Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

Eitem 6 - Cynllun Carbon Sero-net

Mae'r Cynghorydd Lloyd yn aelod o Carmarthen Energy Ltd ac yn un o'i gyfranddalwyr

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 pdf eicon PDF 452 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd C. Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-23, ym mis Ebrill 2021.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion Llesiant y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018, fel y'i diwygiwyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Coronafeirws (Covid-19), Brexit a newid yn yr hinsawdd.

 

Er yr ystyriwyd ei bod yn arfer da sicrhau bod y Strategaeth Gorfforaethol wedi'i diweddaru a bod adnoddau wedi'u dyrannu i flaenoriaethau, nododd y Pwyllgor fod yn rhaid cyhoeddi'r Amcanion Gwella yn flynyddol yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mesur Cymru 2009) a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Gwnaed sylwadau ategol hefyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd H. Evans; a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, y Cynghorydd P.M. Hughes ynghylch eu portffolios penodol. 

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·      Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 8 – Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch. Mewn perthynas â'r ystadegyn bod 73% o drigolion Sir Gaerfyrddin, bum mlynedd yn ôl, yn teimlo eu bod yn byw mewn cymuned gydlynol, mynegwyd pryder ei fod wedi gostwng i hanner (51.5%).  Gofynnwyd a oedd esboniad am y gostyngiad sylweddol. Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod adroddiad wedi'i gyflwyno'n ddiweddar i'r Bwrdd Gweithredol ar waith oedd yn ymwneud â chydlyniant cymdeithasol. Yn dilyn ymgynghori helaeth, roedd tystiolaeth bod tensiynau wedi deillio o ddadl Brexit a oedd wedi rhannu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cydnabod bod pandemig Covid-19 hefyd yn ffactor, yn ogystal â'r ddadl gyhoeddus ar fudiad Black Lives Matter.

 

Gofynnwyd a allai'r adroddiad uchod i'r Bwrdd Gweithredol gael ei anfon ymlaen at aelodau'r Pwyllgor. Nodwyd hyn a byddai camau'n cael eu cymryd i sicrhau hynny.

 

·      Cyfeiriwyd at Gydnerthu Cymunedol (Amcan Llesiant 8). Er cydnabod bod y pandemig yn her sylweddol a oedd wedi dod â chymunedau at ei gilydd, roedd problem gynyddol yn Sir Gaerfyrddin oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac roedd canlyniadau hynny wedi arwain at lifogydd yn digwydd droeon. Gofynnwyd a oedd y Cyngor yn gallu dysgu o'r cyfnod hwn er mwyn meithrin mwy o gydnerthedd cymunedol. Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod llawer o gymunedau, yn ystod y pandemig, yn gweithio gyda'i gilydd i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed. O ran llifogydd yn benodol, derbyniwyd eu bod yn digwydd yn amlach. Oherwydd cymhlethdod y problemau hyn, awgrymwyd mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â nhw fyddai datblygu ateb hirdymor strategol drwy gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin ac Undebau'r Ffermwyr.

 

Er deall bod heriau, dywedwyd y byddai'n fuddiol petai rhagor o gyfleoedd ar gael i gymunedau weithio ochr yn ochr â sefydliadau'r trydydd sector, yn enwedig yn y broses adfer.

 

·      Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 10. Gofynnwyd a ddylai rôl 'Sir Gaerfyrddin  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

COVID-19 A'R CYNLLUN DIOGELU RHAG CAMFANTEISIO ARIANNOL pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a oedd yn adolygu'r Cynllun Diogelu Camfanteisio Ariannol (FESS) ar hyn o bryd.  Cynigiodd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a oedd yn cynnal adolygiad o'r ymyriadau ehangach y mae'r tîm yn eu gweithredu o dan FESS, y byddai'r wybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad o fudd i holl aelodau'r Pwyllgor.

 

Nod yr adroddiad oedd cynyddu ymwybyddiaeth a rhoi gwybod i aelodau'r Pwyllgor am y gwaith rhagweithiol oedd yn cael ei wneud gan y tîm Safonau Masnach ar gamfanteisio ariannol a'i waith yn amddiffyn y rhai sy'n agored i ecsbloetio yn ystod Pandemig Covid-19.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:-

  • Taflen gymorth Parthau Dim Galw Diwahoddiad Covid-19, Hyfforddiant am Weithredu Amheus, Twyll a Sgamiau
  • Ffeithluniau digidol - manylion yr ymyriadau y mae Safonau Masnach yn eu cynnig
  • Ffeithlun Cyngor Busnes - sy'n cynnwys enghreifftiau o sgamiau busnes cyffredin a gwybodaeth hanfodol arall
  • Gwybodaeth am y cynllun Prynu â Hyder
  • Gwybodaeth ystadegol mewn perthynas â'r offeryn monitro arloesol trueCall©

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd, gyda chefnogaeth y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Mynegodd aelod, fel rhywun oedd wedi cael ei dwyllo, fod y gefnogaeth a ddarparwyd gan y tîm Safonau Masnach drwy gydol y profiad wedi bod yn hynod ddefnyddiol, a siaradodd o blaid gwaith yr adran ar FEES.

 

  • Dywedwyd, gan fod galw diwahoddiad ar gynnydd, ei bod yn dda nodi bod y tîm Safonau Masnach yn cydweithio â'r heddlu.

 

Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol am ddiolch yn ddiffuant i holl swyddogion y tîm Safonau Masnach am eu gwaith rhagorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Covid-19 a'r Cynllun Diogelu Camfanteisio Ariannol.

 

 

6.

CYNLLUN CARBON SERO-NET - ADRODDIAD DIWEDDARU (DRAFFT) pdf eicon PDF 513 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd, ar ôl datgan yn gynharach, ddiddordeb personol yn yr eitem hon, wedi aros yn y cyfarfod, wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth ond heb gymryd rhan yn y penderfyniad].

 

Yn dilyn cymeradwyo'r Cynllun Carbon Sero-net gan y Cyngor Sir ar 12 Chwefror 2020, roedd y fersiwn ddrafft o'r Cynllun Carbon Sero-net wedi cael ei llunio yn unol â Cham Gweithredu NZC-28 o'r Cynllun, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'n flynyddol adroddiadau perfformiad ar y cynnydd tuag at fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.

 

Cafodd y Pwyllgor y fersiwn ddrafft o'r adroddiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig.  Roedd yr adroddiad drafft yn cynnwys gwybodaeth fanwl yn yr adrannau canlynol:

 

  • Crynodeb Lefel Uchel gan gynnwys Cynnydd yn erbyn Camau
  • COVID-19 a Newid Hinsawdd
  • Diweddariad Cynnydd
  • Camau yn y Dyfodol
  • Ymateb Ehangach i'r Argyfwng Hinsawdd (Atodiad 1)

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • O ran materion llifogydd, holwyd sut roedd y Cyngor yn mynd i weithio gydag undebau'r ffermwyr.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod y Gweithgor Materion Gwledig wedi ystyried rheolaeth slyri, a oedd wedi nodi bod llygredd afonydd wedi gostwng. Fodd bynnag, roedd nifer o ffactorau eraill yn gysylltiedig heblaw am y diwydiant ffermio. Roedd yn ofynnol i ffermwyr gadw at reoliadau penodol, lle gallai torri'r rheoliadau fod yn fesur gwell.

 

  • Cyfeiriwyd at y cyllid a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i osod hwb gwefru cyflym iawn ar gyfer cerbydau trydan yn Crosshands, a gofynnwyd a ellid cael rhagor o wybodaeth am hyn. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod 26 o bwyntiau gwefru ar draws y Sir ar hyn o bryd a'r uchelgais oedd gosod mwy.  Darparodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd ddiweddariad yn cadarnhau bod cais am grant wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru osod 14 pwynt gwefru arall y flwyddyn nesaf.  O ran datblygu hwb gwefru cyflym iawn yn Crosshands, cadarnhawyd bod y gwaith yn digwydd yn unol â'r amserlen yn barod i'w gomisiynu yn Ebrill eleni.

 

  • Gofynnwyd a ddylid cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan fel amod cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr e.e. archfarchnadoedd. Eglurodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu strategaeth genedlaethol ar wefru cerbydau trydan, i'w chyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Ar ôl i'r strategaeth hon gael ei chyhoeddi, gallai strategaeth cerbydau trydan y Cyngor geisio ymrwymiad gan ddatblygwr i'r seilwaith gwefru cerbydau trydan.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd gan Western Power Distribution unrhyw gynlluniau i wella capasiti'r system rhwydwaith dosbarthu trydan leol (Grid), dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig ei fod yn ymwybodol o drafodaethau gyda Western Power Distribution ar y mater hwn.  Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy fod Swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda Western Power Distribution a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.  Adroddwyd bod Western Power Distribution wedi galw'n ddiweddar am dystiolaeth i nodi prosiectau carbon isel 'parod' os oedd digon o gapasiti  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:-

 

·       Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) – Cynllun Cyflawni ar gyfer y Dyfodol

·       Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·       Cynlluniau Busnes Adrannol

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd wrth y Pwyllgor, o ran y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, fod oedi pellach yn anffodus ac y byddai'r adroddiad hwn yn awr yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf ym Mai 2021, ac nid yn Ebrill fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1 derbyn y dyddiad diwygiedig ar gyfer y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol;

7.2  nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor nifer yr adroddiadau ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf, o ganlyniad i lawer o adroddiadau gohiriedig dros y misoedd diwethaf.  Fodd bynnag, eglurodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig sicrhau bod y Pwyllgor yn gwneud gwaith craffu o ansawdd da, ac felly cynigiwyd ymestyn cyfarfod y Pwyllgor i'r prynhawn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 19 Ebrill 2021;

8.2 ymestyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ym mis Ebrill i'r prynhawn.

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 1 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau