Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas. 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 28 TACHWEDD 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 yn gywir. |
|||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau. |
|||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod yr adroddiad ar yr arolwg ymgysylltu a gynhaliwyd ynghylch gweithredu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Rheolaethau C?n) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016 wedi ei dynnu'n ôl o agenda'r cyfarfod er mwyn gallu gwneud rhagor o waith.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod yr adroddiad wedi cael ei dynnu yn ôl |
|||||||||
DERBYNIADAU YSGOLION - ADOLYGIAD DERBYNIADAU YSGOLION CYNRADD (CODI 4) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar adolygiad a wnaed o bolisi derbyniadau presennol y Cyngor ar gyfer addysg amser llawn i blant pedair oed (plant sy'n codi'n 4 oed), fel yr argymhellwyd gan Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant 2018/19.
Nododd y Cabinet fod yr adroddiad yn amlinellu'r adolygiad a gynhaliwyd ar y trefniadau derbyn a oedd yn ystyried yr agweddau canlynol:
· Cefndir y trefniadau presennol ar gyfer ysgolion cynradd, a'r polisi 'plant sy'n codi'n 4 oed' yn benodol. · Manylion am y trefniadau derbyn amser llawn a rhan amser presennol ar gyfer ysgolion cynradd. · Darparu cymhariaeth o'r trefniadau derbyn amser llawn a rhan-amser â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru yn seiliedig ar ymchwil · Gwybodaeth am bwysigrwydd Niferoedd Derbyn a sut maent yn effeithio ar drefniadau derbyn. · Amlinellu'r heriau presennol sy'n cael eu hwynebu o ran lle a chapasiti ysgolion, anghysondeb ag Awdurdodau eraill, meithrinfa a darpariaeth blynyddoedd cynnar, cyllid a'r broses dderbyn ei hun.
Roedd yr Adroddiad hefyd yn ystyried goblygiadau posibl unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol o ran canfyddiad rhieni, darpariaeth gytbwys, ailddosbarthu cyllid a threfniadau ymgynghori.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor, fel yr Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir, yn:
|
|||||||||
PROTOCOL INTERIM AR Y CYD AR GYFRADDAU MILLTIROEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Brotocol ar y Cyd a lofnodwyd gan Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur NJC ynghylch cynyddu cyfradd ad-dalu cyfraddau milltiroedd ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol i gydnabod effaith yr argyfwng costau byw ar y gweithlu a'r pwysau uniongyrchol o ganlyniad i'r cynnydd digynsail mewn costau tanwydd. Roedd yr adroddiad yn manylu ar wahanol elfennau'r protocol, ynghyd â'r swm y cytunwyd arno ar gyfer ad-dalu a fyddai, pe bai'n cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, yn cynrychioli cynnydd o 11% neu, £12.5k o ran y gwariant misol cyfartalog o £114k.
Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet, er mwyn rhoi'r protocol ar y cyd ar waith, byddai angen ei fabwysiadu'n lleol a bydd angen i'r trefniadau o ran ei weinyddiaeth gael eu pennu gan bob awdurdod lleol, yn unol â'i bolisïau a gweithdrefnau lleol.
Nodwyd hefyd mai'r trothwy y cytunwyd arno ar gyfer gweithredu'r taliad ychwanegol oedd pan fyddai pris tanwydd yn cyrraedd £1.50 neu 15.2 ceiniog y filltir fel y pennwyd gan Asesiad Cyfradd Tanwydd Ymgynghorol Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Pe bai cost tanwydd yn gostwng islaw'r trothwy hwnnw, byddai'r taliad ychwanegol yn cael ei ddileu.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cyngor yn mabwysiadu'r Protocol interim ar y cyd ar gyfraddau milltiroedd a gytunwyd gan Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur NJC |
|||||||||
SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 2023-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried yr adroddiad ar Sylfaen y Dreth Gyngor 2023-24. Atgoffwyd Aelodau'r Cabinet ei bod yn ofynnol i'r Cyngor benderfynu, yn flynyddol, ar Sylfaen y Dreth Gyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned yn ei ardal, at ddibenion cyfrifo lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol oedd i ddod a bod y gwaith cyfrifo blynyddol wedi cael ei ddirprwyo i'r Cabinet, o dan ddarpariaethau Adran 84 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004.
Roedd cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y Cyngor Sir am 2023-24 wedi'i nodi yn Nhabl 1a ac wedi'i grynhoi yn Nhabl 1b, a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad. Roedd y cyfrifiad yng nghyswllt Cynghorau Tref a Chymuned unigol ar gyfer 2023-24 wedi'i grynhoi yn Nhabl 2 a'r manylion yn Atodiad A, a oedd hefyd wedi'u hatodi i'r adroddiad.
Nododd Aelodau'r Cabinet fod adroddiad y Sylfaen Dreth yn darparu cyfrifiadau ar gyfer yr Awdurdod cyfan, yn ogystal â manylion ar gyfer pob ardal cyngor tref a chyngor cymuned at ddibenion eu praesept, ac mai Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-2024 oedd £75,071.95.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
7.1 bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu Cymeradwyo;
7.2. bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £75,071.95, fel y manylwyd arni yn Nhablau 1a ac 1b o'r adroddiad, yn cael ei chymeradwyo yng nghyswllt ardal y Cyngor Sir;
7.3. bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y'u rhestrir yn nhabl 2 ac y manylir arnynt yn Atodiad A yr adroddiad, yn cael eu cadarnhau.
|
|||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys. |