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat neu 15(e) o Amodau Trwyddedu'r Cyngor ar gyfer Cerbydau Hacnai. Mae'r amodau hyn yn nodi na chaiff maint injan y cerbyd fod yn llai na 1200cc. 

 

Wrth gyflwyno gwell technolegau injans, roedd y fasnach dacsis yn ceisio trwyddedu cerbydau mwy effeithlon sy'n gydnaws â'r amgylchedd. Gall y cerbydau hyn fod â chapasiti injan o lai na 1200cc ond byddai allbwn p?er gwirioneddol y cerbyd yn cyfateb i 1200cc neu fwy.

 

PENDERFYNODD YN UNFRYDOL roi awdurdod dirprwyedig i swyddogion i ymdrin â cheisiadau ar y telerau a nodir yn yr adroddiad. 

 

 

5.

ADOLYGU'R POLISIAU SY'N YMWNEUD A CHERBYDAU HACNAI, CERBYDAU PREIFAT, GYRWYR A GWEITHREDWYR. pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â dwy ddogfen a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n effeithio ar drwyddedu Cerbydau Hacnai a Hurio Preifat. 

 

Mae polisïau ac amodau Sir Gaerfyrddin sy'n ymwneud â Cherbydau Hacnai a Cherbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd. Gan fod safonau statudol newydd wedi'u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth ynghyd ag argymhellion newydd gan Lywodraeth Cymru, cynigiwyd bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn adolygu ei bolisïau a'i amodau i ymgorffori'r safonau a'r argymhellion newydd hyn.

 

 

Ym mis Gorffennaf 2020 cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth Safonau Cerbydau Tacsis a Hurio Preifat Statudol gan ganolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed.

 Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth, yn dilyn ymgynghoriad manwl, ei bod yn amlwg bod consensws bod angen safonau gofynnol craidd cyffredin i reoleiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat yn well.

 

Mae safonau'r Adran Drafnidiaeth yn cael effaith yng Nghymru er bod y cyfrifoldeb am bolisi tacsis a cherbydau hurio preifat wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, pe bai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i reoleiddio'r materion hyn, ni fyddai safonau'r Adran Drafnidiaeth yn berthnasol mwyach.

 

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ganllaw i Gysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru. Mae'r ddogfen hon yn dilyn papur gwyn Llywodraeth Cymru 'Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus' a gyhoeddwyd yn 2018. Nod yr argymhellion yn y ddogfen oedd darparu 'atebion cyflym' i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Roedd yr argymhellion yn sail i Lywodraeth Cymru eu datblygu ymhellach i greu safonau cenedlaethol.

 

Amlinellwyd pum rheswm gan Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r argymhellion, diogelwch y cyhoedd yw'r cyntaf. Dylai'r cyhoedd allu disgwyl i yrrwr trwyddedig fod yn gymwys, yn onest, yn ddiogel ac yn ddibynadwy. Cafwyd nifer o adroddiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn rhannau eraill o'r wlad sy'n ymwneud â chamfanteisio ar blant sydd wedi'i gwneud yn glir bod trefniadau gwan ac aneffeithiol ar gyfer trwyddedu tacsis yng Nghymru a Lloegr wedi rhoi'r cyhoedd mewn perygl.

  Roedd yr argymhellion newydd hyn yn gobeithio unioni hyn drwy wella diogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Roedd hyn hefyd yn cynnwys diogelwch cerbydau, ynghyd â gwella'r safonau ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio preifat. Roedd rhesymau eraill dros fabwysiadu'r argymhellion yn cynnwys gwell cysondeb o ran safonau ledled Cymru, gorfodi wedi'i gysoni, mwy o hygyrchedd ar gyfer cerbydau yng Nghymru a safonau gwell o ran gwasanaeth cwsmeriaid.

 

Cynigiwyd felly y dylid cynnwys y polisïau tacsis mewn un ddogfen fawr sy'n cwmpasu'r holl bolisïau ac amodau atodol eraill a oedd yn ymwneud â thrwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Y gobaith yw y byddai hyn yn symleiddio materion i ymgeiswyr a deiliaid trwydded gan y byddai'r holl ddogfennau angenrheidiol ar gael mewn un lle.

 

 

Bydd safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth ac argymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn arwain at lawer o newidiadau i Bolisïau cyfredol yr Awdurdod.

 

I grynhoi, roedd y prif newidiadau fel a ganlyn:-

 

Gyrwyr

 

·         Gofyniad i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

 

OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

7.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MISS SAMANTHA BERYL GRIFFITHS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Miss Samantha Beryl Griffiths o 3 Talyclun, Llangennech yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Miss Griffiths ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-Swyddog Trwyddedu fod Miss Griffiths yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Miss Samantha Beryl Griffiths yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

8.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JASON DANIEL BAKER.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y pwyllgor nad oedd Mr Baker yn bresennol ac nid oedd wedi cysylltu â swyddogion i esbonio nad oedd yn gallu bod yn bresennol.  Gohiriwyd y cais hwn gan y pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf gan nad oedd Mr Baker yn gallu bod yn bresennol.
 
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylid gofyn i Mr Baker ymddangos gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf er mwyn ystyried ei gais ac y dylid ei gynghori pe bai'n methu â mynychu yna bydd ei gais yn cael ei ystyried yn ei absenoldeb.





    

9.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR JOSHUA JAMES DAVIES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Joshua James Davies o 36 Banc-y-Ddraenen, Rhydaman, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davies yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Joshua James Davies am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

10.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DAVID RHYDIAN THOMAS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr David Rhydian Thomas o 76 Bro Einon, Llanybydder, am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Thomas ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Thomas yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr David Rhydian Thomas am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

11.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ABDULLA ALYUFRUSI.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd swyddogion i ystyriaeth o'r cais hwn gael ei gohirio tan y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr Abdulla Alyufrusi tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau