Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorydd P. M. Edwards.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:
· Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
Nododd yr Aelodau y dyddiad cyflwyno diwygiedig, sef 25 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|||||||
YMATEB I LLIFOGYDD MEWN ARGYFWNG - TREFNIADAU DIGWYDDIADAU STORM Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Ymateb i Lifogydd Mewn Argyfwng - Trefniadau Digwyddiadau Storm. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, yn darparu gwybodaeth fanwl am sut mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn delio â digwyddiadau stormydd sy'n achosi llifogydd eang ac yn ymateb iddynt ac yn cynnwys y camau y gellid eu disgwyl gan y Cyngor.
Ystyriodd aelodau'r Pwyllgor yr egwyddorion a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer ymateb i lifogydd yn ystod y cam ymateb i argyfwng.
Nododd yr Aelodau fod y patrwm o ran stormydd gaeaf amlach a oedd yn gofyn am ymateb brys wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.
Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar brif agweddau'r cam gweithredol ar gyfer ymateb i argyfwng a gwybodaeth am y gwaith glanhau ffisegol uniongyrchol a oedd yn rhan o'r cam adfer ac yn ogystal, roedd yn cyfeirio at agweddau ehangach y cam ymateb ac adfer ar ôl y digwyddiad.
Mewn ymateb i storm a arweiniodd at lifogydd sylweddol, nodwyd y camau penodol canlynol i reoli digwyddiad o'r fath:
· Y cam cynllunio cyn y storm; · Cam ymateb adweithiol ar unwaith yn ystod llifogydd; ·Cam ymateb ac adfer yn syth ar ôl y digwyddiad.
Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r cynnwys canlynol yn yr adroddiad:
· Asiantaethau partner · Timau Llifogydd Argyfwng Cyngor Sir Caerfyrddin (trosolwg) · Cyfrifoldebau a Swyddogaethau Statudol (yn gysylltiedig â llifogydd) · Proses Arfaethedig Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Ymateb i Lifogydd . · Cyfrifoldeb Perchenogion Eiddo Preifat · Camau Gweithredu Hirdymor ar ôl storm
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd diolch i'r Swyddogion am lunio adroddiad cynhwysfawr a oedd yn rhoi gwybodaeth a oedd wedi'i nodi'n glir.
· Gofynnwyd am eglurhad ar lefel cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o ran yr afon a achosodd y llifogydd sylweddol ym Mhensarn, Caerfyrddin. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod llifogydd o brif afon yn gyffredinol yn dod o dan gyfrifoldeb CNC o dan ymbarél swyddogaethau llifogydd ac amgylcheddol ehangach Llywodraeth Cymru. Mewn perthynas â'r llifogydd ym Mhensarn, dywedwyd bod y llifogydd wedi'u hachosi gan gyfuniad o ffactorau gan gynnwys y ffaith nad oedd d?r glaw yn gallu llifo o'r tu ôl i'r amddiffynfa rhag llifogydd oherwydd lefel d?r uchel afon Tywi. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn ceisio cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud rhagor o waith i archwilio'r hyn y gellir ei wneud i leddfu'r problemau llifogydd yn ardal Pensarn, Caerfyrddin.
· Gwnaed sylw bod y wybodaeth a roddwyd am y cynnydd yn nifer y stormydd ac effaith hynny ar gymunedau yn peri gofid ac yn debygol o fod oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Nodwyd er bod gan ddeiliaid tai a busnesau eu cyfrifoldebau eu hunain, gofynnwyd pa waith oedd yn cael ei wneud i annog cymunedau ac yn enwedig cymunedau agored i niwed i gael cynllun mewn argyfwng a wardeiniaid argyfwng hyfforddedig? Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff ei bod yn bwysig i gymunedau geisio bod mewn sefyllfa ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
ADRODDIAD PERFFORMIAD CWARTER 1 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEHEFIN 2021) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (Nodyn: Yn gynharach, datganodd y Cynghorydd J Gilasbey ddiddordeb mewn gweithred yn yr eitem hon).
Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 a gyflwynwyd gan yr Aelodau Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, Cymunedau a Materion Gwledig a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd mewn perthynas â'r meysydd sy'n dod o dan eu portffolio a chylch gwaith y Pwyllgorau.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol ac ar gyflawni'r 13 Amcan Llesiant. Nododd y Pwyllgor mai 2021/22 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Cyngor yn ei hunanarfarnu ac yn adrodd arni o dan delerau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 sy'n ymwneud â Pherfformiad a Llywodraethu.
Cyflwynwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol yn ymwneud â'r camau sy'n gysylltiedig â phortffolio'r Amgylchedd:-
Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd wrth yr Aelodau na chaniateir yswirio yn erbyn materion a oedd yn ofyniad cyfreithiol/statudol. Yn ogystal, dywedodd fod yswirwyr CWM Environmental Ltd wedi derbyn atebolrwydd mewn perthynas â'r tân a bod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y digwyddiad a'r sefyllfa bresennol ac er y byddai tabl cynghrair ar gyfer targedau yn parhau i gael ei gyflwyno, oherwydd y camau a oedd ar waith i gywiro materion, roedd dirwy yn annhebygol.
|
|||||||
STRATEGAETH WASTRAFF I'R DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Strategaeth Wastraff i'r Dyfodol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth, camau gweithredu ac ystyriaethau arfaethedig i'r dyfodol ar gyfer y Gwasanaeth Gwastraff, er mwyn cyrraedd targed ailgylchu o 70% erbyn 2024/25 a darparu sylfaen ar gyfer gwelliannau i sicrhau dim gwastraff erbyn 2050.
Rhoddwyd sylw i'r sylwadau/ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at yr adran Cymharu Gwasanaethau a Pherfformiad yn yr adroddiad. Mewn perthynas â'r tabl a oedd yn disgrifio'r perfformiad yn erbyn dull casglu'r 22 Awdurdod yng Nghymru yn 2019/20, gwelwyd ei bod yn ymddangos nad oedd cyfradd ganrannol y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar gyfartaledd ar draws yr Awdurdodau yn dangos fawr o wahaniaeth er bod rhai eisoes wedi mabwysiadu dull y Glasbrint. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd y bvddai Llywodraeth Cymru ond yn darparu'r cyllid angenrheidiol pe bai'r Awdurdod yn mabwysiadu dull y Glasbrint. Yn ogystal, eglurwyd i'r Aelodau y byddai'r fethodoleg hon yn hwyluso deunyddiau glanach gan leihau halogi sy'n galluogi ailgylchu hwylus yn y DU. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff mai'r anawsterau mewn perthynas â'r tabl cymharu oedd na nodwyd y waelodlin lle dechreuodd Awdurdodau Lleol cyn mabwysiadu dull y Glasbrint.
Yn ogystal, hysbyswyd yr Aelodau fod dull y Glasbrint yn y bôn yn croesawu economi gylchol, gan alluogi gwell defnydd o ddeunyddiau sy'n bodoli eisoes a mabwysiadu deunyddiau o ansawdd gwell sy'n cefnogi cyfansoddiad yr economi gylchol.
· Er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod i ddeiliaid tai am ba ddeunydd i'w osod ym mha fag a hyrwyddo ailgylchu, awgrymwyd y dylid dosbarthu taflen ochr yn ochr â'r dosbarthiadau blynyddol. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol, mewn perthynas â chasgliadau bagiau du a bagiau ailgylchu glas, y byddai llythyrau addysgol yn cael eu dosbarthu i aelwydydd lle nodwyd bod problem. Byddai hyn yn cael ei ategu gan ymweliad os oes angen.
· Gofynnwyd, pe bai dull y Glasbrint yn cael ei fabwysiadu, a fyddai'r canolfannau ailgylchu gwydr yn aros yn eu lle gan eu bod yn wasanaeth hanfodol i bob cymuned? Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Amgylcheddol y byddai'r rhwydwaith presennol o Safleoedd Casglu Gwydr yn cael ei leihau a byddai hyn yn cael ei ystyried ar y sail y byddai'r safle a ddefnyddir fwyaf yn cael ei gadw. Fodd bynnag, ni fyddai'r broses hon ar waith nes bod y casgliadau gwydr wythnosol o d? i d? ar waith ledled y Sir yn 2024.
· Mynegwyd pryder yn adleisio'r pryderon a godwyd yn y Dadansoddiad Thematig o'r gwaith Ymgysylltu ynghylch Casgliadau Gwastraff a atodir i'r adroddiad ynghylch casglu 3 bag du bob tair wythnos a'r posibilrwydd y byddai'r cynnig yn cynyddu'r tebygolrwydd o fermin, arogleuon a thipio anghyfreithlon mewn cymunedau. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd at adran yn yr adroddiad, a nododd fod Cyngor Sir Caerfyrddin, yn 2017, wedi comisiynu arolwg dadansoddi gwastraff i nodi'r elfennau y gellir eu hailgylchu o wastraff gweddilliol a waredwyd drwy'r casgliadau gwastraff gweddilliol o d? i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||
DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol yn ystod 2020/21 a 2021/22.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad i'w ystyried mewn perthynas ag atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu -Cymunedau ac Adfywio mewn perthynas â darparu palmentydd mewn ardaloedd gwledig.
Wrth ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21, cyfeiriodd Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio yn ei gyfarfod ar 1 Gorffennaf, 2021 at y cynnydd mewn cerdded a beicio yn ystod y pandemig a diffyg palmentydd ar briffyrdd cyhoeddus mewn llawer o ardaloedd gwledig i hwyluso cerdded diogel, gyda dros 300 o geisiadau am balmentydd heb eu penderfynu ar hyn o bryd. Mynegwyd barn y dylai'r Awdurdod archwilio'r sefyllfa hon, o bosibl drwy Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Gan nad oedd y mater hwn yn dod o dan faes gorchwyl y Pwyllgor, cytunodd Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau ac Adfywio i gyfeirio'r mater at y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.
Yn ogystal, roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am drafodaeth a gafodd ei chynnal yng nghyfarfod y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau ar 21 Gorffennaf 2021 a oedd yn mynegi pryder ynghylch yr ôl-groniad o geisiadau am ddarparu palmentydd, mewn ardaloedd gwledig.
I gydnabod bod y mater hwn yn dod o dan faes gorchwyl y Pwyllgor hwn, nodwyd bod y mater hwn yn bryder sylweddol yr oedd angen ei archwilio ymhellach. Cynigiwyd felly bod y Pwyllgor hwn yn derbyn yr atgyfeiriad ac er mwyn i'r Pwyllgor ystyried y mater yn briodol, cynigiwyd y dylid cynnwys adroddiad ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor i ddarparu gwybodaeth gefndir a gwybodaeth am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â darparu palmentydd mewn ardaloedd gwledig. Eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL: 9.1 fod yr atgyfeiriad gan y Pwyllgor Craffu
- Cymunedau ac Adfywio yn cael ei dderbyn; 9.2 y dylid cynnwys adroddiad ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor i ddarparu gwybodaeth gefndir a gwybodaeth am y sefyllfa bresennol o ran darparu palmentydd mewn ardaloedd gwledig
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 25 Tachwedd 2021.
PENDERFYNWYD derbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 25 Tachwedd 2021.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 2 GORFFENNAF 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf, 2021 yn gofnod cywir.
|