Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD HANNER BLWYDDYN 2020/21 (1 EBRILL TAN 30 MEDI 2020) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Hanner Blwyddyn 2020/21 am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2020.
Roedd
yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y mesurau
perfformiad a geir yn Strategaeth Gorfforaethol 2020/21. Nodwyd,
oherwydd y pandemig Covid-19, nad oedd Cynlluniau Gweithredu
Adrannol ar gyfer 2020/21 yn cael eu monitro ar hyn o bryd er mwyn
galluogi gwasanaethau i ganolbwyntio ar ddelio ag
argyfyngau. Yn hytrach na monitro'r
camau gweithredu a osodwyd cyn y pandemig, lluniwyd Asesiad o'r
Effaith ar y Gymuned hanner blwyddyn mewn perthynas â
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2021/22 hyd at 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2021/22 i 2023/24 a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/2022 ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion y swyddogion ynghylch gofynion gwariant, ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu cyflwyniadau adrannol cyfredol ar gyfer cynigion am arbedion ar ôl ystyried effaith y pandemig Covid-19 ar gyflawni'r arbedion hynny.
Er bod llawer o waith eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, nodwyd mai datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad hwn a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y mis i ddod wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach, ymgysylltu ag aelodau'r cyngor a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y setliad terfynol i fod i gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2021.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod Covid-19 wedi arwain nid yn unig at gostau ychwanegol na welwyd eu tebyg o'r blaen ond hefyd at ostyngiad mewn incwm pwysig, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau symud. Rhagwelwyd y byddai'r cyfuniad o wariant ychwanegol a cholli incwm yn cael effaith o £30 miliwn ar gyllidebau Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae awdurdodau wedi cyflwyno hawliadau misol, sydd wedi'u hasesu ac i raddau helaeth iawn, wedi'u had-dalu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Gan edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf, nid yw cyllid parhaus Llywodraeth Cymru fel hyn wedi'i ymrwymo ar hyn o bryd, yn bennaf gan nad oes gan Lywodraeth Cymru ei hun gyllid wedi'i gadarnhau eto o ganlyniad i wariant San Steffan sy'n gysylltiedig â Covid-19.
Er bod y Strategaeth yn cynnig cynnydd o 4.89% yn y Dreth Gyngor ar gyfer pob un o'r tair blynedd ariannol, roedd y Bwrdd Gweithredol wedi argymell y dylid lleihau'r cynnydd ar gyfer 2021/22 i 4.48%. Byddai'r Cyngor yn ystyried yr argymhelliad hwn yn ei gyfarfod ar 3 Mawrth 2021 wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22. Yn ogystal, byddai ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021 a byddai unrhyw ddiwygiadau y mae'n ofynnol eu hystyried mewn perthynas â Strategaeth y Gyllideb sy'n deillio o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 3 Mawrth.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:-
· Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd · Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd · Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd
Er bod cynigion y gyllideb yn rhagdybio y byddai'r holl gynigion arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg mewn cynigion arbedion ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23 a 2023/24, byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer y blynyddoedd olaf hynny er mwyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD MONITRO'R GYLLIDEB REFENIW A'R GYLLIDEB GYFALAF 2020/21 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2020, mewn perthynas â 2020/21.
Gofynnwyd y cwestiwn canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at nifer y swyddi gwag yng Ngwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a gofynnwyd i swyddogion a yw'r rhain wedi'u hysbysebu/llenwi. Eglurodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod llawer o symud staff wedi bod i helpu'r tîm Profi Olrhain Diogelu a'r nod oedd llenwi pob swydd wag cyn gynted â phosibl.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:-
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor restr o eitemau i'w cynnwys ar agenda'r cyfarfod nesaf sydd i'w gynnal ar 5 Mawrth 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir.
|