Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

The Chair advised that no public questions had been received.

 

At this point in the meeting, the Chair informed the Committee that for various reasons it was necessary to change the order of the remaining business on the agenda and was taken in the order of Item 5, Item 9, Item 4, Item 6, Item 7, Item 8, Item 10, Item 11 and Item 12.  However, these minutes reflect the order of business itemised on the agenda for the meeting.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol ar adroddiadau ynghylch Monitro'r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2020/21 ar gyfer y Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ar gyfer y cyfnod hyd at 31ain Rhagfyr 2020.

 

Rhoddwyd gwybod ei bod yn cael ei rhagweld y byddai’r gyllideb refeniw oddeutu £486k dros y gyllideb gymeradwy fel y manylir yn Atodiad A ynghlwm wrth yr adroddiad, roedd y gyllideb gyfalaf a atodir yn Atodiad D yr adroddiad yn cynnwys y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf, sy'n nodi gwariant net a ragwelir o £10,062k o'i gymharu â chyllideb net weithredol o £11,410k gan roi amrywiant o - £1,348k.

 

Yn ogystal, adroddwyd mai'r disgwyl yw y byddai £713k o arbedion Rheolaethol yn erbyn targed o £1,176k yn cael ei gyflawni ar ddiwedd y flwyddyn.

At hynny, rhagwelwyd y byddai arbedion polisi o £139k a gyflwynwyd ar gyfer 2020/21 yn cael eu cyflawni.

 

Ni chodwyd unrhyw ymholiadau na sylwadau mewn perthynas â'r adroddiad hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn.

 

 

5.

ADRODDIAD TERFYNOL GRWP GORCHWYL A GORFFEN -CYNLLUN DIOGELU RHAG CAMFANTEISIO ARIANNOL (FESS) - GWASANAETHAU SAFONAU MASNACH pdf eicon PDF 457 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diwygiedig y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yr oedd wedi'i sefydlu ar 10 Mehefin 2019, er mwyn adolygu'r Gwasanaethau Safonau Masnach - Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol (FESS).

 

Esboniodd Cadeirydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fod yr argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad wedi cael eu llunio gan y Gr?p ar ôl ystyried ystod o dystiolaeth dros gyfres o gyfarfodydd a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf 2019 ac Ebrill 2021, fodd bynnag oherwydd y pandemig Covid-19  bu bwlch byr o ran cyfnod yr adolygiad yn ystod 2020.

 

Cwmpas yr adolygiad oedd gweld a oedd y portffolio o atal troseddau, cefnogi dioddefwyr a gweithgareddau addysg a gyfunwyd o fewn Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol FESS yn darparu strategaeth effeithiol i helpu i frwydro yn erbyn twyll a hyrwyddo amcanion iechyd a llesiant corfforaethol.

 

Dywedodd aelod o'r gr?p Gorchwyl a Gorffen fod yr adolygiad wedi bod yn ddiddorol ac yn addysgiadol a chanmolodd y Gwasanaeth Safonau Masnach am yr holl waith amhrisiadwy mewn perthynas â'r fenter FESS.

 

Ni chodwyd unrhyw ymholiadau na sylwadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’i gyflwyno at sylw'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2021/22 pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth y Pwyllgor ati i ystyried Cynllun Busnes Drafft 2021/22 Adran yr Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny o fewn ei faes gorchwyl fel a ganlyn:

 

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol
  • Gwella Busnes

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd yr adroddiad gan egluro bod y Cynllun Busnes yn darparu crynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sy'n ofynnol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i cefnogwyd gan gynlluniau adrannol manwl a oedd yn destun adolygiad rheolaidd.

 

Rhoddwyd gwybod, oherwydd pandemig Coronafeirws COVID-19, fod y cynllun yn gynllun cryno, gan y byddai fel arfer yn cynnwys adran adolygu, a gafodd sylw yn Asesiadau Effaith COVID-19 ar Wasanaethau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Craffu o'r blaen.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Gofynnwyd am eglurhad am gamau gweithredu a beth fyddai llwyddiant yn ei olygu.  Gofynnwyd am y camau gweithredu allweddol a sut yr oedd y mesurau sy'n priodoli'r camau gweithredu yn gysylltiedig? 

 

Esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y cynlluniau busnes wedi cael eu cyflwyno mewn dull gwahanol eleni oherwydd y pandemig.  Cafodd y pandemig effaith ar amseriad arferol datblygiad Cynlluniau Busnes gan fod gofyn i swyddogion ganolbwyntio ar ymateb i'r pandemig.  Felly, gwnaed penderfyniad corfforaethol i gyflwyno fersiwn o'r cynllun ar ffurf tabl a oedd yn wahanol i'r hyn roedd y Pwyllgor wedi ei gael yn y blynyddoedd diwethaf a oedd yn cynnwys y naratif i ddarparu cefndir i'r gweithredu allweddol.

 

Hefyd, esboniodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ddiben Cynlluniau Busnes gan fod y cynlluniau busnes yn galluogi adrannau i nodi'r meysydd gwaith y byddai'n parhau i'w cyflawni. Roedd hyn yn bwysig i sicrhau y byddai'r cynllun, pe bai arbedion effeithlonrwydd yn cael eu gwneud, yn darparu esboniad yngl?n â sut y byddai gwasanaethau'n parhau i gael eu darparu.  Yn ogystal, defnyddiwyd y cynlluniau fel platfform i nodi dyheadau a chwilio am gyfleoedd newydd.

 

·       Mewn ymateb i sylw a godwyd yn awgrymu bod y Cynllun Busnes yn generig iawn ac y byddai mwy o fanylion ar amserlenni yn fuddiol, pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod Cynllun Busnes 2021/22 wedi'i ddatblygu mewn fformat cryno a phe bai gan y Pwyllgor adborth cyffredinol ar y modd yr ysgrifennwyd y Cynlluniau Busnes, byddai angen trafodaethau pellach.  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ei bod yn croesawu barn y Pwyllgorau o ran datblygu cynlluniau busnes yn y dyfodol, ond o ran y cynllun hwn, byddai'n fuddiol cael gwybodaeth am ba gamau yr hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o wybodaeth amdanynt.  Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar i'r Pwyllgor o ran y datblygiadau i'r sector Trafnidiaeth.

 

·       Yng ngoleuni'r sylwadau a godwyd ynghylch cynnwys y cynlluniau busnes, nododd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Cynlluniau Busnes Adrannol yn lefel uchel a'u bod yn derbyn cefnogaeth gan Gynlluniau Busnes Adrannol sy'n darparu rhagor o wybodaeth.  Fodd bynnag, roedd wedi nodi'r sylwadau a byddai'n ystyried y camau ymhellach gan sicrhau bod gan bob un fesur cyfatebol er mwyn asesu effaith y camau gweithredu.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2021/22 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2021/22 pdf eicon PDF 471 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

9.

STRATEGAETH CASGLU GWASTRAFF O DY I DY YN Y DYFODOL pdf eicon PDF 301 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Strategaeth Casglu Gwastraff o D? i D? yn y Dyfodol a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd. Roedd yr adroddiad yn darparu opsiynau a'r llwybr ar gyfer darparu gwasanaethau casglu gwastraff a deunydd ailgylchu o d? i d? yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r ystyriaethau, y mesurau, yr opsiynau strategaeth ac yn ceisio barn y Pwyllgor ar yr ystyriaethau gwasanaeth canlynol:

 

· symud i gasgliadau ailgylchu wythnosol;

· newid i gasgliadau gwastraff gweddilliol cyfyngedig bob tair wythnos;

· casglu gwydr o d? i d?;

· y dull o gasglu deunydd ailgylchu.

 

Rhoddwyd gwybod mai un o'r rhesymau dros newid oedd, er bod y model gwasanaeth cyfredol wedi galluogi'r Awdurdod i ragori ar y targed statudol o 64%, fod angen newid pellach i gyflawni'r targed o 70% o 2024/25 a'r targed posibl o 80% erbyn 2030.


 

Yn ogystal â’r adroddiad, derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ategol a gyflwynwyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Amgylcheddol ar ‘Llunio Dyfodol y Casgliadau Gwastraff yn Sir Gaerfyrddin’. Roedd y cyflwyniad yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r ystyriaethau ac yn ymdrin â'r canlynol: -

 

·       Perfformiad

·       Heriau

·       Heriau Gweithredol

·       Halogiad

·       Polisi

·       Tu hwnt i ailgylchu

·       Glasbrint Llywodraeth Cymru ar Gasgliadau Gwastraff

·       Cerbyd wrth ymyl y palmant

·       Opsiynau Gwasanaeth Ailgylchu

·       Amlder Ailgylchu

·       Canlyniadau a chasgliadau

·       Gweithlu ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd y gwasanaeth bellach yn addas at y diben ac roedd heriau gweithredol yn bod o achos hynny.  Yn ogystal, dywedwyd mai Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd oedd yr unig Awdurdod yng Nghymru nad yw'n darparu gwasanaeth ailgylchu sych wythnosol, nac yn casglu gwydr o ymyl y palmant.

 

Mewn perthynas â'r dull, dull casglu Glasbrint (Kerbsort) oedd yr unig ddull casglu a allai o bosibl sicrhau cymhorthdal cyllido Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·       Dywedwyd y byddai'r casgliad gwydr arfaethedig newydd wrth ymyl y palmant yn lleihau'r angen am ganolfannau  ailgylchu gwydr a oedd yn cael eu defnyddio fwyfwy fel lleoliad ar gyfer tipio anghyfreithlon.

 

·       Mewn ymateb i bryder a godwyd mewn perthynas â'r newid ynghylch casglu cewynnau a gwastraff anymataliaeth bob pythefnos yn lle bob wythnos, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff y cysylltir â phob cleient Cynnyrch Hylendid Amsugnol ac asesu ei anghenion gyda'r potensial i ddarparu biniau olwyn os yw'n angenrheidiol.  Adroddwyd y gallai fod 16,000 o gleientiaid Cynnyrch Hylendid Amsugnol ac y byddai cost casgliadau wythnosol yn sylweddol.

 

·       Gofynnwyd, pa ddull oedd yr opsiwn a ffefrir? Dywedodd  Rheolwr y Gwasanaethau Gwastraff mai mater i'r Pwyllgor a'r Cyngor oedd archwilio a chytuno ar y dull a ffefrir.  Fodd bynnag, mewn perthynas â chost, dywedwyd mai dull casglu'r Glasbrint (Kerbsort) oedd yr unig ddull casglu a allai o bosibl sicrhau cymhorthdal cyllido Llywodraeth Cymru.  Yn ogystal, roedd cynnig casglu Glasbrint yn cynnig y budd carbon mwyaf.

 

·       Mewn perthynas â'r gwasanaeth casglu gwydr wrth ymyl y palmant, codwyd pryder y byddai bocsys o wydr a adawyd wrth ymyl y palmant yn annog fandaliaeth.  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor na chyflwynwyd Cynllun Cyflenwi yn y Dyfodol - Ardal Rheoli Ansawdd Aer(AQMA) a ohiriwyd i gael ei ystyried yn nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi nad oedd adroddiad y pwyllgor craffu wedi'i gyflwyno.

 

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhestr o eitemau i'w gosod ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar 18 Mai 2021 a rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn am unrhyw wybodaeth benodol yr hoffent ei chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor fod yr adroddiad ar y Siarter Creu Lle i fod i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Adfywio gan ei fod o dan gylch gwaith Cymunedau.  Yng ngoleuni hyn, byddai'r adroddiad hwn yn cael ei dynnu o Flaenraglen Waith y pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, wedi dileu'r adroddiad Siarter Creu Lle, y dylid nodi'r rhestr o eitemau sydd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 18 Mai 2021.

 

 

12.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 5 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 341 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau