Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Llun, 7fed Mawrth, 2022 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P Edwards a A.D.T. Speake.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

YMESTYN GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GORCHMYNION CŴN SIR GAERFYRDDIN) pdf eicon PDF 498 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd mewn perthynas ag ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol a oedd yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin am 3 blynedd arall.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet yn amodol ar nifer o eithriadau a chyfyngiadau, roedd y Gorchymyn Gwreiddiol yn ei gwneud yn ofynnol i bobl:

·       Godi baw eu c?n ar yr holl dir cyhoeddus yn y Sir.

·       Rhoi a chadw eu c?n ar dennyn drwy gyfarwyddyd.

·       Peidio â mynd â'u c?n ar unrhyw fannau chwarae caeedig i blant yn y Sir na gadael i'w c?n fyned i nac aros ar unrhyw fannau o'r fath.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet ymhellach fod cyfnod ymgynghori wedi'i dargedu ar ymestyn y Gorchymyn wedi'i gynnal gyda nifer o ymgyngoreion statudol a rhanddeiliaid perthnasol eraill, ac roedd rhestr wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.  Fodd bynnag, roedd yn amlwg bod nifer o ymatebion wedi dod i law gan unigolion a sefydliadau nad oedd wedi'u gwahodd i ymateb. Cafwyd 43 o ymatebion gydag 85% o'r ymatebwyr hynny yn cefnogi ymestyn y Gorchymyn presennol am gyfnod o 3 blynedd.

 

Dywedwyd bod nifer o ymatebwyr wedi rhoi sylwadau / awgrymiadau i’r ymgynghoriad a bod y sylwadau a'r ymatebion yn Atodiad 8 yr adroddiad.

 

Nododd Aelodau'r Pwyllgor fod yr adroddiad hwn yn ceisio ymestyn hyd Gorchymyn 2016 a byddai angen gwneud Gorchymyn Estyn newydd, ac roedd Gorchymyn drafft wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad 2.  Dywedwyd y byddai'r Awdurdod, yn amodol ar ymgynghoriad ar wahân, yn gallu ystyried rheolaethau ac amodau ychwanegol i'w hychwanegu at y Gorchymyn presennol yn y dyfodol a bod ymarfer ymgysylltu'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i geisio barn ehangach.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·      Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch Hysbysiadau Cosb Benodedig, eglurodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd fel y nodwyd yn 3.1 o'r adroddiad, ers i Orchymyn 2016 ddod i rym cafwyd  3002 o gwynion  mewn perthynas â baw c?n (hyd at 31/12/2021)  Roedd 100 o docynnau cosb benodedig wedi'u rhoi ac roedd 6 erlyniad wedi'u rhoi ar waith i droseddwyr nad oedd wedi talu'r hysbysiad cosb benodedig.  Pwysleisiwyd mai'r anhawster oedd y byddai'n rhaid i swyddog gorfodi fod yn dyst i'r digwyddiad ar adeg y drosedd er mwyn gallu cyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

 

·      Gofynnwyd a oedd modd gorfodi'r Gorchymyn y tu allan i le caeedig ac a oedd palmentydd yn cael eu cynnwys?  Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y Gorchymyn yn cwmpasu unrhyw dir cyhoeddus ac y byddai mannau caeedig â ffens fel maes chwarae i blant yn cynnwys parth dim c?n.  Eglurwyd bod llwybrau troed yn cael eu cynnwys fel tir cyhoeddus ac felly'n dod o dan y Gorchymyn.

 

·      Gan gyfeirio at yr ymateb gan y Kennel Club fel rhan o'r ymgynghoriad, dywedwyd bod yn rhaid i ffermwyr ddarparu dogfennau i brofi eu bod yn trin eu c?n o ran llyngyr er mwyn cael yswiriant. Fodd bynnag, mynegwyd bod perchnogion c  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2022/23 pdf eicon PDF 380 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig yr adroddiad gan egluro bod Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau 2022/23 ond yn cynnwys darnau o Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr ar gyfer yr Is-adran TGCh a Pholisi Corfforaethol a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu hwn, sef diogelwch cymunedol. 

 

Bu'r Aelodau yn ystyried y rhannau oedd yn berthnasol i Ddiogelwch Cymunedol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn gofyn am eglurhad o ran tebygrwydd y disgrifiadau yn y Camau Gweithredu a Mesurau Allweddol Cyfeirnod 1, 2, 4 a 7, esboniodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y dyfyniad yn cynnwys camau gweithredu o'r cynllun adrannol yn ogystal â'r cynllun is-adrannol er mwyn darparu mwy o gyd-destun.  Wrth gydnabod bod y geiriad yn debyg iawn ei natur, roedd y rheswm dros y tebygrwydd o ganlyniad i'r ddyletswydd o ran elfen gwrthderfysgaeth y Strategaeth Contest a bod gofyniad newydd yn benodol o ran y 'ddyletswydd amddiffyn’.  At hynny, wrth dderbyn y pwynt a godwyd yngl?n â'r geiriad, cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i aralleirio hyn er mwyn rhoi eglurder.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn elfennau Diogelwch Cymunedol Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2022/23 a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2022/23 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu Aelodau'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2022/23 a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Diogelu'r Cyhoedd a’r Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig mewn perthynas â'r meysydd a oedd yn dod o fewn eu portffolios a chylch gwaith y Pwyllgor.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Cyhoeddus, er bod Carbon Sero Net yn rhan o bob maes o waith y Cyngor, roedd y cyfrifoldeb o dan Adran yr Amgylchedd ac felly roedd y camau a'r mesurau priodol bellach wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes Adran yr Amgylchedd.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y Gwelliannau a Gynllunnir ar gyfer 2022/23 mewn perthynas â chyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya sydd wedi’u rhagosod yn genedlaethol mewn ardaloedd preswyl.  Mynegwyd bod nifer o bentrefi heb unrhyw derfyn o dan y terfyn cyflymder cenedlaethol o 60mya, gofynnwyd sut y byddai hyn yn effeithio ar y rhain?  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar yr ardaloedd hynny sydd â therfynau o 30mya ac y byddent yn edrych ar ardaloedd trefol yn hytrach nag ardaloedd gwledig.  Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch ardaloedd preswyl lle nad oedd terfynau wedi'u pennu ar hyn o bryd, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r term 'ffyrdd cyfyngedig', lle byddai'r terfyn cyflymder yn cael ei reoli gan system o oleuadau stryd.   Lle mae goleuadau stryd yn bodoli ar ffyrdd gyda therfyn cyflymder o 30mya, roedd y ddeddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardaloedd hyn gael eu gostwng i 20mya.  Felly, ni fyddai'r ddeddfwriaeth newydd yn effeithio ar y pentrefi hynny heb oleuadau stryd na therfyn cyflymder o 30mya.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch ardaloedd preswyl heb unrhyw derfyn cyflymder ar hyn o bryd, dywedodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth, er na fyddai'r ardaloedd hyn yn cael eu hystyried o dan y ddeddfwriaeth, y gellid ystyried aneddiadau a allai elwa ar gyflwyno terfyn cyflymder fel rhan o'r prosiect.

 

·       Cyfeiriwyd at y mesur a nodwyd ar dudalen 29 o'r adroddiad cyf. E11 -“byddwn yn ehangu’r dull llwyddiannus hwn ac yn defnyddio cytundebau A106 a chyfraniadau gan ddatblygwyr i gyflawni buddion bioamrywiaeth angenrheidiol lle bo’n briodol.  (Medi 2022 & Mawrth 2023)”.  Dywedwyd bod yr Aelodau wedi cael gwybod yn ddiweddar y gallent wneud cais am arian A106 i’w ddefnyddio yn eu cymunedau. Gofynnwyd am eglurhad ar y mesur oherwydd pryderon y gallai cymunedau golli allan ar gael yr arian A106. Esboniodd y  Swyddog Bioamrywiaeth, ar gyfer datblygiadau lle'r oedd effaith sylweddol ar fioamrywiaeth, na ellid ei lliniaru ar y safle neu le'r oedd yn gymhleth gwneud hynny, fod y Cyngor wedi mabwysiadu dull llwyddiannus lle derbyniwyd cyllid A106 i Gyngor Sir Caerfyrddin ymgymryd â mesurau lliniaru priodol/iawndal i'r datblygwr ar y safle neu oddi ar y safle drwy gynllun rheoli a oedd wedi'i ariannu ac y cytunwyd arno. Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw golled net o ran bioamrywiaeth, a byddai'n  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

OPSIYNAU HYGYRCHEDD MEWN CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF YN Y DYFODOL pdf eicon PDF 366 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad am wybodaeth a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac opsiynau ar gyfer y dyfodol ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn ceisio darparu strategaeth hygyrchedd ar gyfer y dyfodol ar gyfer gwasanaeth y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir Gaerfyrddin a fyddai'n sicrhau gwasanaeth effeithlon a hygyrch i drigolion Sir Gaerfyrddin a sicrhau ein bod yn ailgylchu cymaint â phosibl wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn yn y tymor hir.


 

Bu'r Aelodau'n ystyried yr adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol a’r effaith ar y gwasanaeth ynghyd â'r opsiynau arfaethedig a fyddai'n galluogi llwyddiant y system archebu drwy ddatblygu system Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig  ar draws y rhwydwaith o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref fel a ganlyn:

 

·       Cadw'r system apwyntiadau TG sydd ar waith ar hyn o bryd am y deuddeg mis nesaf.

·       Cadw'r system apwyntiadau TG am y deuddeg mis nesaf a threialu dull hybrid o archebu

·       Cael gwared ar y system apwyntiadau TG

·       Ymhen 12 mis cyflwyno system Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig a system fynediad sy'n cofrestru preswylwyr ym mhob un o'r pedair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Dywedwyd bod preswylwyr yn hapus â'r system archebu bresennol, fodd bynnag, gofynnwyd am eglurhad o ran y dull o'i ddefnyddio.  Cytunodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiadau'n awgrymu bod defnyddwyr Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ledled y Sir yn fodlon â'r dull archebu presennol ar-lein ac ar y ffôn.  Yr hyn oedd yn cael ei gynnig oedd bod y system archebu bresennol yn parhau am 12 mis tra bod yr opsiwn o ran system Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig yn cael ei archwilio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i dderbyn adroddiad Opsiynau Hygyrchedd y Dyfodol mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

 

8.

DARPARU PALMENTYDD MEWN ARDALOEDD GWLEDIG pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Ddarparu Palmentydd mewn Ardaloedd Gwledig a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.  Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn ar gais y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn dilyn atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio ynghylch diffyg darpariaeth palmentydd mewn ardaloedd gwledig a'r ôl-groniad o geisiadau.

 

Mynegodd y Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 bryder ynghylch diffyg palmentydd mewn ardaloedd gwledig i hwyluso'r lefelau uwch o bobl oedd yn cerdded a beicio, a chyfeiriwyd at y ceisiadau oedd wedi dod i law am balmentydd. 

 

Nododd yr adroddiad fod pwysau hirdymor wedi bod ar y Cyngor Sir yn dilyn y nifer fawr o geisiadau a dderbyniwyd am welliannau i'r briffordd megis uwchraddio cyffyrdd, mesurau arafu traffig, rhannau newydd o'r ffordd a llwybrau troed newydd.  Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd yn llawer mwy na'r adnoddau a oedd ar gael drwy gyllideb gyfalaf flynyddol y Cyngor a ddyrannwyd ar gyfer Gwelliannau Diogelwch Ffyrdd ac Isadeiledd Priffyrdd. Lefel y cyllid cyfalaf oedd ar gael oedd £250k y flwyddyn. Roedd lefel y cyllid yn galluogi cyflawni uchafswm o dri chynllun y flwyddyn.


 

Wrth ystyried y wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad, mynegwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol gan aelodau'r Pwyllgor:

 

·       Wrth gydnabod yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, pwysleisiwyd bod y ddarpariaeth bresennol o ran palmentydd mewn ardaloedd gwledig yn parhau i fod yn bryder mawr.  Yn debyg i gynlluniau datblygu eraill, gofynnwyd a oedd ffordd o ddatrys y mater parhaus ynghylch palmentydd drwy fenthyca arian?  Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai'n well trafod hyn fel rhan o'r Flaenraglen Waith yn dilyn yr etholiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL  i dderbyn yr adroddiad Darparu Palmentydd mewn Ardaloedd Gwledig.

 

 

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:

 

·       Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2022/23

 

Nododd yr Aelodau y byddai'r dyddiad cyflwyno diwygiedig ar ôl cyfnod yr etholiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 438 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: