Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 2240029
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Lenny a J. Tremlett.
|
|||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2023 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod dau gwestiwn â rhybudd wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN MR HAVARD HUGHES I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES, YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO ‘’Pryd fydd y dogfennau adolygu sy'n ymwneud ag ailasesu Polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig EQ6 y cynllun lleol presennol, a fydd yn arwain at lunio Polisi BHE2, yn cael eu cyhoeddi?’’
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ‘’Pryd fydd y dogfennau adolygu sy'n ymwneud ag ailasesu Polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig EQ6 y cynllun lleol presennol, a fydd yn arwain at lunio Polisi BHE2, yn cael eu cyhoeddi?’’
Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:-
‘’Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae'r Polisi newydd BHE2 yn y CDLl ar ddechrau ei daith ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth bellach a chanllawiau atodol a fydd yn cael eu cwblhau ac yn barod i fod yn weithredol erbyn i'r CDLl newydd gwblhau ei daith, rwy'n gobeithio erbyn Rhagfyr 2024 ond mae hyn ddibynnol ar yr Arolygiaeth Gynllunio ac amryw faterion eraill.
Fel y gwyddoch, mae'r ymgynghoriad ynghylch yr 2il CDLl Adneuo yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Mae dyddiad yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 14 Ebrill, a byddwn yn gofyn yn garedig os oes gennych bryderon yna byddwn yn awgrymu eich bod yn eu bwydo i mewn i'r system hon. Fel y gwyddoch, byddwn yn edrych ar bob ymateb ac yn ei ddadansoddi cyn i'r Arolygiaeth Gynllunio ei asesu'n annibynnol. Wrth i ni baratoi'r canllawiau atodol ar dirweddau byddwn hefyd yn ymgynghori â'r Cyhoedd yngl?n â'i gynnwys.
Bydd y canllawiau hyn yn nodi tirweddau ar draws y Sir a'u nodweddion arbennig gan ganiatáu i ni ddeall yr hyn sy'n bwysig amdanynt fel rhan o'u dynodiad yn y dyfodol. Fel y gwyddoch, nid yw'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig presennol yn rhoi unrhyw amddiffyniad pendant i'r 18 ardal a nodwyd yn y CDLl presennol. Dim ond Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol sy'n cynnig yr amddiffyniad hwnnw. Fodd bynnag, bydd polisi BHE2 yn cryfhau'r Polisi ar Dirweddau.‘’
Cwestiwn atodol gan Mr Havard Hughes:-
‘’Yn y Cynllun Datblygu Lleol cymeradwy dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn holi ynghylch y diffyg cyfeiriadau at ardaloedd tirwedd arbennig yn y datganiad gwreiddiol. Ymateb Sir Gaerfyrddin oedd 'Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn ddynodiad anstatudol ac oherwydd hyn nid yw'n ofynnol ei ddynodi yn y CDLl’. Felly a yw eich barn chi yr un fath â swyddogion y cyngor a'u hymateb nhw nad yw ardaloedd tirwedd arbennig yn ofynnol ac felly a ydynt wedi cael eu dileu o'r cynllun lleol?
Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio i'r cwestiwn atodol:-
Fel y dywedais yn flaenorol, nid yw'r Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn gosod amddiffyniad pendant; fel y gwyddoch gan fy mod wedi ysgrifennu e-byst atoch i'ch gwneud yn ymwybodol o hyn.
Bydd polisi BHE2 yn cryfhau'r polisi ar dirweddau a hoffwn ddweud mewn gwirionedd drwy ddefnyddio system Landmap Cyfoeth Naturiol Cymru bydd Sir Gaerfyrddin gyfan yn cael ei hamddiffyn o dan y polisi newydd ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn nodi hynny. Rydym yn ymwybodol bod deiseb yn y Sir sy'n gofyn i ni adolygu ein barn ar yr Ardaloedd Tirwedd Arbennig, fodd bynnag, gan mai dyddiad cau'r ymgynghoriad yw 14 Ebrill, rwyf am ofyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1 |
|||||||||||||||||||
CWESTIWN GAN MS TARA-JANE SUTCLIFFE CYHOEDD I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES, YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO ‘’A oes modd iddi gadarnhau pa Ganllawiau Cynllunio Atodol sy'n disodli'r Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul cyfredol (mabwysiadwyd Mehefin 2019); a oes modd iddi roi dyddiad mabwysiadu pendant ar gyfer y Canllawiau Cynllunio Atodol newydd.’’ Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ‘’A oes modd iddi gadarnhau pa Ganllawiau Cynllunio Atodol sy'n disodli'r Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul cyfredol (mabwysiadwyd mis Mehefin 2019); a oes modd iddi roi dyddiad mabwysiadu pendant ar gyfer y Canllawiau Cynllunio Atodol newydd.’’
Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:-
‘’Diolch i chi am eich cwestiwn. Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul presennol wedi cael eu hadolygu a byddant yn parhau i fod yn weithredol am y blynyddoedd nesaf. Felly nid ydym yn bwriadu disodli'r polisi am y blynyddoedd nesaf. Mae'r polisi yn parhau i fod yn berthnasol ac felly bydd yn parhau yn ei fformat presennol yn sicr tan ddiwedd 2025. Dyna pryd rydym yn rhagweld y bydd yn cael ei ddiweddaru ond ar hyn o bryd mae'n gyfredol, yn berthnasol ac yn addas i'w bwrpas.
Cwestiwn atodol gan Ms Tara-Jane Sutcliffe:- ‘’Mae'n wirioneddol wych clywed yr ymrwymiad i'r Canllawiau Cynllunio Atodol hynny. Fe wnaethoch chi sôn y byddai'n aros yn ei le tan 2025. Ydych chi'n gallu gwneud ymrwymiadau mwy hirdymor oherwydd y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn, hyd y gwn i, yw'r unig le mae'r Cyngor wedi codeiddio eich ymrwymiad i osod ceblau dan ddaear ac yn amlwg, o ystyried digwyddiadau cyfredol, mae cryn bryder ynghylch caniatâd i ddatblygwyr allu rhoi eu ceblau uwchben. Ydych chi'n gallu cadw at yr ymrwymiad hwnnw o osod ceblau dan ddaear sydd wedi'i gynnwys yn y polisi hwnnw am gyfnod hirach na 2025.
Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio i'r cwestiwn atodol:-
Gallaf eich sicrhau y bydd y polisi yn cael ei adolygu ac i fod yn onest pan oeddwn yn ysgrifennu hyn roeddwn yn meddwl, mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn gweithio arno gyda phortffolio Aled. Mae Polisi Datgarboneiddio'r Cyngor wedi cael ei adolygu ynghyd â'r polisi Ynni Gwynt ac Ynni'r Haul ac mae cymaint o waith wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf ar y cyd â phortffolio Aled wrth symud Sir Gaerfyrddin ymlaen i fod yn Sir Sero Net erbyn 2030. Dyna ein hymrwymiad ni. Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud o fewn y maes hwn yn anhygoel ac felly byddwn yn rhagweld y byddai'r polisi newydd yn adlewyrchu'r datblygiadau a wnaed yn llawn.
Er i mi ddweud diwedd 2025, a dyna pryd y gwelwn y bydd y polisi newydd yn cael ei lunio, byddwn yn eich cynghori pan fydd adolygiad neu ddiweddariad yn cael ei wneud i'r Canllawiau Cynllunio Atodol, bydd ar agor ar gyfer ymgynghori ac mae rhyddid i bawb anfon eu sylwadau pan fydd y polisi'n cael ei adolygu unwaith eto. Ond dwi ddim yn gweld shifft os dwi'n onest o ran gosod ceblau dan ddaear.
|
|||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO YNGHYLCH CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorwyr L.D. Evans ac A. Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, ond arhosodd y ddau yn y cyfarfod.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022, o ran 2022/2023.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6,259k gyda gorwariant o £270k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Dywedodd y Cabinet mai'r amrywiant mwyaf oedd y codiadau cyflog oedd heb eu hariannu, a oedd bellach wedi'u cynnwys ar lefel adrannol ac wedi gwella'r sefyllfa o ran gorwariant mewn rhai adrannau. Roedd y ffigyrau wedi'u diweddaru i adlewyrchu effaith y canghellor yn gwrthdroi'r ardoll ar iechyd a gofal cymdeithasol, a roddodd arbediad o 1.25% ar gyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr o fis Tachwedd.
Yn ogystal, erys: · gorwario mewn meysydd gwasanaeth sy'n cael eu gyrru gan fwy o alw ynghyd â llai o arian grant yn erbyn y blynyddoedd blaenorol, yn enwedig Anableddau Dysgu a Gwasanaeth Plant. · Gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol. · Tanwariant mewn cyllid cyfalaf oherwydd oedi mewn cynlluniau a llai o angen i fenthyg. Roedd y tanwariant cynhenid yn £3m, ac yn ei erbyn roedd £750k yn uniongyrchol wedi'i ymrwymo i dalu am y cynnydd mewn prisiau tendro sydd ei angen i fwrw ymlaen â phrosiect Oriel Myrddin, sy'n denu tua £1m o arian cyfatebol y Loteri Genedlaethol.
Dywedwyd bod trafodaethau sylweddol gan Lywodraeth Cymru dros godiadau cyflog Athrawon a'r sefyllfa bresennol o ran codiad cyflog Medi 2022 oedd bod y Gweinidog wedi cynnig cynnydd i ddechrau o 5% i bob pwynt cyflog statudol, a gafodd ei drafod ymhellach gan yr undebau ac yn y pen draw, cytunodd y Gweinidog ar gynnig diwygiedig ar gyfer 2022/23 a oedd yn cynnwys cynnydd pellach cyfunedig o 1.5% a thaliad anghyfunedig o 1.5%, gyda'r elfen anghyfunedig ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig. Y ddealltwriaeth oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu'r 3% ychwanegol ar gyfer y flwyddyn academaidd hon ac felly byddai ysgolion yn cael diffyg o 1% yn eu cyllideb o ran Cyflogau Athrawon o fis Medi i fis Mawrth, oherwydd y ffaith mai dim ond 4% oedd wedi'i ddilysu i'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
Roedd y diffyg a'r effaith ar gyllideb ysgolion a'r Gyllideb Gorfforaethol wedi cael ei hystyried ac fe gynigiwyd bod yr Awdurdod yn rhoi'r cyllid ychwanegol o tua £600k i'r ysgolion a fyddai'n sicrhau na fyddai gan ysgolion ddiffyg yng nghyllideb y cyflogau athrawon am eleni.
Cynigiwyd hefyd i roi cyllid ychwanegol i'r ysgolion ar gyfer y diffyg yn y cyllidebau ar gyfer staff nad ydynt yn addysgu a fyddai'n cynyddu cyllidebau ysgolion i £900k arall. Cynigiwyd i gynyddu cyfanswm y cyllidebau ar gyfer ysgolion yn 2022/23 o 1.5m o adnoddau'r Cyngor Sir i ariannu'r diffyg y mae ysgolion yn eu hwynebu oherwydd y codiadau cyflog yn ystod 2022/23.
Nodwyd, er bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2022/23 PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2022 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.
Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £56,590k o gymharu â chyllideb net weithredol o £92,515k gan roi -£35,925k o amrywiant.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth, 2022 a llithriad o 2021/22. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyoa'r dyfarniadau grant newydd a gafwyd yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.
Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||||||||
POLISI CARTREFI GWAG - EIN DULL O DDEFNYDDIO CARTREFI GWAG UNWAITH ETO PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu cyflwyniad i'r Polisi Cartrefi Gwag a fydd yn gosod gweledigaeth a rhaglen waith y Cyngor wrth fynd i'r afael â chartrefi preswyl preifat gwag o fewn y Sir am y 3 blynedd nesaf. Roedd yr adroddiad yn darparu cyfeiriad clir o ran y dull gweithredu a lle y byddai ein hymdrechion yn canolbwyntio er mwyn cyflawni hyn a nodau polisi eraill.
Dywedwyd bod cartrefi gwag yn adnodd a oedd yn cael ei wastraffu pan oedd prinder tai ar draws y Sir, gan gynnwys wardiau gwledig. Dywedwyd bod yr eiddo hwn yn amharu ar gymdogaethau gan o bosibl ddod yn ffocws ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i ailddefnyddio tai gwag cyn gynted â phosib ac roedd wedi gweithio gyda pherchnogion cartrefi gwag a phartneriaid i gymryd yr holl gyfleoedd sydd ar gael i helpu i fynd i'r afael â mater eiddo gwag hirdymor.
Nododd Aelodau'r Cabinet y gallai ailddefnyddio tai gwag helpu i fynd i'r afael â nifer o faterion tai a phroblemau cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle'r oedd prinder tai a phwysau a lle'r oedd cyfleoedd i gysylltu gyda phrosiectau adfywio eraill.
Roedd y Polisi yn nodi'r dull gweithredu a byddai'n caniatáu i swyddogion dargedu mathau penodol o eiddo, mewn ardaloedd penodol, a byddai'n rhoi eglurder a hyder o ran unrhyw gamau a gymerir.
Yn ogystal, nodwyd bod cynnydd wedi'i wneud dros y pum mlynedd diwethaf i leihau'r nifer cyffredinol o gartrefi gwag trwy weithgaredd parhaus ac annog/gorfodi perchnogion tai i'w hailddefnyddio. Y rhif presennol a adroddwyd oedd 1,984 (Medi 2022). Roedd hyn yn cynrychioli tua 2.1% o'r stoc dai cyffredinol yn y Sir.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
|
|||||||||||||||||||
CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2023/24 PDF 151 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Sylwer: Roedd y Cynghorwyr A. Davies, L.D. Evans, a P.M. Hughes, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac roeddent wedi ailadrodd eu datganiadau a gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais ar yr eitem hon.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am fabwysiadu cynllun rhyddhad ardrethi sydd ar gael i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24. Roedd yr adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi 2023/24 ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i gynyddu’r gostyngiad i 100%. Roedd y cynllun hwn hefyd yn berthnasol yn 2021/22 ac yn ogystal â’r sector manwerthu cafodd ei ymestyn i gynnwys y sectorau hamdden a lletygarwch er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai'n darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys yn 2023-24. Fodd bynnag, ar gyfer 2023/24 byddai'r cynllun yn cynnig gostyngiad o 75% ar gyfer eiddo cymwys sydd wedi'i feddiannu. Nodwyd y byddai'r cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys; fodd bynnag, byddai'r rhyddhad yn destun cap o ran y cyfanswm y gallai pob busnes ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad fyddai £110,000 ar gael ar draws pob eiddo sydd wedi ei feddiannu gan yr un busnes.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu’r mathau o fusnes yr oedd yn eu hystyried yn briodol ar gyfer y cynllun rhyddhad hwn, yn ogystal â’r rhai nad oeddent yn eu hystyried yn briodol. Roedd y rhestr anghyflawn o fathau o fusnes wedi’i hatodi i’r adroddiad yn Atodiad A.
Dywedodd Aelodau'r Cabinet, ei bod yn briodol i’r cynllun gael ei fabwysiadu’n ffurfiol, gan mai mesur dros dro oedd hwn ac y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu’r rhyddhad drwy ad-dalu Awdurdodau Lleol sy’n defnyddio eu pwerau disgresiwn o dan Adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||||||||
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM DROSGLWYDDO ASEDAU CYMUNEDOL PDF 140 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ynghylch y sefyllfa bresennol yn ymwneud â throsglwyddo asedau o ran parciau a meysydd chwarae gan dynnu sylw hefyd at y mynegiannau o ddiddordeb ychwanegol a gafwyd.
Dywedwyd bod dogfen Gweithdrefnau Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor hefyd wedi'i hadolygu'n ddiweddar a'i bod wedi'i diweddaru i ystyried yr heriau a wynebwyd hyd yma a'r gwersi a ddysgwyd wrth ymdrin â throsglwyddo asedau amrywiol dros y blynyddoedd. Byddai'r Gweithdrefnau newydd yn disodli fersiwn 2013-2016.
Nodwyd bod proses ymgynghori wedi'i chynnal gyda'r Cyngor Tref a Chymuned ddechrau'r flwyddyn gyda holiadur yn cael ei anfon at bob Cyngor yn gofyn am sylwadau yngl?n â'u profiadau hyd yma. Roedd eu sylwadau wedi cael eu cynnwys yn y ddogfen newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||||||||||||
PENODI LLYWODRAETHWR AR RAN YR A. LL. PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd G. Davies wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Dywedwyd wrth y Cabinet, yn unol â pholisi penodi'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol, lle mae swyddi gwag Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn bodoli neu ar fin codi, gwahoddir enwebiadau gan Gadeirydd y Corff Llywodraethu, y Pennaeth a'r Aelod Etholedig lleol. Yn dilyn hynny, mae'r holl enwebiadau yn cael eu hystyried gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, sydd yn y pendraw yn penodi.
Y Cynghorydd Glynog Davies yw'r Aelod Etholedig lleol ac ef hefyd yw Cadeirydd presennol y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Brynaman. Ni fyddai felly'n briodol i'r Cynghorydd Davies ystyried yr enwebiad ar gyfer swydd wag ar gyfer Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn Ysgol Brynaman, yn ei rôl fel yr Aelod Cabinet ar gyfer Addysg a Phlant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ailbenodi Mr Morgans i Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Brynaman.
|
|||||||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|