Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALWYD AR 27 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod pedwar cwestiwn â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.1

CWESTIWN GAN CONOR MACDONALD I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE - ARWEINYDD Y CYNGOR

“Yn ei maniffesto, ymrwymodd y blaid mewn grym i'r egwyddor o gymdogaethau 20 munud a hyrwyddo teithio llesol.  Mae'r maniffesto'n nodi'n benodol bod "[Awdurdodau Lleol yn] Creu cymhellion i annog pobl i ddefnyddio e-feiciau ac annog pobl i ddefnyddio cynlluniau llogi beiciau, ac archwilio’r posibilrwydd o e-feiciau cargo i ddisodli faniau a lleihau traffig Cerbydau Nwyddau Trwm" yn bwysig i hyn. (Plaid Cymru 2022; Maniffesto Llywodraeth Leol; t. 24) Ers cael ei ethol yn 2022, sut mae'r cyngor wedi hyrwyddo nodau'r ymrwymiadau hyn, yn enwedig yr un yngl?n ag e-feiciau a chynlluniau llogi beiciau?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cabinet nad oedd yr holwr, Mr Conor MacDonald yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod i ofyn ei gwestiwn.  Yn unol â hynny, darllenodd Arweinydd y Cyngor y cwestiwn ar ei ran, fel a ganlyn:

 

“Yn ei maniffesto, ymrwymodd y blaid mewn grym i'r egwyddor o gymdogaethau 20 munud a hyrwyddo teithio llesol. Mae'r maniffesto'n nodi'n benodol bod "[Awdurdodau Lleol yn] Creu cymhellion i annog pobl i ddefnyddio e-feiciau ac annog pobl i ddefnyddio cynlluniau llogi beiciau, ac archwilio’r posibilrwydd o e-feiciau cargo i ddisodli faniau a lleihau traffig Cerbydau Nwyddau Trwm" yn bwysig i hyn. (Plaid Cymru 2022;Maniffesto Llywodraeth Leol; t. 24) Ers cael ei ethol yn 2022, sut mae'r cyngor wedi hyrwyddo nodau'r ymrwymiadau hyn, yn enwedig yr un yngl?n ag e-feiciau a chynlluniau llogi beiciau?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae'r testun sy'n cael ei ddyfynnu yn y cwestiwn yn cyfeirio at y maniffesto cenedlaethol a gyhoeddodd Plaid Cymru cyn yr etholiadau Llywodraeth Leol y llynedd.  Yn amlwg bydd yr Aelodau, ac aelodau o'r cyhoedd, yn ymwybodol fod Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi datblygu ei maniffesto lleol ei hun ac mai ar sail hynny y gwnaethom ymgysylltu gyda thrigolion cyn yr etholiad y llynedd, felly er bod yna rai elfennau o'r maniffesto cenedlaethol sydd wedi'u copïo i'r maniffesto lleol, nid yw hynny'n wir am y testun i gyd, ac mae hyn yn un enghraifft o'r fath.  Wedi dweud hynny, yn amlwg fel Cabinet gwnaethom nodi ein huchelgeisiau o ran teithio llesol ar draws y sir yn ein datganiad gweledigaeth fel Cabinet fis Gorffennaf diwethaf, ac mae cyfeiriad clir at yr angen i ddatblygu'r maes hwn yn y strategaeth gorfforaethol ac yn y cynlluniau busnes y cytunwyd arnynt gan y Cyngor ac sydd yn y broses o gael eu datblygu wrth i ni siarad.  Felly, dim ond i ddarparu rhywfaint o gyd-destun yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda golwg ar yr agenda hon:

 

·       Rydym wedi darparu seilwaith ategol ar gyfer cynlluniau llogi e-feiciau Actif sy'n cael eu gwireddu ar hyn o bryd gan Dîm Datblygu Chwaraeon y Cyngor.  Mae'r cydweithwyr Hamdden Actif yn treialu'r cyfleuster llogi 'byw' cyntaf drwy'r ap Actif yng Nghanolfan Hamdden Llanymddyfri yn ystod wythnos yr Eisteddfod.  Os yw'n mynd yn dda, bydd yn cael ei gyflwyno ar safleoedd Canolfannau Hamdden Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Erbyn hyn mae gan bob safle orsafoedd gwefru a beiciau, a gwnaethom gynorthwyo drwy osod storfa feicio ddiogel yn y pedwar safle.

 

·       Rydym hefyd yn darparu mannau gwefru e-feiciau yn ddi-dâl mewn wyth lleoliad ar draws y sir, a fydd yn cael eu hyrwyddo ymhellach yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod unwaith y bydd yr holl arwyddion wedi'u gosod. Mae'r nifer hwn yn parhau i ehangu. Mae'r lleoliadau presennol yn cynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Y Goleudy, Porth y Dwyrain, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Llanymddyfri, Rhodfa'r Santes Catrin, Y Caban ym Mhentywyn, ac yn fuan bydd lleoliad arall  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

CWESTIWN GAN TARA-JANE SUTCLIFFE I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES - YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO

“Mae'r newyddion bod ein banc olaf (Barclays) yn cau yn Llandeilo ym mis Mehefin yn ergyd o ran cael mynediad at wasanaethau yn lleol, ond gan mai hwn yw'r pedwerydd banc i gau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd hyn hefyd yn effeithio'n sylweddol ar gymeriad y dref. Mae hen adeiladau banc HSBC a Lloyds, a gaewyd yn 2014 a 2018, yn parhau i fod yn wag ac yn dirywio, er bod o leiaf un yn adeilad rhestredig oherwydd ei arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol. Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i ddiogelu a gwella stryd fawr hanesyddol Llandeilo - a sut y gall trigolion fod yn rhan o'r gwaith hwn?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae'r newyddion bod ein banc olaf (Barclays) yn cau yn Llandeilo ym mis Mehefin yn ergyd o ran cael mynediad at wasanaethau yn lleol, ond gan mai hwn yw'r pedwerydd banc i gau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bydd hyn hefyd yn effeithio'n sylweddol ar gymeriad y dref. Mae hen adeiladau banc HSBC a Lloyds, a gaewyd yn 2014 a 2018, yn parhau i fod yn wag ac yn dirywio, er bod o leiaf un yn adeilad rhestredig oherwydd ei arwyddocâd hanesyddol a phensaernïol. Beth mae'r Cyngor yn ei wneud i ddiogelu a gwella stryd fawr hanesyddol Llandeilo - a sut y gall trigolion fod yn rhan o'r gwaith hwn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio :-

 

“Rwy'n mynd i ymddiheuro ar y dechrau am yr ateb hir a chynhwysfawr hwn ond teimlaf fod angen i mi nodi rhai o'r buddsoddiadau sydd wedi bod o fudd i Landeilo ers i ni arwain y Cyngor sef 2015. 

 

O ran y banciau, mae 3 o'r 4 banc stryd fawr wedi cau: gwerthwyd HSBC a'i brynu gan ddatblygwr; mae wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer ei addasu yn far gwin, ond nid oes gwaith wedi'i gwblhau ers 3 blynedd. Mae Banc Lloyds a Nat West wedi cael eu prynu gan berchennog y Cawdor ac rwy'n si?r y gwelwn ni gynlluniau yn dod ymlaen maes o law, gan gofio pa mor dda y caiff y Cawdor ei redeg, does gen i ddim pryderon am yr adeiladau yma.

 

Ond os gallaf ganolbwyntio ar yr hyn y mae'r glymblaid dan arweiniad Plaid Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer Llandeilo gan na allwn newid unrhyw benderfyniadau masnachol gan Barclays, er iddyn nhw wneud elw o £5 biliwn y llynedd. Mae'n anffodus fod y banciau amlwladol yma yn cau canghennau ar draws y DU ac wedi bod yn gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd. Mae hefyd yn siomedig nad yw Llywodraeth Geidwadol y DU yn gweithredu i geisio atal y canghennau hyn rhag cau yn y lle cyntaf. Credaf fod gan ganghennau lleol rôl allweddol o ran cefnogi ein cymunedau gwledig, ond eto nid yw Llywodraeth Geidwadol y DU wedi gwneud dim, neu'r nesaf peth i ddim yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i atal y sefyllfa hon rhag datblygu. Mae yna angen clir am fwy o reoleiddio ar y sector bancio ac am fwy o ddiogelu canghennau gwledig, ond mae'n ymddangos ei bod yn bwysicach gan Lywodraeth Geidwadol y DU eu bod yn cefnogi eu ffrindiau yn y ddinas, na chefnogi cymunedau gwledig fel Llandeilo.

 

Mae Llandeilo yn un o'n 10 tref farchnad ac mae wedi cael cyfran sylweddol o arian trwy adfywio dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y gwyddoch mae'r weinyddiaeth hon newydd gwblhau'r gwaith o adnewyddu adeilad rhestredig Gradd II Neuadd Farchnad Llandeilo a fydd yn creu ac yn darparu lle i 45 o swyddi a hyd at 17 o fusnesau bach a chanolig yng nghanol y dref. Bydd y buddsoddiad hwn o ychydig dros £4.1m yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

CWESTIWN GAN HAVARD HUGHES I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES - YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO

“A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Tywi? Byddai ffiniau awgrymedig yr ardal hon yn seiliedig ar yr ardal a nodwyd fel "Tirwedd Eithriadol" ar asesiad LANDMAP Cyfoeth Naturiol Cymru.”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Tywi? Byddai ffiniau awgrymedig yr ardal hon yn seiliedig ar yr ardal a nodwyd fel "Tirwedd Eithriadol" ar asesiad LANDMAP Cyfoeth Naturiol Cymru.”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio :-

 

“Diolch i chi am eich cwestiwn.  Fel y gwyddoch mae dynodi Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn dod o fewn cylch gwaith CNC a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac er y bydd gan Sir Gaerfyrddin rôl ymgynghori, nid ni sy'n gwneud y penderfyniadau. Hefyd, os caf eich atgoffa Havard nad yw Parc Cenedlaethol neu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn atal peilonau rhag cael eu hadeiladu ar y safleoedd hyn, fel yn Eryri a Bannau Brycheiniog,  a hefyd ni wnaeth Ardal Tirwedd Arbennig atal Tyrbinau Gwynt rhag cael eu hadeiladu ar ben Mynydd y  Betws.  

 

Mae gr?p Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol y Mynyddoedd Cambriaidd wedi bod yn gweithio ar eu cais ers tua 2 flynedd gan ofyn am gefnogaeth y Cyngor gan fod pen gogleddol y Sir yn dod o fewn yr ardal.  Maen nhw wedi cyflwyno eu cais ac wedi cael gwybod gan weinidogion Cymru na fydd y cais yn cael ei asesu tan 2025/26 ar y cynharaf, ac yna dim ond os yw'n mynd i flaen-raglen waith newydd y Llywodraeth.

 

Felly, maen nhw wedi bod yn gweithio ar hyn ers 2021 ac mae'n bosib y bydd ganddyn nhw ymateb erbyn 2026.  Gan gofio bod Bute and Green Gen yn gobeithio cyflwyno cais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol erbyn 2024 - nid yw'r amserlen ar ein hochr ni yn y mater hwn, ac fel y gwyddoch, unwaith eto Llywodraeth Cymru ac nid y Cyngor Sir hwn sy'n penderfynu ar gais am Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol.

 

O fynd yn ôl at y cwestiwn o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, cyn cyflwyno ymateb i'r gr?p Mynyddoedd Cambriaidd, mi wnes i ymgynghori gyda'r tri Chyngor Cymuned sy'n dod o fewn ffin y cais hwn.  Daeth y tri Chyngor Cymuned yn ôl gydag ymateb negyddol.  Mae un ohonynt o fewn llwybr Wysg/Tywi. Ceisiadau cynllunio oedd eu prif bryderon, gan fod cael caniatâd cynllunio ar gyfer ail Gartref Menter Wledig neu ar gyfer siediau ychwanegol ar gyfer ?yna a lloia yn cael ei ystyried yn llawer anoddach mewn ardal sydd wedi ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.  Mae Undeb Amaethwyr Cymru a'r NFU yn erbyn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ychwanegol, ac felly hefyd Barciau Cenedlaethol am y rheswm hwn. 

 

A gaf eich sicrhau chi Havard, fy mod yn benderfynol o wneud popeth o fewn fy ngallu i ddiogelu ein tirweddau arbennig ar draws y sir tra hefyd yn sicrhau bod ffermydd a mentrau lleol yn gallu datblygu a chefnogi swyddi o fewn ein hardaloedd gwledig a darparu economi fywiog i'n holl drigolion.

 

Felly, cyn gwneud penderfyniad pendant ar y mater hwn, teimlaf ei bod yn hanfodol bwysig bod ymgynghori'n digwydd gyda'r trigolion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch ei safle newydd ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd.

 

Bydd hyn yn arwain at israddio'n ddifrifol wasanaethau yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac mae trigolion yn gwrthwynebu hyn yn gryf.

 

A chymryd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud sylwadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch yr ymgynghoriad, pa un o'r tri safle arfaethedig - Sanclêr, Gerddi'r Ffynnon yn Hendy-gwyn ar Daf neu D? Newydd yn Hendy-gwyn ar Daf yw'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch ei safle newydd ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd.  Bydd hyn yn arwain at israddio'n ddifrifol wasanaethau yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac mae trigolion yn gwrthwynebu hyn yn gryf. A chymryd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud sylwadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch yr ymgynghoriad, pa un o'r tri safle arfaethedig- Sanclêr, Gerddi'r Ffynnon yn Hendy-gwyn ar Daf neu D? Newydd yn Hendy-gwyn ar Daf yw'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor?"

  

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 

‘’Diolch ichi am y cwestiwn.  Yn gyntaf oll byddwch chi'n ymwybodol o ddatganiadau sydd wedi eu gwneud dros nifer o flynyddoedd gan aelodau'r Cyngor hwn o ran pwysigrwydd Glangwili i Sir Gaerfyrddin, ac nid yw ein safbwynt ni wedi newid yn yr ystyr yna - rydym o'r farn bod gan Glangwili rôl ganolog mewn darparu gofal iechyd i bobl Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.  Fodd bynnag, rwy'n cwestiynu'r rhesymeg y tu ôl i'ch cwestiwn, mae'n ymddangos braidd yn ddibwrpas yn yr ystyr mai'r Bwrdd Iechyd yw'r corff sy'n penderfynu ar hyn, fel y gwyddoch yn iawn, felly rwy'n meddwl tybed pam eich bod yn gofyn i'r Cyngor Sir am eu barn ar y safleoedd sy'n cael eu cyflwyno.  Teimlaf fod y cwestiwn yn fas ac yn brin o ddyfnder oherwydd, a dweud y gwir, mae yna heriau llawer mwy yn wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhan hon o'r byd, fel yn wir yng ngweddill y Deyrnas Unedig.  Does dim sôn yn y cwestiwn am bwysigrwydd trosglwyddo gofal o leoliadau acíwt i leoliadau yn y gymuned - mae hynny'n gwbl sylfaenol ac yn rhywbeth yr ydym fel Cyngor wedi bod yn pwyso ar y Bwrdd Iechyd arno ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn credu ei fod yn gwbl ganolog i unrhyw weledigaeth o iechyd a gofal cymdeithasol wrth symud ymlaen.  Nid yw'n cyffwrdd â phwysigrwydd iechyd y cyhoedd a'r agenda ataliol sy'n hollbwysig, eto wrth i ni geisio datblygu'r system yn y blynyddoedd i ddod.  Ac nid yw'n sôn dim am recriwtio a chadw staff sef y prif fater sy'n wynebu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fel byrddau iechyd eraill ledled y DU.  Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi llywyddu dros 10 mlynedd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus sy'n golygu bod nifer o'n gwasanaethau iechyd ar fin methu.  Bu methiant aruthrol i fuddsoddi mewn asedau a phobl yn y gwasanaeth iechyd, fel sydd wedi digwydd ar draws gweddill y sector cyhoeddus dros y ddegawd honno.  Yr effaith ar y gwasanaethau iechyd yw bod gennym bobl yn marw ar draws y DU, marwolaethau y mae modd eu hosgoi; pobl yn marw ar drolïau yn yr adran damweiniau ac achosion brys, neu'n waeth byth yn sownd gartref oherwydd bod ambiwlans wedi methu eu cyrraedd.  Dyna'r record o ddeng mlynedd o lymder - ac rydyn ni'n meddwl tybed pam fod y gwasanaeth iechyd mewn cymaint o lanast?  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.4

6.

CYNNYDD Y CYNLLUN CYDNABOD CYFLOGWYR AMDDIFFYN pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chymeradwyaeth y Cabinet ar 25 Hydref 2021 i'r Cyngor ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog [cofnod rhif 6.1], rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed gan y Cyngor tuag at gyflawni gwobr arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.

 

Adolygodd Aelodau'r Cabinet y meini prawf hanfodol ar gyfer y wobr arian yn erbyn statws presennol y Cyngor mewn perthynas â phob gofyniad a oedd yn dangos bod yr holl ofynion wedi'u bodloni; fodd bynnag cydnabuwyd y gallai mabwysiadu'r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig wella dull ac ymrwymiad y Cyngor i gyfamod y lluoedd arfog ymhellach.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1

Bod cais yn cael ei wneud ar gyfer y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (DERS) ar Lefel Gwobr Arian.

 

6.2

Bod gwaith yn cael ei wneud tuag at weithredu'r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig.

 

 

7.

NODI BOD GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD LLINOS DAVIES AR Y PANEL RHIANTA A DIOGELU CORFFORAETHOL YN LLE'R CYNGHORYDD HEFIN JONES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod Gr?p Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd Llinos Davies yn lle'r Cynghorydd Hefin Jones ar y Panel Rhianta Corfforaethol a Diogelu.

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau