Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 13eg Chwefror, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Thomas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Thomas.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 30 IONAWR 2023 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod tri chwestiwn â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GARETH JOHN YR AELOD CABINET DROS ADFYWIO HAMMDDEN DIWYLLIANT A THWRISTIAETH

A all yr Aelod Cabinet dros Adfywio roi diweddariad ar geisiadau'r Gronfa Ffyniant Bro  ar gyfer Llanelli a chadarnhau ai bwriad y weinyddiaeth yw ailgyflwyno'r cynlluniau yn ystod cam 3?

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

‘A all yr Aelod Cabinet dros Adfywio roi diweddariad ar geisiadau'r Gronfa Ffyniant Bro  ar gyfer Llanelli a chadarnhau ai bwriad y weinyddiaeth yw ailgyflwyno'r cynlluniau yn ystod cam 3?.

 

Ymateb y Cynghorydd Gareth John – yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:-

Diolch i chi am y cwestiwn. Gan fod y cwestiwn wedi ei anelu'n benodol at y gronfa ffyniant bro, does dim llawer y gallaf ei ychwanegu mewn gwirionedd at y datganiad a wnes i yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor lle cyhoeddais ein bod wedi cael gwybod bod y ddau gais, neu'r ceisiadau, yr oeddem wedi'u cyflwyno mewn cysylltiad â'r gronfa, mewn perthynas ag adfywio canol Tref Llanelli a'r cysylltiadau trafnidiaeth gwell a'r gyfnewidfa rhwng y canol a'r orsaf reilffordd a bod Pentre Awel wedi bod yn aflwyddiannus. Fel y dywedais, mae'n debyg bod 525 o geisiadau, y dyfarnwyd cyllid i 111 ohonynt yn rownd dau, cyfanswm sy'n cyfateb i ychydig dros £2bn, ac mae hyn yn cyfateb i gyfradd llwyddiant o 1 allan o 5. Eto, fel y nodais yng nghyfarfod y Cyngor, rydym yn parhau i fod yn siomedig yn naturiol gyda'r newyddion yn enwedig o ystyried yr angen clir, cryfder ac ansawdd ein cais a'r swm helaeth o amser, ymdrech a chostau a fuddsoddwyd wrth gyflwyno'r cais.

 

Fel y dywedais, rydym wedi gofyn, ac wedi cael ein haddo, ac yn dal i ddisgwyl adborth gyda'r nod o gefnogi cynigion a chyflwyniadau yn y dyfodol gan gofio gan ein bod yn gwybod y bydd trydedd rownd o'r gronfa ffyniant bro maes o law. Yr unig beth y byddwn i'n ei ychwanegu yw na nodwyd ar unrhyw adeg yn ystod y broses ymgeisio y byddai'r awdurdod o dan unrhyw anfantais yn ystod yr ail rownd o gynnig o ganlyniad i lwyddiant yn y rownd gyntaf. Nid yw'n ymddangos bod hyn yn wir, gan y byddai'n ymddangos, wrth ddadansoddi'r dyfarniadau, nad oedd unrhyw awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf wedi derbyn cynnig yn yr ail rownd ac mai dim ond pedwar awdurdod lleol yng Nghymru sydd heb gael unrhyw lwyddiant yn y ddwy rownd. Ac, fel y nodais i'r Cyngor, gan fynd â'r ddwy rownd gyda'i gilydd, mae Sir Gaerfyrddin yn ail yn unig i Gaerdydd ar gyfanswm y cyllid sydd wedi'i ddyrannu hyd yma.

 

Rydym yn aros am yr adborth fel y nodais a byddwn wedyn yn ei asesu cyn ailgyflwyno neu ddiwygio ein cyflwyniad, os yn gymwys, o dan y drydedd rownd a addawir pan fyddwn yn derbyn yr adborth hwnnw o'r cyhoeddiad.  Diolch yn fawr

  

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James:-

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol

4.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU

‘A all yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ddweud a oes camau'n cael eu cymryd yn ddi-oed i gwblhau misoedd o waith yn Heol Las, Caerfyrddin, wedi i'r tarfu hwn daro'n ariannol ar fusnesau, ac a fydd y Cyngor yn ymgysylltu â'r busnesau yr effeithiwyd arnynt i drafod iawndal am golli busnes?

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

‘A all yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ddweud a oes camau'n cael eu cymryd yn ddi-oed i gwblhau misoedd o waith yn Heol Las, Caerfyrddin, wedi i'r tarfu hwn daro'n ariannol ar fusnesau, ac a fydd y Cyngor yn ymgysylltu â'r busnesau yr effeithiwyd arnynt i drafod iawndal am golli busnes’

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cynghorydd James am y cyfle i roi diweddariad ar y cynllun i wella gorsaf fysiau Caerfyrddin, sy'n cynnwys Heol Las, cynllun a alluogwyd trwy Gymorth Llywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth i wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd y cynllun yn cydymffurfio â'r strategaeth drafnidiaeth newydd sy'n amlinellu ffyrdd gwahanol o gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n blaenoriaethu teithwyr a newid hinsawdd fel yr eglurodd Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog, ar gyfer newid hinsawdd ddydd Mercher diwethaf. Ar ôl i'r gwaith gael ei orffen, ac fe fydda i'n trafod hynny yn y man, bydd gorsaf fysiau Caerfyrddin yn lle llawer mwy croesawgar, atyniadol a diogel i deithwyr, gan gynnwys cysgodfannau bysiau mwy yn Heol Las, gyda byrddau electronig yn darparu amseroedd bysiau, yn debyg i'r rheiny a geir mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae Heol Las eisoes yn stryd fwy deniadol oherwydd y gwaith gan fod wyneb newydd wedi'i osod ar y palmentydd ac mae lleoedd mwy diogel i gerddwyr groesi'r ffordd. Bydd hefyd yn gysylltiad llawer gwell rhwng yr orsaf reilffordd a'r Dref. Rhaid i mi gydnabod nad yw'r datblygiad wedi bod heb ei anawsterau ac rwy'n gwerthfawrogi'n llwyr bod ambell siop yn Heol Las yn dweud ei fod wedi cael effaith andwyol ar fusnes. Yn anffodus, rhwystrwyd y gwaith oherwydd ymatebion hwyr gan ddarparwyr cyfleustodau. Hynny yw, cwmnïau a allai fod â gwifrau neu bibellau o dan y ddaear. Cafodd gwaith ei atal hefyd rhwng canol Tachwedd a dechrau Ionawr er mwyn peidio amharu ar fusnesau lleol dros gyfnod y Nadolig. Darparwyd llefydd parcio am ddim ym maes parcio Heol Las hefyd yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn lliniaru'r effaith ar fusnesau. Mae'n wir y bu rhai rhwystrau i rai mynedfeydd busnesau am resymau anochel, ond mae'n debyg mai dim ond am ychydig oriau y bu hynny a bu i'r contractwr ymdrechu i gynnig mynedfeydd dros dro i gwsmeriaid. Erbyn hyn mae'r gwaith ar y palmant tu allan i'r siopau wedi ei orffen ers rhai wythnosau ac mae'n edrych yn wych. Bydd y gwaith o osod wyneb newydd ar y stryd ei hun yn dechrau heno. Bydd y gwaith yn digwydd dros nos am bedair noson, os yw'r tywydd yn caniatáu. Wedyn bydd gwaith yn parhau i wneud gwelliannau sylweddol y tu mewn i ardal bresennol yr orsaf fysiau sydd i ffwrdd o'r stryd. Daw hynny i ben yn ystod y gwanwyn. Yn dilyn hynny bydd gan Dref Caerfyrddin orsaf fysiau o'r radd flaenaf a dylai hynny ddenu rhagor o deithwyr i Heol Las er lles y siopau sydd yno ac, yn wir, y dref ei hun.

 

Gan gyfeirio'n fyr at ail ran y cwestiwn,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.2

4.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

‘A fyddai Arweinydd y Cyngor yn cytuno â mi, lle mae busnes wedi creu llety - drwy ddefnyddio rhandy, adnewyddu ysgubor segur ar fferm neu rhyw ddull arall - nad yw'r arfer hwn yn tynnu stoc dai o gymunedau lleol nac ychwaith yn ail gartref yn yr ystyr draddodiadol, ac, o'r herwydd, ni ddylai fod yn destun unrhyw bremiwm y Dreth Gyngor?’

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

‘A fyddai Arweinydd y Cyngor yn cytuno â mi, lle mae busnes wedi creu llety - drwy ddefnyddio rhandy, adnewyddu ysgubor segur ar fferm neu rhyw ddull arall - nad yw'r arfer hwn yn tynnu stoc dai o gymunedau lleol nac ychwaith yn ail gartref yn yr ystyr draddodiadol, ac, o'r herwydd, ni ddylai fod yn destun unrhyw bremiwm y Dreth Gyngor?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch am y cwestiwn ac rwy'n meddwl ei fod yn gyfle da mewn gwirionedd i geisio archwilio rhai o'r materion sy'n ymwneud â hyn. Fel y byddwch yn ymwybodol, rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch cyflwyno Premiwm Treth Gyngor ar eiddo gwag ac ail gartrefi ac mae'r ymgynghoriad hwnnw'n parhau a bydd adroddiad yn dod i'r Cabinet a'r Cyngor dros yr wythnosau nesaf felly, ei amserol.  Yn amlwg, rydych chi'n ymwybodol o'r manylion ynghylch hyn ond, roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle i roi rhywfaint o gyd-destun i eraill sy'n gwrando sydd heb gael y wybodaeth ddiweddaraf o ran y cyd-destun. Felly, yn amlwg, fel y soniais, rydym yn ymgynghori. Mae gennym ni 2,000 o eiddo gwag ar draws y sir ar hyn o bryd. Mae gennym ni tua 1,000 o ail gartrefi / tai gwyliau ar draws y sir hefyd. Felly, mae hynny'n golygu bod gennym 3,000 o eiddo ar draws y sir sydd naill ai ddim yn cael eu defnyddio o gwbl neu'n cael eu tanddefnyddio mewn rhai achosion. Y gwrthwyneb i hynny, wrth gwrs, yw ein bod ni'n gwybod bod gennym ni dros 3,000 o bobl yn aros ar y rhestr dai ac, yn foesol, rwy'n credu bod yna ddyletswydd arnom ni a'r llywodraeth genedlaethol i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa honno ac ail-gydbwyso'r farchnad.

 

Rwy'n meddwl bod yna farn unfrydol, yn genedlaethol, bod angen gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â phroblem eiddo gwag ac ail gartrefi ac, wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yn dilyn trafodaethau gyda Phlaid Cymru, a chynnwys y Cytundeb Cydweithredu, bod angen gweithredu ar ystod eang o faterion. Yn amlwg mae'r Gweinidog, Julie James, yn awyddus i wneud cynnydd ar hyn ac mae hi wedi cael ei dyfynnu'n barhaus a byddaf yn ei dyfynnu'n uniongyrchol, dim ond er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun. Beth mae hi'n ei ddweud yw 'bod y cynnydd parhau ym mhrisiau tai yn golygu na all y bobl, yn enwedig cenedlaethau iau, fforddio byw yn y cymunedau maen nhw wedi eu magu ynddyn nhw bellach. Mae nifer uchel o ail gartrefi neu dai gwyliau yn gallu cael effaith andwyol iawn ar gymunedau bychain ac mewn rhai ardaloedd gallai fod yn fygwth i'r Gymraeg yn cael ei siarad ar lefel gymunedol. Bod brys a phwysigrwydd y sefyllfa yn galw am ymyrraeth bellach sy'n golygu bod camau gweithredu gwirioneddol ac uchelgeisiol yn cael eu cyflawni ar gyflymder i sicrhau tegwch yn y system dai’. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n cytuno'n gyfan gwbl gyda'r teimladau hynny. Rwy'n credu ei bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.3

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2022-27 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor, oedd yn cynnwys amcanion llesiant y Cyngor a phennu cyfeiriad teithio a blaenoriaethau ar gyfer y sefydliad dros gyfnod y weinyddiaeth bresennol, gan hefyd gyflawni fframwaith gweledigaeth ac ymrwymiadau'r Cyngor yn ystod y cyfnod. Byddai'r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar nifer llai o amcanion ar sail poblogaeth wrth nodi'r blaenoriaethau thematig, blaenoriaethau gwasanaethau a galluogwyr busnes craidd y byddai'r Cyngor yn ceisio gwneud cynnydd yn eu cylch yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

Nodwyd mai dyma oedd amcanion llesiant arfaethedig newydd y Cyngor:-

 

1.     Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)

2.     Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)

3.     Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

4.     Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor gwydn ac effeithlon (Ein Cyngor)

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR gymeradwyo Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor.

7.

STRATEGAETH DRAWSNEWID Y CYNGOR pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Strategaeth Drawsnewid arfaethedig oedd â'r nod o ddarparu fframwaith strategol i fod yn sail i raglen o newid sefydliadol sylweddol i gefnogi'r Cyngor i gyflawni ei nodau a'i amcanion ehangach, fel y nodir yn y Strategaeth Gorfforaethol (Gweler Cofnod 5 uchod). Y nod hefyd oedd cyflymu'r broses foderneiddio ar draws y Cyngor ymhellach, gan ei ganiatáu i barhau i ddarparu gwasanaethau cost effeithiol o ansawdd uchel o fewn cyd-destun amgylchedd allanol heriol.

 

Nodwyd bod y Strategaeth yn cynnwys yr 8 blaenoriaeth thematig ganlynol:-

·       Y gweithlu,

·       Y gweithle,

·       Arbedion effeithlonrwydd a gwerth am arian

·       Incwm a masnacheiddio

·       Dylunio a gwella gwasanaethau

·       Digidol a chwsmeriaid

·       Datgarboneiddio

·       Ysgolion

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaeth Drawsnewid.

8.

LLOFNODI DATGANIAD CAEREDIN GAN GYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar lythyr a ddaeth i law gan Julie James (Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru), a anfonwyd ym mis Medi 2021, i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gan geisio addewidion o gefnogaeth dros Ddatganiad Caeredin, oedd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020 h.y: “yn cydnabod y rôl bwysig y mae llywodraethau is-genedlaethol yn ei chwarae wrth gefnogi natur a bioamrywiaeth”

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1

Bod y Cyngor yn llofnodi Datganiad Caeredin ar Fioamrywiaeth Fyd-eang a bod yr Aelod Cabinet dros Ddatgarboneiddio, Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd yn llofnodi'r datganiad;

8.2

Bod swyddogion yn sicrhau bod y broses ddyledus ar gyfer llofnodi'r Datganiad yn cael ei gweithredu a bod llofnodi Datganiad Caeredin yn cael cyhoeddusrwydd gan Dîm Marchnata a Chyfathrebu Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

9.

LLAWLYFR CYNNAL A CHADW Y CYNLLUN RHEOLI ASEDAU PRIFFYRDD - RHANNAU 4.5, 4.6 A 4.7 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu rhannau 4.5-4.7 o Lawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Er bod y cynllun wedi'i fabwysiadu gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor ym mis Gorffennaf 2018, rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod y llawlyfr cynnal a chadw, yr oedd rhan 4 yn rhan ohono, yn cael ei ddatblygu fel portffolio o lawlyfrau penodol ynghylch rheoli amrywiaeth o asedau priffyrdd. Yn unol â hynny, roedd Rhannau 4.1- 4.4 o'r llawlyfr wedi'u mabwysiadu yn 2021, a byddai adrannau 4.5 – 4.7, pe bai'n cael eu mabwysiadu, yn rhoi sylw i'r agweddau a nodir isod, gydag adrannau pellach yn cael eu datblygu yn y blynyddoedd i ddod:-

 

Rhan 4.5 - Rheoli Draenio Priffyrdd

Rhan 4.6 - Rheoli Geotechnegol

Rhan 4.7 - Ymateb Brys ar y Priffyrdd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Rhannau 4.5, 4.6 a 4.7 o Lawlyfr Cynnal a Chadw y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael eu mabwysiadu.

10.

CYLLIDEB PARTNERIAETH 2022 -2023 pdf eicon PDF 404 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod y Cytundeb Cyfreithiol mewn perthynas â sefydlu Consortiwm Addysg Rhanbarthol Partneriaeth yn darparu'r mater canlynol a gadwyd yn ôl i bob un o'i awdurdodau cyfansoddol "Cymeradwyo Cyllideb Flynyddol gyntaf Partneriaeth ac unrhyw Gyllideb Flynyddol ddilynol a fyddai y tu hwnt i gwmpas yr awdurdod a ddirprwyir i'r Cyd-bwyllgor yn ei gylch gorchwyl"

 

Yn unol â'r gofyniad hwnnw, bu'r Cabinet yn ystyried gyllideb flynyddol gyntaf Partneriaeth, fel y'i cymeradwywyd gan Gyd-bwyllgor Partneriaeth ar 29 Ebrill 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

10.1

Nodi'r rhagdybiaethau a'r amcangyfrifon a wnaed wrth lunio'r Gyllideb Flynyddol Gyntaf ar gyfer 2022-23 a chymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol gyntaf ar gyfer Consortiwm Addysg Rhanbarthol Partneriaeth, gan gynnwys cyfraniadau pob Cyngor, a gyfrifwyd yn unol â thelerau'r cytundeb cyfreithiol;

10.2

Nodi bod y Cyd-bwyllgor wedi penderfynu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2022 bod Prif Swyddog Cyllid Arweiniol Partneriaeth (Swyddog Adran 151 y Cyngor Arweiniol sy'n gyfrifol am gyllid) wedi'i awdurdodi i wneud gwelliannau i'r Gyllideb Flynyddol gyntaf ar gyfer 2022-23 wrth i ragdybiaethau ac amcangyfrifon gael eu cadarnhau a bod y sefyllfa honno'n cael ei chymeradwyo.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.