Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Thomas.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

S.J.G. Gilasbey

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 – 2022/23

Mae hi'n aelod o Ymddiriedolaeth ac Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2020/21 TAN 2022/23 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2020/21 - 2022/23 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 6 Ionawr 2020.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/2021, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2021/2022 a 2022/2023. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol er bod y setliad dros dro a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd o 4.3% fel cyfartaledd ledled Cymru ar setliad 19/20, fod Sir Gaerfyrddin wedi cael cynnydd o 4.4% (£11.5m) yng ngrant Llywodraeth Cymru gan gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £274.159m ar gyfer 2020/21. Roedd y cynnydd hwn yn dilyn rhai trosglwyddiadau i'r cyllid ar gyfer Pensiynau a Chyflogau Athrawon, a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol yn unig o fewn y setliad ac yn cyfrif am tua £5.8m o'r cynnydd cyffredinol mewn cyllid.

 

Nododd y Pwyllgor mai cynnydd yn nifer y disgyblion ADY oedd yn cael cludiant a gostyngiad mewn incwm yn sgil ceisiadau cynllunio oedd yn gyfrifol yn bennaf am orwariant Adran yr Amgylchedd a'r amcanestyniad presennol ynghylch y Canlyniadau Refeniw ar gyfer 2019/20.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am Grantiau Penodol i Wasanaethau Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd ynghyd â'r setliad dros dro ar lefel Cymru gyfan. Er bod llawer ohonynt wedi aros ar lefel weddol debyg, nododd y Pwyllgor y gostyngiad o £1.8m ar gyfer Cymru gyfan i'r Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy, a fyddai'n lleihau'r cymorth i gyllidebau gwastraff craidd Sir Gaerfyrddin tua £110k.

 

Yn gryno, roedd y cynigion ynghylch y gyllideb yn cymryd bod yr holl gynigion o ran arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2021-22 a 2022-23. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau a/neu gytuno ar gynnydd mwy yn y dreth gyngor er mwyn mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf.  At hynny, o ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol sy'n cynnig rhywfaint o liniaru ar y cynigion ar gyfer arbedion.

 

Hefyd, oherwydd yr oedi cyn cael y setliad dros dro, dywedwyd bod yr effaith ganlyniadol ar gwblhau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cael ei hoedi i'r un graddau.  Felly, roedd y setliad terfynol i fod i gael ei gyhoeddi ar 25 Chwefror, 2020 a byddai'r Cyngor Sir yn pennu'r gyllideb derfynol ar 3 Mawrth, 2020.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Gwasanaethau'r Amgylchedd;

·       Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd a'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiadau monitro ynghylch y gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2019, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a godwyd yngl?n â'r diweddariad monitro ar gyfer y gwasanaethau gwastraff yn Atodiad C, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er mwyn helpu i fynd i'r afael â sefyllfa'r gyllideb, byddai adroddiad a oedd yn cynnwys canlyniadau/opsiynau rhagarweiniol lefel uchel o'r Adolygiad Gwasanaeth Casgliadau Gwastraff yn cael ei gyflwyno i aelodau'r Pwyllgor ei ystyried maes o law, ond roedd yn annhebygol y byddai hyn yn digwydd cyn Ebrill 2020.

 

·       Cyfeiriwyd at y diweddariad am gynnydd a oedd yn nodi nad oedd y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn ariannu ei hun eto. Gofynnwyd am ddiweddariad pellach. Ategodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y sylw a wnaethpwyd yn yr adroddiad sef na ragwelid y byddai'r gwasanaeth yn adennill ei gostau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, fel oedd wedi'i nodi yn y cynllun busnes gwreiddiol. Ar hyn o bryd roedd gan y gwasanaeth tua 4,500 o gwsmeriaid, ond y gobaith oedd y byddai rhagor o farchnata yn cynyddu nifer y cwsmeriaid, a byddai hynny'n golygu bod y gwasanaeth yn adennill ei gostau ei hun yn y dyfodol.

 

·       Gan mai hyd at Hydref 2019 oedd yr adroddiad a ddarparwyd, gofynnwyd am ddiweddariad llafar ynghylch Atodiad F, arbedion rheoli a pholisi nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed. Rhoddodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd sicrwydd i Aelodau'r Pwyllgor fod yr adran yn mynd ati i reoli a mynd i'r afael yn barhaus â materion nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2020/2023 pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adrannol Drafft Adran yr Amgylchedd 2020-2023 a oedd yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer yr adran a sut yr oedd yr adran wedi cefnogi pum ffordd o weithio a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd gan gynnwys yr elfennau canlynol:-

 

  • Priffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Gwasanaethau Gwastraff ac Amgylcheddol
  • Gwella Busnes

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried y cynllun:

 

  • Awgrymwyd y byddai'n fuddiol cynnwys strwythur Adran yr Amgylchedd yn y cynllun er mwyn i Gynghorwyr weld pwy yw pwy yn yr adran. Roedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd yn cytuno, ond roedd yn annog Aelodau i barhau i ddefnyddio system gofnodi yr Uned Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod yr holl geisiadau/cwynion yn cael eu cofnodi, eu rheoli a'u monitro'n briodol.

 

  • Mewn perthynas â dyddiadau cwblhau targed ar fesurau a chamau allweddol, gofynnwyd beth oedd yn digwydd mewn achosion lle bu'n rhaid newid dyddiadau cwblhau. Eglurodd y Pen-swyddog Busnes a Datblygu fod yr holl gamau allweddol, mesurau a chynnydd wedi'u cofnodi ar y System Monitro Perfformiad a Gwelliant (PIMS) ac roedd yn anghyffredin i ddyddiadau targed gael eu newid. Fodd bynnag, os bydd unrhyw ddyddiadau targed yn newid yn sylweddol yn y dyfodol, byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod am hynny.

 

PENDERFYNWYD bod Cynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2020-2023 yn cael ei dderbyn.

 

 

7.

CYNLLUN BUSNES ADRAN CYMUNEDAU 2020 - 2023 pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gynllun Busnes yr Adran Cymunedau
am 2020 - 2023, a roddai gipolwg gyflawn i Aelodau ar gynnydd yr Adran Cymunedau.  Nodwyd, er bod y cynllun yn cwmpasu holl flaenoriaethau'r Adran, mai rôl y Pwyllgor oedd craffu ar elfennau Diogelu'r Cyhoedd a nodwyd ar dudalen 29 o'r cynllun.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2020-2023.

 

 

8.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2020/2023 pdf eicon PDF 400 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad ar Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2020-2023.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys detholiad o'r agweddau a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd o ran Diogelwch Cymunedol.

 

PENDERFYNIAD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr

 am 2020-2023.

 

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitemau i'r Pwyllgor ar gyfer y cyfarfod nesaf oedd wedi cael ei drefnu ar 21 Chwefror 2020. 

 

Er mwyn rheoli llwyth gwaith y Pwyllgor Craffu dros yr ychydig fisoedd sy'n weddill yn y flwyddyn ddinesig hon, yn dilyn trafodaethau â'r Cadeirydd, derbyniodd y Pwyllgor Flaenraglen Waith wedi'i diweddaru i'w hystyried.

 

Cafodd y Pwyllgor Flaenraglen Waith y Bwrdd Gweithredol hyd at fis Hydref i'w hystyried.  Mewn ymateb i sylw a godwyd mewn perthynas ag absenoldeb adroddiadau yn adran yr Amgylchedd, dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd mai gwall gweinyddol adrannol oedd yn gyfrifol am hyn, ac y byddai'n sicrhau bod hynny'n cael ei unioni.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel wrth y Pwyllgor fod yr adran wedi canolbwyntio ar gynnwys camau gweithredu Darparu Gwasanaeth Diogelu'r Amgylchedd yn y Cynllun Is-adrannol, a oedd wedi gwaredu'r angen i ddatblygu Cynllun Darparu Gwasanaeth Diogelu'r Amgylchedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1  cytuno ar y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod o'r Pwyllgor ar 21 Chwefror 2020;

 

9.2  nodi Blaenraglen Waith ddiwygiedig Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd.

 

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

Dywedwyd nad oedd y cofnodion yn nodi ymddiheuriadau y Cynghorydd D. Phillips, nac ychwaith i'r Cynghorydd M.J.A. Lewis fynychu yn ei le.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar wneud y newidiadau uchod,lofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau