Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorydd T.A.J.Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Jeanette Gilasbey

5 - Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd 2021/22

 

Blaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol – Enwir ysgol yn ei ward.

 

Ni wnaed dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2020/21 pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ar ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2020/21, a oedd wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor Sir.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar y rhaglen waith a'r materion allweddol yr oedd y Pwyllgor wedi eu hystyried.  Hefyd roedd yr adroddiad yn manylu ar y sesiynau datblygu i'r Aelodau, yn ogystal â'u presenoldeb yng nghyfarfodydd y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer 2020/21.

 

 

5.

BLAENRAGLEN WAITH PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 395 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Bu'r Pwyllgor, yn unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor, yn ystyried ei Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer 2021/22 a oedd yn nodi manylion materion ac adroddiadau i'w hystyried yn ystod y blwyddyn y cyngor.

 

Bu'r Pwyllgor hefyd yn ystyried ei drefniadau Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2021/22-23.  Nododd y Pwyllgor ei fod, yn ei sesiwn anffurfiol i ddatblygu'r Flaenraglen Waith, wedi cytuno mewn egwyddor, yn amodol ar gyfnod adolygu byr, y dylid cynnal yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar dipio anghyfreithlon cyn yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar Fridio C?n. Felly, cynigiwyd ac eiliwyd yn unol â hynny y byddai'r trefniant hwn yn cymryd lle penderfyniad unfrydol blaenorol y Pwyllgor 'bod bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin yn destun adolygiad Gorchwyl a Gorffen nesaf y Pwyllgor yn 2021' a wnaed yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

5.1      cymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd

 

5.2        bod trefniadau gorchwyl a gorffen y Pwyllgor ar gyfer 2021/22-2023 yn cael eu cyflawni yn y drefn ganlynol:-

 

          1) Adolygu'r gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin

          2) Adolygu bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin.

 

 

6.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN - DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2021/22 DOGFEN GYNLLUNIO A CHWMPASU pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cytuno i ymgymryd ag adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar faterion tipio anghyfreithlon yn ei sesiwn anffurfiol i ddatblygu'r Flaenraglen Waith a gynhaliwyd ar 9 Ebrill 2021, derbyniodd y Pwyllgor y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu Gorchwyl a Gorffen ar Reoli Dipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin. 

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y nodir yn y ddogfen cynllunio a chwmpasu. 

 

Nodwyd mai'r bwriad oedd cynnal yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen o fewn cyfnod adolygu byr heb fod yn hwy na 3 mis.

 

Er mwyn ffurfio Gr?p Gorchwyl a Gorffen gwleidyddol gytbwys, gofynnodd y Cadeirydd am hyd at 6 enwebiad gan y Pwyllgor.

 

Yn unol â phenderfyniad cynharach y Pwyllgor ar drefniadau'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar gyfer 2021/2022-23 [gweler cofnod 5.2] cynigiwyd bod yr adolygiad yn dechrau ym mis Medi yn dilyn toriad mis Awst.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1      dderbyn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpas i adolygu Rheoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.

6.2      cymeradwyo nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel y nodir yn y Ddogfen Cynllunio a Chwmpasu;

6.3      bod Aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen sy'n gytbwys yn wleidyddol o ran Adolygu'r Gwaith o Reoli Tipio Anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin fel a ganlyn:-

 

 

Y CYNGHORYDD

PARTI

1.

Y Cynghorydd Jeanette Gilasbey

Plaid Cymru

2.

Y Cynghorydd Dorian Phillips

Plaid Cymru

3.

Y Cynghorydd Dai Thomas

Plaid Cymru

4.

Y Cynghorydd John James

Llafur

5.

Y Cynghorydd Tina Higgins

Llafur

6.

Y Cynghorydd Arwel Davies

Annibynnol

 

6.4     bod y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn dechrau'r adolygiad ym mis Medi 2021.

 

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020/21 pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig ar Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2020/21, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Nodwyd bod effaith Covid-19 ar wasanaethau'r cyngor wedi golygu na fu'n bosibl eleni i'r adroddiad weithredu naill ai fel adroddiad cynnydd ar berfformiad neu fel cymharydd ag awdurdodau lleol eraill. Roedd felly yn rhoi sylw i'r camau a gymerwyd gan y Cyngor i gefnogi ei drigolion, ei gymunedau a'i fusnesau drwy gydol y pandemig.

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 15 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn. Canolbwyntiodd yr Aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor:

 

  • AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)
  • AMCAN LLESIANT 9. Cefnogi cysylltiadau da â ffrindiau, y teulu a chymunedau mwy diogel
  • AMCAN LLESIANT 12. Gofalu am amodau diwylliannol a naturiol yr amgylchedd heddiw ac yn y dyfodol
  • AMCAN LLESIANT 13. Gwella seilwaith a chysylltedd y priffyrdd a thrafnidiaeth
  • Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y graff Teithio Llesol ar dudalen 62 yr adroddiad.  Yng ngoleuni'r cynnydd sylweddol mewn beicio a cherddwyr drwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o Gynghorwyr wedi gwneud ceisiadau am Lwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned, ond roedd y cynnydd yn ymddangos yn araf iawn.  Gofynnwyd a oedd unrhyw ffordd o gyflymu'r broses o weithredu Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned.

 

Dywedodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd, o ran y Llwybrau Mwy Diogel yn y gymuned, fod nifer y ceisiadau y gellid eu cyflwyno bob blwyddyn yn gyfyngedig.  Gofynnwyd am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer ceisiadau gan y Cyngor Cymuned bob blwyddyn.  Yn ogystal, adroddwyd bod buddsoddiad sylweddol wedi'i roi i Deithio Llesol mewn ystyr ehangach ar hyn o bryd a bod cynlluniau i gefnogi Teithio Llesol wedi'u datblygu ar gyfer trefi.  Tynnwyd sylw at y ffaith bod Llwybrau Diogel i Ysgolion yn gyllid ar wahân a oedd hefyd yn gyfyngedig yn debyg i Lwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned.

 

Cynigiwyd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eu cefnogaeth i gyllid Llwybrau Diogel yn y Gymuned a cheisio cefnogaeth y Dirprwy Weinidog i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu i ddatblygu llwybrau mwy diogel i ysgolion yn y dyfodol ar draws pob rhan o'r Sir.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

·       Wrth gyfeirio at wasanaeth Bwcabus, mynegwyd diolchgarwch i swyddogion am sicrhau cyllid pellach gan fod y gwasanaeth yn amhrisiadwy i'r gymuned.

·       Cyfeiriwyd at dudalen 56 yr adroddiad lle gwelwyd nad oedd y ffigurau mewn perthynas â mesurau llwyddiant y defnydd o ynni ar gael.  Gofynnwyd, a oedd diweddariad ar y ffigurau hyn ar gael cyn derbyn yr adroddiad?

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

DRAFFT YMGYNGHORI'R CYNLLUN CYFLAWNI ANSAWDD AER pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd ar Ymgynghoriad y Cynllun Cyflawni Ansawdd Aer a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed mewn perthynas ag Ansawdd Aer yn Sir Gaerfyrddin, ac i ymgynghori ar y cynllun Cyflawni Ansawdd Aer drafft.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ar 'Cyflwyno Stryd Ysgol' fel y nodir ym mesur G10 o'r Cynllun, eglurodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant fod y mesur hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan yr adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth.  Byddai'n cwmpasu cyflwyno cyfres o fesurau i wella ansawdd aer o amgylch ardal yr ysgol megis cyflwyno cyfyngiadau traffig ffyrdd i ardal benodol, gan gynnwys man codi a gollwng heb segura.  Yn ogystal, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai'r Cynllun Teithio Llesol hefyd yn cefnogi'r amgylchedd glanach drwy annog mwy o gerdded a beicio i ysgolion.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad a godwyd ynghylch pryd y byddai Llwybr Dyffryn Tywi yn cael ei agor i'r cyhoedd, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod Jonathan Edwards AS wedi gwneud cais am gyllid gan Gronfa Codi'r Gwastrad ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at Lwybr Dyffryn Tywi a bod gwaith datblygu'n parhau.

  • Gan fod mwy o bobl yn cerdded yng nghefn gwlad, mynegwyd pryder bod llwybrau troed a rennir yn cael eu cloi ac a oedd yn achosi problemau cyfreithiol.  Gofynnwyd a oedd amserlen i ddatrys y problemau?  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd fod y mater hwn yn cael ei reoli gan yr adran Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd, yn y lle cyntaf, yn gweithio i ddatrys materion gyda'r tirfeddianwyr priodol cyn cyflwyno hysbysiadau gorfodi.  Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd fod prosesau cyfreithiol yn aml yn hir.

 

  • Codwyd sylw bod y cynllun yn cynnwys llawer o syniadau o newid ymddygiad i brosiectau cyfalaf mawr a oedd yn cyflwyno heriau.  

 

  • Gan gyfeirio at fesur G20 - Ystyried astudiaeth Ddichonoldeb ar gyfer Parthau Allyriadau Isel, gofynnwyd sut olwg fyddai ar hyn a sut y byddai'n gweithio?  Dywedodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant fod hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o Fil Aer Glân (Cymru), bod yr ymgynghoriad ar y Bil bellach wedi cau ac y byddai'r crynodeb o'r ddogfen ymateb ar gael ym mis Medi 2021.  Felly, byddai mwy o fanylion mewn perthynas â pharthau allyriadau isel ar gael pan gyhoeddir y ddogfen, ond roedd yn bwysig neilltuo mesur i hyn er mwyn sicrhau bod y mater hwn yn cael ei archwilio.

 

  • Cyfeiriwyd at fesur C11 –  'Gosod arwyddion Ardal Rheoli Ansawdd Aer' a gofynnwyd am eglurhad pellach ar ystyr hyn ac a fyddai'n opsiwn i roi gwybodaeth i'r cyhoedd am ansawdd aer mewn amser real.  Dywedodd yr Arweinydd Llygredd a Llesiant, mewn perthynas ag arwyddion, ei bod yn bwysig bod yn ofalus o ran y negeseuon i'r cyhoedd er mwyn osgoi achosi braw diangen.  Cydnabuwyd y gallai unigolion â chyflyrau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2021/22 pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod diwethaf ar 19 Ebrill 2021, gofynnodd y Pwyllgor, ar ôl ystyried cynnwys y cynllun, am i ragor o wybodaeth gael ei chynnwys yn y camau gweithredu a'r mesurau (Gweler Cofnod 6). 

 

Bu Aelodau'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes Drafft 2021/22 yr Adran Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y:

 

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol
  • Gwella Busnes

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yr adroddiad ac esboniodd, yn unol â chais y Pwyllgor i wneud rhagor o waith, er bod y Cynllun yn rhoi crynodeb o'r camau gweithredu allweddol a'r mesurau sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol, ei fod bellach wedi cynnwys colofn ychwanegol i gyfeirio'r mesurau/canlyniad at Amcan Llesiant perthnasol y Cyngor.  Ategwyd y Cynllun gan gynlluniau adrannol manwl ac roedd pob un yn destun adolygiad rheolaidd.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·      Cyfeiriwyd at y tân yng nghanolfan ailgylchu CWM, Nant-y-caws ym mis Ebrill eleni, gofynnodd aelod o'r Pwyllgor a oedd unrhyw wirionedd mewn sibrydion a oedd yn cael eu rhannu mewn perthynas â'r difrod tân a bod yr yswirwyr wedi gwrthod talu tua £15.5m gan nad oedd gan y Cyngor yswiriant digonol ar gyfer yr offer.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, a gadarnhawyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Gwastraff a'r Amgylchedd, nad oedd y sibrydion hyn wedi cael eu clywed a rhoddodd sicrwydd gan y Pwyllgor nad yw hyn yn wir.  Esboniwyd bod yr holl offer yng nghanolfan CWM wedi'i yswirio'n briodol heb unrhyw achosion cysylltiedig yn deillio o'r digwyddiad gan bwysleisio nad yw'r sibrydion yn wir.

 

·      Mewn ymateb i bryder ynghylch lefelau baw c?n, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod patrolau y tu allan i'r oriau yn bosibl a bod rota benodol ar gyfer patrolau y tu allan i'r oriau (ar benwythnosau) ac anogodd Aelodau'r Pwyllgor a'r cyhoedd i roi gwybod i'r Cyngor am unrhyw ddigwyddiadau a/neu berchnogion c?n anghyfrifol gan ddefnyddio'r dull adrodd ar-lein.  Byddai personél gorfodi yn gweithio mewn ardaloedd sy'n peri pryder yn seiliedig ar y wybodaeth sy'n dod i law e.e. lleoliad ac amser, disgrifiad o droseddwyr.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Gwastraff a'r Amgylchedd ymhellach fod tîm o 8 Swyddog Gorfodi yn gweithredu ledled Sir Gaerfyrddin ac felly roedd gwybodaeth yn allweddol i gynyddu'r posibilrwydd o ddal troseddwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2021/22 yn cael ei dderbyn.

 

10.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2021/22 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod diwethaf ar 19 Ebrill 2021, gofynnodd y Pwyllgor am i ragor o wybodaeth gael ei chynnwys yn y camau gweithredu a'r mesurau (gweler Cofnod 7). 

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd yr adroddiad yn esbonio bod Cynllun Busnes Drafft yr Adran Cymunedau 2021/22 mewn perthynas â diogelu'r cyhoedd wedi'i ddiwygio yn unol â chais y Pwyllgor.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cynllun a oedd hefyd yn cynnwys y Gwelliannau a Gynllunnir ar gyfer 2021/22.

 

Codwyd sylw bod y cynlluniau busnes adrannol ar draws y gwahanol sectorau yn ymddangos i fod yn wahanol o ran eu dulliau gweithredu ac nad oeddent yn gyson.  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n cyfeirio'r sylw hwn at ei gydweithwyr yn y tîm Cynllunio a Pherfformiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn elfennau Diogelu'r Cyhoedd Cynllun Busnes yr Adran Cymunedau 2021 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu hwn.

 

 

11.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2021/22 pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn ei gyfarfod diwethaf ar 19 Ebrill 2021, gofynnodd y Pwyllgor am i ragor o wybodaeth gael ei chynnwys yn y camau gweithredu a'r mesurau (gweler Cofnod 8). 

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig yr adroddiad ac esboniodd fod Cynllun Busnes Drafft Adran y Prif Weithredwr 2021/22 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y pwyllgor craffu hwn wedi'i ddiwygio yn unol â chais y Pwyllgor.

 

Roedd y dyfyniadau o Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr ar gyfer yr Is-adran TGCh a Pholisi Corfforaethol yn cynnwys camau gweithredu yn ymwneud â:

 

· Diogelwch Cymunedol

· Carbon Sero-net

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr elfennau o Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2021/22 sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu hwn.

 

 

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 4 Hydref 2021 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 4 Hydref 2021.

 

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 EBRILL 2021 pdf eicon PDF 342 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar
19 Ebrill 2021 yn cael ei lofnodi gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau