Agenda a Chofnodion

Cyllideb, Cabinet - Dydd Llun, 20fed Chwefror, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies a P.M. Hughes.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

TRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2023/24 I 2025/26 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cyflwyno'r cynigion diweddaraf ar gyfer y Strategaeth Cyllideb Refeniw am 2023/24 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol.

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, wrth gyflwyno'r adroddiad, er na fyddai ffigurau setliad blynyddol terfynol Llywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi tan 1 Mawrth 2023, fod prif elfennau rhagdybiaethau a dyraniadau cyllideb y Cyngor wedi'u hadolygu a bod hynny wedi arwain at hyblygrwydd yn y gyllideb. Felly roeddid wedi edrych eto ar rai o'r cynigion yn yr amlinelliad o'r gyllideb wreiddiol a rhoddwyd ystyriaeth i opsiynau pellach. 

 

Roedd manylion llawn y setliad dros dro wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ond roedd y pennawd ar sail Cymru gyfan. Roedd cyllid y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu 7.9%, ac roedd Sir Gaerfyrddin yn cael cynnydd o 8.5%.

Er bod hyn wedi osgoi'r drychineb roedd Awdurdodau Lleol yn ei hofni fis Tachwedd diwethaf, byddai angen gwneud penderfyniadau anodd iawn o hyd. Roedd dewisiadau'r gyllideb eleni yr un modd anodd ag unrhyw adeg yn ystod blynyddoedd gwaethaf y cyfnod o gyni cyllidol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at y ffaith bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi addasu rhai o'r ffigyrau eraill yn y strategaeth. Pwysleisiodd fod y drefn hon yn arferol, wrth i fwy o wybodaeth a gwybodaeth gliriach ddod ar gael. Roedd cyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu dros £30m at y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cadw'r cyflog tybiedig o 5% y caniatawyd ar ei gyfer yn y flwyddyn nesaf ar gyfer staff addysgu a NJC - dyma'r dilysiad mwyaf arwyddocaol yn y rhagdybiaethau, a hefyd y mwyaf ansicr. Roedd yr adroddiad yn nodi fod pob 1% ar fil cyflogau'r Cyngor yn gyfystyr â £2.6m. O gofio'r gweithredu diwydiannol ar draws y sector cyhoeddus ehangach, lefel y dyfarniadau cyflog a bennwyd yn genedlaethol oedd y dilysiad mwyaf arwyddocaol yn y rhagdybiaethau, a hefyd y ffactor risg mwyaf.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau at yr ymgynghoriadau oedd wedi digwydd ynghylch cynigion y gyllideb yn Rhagfyr a Ionawr, pan oedd dros 2,000 o bobl wedi mynd i'r drafferth o gwblhau'r arolwg a rhannu eu barn. Diolchodd i bawb oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad neu wedi ymateb i'r arolygon, ac yn benodol i'w gyd-gynghorwyr am eu hymrwymiad wrth gyfrannu at y seminarau am y gyllideb mewn modd mor gadarnhaol. Hefyd diolchodd i'r 80 o bobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol oedd wedi ymweld â Neuadd y Sir i holi aelodau'r cabinet a swyddogion ac i fynegi eu barn am yr hyn ddylai blaenoriaethau'r Cyngor fod.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyfanswm o bron i £1.8 miliwn ar gael i wneud newidiadau i gyllideb y flwyddyn nesaf, ac fe awgrymodd y dylid gwneud y defnydd gorau posibl o'r swm hwn drwy wneud yr addasiadau canlynol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2023/24 - 2027/28 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2023/24 hyd at 2027/2028. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, wrth gyflwyno'r adroddiad, byddai £265m yn cael ei fuddsoddi dros y pum mlynedd nesaf fel rhan o'r rhaglen newydd; £73m ohono ar gyfer gwella adeiladau ysgolion, £27m ar gyfer prosiectau Adfywio i hybu gweithgarwch economaidd, £86m i brosiectau a gefnogir gan y Fargen Ddinesig (sy'n cynnwys canolfan hamdden newydd ar gyfer Llanelli), a £59m i wella seilwaith economaidd lleol a'r amgylchedd ehangach.  Dywedodd fod y rhaglen gyfalaf dros dro fanwl wedi ei chyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol, ac, yn dilyn pryderon ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer atal llifogydd a diffyg arian grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau datgarboneiddio, fod y rhaglen wedi ei diwygio i gynnwys ymrwymiadau pellach yn y maes hwn.  

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y rhaglen yn cynnwys tri phrosiect trawsnewidiol parhaus, yr oedd pob un yn canolbwyntio ar brif dref wahanol.     

 

·       Hwb gwerth £19.6m (hen siop Debenhams) yng nghanol tref Caerfyrddin, a fydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref wrth i'r sir adfer yn dilyn y pandemig;   

·       buddsoddiad o £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo;

·       cam adeiladu Parth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli, a fydd yn creu pum adeilad gwahanol sy'n gysylltiedig â "stryd", a fydd yn cynnwys canolfan gweithgareddau d?r, neuadd chwaraeon, ystafelloedd chwaraeon a ffitrwydd amlbwrpas a champfa, cyfleusterau addysg a hyfforddiant, darpariaeth glinigol ac ymchwil ac arloesi a lle i fusnesau.  

 

Yn ogystal â'r prosiectau blaengar mawr hyn, byddai'r Cyngor yn parhau i gefnogi ei raglenni buddsoddi mewn seilwaith a phortffolio eiddo'r awdurdod ym mlwyddyn pump y rhaglen. Byddai'r cymorth hefyd yn parhau i Ysgolion a Chymunedau Cynaliadwy ar gyfer  Dysgu Sir Gaerfyrddin. Dywedwyd bod gwaith dichonoldeb wedi bod yn mynd rhagddo ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ar sawl ysgol, ac felly nid oedd y prosiectau hynny wedi'u rhestru  fel rhan o'r rhaglen newydd hon. At hynny nid oedd yr ysgolion cynradd yn Rhydaman, a oedd yn rhan o'r rhaglen, wedi'u rhestru hyd yn hyn, gan eu bod yn rhan o geisiadau Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), ac felly roedd yn bosibl byddent yn cael eu darparu ar y cyd â phartneriaid yn y sector preifat a fyddai'n cael eu hariannu trwy refeniw maes o law.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn ogystal â'r prosiectau blaengar a amlinellwyd, y byddai'r Awdurdod yn ceisio parhau i gefnogi ei raglenni treigl parhaus o fuddsoddiadau yn y seilwaith canlynol a phortffolio eiddo'r awdurdod ym mlwyddyn pump y rhaglen:

 

£2.5m ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl;

£250k i wella Diogelwch ar y Ffyrdd;

£250k ar gyfer draenio priffyrdd;

£400k ar gyfer cryfhau pontydd;

£600k ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd yn barhaus;

£400k ar gyfer Goleuadau Cyhoeddus;

£500k ar gyfer Gwaith Cyffredinol Addysg  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2023-24 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu'n derfynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

7.1

Bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2023-24 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

7.2

Bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi,  a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

8.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2022 I RHAGFYR 31AIN 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Rhagfyr 2022 yn cael ei dderbyn. 

 

9.

ADRODDIAD GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, TAI AC ADFYWIO - POLISI DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio, ar gyfer ystyriaeth y Cabinet, adroddiad ar ganfyddiadau ac argymhellion y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor uchod i ddatblygu Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys, er mwyn mynd i'r afael â'r galw digynsail ar hyn o bryd am Dai Cymdeithasol. Diolchodd i'r holl aelodau a swyddogion oedd wedi bod ynghlwm wrth baratoi'r adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen am yr adroddiad a dweud nad oedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo argymhellion 1 a 2.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a'r Dirprwy Arweinydd fod newid yn cael ei wneud i argymhelliad 2 sef cyfnewid y geiriau 'tua un flwyddyn' am 'hyd at 18 mis', a hefyd fe wnaeth argymell trefnu Sesiwn Datblygu i'r Aelodau ar y Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Dros Dro Brys.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1 bod adroddiad ac argymhellion Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywiosef datblygu Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Brys yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar y newid a amlinellwyd, a nodi nad oedd angen i'r Cyngor gymeradwyo argymhellion 1 a 2;

9.2 trefnu Sesiwn Datblygu i'r Aelodau ar y Polisi Dyraniadau Tai Cymdeithasol Dros Dro Brys.  

 

 

 

10.

STRATEGAETH RHAGLEN CYMORTH TAI 2022-2026 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai arfaethedig (2022 – 26) ar gyfer Sir Gaerfyrddin, yr oedd yn ofynnol, yn ôl Llywodraeth Cymru, i'r Cyngor ei lunio. Roedd y strategaeth yn manylu ar flaenoriaethau strategol Cyngor Sir Caerfyrddin a'i asiantaethau partner ar gyfer gwasanaethau atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai dros y 4 blynedd nesaf (2022-26). Roedd yn diweddaru'r blaenoriaethau blaenorol a gafodd eu cynnwys yn hen strategaeth digartrefedd yr Awdurdod Lleol, a Chynllun Cyflawni'r Grant Cymorth Tai ar gyfer 2021-22. Roedd y blaenoriaethau wedi'u datblygu drwy gyfrwng ymarfer asesu angen cynhwysfawr a oedd yn cynnwys ymgysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid yn yr Awdurdod Lleol, darparwyr gwasanaethau cymorth a defnyddwyr gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (2022-26) ar gyfer Sir Gâr.

 

11.

CYNLLUN PONTIO AILGARTREFU CYFLYM 2022 - 2027 pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Gynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym Drafft 2022-2027, a luniwyd yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys cyfres o Gamau Gweithredu Lefel Uchel er mwyn galluogi'r Cyngor i bontio i ddull Ailgartrefu Cyflym i helpu i wneud digartrefedd yn Sir Gaerfyrddin yn brin ac yn fyr, ac i sicrhau nad yw'n digwydd dro ar ôl tro. Roedd datblygiad Ailgartrefu Cyflym yn amlwg yn gosod pwyslais ar ddarparu tai fel elfen sylfaenol o adferiad o ddigartrefedd, na ellid ei ddatrys drwy dai yn unig. Er mwyn i Ailgartrefu Cyflym fod yn llwyddiant, ystyrid bod yn rhaid i'r Cyngor weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau allweddol fel iechyd a chyfiawnder troseddol, tra hefyd yn defnyddio arbenigedd a gwybodaeth y trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol oedd yn darparu gwasanaethau sy'n cefnogi ac yn helpu tenantiaid i fagu hyder a chysylltiad â'r gymuned.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym drafft (a'i Grynodeb Gweithredol) yn cael ei gymeradwyo a'i gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru, a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn dilyn ei gyfieithu i'r Gymraeg.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

14.

ADRODDIAD DIWEDDARU YNGHYLCH YR YSTAD WLEDIG

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 13 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn tanseilio'n annheg fuddiannau masnachol y Cyngor a ffermwyr unigol.

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad ar statws a chyflwr presennol Ystâd Ffermydd y Cyngor Sir yn dilyn arolygon diweddar a goblygiadau cyflwyno Rheoliadau Adnoddau D?r (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a fyddai'n golygu bod ffermydd yn gorfod uwchraddio cyfleusterau storio slyri er mwyn gallu dal hyd at werth pum mis o leiaf o slyri. O ganlyniad gwahoddwyd y Cabinet i ystyried a ddylid ailedrych ar benderfyniad blaenorol y Cyngor Sir (Medi 2019) i ddal ei afael ar Ffermydd Sirol.

 

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL gadw a rheoli Ystâd Ffermydd y Cyngor Sir o dan y polisi presennol, gan resymoli ac ystyried cyfleoedd i ddatblygu a gwerthu wrth iddynt godi.