Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224 088
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Price. |
|||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar lefel y cyllid i'w ddarparu i Awdurdodau Lleol ar draws rhanbarth De-Orllewin Cymru yn ystod y 3 blynedd nesaf yn unol â meysydd blaenoriaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-Orllewin Cymru a gyflwynwyd yn Atodiad A i'r adroddiad, a oedd wedi'i gydlynu gan Gyngor Abertawe fel yr Awdurdod arweiniol ar ran rhanbarth y De-orllewin, i gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth y DU a rhoi'r Gronfa ar waith ar ôl hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD SIR GAERFYRDDIN 2023 PDF 121 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i'w chynnal yn Sir Gaerfyrddin yn 2023. Nodwyd bod y digwyddiad wedi ei ohirio yn 2021 o ganlyniad i bandemig coronafeirws.
Cydnabu'r Cabinet y buddion a fyddai'n deillio o'r Eisteddfod o ran llesiant economaidd Sir Gaerfyrddin, a'r cyfraniad at ddatblygiad y Gymraeg yn y sir a oedd yn adlewyrchu'r ymrwymiad i gefnogi'r dyhead o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn hyn o beth, cyfeiriwyd at Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yr Awdurdod a gymeradwywyd yn y ddiweddar gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a oedd yn nodi sut y byddai'r Cyngor yn datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg yn ei ysgolion yn ystod y 10 mlynedd nesaf.
Nododd y Cabinet y cais a wnaed gan yr Urdd am gymorth ychwanegol posibl i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei reoli'n llwyddiannus yn sgil y newidiadau a wnaed yn dilyn pandemig coronafeirws. Yn hyn o beth, cafodd goblygiadau staffio'r Awdurdod eu hystyried gan y Cabinet. Cyfeiriwyd at Gytundeb Lefel Gwasanaeth a fyddai'n cael ei lunio rhwng yr Awdurdod a'r Urdd i sicrhau bod y profiad gorau posibl yn cael ei roi i'r plant, y bobl ifanc, a thrigolion y sir yn ystod y cyfnod paratoi 12 mis ac yn ystod wythnos y digwyddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
PANEL YMGYNGHOROL TRAWSBLEIDIOL YNGHYLCH NEWID YN YR HINSAWDD PDF 96 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 9.2 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2022, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar gylch gwaith ac aelodaeth arfaethedig y Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol ar Newid yn yr Hinsawdd, a oedd yn cael ei sefydlu i gefnogi dull yr Awdurdod o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng natur.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo aelodaeth a chylch gwaith y Panel Ymgynghorol trawsbleidiol ar Newid yn yr Hinsawdd fel y nodwyd yn yr adroddiad.
|
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2021-2022 PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2021-22.
Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2021-22 ar 3 Mawrth 2021. Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2021-22.
PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn mabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2021-22. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 125 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw'r Cyngor a oedd yn rhoi sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn i aelodau mewn perthynas â 2021/22.
Roedd y ffigurau alldro terfynol yn dangos tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £5,345k (ac yn cynnwys effaith y dyfarniad cyflog ar gyfer Ebrill 2021 y dyrannwyd mwy yn y gyllideb ar ei gyfer na'r hyn oedd ei angen). Ar ôl ystyried y taliadau cyfalaf a'r symudiad mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chronfeydd wrth gefn adrannol, roedd y sefyllfa net ar gyfer yr Awdurdod yn golygu tanwariant o £1,433k.
Nododd y Cabinet fod y tanwariant, yn bennaf, i'w briodoli i ffactorau a oedd yn ymwneud â phandemig coronafeirws. Yn hyn o beth, dywedwyd bod cyllid grant ychwanegol sylweddol wedi'i dderbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn, a bod costau pellach yn gysylltiedig â'r coronafeirws wedi cael eu had-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru. Eglurwyd hefyd bod rhywfaint o gyllido cyfalaf o dan wariant wedi cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â phwysau sylweddol ar gyllidebau prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn. Ar ben hynny, cydnabuwyd bod rhai gwasanaethau wedi cael eu hoedi neu eu lleihau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws yn ogystal â swyddi gwag yn ystod y cyfnod adrodd a gyfrannodd at y tanwariant.
Rhoddwyd ystyriaeth i'r Cyfrif Refeniw Tai a atodwyd wrth yr adroddiad yn Atodiad B a oedd yn nodi tanwariant o £8,907k ar gyfer 2021/22. Rhoddwyd crynodeb o'r prif amrywiannau i'r Cabinet mewn perthynas ag atgyweiriadau a chynnal a chadw, goruchwylio, rheoli a chymorth, darpariaeth ar gyfer drwgddyled, taliadau cyllido cyfalaf, cyllid grant ac incwm.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw y Cyngor ar gyfer Diwedd y Flwyddyn 2021-22. |
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau brys wedi dod i law. |
|||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|||||||
PROSIECT CYFALAF ORIEL MYRDDIN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gadawodd y Prif Weithredwr, W. Walters, y cyfarfod yn dilyn datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor yn y broses gaffael a bod yn niweidiol mewn modd annheg i'r contractwr a ffefrir yn y farchnad ehangach.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ddatblygu Oriel Myrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad er mwyn cefnogi datblygu Oriel Myrddin.
|