Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 30ain Medi, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans ac E.G. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 16 MEDI 2024 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Medi 2024 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO - POLISI ADDASIADAU pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cafodd y Cabinet ganfyddiadau ac argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio ynghylch Polisi Addasiadau'r Cyngor i'w hystyried.  Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol a bydd y polisi diwygiedig yn helpu i reoli'r galw am addasiadau, o dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, a Deddf Plant 1989.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi o dan bwynt 3 i'r geiriad ddarllen; lle bernir bod yr amgylchiadau'n eithriadol, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Bennaeth y Gwasanaeth (y gwasanaethau Tai a Chyllid) i'w ystyried.  Nid yw'r atgyfeiriad hwn yn golygu y bydd y penderfyniad yn cael ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1cymeradwyo ailgyflwyno prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl ar raddfa ganolig;

 

6.2mabwysiadu'r Polisi Addasiadau Drafft diwygiedig, sydd ynghlwm wrth atodiad 1 yr adroddiad, gan ymgorffori'r gwelliannau a awgrymir;

 

6.3 cymeradwyo Amodau Ad-dalu Grant ar yr holl Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl dros £5,000 os yw'r eiddo'n cael ei werthu o fewn 10 mlynedd ar ôl cwblhau'r addasiad gyda'r eithriadau canlynol yn unig:

a)    Caledi ariannol

b)    Symud am resymau cyflogaeth

c)    Symud i ofal preswyl;

 

6.4cymeradwyo'r addasiadau ar gyfer plant gofal maeth a leolir yn Sir Gaerfyrddin gan Awdurdod Lleol arall oni bai y bodloni'r meini prawf yn y polisi;

 

6.5 cytuno bod staffio'n cael ei adolygu i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i ddelio â'r galw mawr parhaus am y gwasanaeth.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024, o ran 2024/2025.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £17.9m gan gynnwys cyllidebau ysgol, ac yn rhagweld gorwariant o £9.6m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.

 

Nododd y Cabinet nad oedd cadarnhad ffurfiol o gyllid ar gyfer pensiynau Athrawon a Diffoddwyr Tân wedi dod i law hyd yma. Mae £4.1m wedi'i chyllidebu ar gyfer hyn.

 

Mae'r Cyfrif Refeniw Tai a nodir yn Atodiad B yr adroddiad yn rhagweld gorwariant o £1.742m ar gyfer 2024/25.  Nododd y Cabinet y byddai'r sefyllfa'n cael ei hadolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol.

  

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1 derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

 

7.2 o ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.

 

8.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2024/25 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2024/25, fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.   Nododd yr adroddiad wariant net a ragwelir o £112,741 o gymharu â chyllideb net weithredol o £142,607, gan roi amrywiad o -£29,866. 

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn a llithriad o 2023/24. Roedd rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.

 

Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1      bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei

           dderbyn;

8.2.     bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael  

           eu nodi a'u cytuno.

 

 

9.

PENODI UWCH-GRWNER AR GYFER AWDURDODAETH SIR BENFRO A SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar y cynnig i recriwtio Uwch-grwner ar gyfer ardal Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. 

 

Nododd y Cabinet fod Swyddfa'r Crwner wedi cadarnhau na fyddai Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn cael eu heffeithio gan y posibilrwydd o uno awdurdodaeth y Crwner.  Felly, gallai'r cynghorau fwrw ymlaen â phenodi Uwch-grwner parhaol.

 

Nodwyd bod gan y ddau Gyngor, ar y cyd â'r Prif Grwner a'r Arglwydd Ganghellor, rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod gan yr awdurdodaeth drefniadau gwasanaeth crwner effeithiol ar waith gydag adnoddau digonol, a hynny o dan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil wrth y Cabinet nad oedd yn rhaid cyflwyno'r adroddiad i'r Cyngor Llawn ac y gellid gwneud penderfyniad yng nghyfarfod y Cabinet heddiw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1 cynorthwyo Cyngor Sir Penfro o ran paratoi'r disgrifiad swydd, y telerau contractiol a'r broses benodi ar gyfer Uwch-grwner a gwneud trefniadau i hysbysebu'r swydd yn briodol;

 

9.2 cynorthwyo Cyngor Sir Penfro i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i benodi Uwch-grwner;

 

9.3 ymgynghori â Chyngor Sir Penfro a Phrif Swyddog y Crwner, i sefydlu panel, er mwyn llunio rhestr fer, i gyfweld ag ymgeiswyr ac i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn Uwch-grwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

 

10.

DEISEB YSGOL HEOL GOFFA pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad i'w ystyried yn manylu ar yr ymateb i ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 10 Gorffennaf 2024 ynghylch Ysgol Heol Goffa (gweler cofnod 12).

 

Yng nghyfarfod y Cyngor dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg na allai'r cynllun presennol ar gyfer Ysgol Heol Goffa fynd yn ei flaen oherwydd cost tendro'r prosiect. 

 

Nododd y Cabinet fod Mr David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg, wedi cael ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Llanelli. 

 

Dechreuodd adolygiad ym mis Medi, 2024 gyda dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid ehangach i wrando ar eu sylwadau a'u cymryd i ystyriaeth.

 

Nodwyd y bydd yr holl gynigion a gaiff eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol.  Bydd casgliadau'r adolygiad yn cael eu cyflwyno i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y ddeiseb a nodi cynnwys yr adroddiad.

 

11.

RHYBUDD GYNNIG RHEILFFORDD CALON CYMRU pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth mewn ymateb i rybudd o gynnig a gyfeiriwyd at y Cabinet gan y Cyngor Sir ar 10 Gorffennaf, 2024 (gweler cofnod 10.1).

 

Nododd aelodau'r Cabinet fod Trafnidiaeth Cymru wedi datgelu cynlluniau yn gynharach eleni i leihau nifer y gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru o bump i bedwar y dydd. Mae cynlluniau hefyd i gael gwared ar ddau wasanaeth gyda'r nos i Lanymddyfri a Llandrindod yn cael eu cynnig o fis Rhagfyr 2024. Yn sylfaenol, gallai'r penderfyniad i leihau'r gwasanaeth hwn, a'r diffyg buddsoddiad mewn stoc dros y degawd diwethaf beryglu dyfodol tymor hir y rheilffordd.

 

Nodwyd bod llythyr wedi'i anfon gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith at Lywodraeth Cymru yn mynegi sylwadau'r Rhybudd o Gynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi cynnwys yr adroddiad.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.