Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2024 yn gofnod cywir. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||||||
DEISEB - GAEL GWARED Â CHYNLLUNIAU I GODI TÂL AM BARCIO AR LAN Y MÔR YN LLANSTEFFAN Noder: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 300 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.
Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi, yn deisebu Cyngor Sir Caerfyrddin i gael gwared â chynlluniau i godi tâl am barcio ar lan y môr yn Llansteffan (yn y maes parcio presennol a'r un newydd arfaethedig ar ochr ogleddol y Grîn).
Bydd newid y meysydd parcio ar lan y môr yn Llansteffan o feysydd parcio am ddim i rai sy'n codi tâl yn arwain at ganlyniadau andwyol pellgyrhaeddol a anfwriadol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn parcio lle bynnag y gallant i osgoi talu. Ar ddiwrnodau prysur ac yn ystod y gwyliau bydd y syniad gwael hwn yn dinistrio stribed flaen y Grîn, yn tagu ffyrdd cyfagos, yn ei gwneud bron yn amhosibl i gerbydau brys deithio ar y stryd fawr, yn rhwystro mynediad i wylwyr y glannau ac yn effeithio'n andwyol ar fusnesau lleol. Gan nad oes unrhyw strategaethau ar waith i liniaru'r canlyniadau anochel hyn, dylid cael gwared â'r cynlluniau ar gyfer talu. Byddai dadansoddiad cost syml o fudd yn profi mai parcio am ddim yn Llansteffan fyddai'r opsiwn tymor hir gwell. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODIADAU: 1. Roedd y Cynghorydd A. Lenny wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yn cael ei ystyried.
2. Roedd y Cynghorydd A.C. Jones wedi datgan buddiant yn yr mater hwn yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw. Fodd bynnag, ar ôl derbyn gollyngiad i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar yr eitem hon ond nid pleidleisio, arhosodd yn y cyfarfod ond ni phleidleisiodd].
Croesawodd y Cadeirydd i'r cyfarfod Ms R. Worrell a oedd, yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.16, wedi cael gwahoddiad i gyflwyno deiseb yn ymwneud â chynigion y Cyngor i gyflwyno taliadau ar lan traeth Llansteffan, fel a ganlyn:
“Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi, yn deisebu Cyngor Sir Caerfyrddin i gael gwared â chynlluniau i godi tâl am barcio ar lan y môr yn Llansteffan (yn y maes parcio presennol a'r un newydd arfaethedig ar ochr ogleddol y Grîn).
Bydd newid y meysydd parcio ar lan y môr yn Llansteffan o feysydd parcio am ddim i rai sy'n codi tâl yn arwain at ganlyniadau andwyol pellgyrhaeddol ac anfwriadol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn parcio lle bynnag y gallant i osgoi talu. Ar ddiwrnodau prysur ac yn ystod y gwyliau bydd y syniad gwael hwn yn dinistrio stribed flaen y Grîn, yn tagu ffyrdd cyfagos, yn ei gwneud bron yn amhosibl i gerbydau brys deithio ar y stryd fawr, yn rhwystro mynediad i wylwyr y glannau ac yn effeithio'n andwyol ar fusnesau lleol. Gan nad oes unrhyw strategaethau ar waith i liniaru'r canlyniadau anochel hyn, dylid cael gwared â'r cynlluniau ar gyfer talu. Byddai dadansoddiad cost syml o fudd yn profi mai parcio am ddim yn Llansteffan fyddai'r opsiwn tymor hir gwell.”
Amlinellodd Ms Worrell i'r Cabinet y rhesymau dros y ddeiseb a'r llofnodion gafwyd, a oedd yn adlewyrchu pryderon y gymuned ynghylch y cynlluniau.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith fod y ddeiseb wedi cael ei chyfeirio i'r Cabinet ar ôl ystyried y mater yng nghyfarfod y Cyngor Sir ar 11 Medi 2024 (gweler cofnod 14 ohono).
Dywedwyd bod y Cyngor wedi cytuno ar gynnig o ran y gyllideb i godi tâl mewn 9 maes parcio ychwanegol yn y Sir o fis Ebrill 2025 ymlaen, yn unol â'i strategaeth ehangach i reoli adnoddau parcio yn effeithiol a chefnogi buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol.
Er mwyn lliniaru unrhyw effaith negyddol ar ardaloedd cyfagos, darparodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith grynodeb o'r mesurau i'w gweithredu gan y Cyngor, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys y canlynol:
· Arolygon Rheolaidd: Cynnal arolygon rheolaidd i gasglu adborth gan breswylwyr, ymwelwyr a busnesau lleol am effaith y taliadau newydd.
· Monitro Traffig: Defnyddio monitro traffig i asesu newidiadau mewn patrymau traffig ac ymddygiad parcio ym Maes Parcio'r De.
· Dadansoddi: Dadansoddi unrhyw barcio mewn ardaloedd cyfagos a gweithredu mesurau lliniaru yn ôl yr angen, megis arwyddion ychwanegol neu orchmynion parcio ychwanegol.
Dywedwyd bod y Cyngor wedi ymrwymo ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||
POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL NEWYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Gan ei bod wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Hazel Evans y cyfarfod cyn bod y Cabinet yn ystyried yr eitem ac yn pleidleisio arni.]
I'w ystyried, daeth i law'r Cabinet y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin, fyddai'n cymryd lle'r Polisi Dyrannu Brys presennol a luniwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio yn 2023 i gefnogi'r galw digynsail am dai cymdeithasol yn y Sir. Mae’r Polisi yn nodi'r trefniadau ar gyfer sut byddai'r Awdurdod yn dyrannu tai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin mewn ffordd deg a thryloyw.
Roedd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio wedi ystyried canfyddiadau'r ymarfer ymgynghori 12 wythnos a ddaeth i ben ddiwedd mis Mai 2024, ynghyd â'r polisi drafft, yn ei gyfarfodydd ar 8 Gorffennaf 2024 a 1 Hydref 2024.
Soniwyd wrth y Cabinet am y prif newidiadau oedd wedi'u hargymell i'r polisi newydd o ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori, fel y manylwyd yn yr adroddiad ac a oedd yn rhan o'r Polisi newydd. Rhoddwyd sicrwydd bod y Cwnsler Cyfreithiol wedi craffu ar yr holl newidiadau, a wnaeth ganmol bwriad y polisi a'r cynllun yn gyffredinol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin. |
|||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AWDURDOD LLEOL 2023/24 DRAFFT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet Adroddiad Blynyddol Drafft Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2023/24.
Roedd yr adroddiad wedi'i ddatblygu'n unol â'r gofyniad statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar berfformiad yr ystod gyfan o wasanaethau cymdeithasol a'r modd y cânt eu darparu, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer eu gwella. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol ac yn dangos sut yr eid i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y byddai'r gwasanaeth yn darparu'r rheiny ar sail y gyllideb a gymeradwywyd.
Wrth ystyried yr adroddiad, diolchodd y Cabinet i'r staff oedd yn gweithio ar draws y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol am eu cyfraniadau rhagorol yn y maes hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fodAdroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 2023/24 Drafft Sir Gaerfyrddin yn cael ei gymeradwyo.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2024, o ran 2024/2025.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £19.5m yn cynnwys cyllidebau ysgolion, ac yn rhagweld gorwariant o £10.2m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Ar lefel uchel, roedd y gorwariant, ar y cyfan, i'w briodoli i ddiffygion cyllideb ysgolion, pwysau pellach o fewn y gwasanaethau plant, lefelau uchel o alw a chymhlethdod o fewn gofal cymdeithasol i oedolion.
Mae'r cyfrif Refeniw Tai a nodir yn Atodiad B yr adroddiad yn rhagweld gorwariant o £1.975m ar gyfer 2024/25. Roedd y Cabinet yn cydnabod y gwaith parhaus i reoli'r sefyllfa wariant ac yn nodi byddai'r sefyllfa'n cael ei hadolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2024/25, fel yr oedd ar 31 Awst 2024 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau ariannol i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Roedd yr adroddiad yn nodi gwariant net a ragwelir o £110,557k o gymharu â chyllideb net weithredol o £138,329k, gan roi amrywiad o -£27,772k.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn, a llithriad o 2023/24. Roedd rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn a'r trosglwyddiadau ariannol a gymeradwywyd.
Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y prosiectau a'r trosglwyddiadau ariannol newydd i'w nodi a'u cymeradwyo ar gyfer y flwyddyn bresennol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||
FERSIWN DDRAFFT STRATEGAETH Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cabinet, i'w hystyried, y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg a ddarparai raglen fuddsoddi a threfniadaeth ysgolion yn unol â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Roedd Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr 2024 (gweler cofnod 7 ohono) a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn rhwng 12 Chwefror 2024 a 13 Mawrth 2024 i gasglu barn yr holl randdeiliaid am y fersiwn ddrafft o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Yng ngoleuni'r adborth i'r ymgynghoriad, gan gynnwys ystyriaeth gan y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin 2024, adolygodd y Cabinet y newidiadau canlynol i'r Strategaeth fel y manylir yn yr adroddiad:
Diolchodd y Cabinet i'r swyddogion oedd ynghlwm wrth ddatblygu'r strategaeth a phwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru ddarparu strwythurau ariannol priodol i alluogi'r Awdurdod i ddarparu addysg o safon uchel, o dan arweinyddiaeth gref yn yr adeiladau gorau posibl, gan weithredu o fewn cyllidebau digonol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Fersiwn ddrafft o Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg. |
|||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |