Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 30 MEDI 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Medi 2024 yn gofnod cywir. |
|||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||
POLISI TALIADAU UNIONGYRCHOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried polisi Taliad Uniongyrchol y Cyngor a oedd yn cynnig diwygiadau arfaethedig i adlewyrchu newidiadau mewn amgylchiadau. Roedd y cynllun yn galluogi unigolion cymwys i brynu'r gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddiwallu eu hanghenion llesiant eu hunain ac felly roedd yn cynnig mwy o ddewis, rheolaeth a hyblygrwydd i bobl a fyddai'n draddodiadol yn dibynnu ar eraill i drefnu eu gofal a'u cymorth.
Roedd adolygiad o'r polisi wedi dechrau i adlewyrchu bod yr awdurdod lleol wedi dechrau ei gynllun cymorth mewnol ei hun yn 2021 ac felly nid oedd yr awdurdod yn defnyddio Diverse Cymru mwyach i gefnogi'r gwaith o reoli taliadau uniongyrchol. Argymhellwyd gwelliannau ychwanegol hefyd i'w cymeradwyo er mwyn darparu mwy o fanylion ac eglurder mewn perthynas â chymhwysedd, meini prawf a threfniadau ar gyfer darparu taliadau uniongyrchol, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Polisi Taliadau Uniongyrchol diwygiedig yn cael ei gymeradwyo. |
|||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |
|||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. |
|||||
HARBWR PORTH TYWYN - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF A'R DEWISIADAU AR GYFER Y DYFODOL Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 8 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth hon danseilio safle'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau parhaus ac yn y dyfodol ynghylch yr Harbwr, ar draul y pwrs cyhoeddus.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol yn Harbwr Porth Tywyn, yn dilyn y ffaith fod y tenantiaid Burry Port Marina Ltd (BPML) wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, a nodi opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|