Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Originally scheduled for the 16th January 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.    Davies

12.          12 - Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag

Mae hi'n rhedeg Airbnb fel rhan o'i busnes fferm.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD YCABINET A GYNHALWYD AR 12 RHAGFYR 2022 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 12  Rhagfyr 2022 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.1

CWESTIWN GAN Y CYHOEDD I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN - YR AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

“Yn sgil y newidiadau diweddar a gymerwyd gan Gyngor Dinas Caeredin, Dwyrain Swydd Dunbarton, Gogledd Swydd Aeron (Ayrshire), Falkirk a Dundee yn dilyn yr ymgyrch "Get Me Home Safely" gan Unite, a fydd y Cabinet yn cefnogi newid yn yr amodau trwyddedu yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod busnesau lletygarwch yn darparu taith adref am ddim i weithwyr sy'n gweithio'n hwyr ar ôl 23:00? A allai'r Cynghorydd roi rhesymau am ei ateb os gwelwch yn dda?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cabinet nad oedd modd i'r holwr Conor MacDonald fod yn bresennol yn y cyfarfod i ofyn ei gwestiwn, ond roedd wedi gofyn i'r Cadeirydd ofyn y cwestiwn yn ffurfiol i'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen ar ei ran.

 

Cwestiwn:

 

“Yn sgil y newidiadau diweddar a gymerwyd gan Gyngor Dinas Caeredin, Dwyrain Swydd Dunbarton, Gogledd Swydd Aeron (Ayrshire), Falkirk a Dundee yn dilyn yr ymgyrch "Get Me Home Safely" gan Unite, a fydd y Cabinet yn cefnogi newid yn yr amodau trwyddedu yn Sir Gaerfyrddin i sicrhau bod busnesau lletygarwch yn darparu taith adref am ddim i weithwyr sy'n gweithio'n hwyr ar ôl 23:00? A allai'r cynghorydd roi rhesymau am ei ateb os gwelwch yn dda?”

 

Ymateb y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

 

“Diolch i chi am y cwestiwn

 

Rydym yn cydnabod y gall teithiau i'r gwaith neu o'r gwaith yn y nos achosi i weithwyr bryderu am ddiogelwch personol, bygythiad trais a hyd yn oed trais ei hun. Rwy'n gwybod bod ymchwil y cyfeiriwyd ato yn ymgyrch Unite "Get Me Home Safely" wedi canfod bod menywod yn teimlo'n arbennig o agored i niwed ac i'r risg o aflonyddu ac ymosod wrth deithio i'r gwaith ac yn ôl. Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i leihau trais yn erbyn menywod, neu fygythiadau ohono, ac mae ein swyddogion trwyddedu yn mynd ati i weithio gyda safleoedd trwyddedig, gan eu hannog i fabwysiadu ymgyrchoedd fel y Rhuban Gwyn ac Ask Angela.

 

Felly, mae mabwysiadu ymgyrch "Get Me Home Safely" yn Sir Gaerfyrddin yn sicr yn werth archwilio ymhellach fel rhan o'r ymrwymiad hwn. Yn amlwg byddai unrhyw effaith bosib ar yr amodau trwyddedu presennol yn destun ymgynghoriad. Byddwn yn sicr yn cadw llygad ar yr ymgyrch hon ac yn ymateb i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol."


 

 

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2022, o ran 2022/2023. 

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £4,844k gyda gorwariant ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod o £3,473k. Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·       Setliadau cyflog a drafodir yn genedlaethol ar lefelau llawer uwch na'r gyllideb, na darparwyd cyllid llywodraeth ychwanegol ar ei gyfer. Amcangyfrifon lefel uchel yw y gallai hynny fod yn £7.1m yn uwch na'r gyllideb; 

·       gorwario mewn meysydd gwasanaeth yn sgil cynnydd yn y galw ynghyd â llai o arian grant o gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn enwedig Anableddau Dysgu a Gwasanaeth Plant.

·       Gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol;

·       Tanwario cyllido cyfalaf oherwydd oedi cynllun ac angen llai am fenthyg

 

Nodwyd bod yr Awdurdod, fel rhan o broses pennu cyllideb 2022/23, wedi cytuno ar gyllideb wrth gefn gwerth £3m yn ystod y flwyddyn a gedwir yn ganolog ar hyn o bryd ac a oedd yn gwrthbwyso'n rhannol y pwysau cyffredinol a nodwyd uchod.  Ar ben hynny, adroddwyd bod £200k wedi'i ddefnyddio i wrthbwyso'r cynnydd mewn prisiau tanwydd sy'n cael effaith ar Gludiant Ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfrif Refeniw Tai y rhagwelir gorwariant o £665k ar gyfer 2022/23, a fyddai'n cael ei gyllido drwy gyfraniad o gronfeydd wrth gefn. Manylir ar hyn yn Atodiad B o'r adroddiad. Nodwyd hefyd mai'r Cyfrif Refeniw Tai fyddai'n gyfrifol am ariannu cynigion cyflog a drafodwyd yn genedlaethol, ac amcangyfrifwyd eu bod yn £0.5m dros y gyllideb.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1      Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd.

6.2      O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.

 

7.

TRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2023/24 I 2025/26 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y Strategaeth Cyllideb Refeniw ar gyfer 2023/24 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am broses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Byddai'r adroddiad hefyd yn sail i'r broses ymgynghori ar y gyllideb i'w chynnal yn ystod Ionawr a Chwefror 2023.

 

Nododd yr adroddiad, ar ôl addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, mai 8.5% (£26.432 miliwn) oedd y cynnydd yn y setliad dros dro ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Felly roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £338.017 miliwn yn 2023/24.  Er bod y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigwr dangosol o gynnydd o 3.4% ac yn darparu £15.5m yn fwy na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod na fyddai'r ffigwr uwch yn ddigon i gwrdd â'r pwysau chwyddiant sy'n wynebu cynghorau ar hyn o bryd ac y byddai angen gwneud penderfyniadau anodd.

 

Nodwyd, er bod gwaith sylweddol eisoes wedi'i wneud wrth baratoi'r gyllideb, dim ond datganiad sefyllfa cychwynnol oedd yr adroddiad, a fyddai'n cael ei ddiweddaru dros y misoedd nesaf wrth i'r gyllideb gael ei datblygu ymhellach.  Fodd bynnag, dywedwyd, oherwydd yr oedi yn y setliad dros dro, a'r effaith o ganlyniad ar gadarnhau cyllideb Llywodraeth Cymru, na fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 7 Mawrth 2023.

 

Wrth gydnabod pwysigrwydd critigol lleihau'r cynnydd yn y Dreth Gyngor i breswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, roedd angen ymateb i'r risgiau presennol o amgylch y Strategaeth Gyllideb hon a'r cefndir chwyddiant parhaus. Roedd y Strategaeth Gyllideb, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, yn cynnig y dylid cynyddu'r Dreth Cyngor ar gyfer 2023/24 i 7%,, a oedd yn ceisio lliniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Byddai'r cynnig yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses o gwblhau'r gyllideb dros y mis neu ddau fis nesaf a phan fyddai'r Awdurdod yn cael eglurhad pellach am gostau ac arian grant gyda'r bwriad o gyfyngu'r cynnydd yn y Dreth Gyngor cyn belled ag y bo modd. Byddai cynigion terfynol y gyllideb wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yng nghanol/ar ddiwedd mis Chwefror, a fydd yn caniatáu cyflwyno cyllideb gytbwys i'r Cyngor Sir ar 1 Mawrth 2023.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

Nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo Strategaeth Gyllideb dair blynedd 2023/24 i 2024/25 fel sail i ymgynghori. Ceisio sylwadau yn benodol gan ymgyngoreion ar y cynigion effeithlonrwydd yn Atodiad A.

 

7.2

Nodi'r swm heb ei ddyrannu o £716k yn y strategaeth gyfredol, a fyddai'n cael ei ystyried ymhellach ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel y nodir ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

8.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM RAGLEN GYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 31 Hydref 2022 gan fanylu ar y prosiectau a throsglwyddiadau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £64,369k o gymharu â chyllideb net weithredol o £148,334k gan roi -£83,965k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth 2022 a llithriad o 2021/22. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo a dyfarniadau grant a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.

 

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1     fod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;

8.2.     bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.

9.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu gwybodaeth o ran Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2023/24.  Diben yr adroddiad hwn oedd gofyn am fabwysiadu'n ffurfiol Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gyflwynwyd yn lle Budd-dal y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2013 am 2023/24.

 

Nododd Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi llunio rheoliadau sy'n cadw Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, 2013/14 (gyda diwygiadau cyfyngedig) am 2014/15 a'r blynyddoedd dilynol. 

 

Er ei fod yn gynllun Cymru gyfan, roedd yn ofynnol i Gynghorau unigol gan Reoliadau'r Gofynion Rhagnodedig fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn, fel arall byddai'r "Cynllun Diofyn" yn berthnasol a oedd yn golygu na fyddai'r Cyngor yn gallu arfer ei ddisgresiwn o ran yr elfennau dewisol cyfyngedig yn y cynllun rhagnodedig. 

 

Os yw'r Cyngor yn dymuno arfer ei bwerau o ran y meysydd disgresiwn cyfyngedig sydd ar gael iddo, mae'n ofynnol iddo wneud hynny fel rhan o'r broses mabwysiadu cynllun ffurfiol.

 

Ar ben hynny, amlinellodd yr adroddiad er gwybodaeth, heb unrhyw argymhelliad am newid, y meysydd cyfyngedig o ddisgresiwn lleol, a'r polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor mewn perthynas â'r disgresiwn hynny. Fodd bynnag, er nad yw'r cynllun wedi newid yn faterol ar gyfer 2023/24, yn ogystal â'r uwchraddio blynyddol arferol o rai ffigurau ariannol a ddefnyddir ar gyfer asesu hawl unigol a rhai addasiadau technegol (fel y'u nodir yn
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, gwnaeth yr offeryn statudol nifer o ddiwygiadau eraill y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR yn amodol ar y rheoliadau'n cael eu cymeradwyo ac yn dod i rym ar 20 Ionawr 2023 ei fod yn:-

 

9.1.    Mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer  Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn

                a. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a

 

9.2.    Gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrifo hawl) a'r diwygiadau technegol eraill sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023, a fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 20 ac mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023;

 

9.3.    Parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yn y Crynodeb Gweithredol.

 

10.

CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2023/24 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2023/24 i 2025/26 a chynigion Pennu Rhenti Tai ar gyfer 2023/24 cyn i'r Cyngor eu hystyried.  Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2023/24 i 2025/26.  Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried, a'i gymeradwyo, gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2022 fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb, cafodd darn o'r cofnodion ei atodi i'r adroddiad yn Atodiad C.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn y Cynllun Cyflawni Tai ac Adfywio.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2023/24 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £92m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.

 

Dros y 3 blynedd nesaf disgwylid y byddai £61m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £43m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £68m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd a'r cynllun prynu'n ôl.  Ar ben hynny, gan fod cost uwch deunyddiau oherwydd Brexit, Covid, y rhyfel yn Ewrop a diffyg gweithwyr wedi ei gwneud yn anodd dod o hyd i bartneriaid addas ymysg contractwyr, byddai hyn yn cael ei fonitro'n barhaus drwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.

 

Atgoffwyd Aelodau'r Cabinet, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. 

 

Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.

11.

CYNLLUN BUSNES 2023-26 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2024/26 a Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin a oedd yn esbonio gweledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai y Cyngor dros y dair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau i wella'r stoc dai, y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun i fod yn garbon sero net.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Gartrefi, wrth gydnabod yr heriau economaidd a'r anawsterau y mae cymunedau'n eu hwynebu o ran costau byw cynyddol, fod cymorth parhau i denantiaid sydd mewn angen yn hanfodol a'i fod wrth wraidd y gwaith sy'n ei wneud.  Dywedwyd bod y Cyngor eisoes wedi darparu dros 1,600 o dai ychwanegol ac y byddai'r rhaglen ddatblygu newydd yn cefnogi'r gwaith o ddarparu 2,000 rhagor o dai, gan gefnogi'r broses o adfywio canol ein trefi, ein trefi a'n pentrefi gwledig a'n safleoedd adfywio mawr gan gynnwys y rhaglen Trawsnewid Tyisha.

 

Byddai'r rhaglen waith yn gwneud cyfraniad sylweddol at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac mae'n dilyn egwyddorion y Cyngor i fod yn Awdurdod Carbon Sero Net erbyn 2030. Roedd y Cyngor ar flaen y gad o ran ei ymagwedd tuag at ddatgarboneiddio tai, a fyddai'n gwneud tai'n fwy fforddiadwy i denantiaid, yn darparu cyflyrau byw iachach ac yn creu Sir Gaerfyrddin fwy cydnaws â'r amgylchedd. Dangosodd y cynllun ymrwymiad cadarn i gefnogi'r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer datgarboneiddio ein cartrefi a fyddai'n cynnwys gwella perfformiad ein tai, gosod atebion gwresogi carbon isel a thechnoleg adnewyddadwy.

 

Amlinellodd y cynllun y byddai'r Cyngor yn parhau i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o waith i gartrefi ac yn cynnal gwasanaethau i'w holl denantiaid.  Byddai hefyd yn helpu i roi hwb i'r economi leol gan greu swyddi a chyfleoedd hyfforddiant newydd.  Yn ystod tair blynedd y cynllun hwn, byddem yn buddsoddi dros £260m mewn tai cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin (£103m Cyfalaf a £157m Refeniw).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

11.1    Cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer ein rhaglenni buddsoddiadau tai dros y 3 blynedd nesaf;

 

11.2    Cytuno y gellir cyflwyno Cynllun Busnes 2023-26 i Lywodraeth Cymru;

11.3    Nodi'r cyfraniad a wnaeth y gwnaeth y Cynllun i'r Cynllun cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai i gefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o gartrefi newydd;

 

11.4    Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddiant.

 

12.

AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y meysydd i'w hystyried mewn perthynas ag Ail Gartrefi/Cartrefi Gwyliau Tymor Byr ac Eiddo Gwag.  A gafodd ei lunio yn dilyn pryderon a godwyd ar lefel leol a chenedlaethol am effaith ganfyddedig niferoedd cynyddol ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, wrth gyflwyno'r adroddiad, yn 2021, fel rhan o'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, y cyhoeddwyd ffyrdd o fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi, gan gynnwys yr hawl i godi'r premiwm i 300% a defnyddio'r weithdrefn gynllunio a thrwyddedau. Yn ganolog i'r bwriad oedd sicrhau tegwch, a bod modd cael tai fforddiadwy o ansawdd da i bawb tra bo'r perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad teg ac effeithiol i'r cymunedau lle prynir yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw Aelodau'r Cabinet at yr argymhellion fel y nodir yn yr adroddiad.  Dylid gwneud cywiriad i'r argymhelliad ynghylch ail gartrefi, i fod yn gywir, yr argymhelliad o ran premiwm oedd ystyried codi premiwm o naill ai 50% neu 100% ar Ail Gartrefi.

 

Nodwyd bod gan Sir Gaerfyrddin tua 2,300 o dai gwag ar unrhyw adeg benodol.  Yn ogystal, o dan y ddarpariaeth newydd, t? gwag hirdymor yw preswylfa sydd wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu'n sylweddol am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf. Mae tua 1,300 o dai o'r fath yn Sir Gaerfyrddin.  Roedd yr heriau wrth ddelio ag eiddo o'r fath yn eang ac yn amrywiol ac mae llawer o'r cyfrifoldeb dros geisio mynd i'r afael â'r problemau hyn yn disgyn ar awdurdodau lleol.  Er bod gan yr Awdurdod Lleol y cyfrifoldeb a'r pwerau cyfreithiol i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, nid oedd yn ymarferol nac yn ddymunol ym mhob achos.

 

Dywedwyd bod codi Premiymau'r Dreth Gyngor ar Eiddo Gwag ac Ail Gartrefi yn un opsiwn oedd ar gael i'r Awdurdod er mwyn rheoli'r sefyllfa yn lleol.  Fodd bynnag, rhaid ystyried y dyletswyddau statudol i gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Cydraddoldeb Cyhoeddus Cymru 2011, a phob ystyriaeth berthnasol arall.

 

Yn ogystal, dylid ystyried cysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac ymgynghori, gan gynnwys yr etholwyr lleol, cyn penderfynu a ddylid codi premiwm yn y naill achos neu'r llall.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1    Cynnal ymgynghoriad ac asesiad effaith ar gyflwyno premiymau'r dreth gyngor ar eiddo gwag gyda chynnig bod y canlynol yn cael ei gyflwyno:

 

       50% i'r rhai sydd wedi bod yn wag rhwng 1 a 2 flynedd;

       Wedyn byddai lefel y premiwm yn cynyddu i 100% i'r eiddo hynny sydd wedi bod yn wag rhwng 2  a 5 mlynedd;

       wedyn cynnydd pellach i 200% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 5 mlynedd neu hirach;

 

12.2    Cynnal ymgynghoriad ac asesiad effaith ar gyflwyno premiymau'r dreth gyngor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

RHYBUDD GYNNIG DYDD GWYL DEWI pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad i'w ystyried a oedd yn nodi'r cynnydd o ran y Rhybudd o Gynnig y cyfeiriwyd at y Cabinet gan y Cyngor Sir ar 28 Medi 2022 [gweler cofnod 11.1].

 

Nododd yr aelodau fod creu g?yl gyhoeddus neu ?yl banc yn fater o statud sy'n dod dan gyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan a bod Llywodraeth Cymru wedi lobïo San Steffan i'r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli i Gymru. Fodd bynnag, roedd hyn wedi'i wrthod hyd yn hyn, er bod yr Arweinydd blaenorol wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am agwedd Cymru gyfan at Ddydd G?yl Dewi.  Yn y bôn, heb gytundeb Llywodraeth San Steffan na phwerau datganoledig i Lywodraeth Cymru  ni fyddai unrhyw gyllid ar gael o ganlyniad i symud g?yl banc/g?yl gyhoeddus bresennol neu greu un newydd.

 

Y gost dybiannol o ychwanegu'r diwrnod Statudol yw oddeutu £350k i weithwyr y Cyd-gyngor Cenedlaethol. Pe bai staff addysgu hefyd yn cael eu cynnwys, byddai'r cwantwm yn cyrraedd tua £700k.

 

O ystyried y sefyllfa ariannol bresennol y mae'r Cyngor yn ei hwynebu, cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu, na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd ar hyn o bryd ynghylch pwynt c o'r rhybudd o gynnig; i ddynodi Dydd G?yl Dewi yn ddiwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl i'w staff ar 1 Mawrth bob blwyddyn.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

13.1.   Galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr awdurdod dros benderfynu ar wyliau banc yng Nghymru (drwy'r Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 13.1) yn yr un modd â'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a gofyn i holl Gynghorau Cymru wneud cais tebyg drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;

 

13.2.   Nodi'r gefnogaeth gyhoeddus ar gyfer creu g?yl y banc ar Ddydd G?yl Dewi yng Nghymru, a bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn droeon i Lywodraeth y DU ddatganoli'r pwerau angenrheidiol;

 

13.3    nad yw camau pellach yn cael eu cymryd o ran ymchwilio i'r posibilrwydd a goblygiadau o ddynodi Dydd G?yl Dewi yn ddiwrnod ychwanegol o absenoldeb â thâl i'w staff ar 1 Mawrth bob blwyddyn.

 

13.4    ystyried ymhellach sut y gall y Cyngor gefnogi dathliadau Dydd G?yl Dewi ymhellach ar 13.4 Mawrth a thua'r amser hwnnw, gan weithio ar y cyd â Chynghorau Tref a Chymuned a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau budd diwylliannol ac economaidd.

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2021/22 pdf eicon PDF 209 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad am Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2021/22, a gynhyrchwyd yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor lunio adroddiad blynyddol ar ei amcanion Llesiant ac i adrodd ar berfformiad, yn seiliedig ar ddull hunan-asesu. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio yn ei dro at bob un o 13 Amcan Llesiant y Cyngor ac yn asesu'r cynnydd a'r addasiadau a wnaed yn ystod y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2021/22 yn cael ei dderbyn.

 

 

15.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

16.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

17.

CYMORTH ARIANNOL AR GYFER CHRT / LLANELLY HOUSE

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu gwybodaeth am weithrediad Plas Llanelly a allai wanhau ei sefyllfa mewn perthynas â thrydydd partïon y mae'n ymwneud â nhw.

 

Cafodd Aelodau'r Cabinet adroddiad mewn perthynas â chymorth ariannol ar gyfer Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly i'w ystyried.  Mae Plas Llanelli yn allweddol i gefnogi adfywio Canol Tref Llanelli ac roedd angen cymorth i sicrhau cynaliadwyedd parhaus y plas.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL barhau i gefnogi prosiect Adfywio Treftadaeth Sir Gaerfyrddin/Plas Llanelly drwy gymeradwyo pecyn cymorth o hyd at £60k y flwyddyn am 2 flynedd pellach.

 

 

18.

PENTRE AWEL

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio safle'r contractwr wrth negodi ag is-gontractwyr a chyflenwyr, gan ei roi ar anfantais yn y farchnad.

 

Cafodd Aelodau'r Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y contract adeiladu a fforddiadwyedd Parth 1 Pentre Awel.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth argymhelliad ychwanegol i ddirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr i barhau i drafod pris terfynol y contract a chytuno ar y pris hwn ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau.  Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweinyddu fod angen i'r cyngor llawn ystyried yr adroddiad a'r argymhellion yn yr adroddiad er mwyn gwneud penderfyniad fel eitem eithriedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

18.1    Derbyn a nodi cwblhad a chanlyniadau cam cyntaf y contract dylunio ac adeiladu dau gam i ddarparu Parth 18.1 Pentre Awel;

 

18.2    Mynd ymlaen i ail gam y contract gyda Bouygues Construction, yn unol â'r argymhelliad yn yr adroddiad;

 

18.3.   Nodi'r cynnydd wrth sicrhau cytundebau tenantiaeth;

 

18.4.   Bydd unrhyw ddiffyg ariannol yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o gyfraniadau ychwanegol cyllidwyr allanol, cyllid wrth gefn Cyngor Sir ar gyfer Pentre Awel (Bargen Ddinesig), a chyllid ychwanegol gan y farchnad. Ar ôl cadarnhau pris Bouygues, bydd tabl cryno yn cael ei rannu gydag Aelodau'r Cabinet ac yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet. Cynhelir rhaglen o Beirianneg Gwerth parhaus gyda Bouygues drwy gydol cyfnod y contract i sicrhau rheolaeth gadarn ar gyfer costau;

 

18.5    Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr i barhau i drafod pris terfynol y contract a chytuno ar y pris hwn ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau