Lleoliad: Siambr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Vaughan Owen.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 17 HYDREF 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
GOBLYGIADAU DEDDF RHENTU CARTREFI (CYMRU) 2016 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad ar oblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a oedd yn gofyn i beidio â defnyddio mwyach y tenantiaethau rhagarweiniol a'r hyn sydd wedi'u holynu o dan y Ddeddf.
Nododd Aelodau'r Cabinet o 1 Rhagfyr 2022, y byddai pob tenantiaeth a roddir gan landlordiaid yng Nghymru yn newid i fod yn ddeiliaid contract o dan drefn gyfreithiol newydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi. Roedd y Ddeddf yn disodli'r ddeddfwriaeth dai ar denantiaethau a basiwyd gan Senedd y DU a byddai'r Ddeddf yn cyflwyno dim ond dau fath o 'gontract meddiannaeth' - un ar gyfer y sector rhentu preifat ac un ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol - yn lle'r gwahanol fathau o denantiaethau a thrwyddedau sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Nodwyd y byddai'r Ddeddf yn dod â hawliau newydd ac ychwanegol at ei gilydd i ddeiliad y contract, gan osod gofynion ar y landlord i weithredu o fewn amserlen resymol i geisiadau a sicrhau bod eiddo'n addas i fyw ynddo.
Rhoddodd Aelodau'r Cabinet ystyriaeth i brif oblygiadau'r Ddeddf fel yr oeddent wedi'u crynhoi yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 na fyddai'r Cyngor, o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, yn rhoi contractau meddiannaeth safonol ragarweiniol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
|
|
DIWEDDARIAD AR GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2022, a oedd yn nodi egwyddorion cyffredinol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth baratoi ar gyfer y rhaglen fuddsoddi newydd.
Tynnwyd sylw at y ffaith, er bod y rhaglen wedi'i strwythuro o amgylch cynllun rhanbarthol, gydag Arweinydd Rhanbarthol (Cyngor Sir Abertawe), byddai'r cynllun yn cael ei roi ar waith ar lefel leol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y dulliau cyflwyno arfaethedig canlynol:
• Prif brosiectau • Prosiectau annibynnol • Prosiectau a gomisiynwyd
Cafodd cwmpas y ddarpariaeth ar gyfer pob un o'r prif brosiectau arfaethedig ei atodi i'r adroddiad yn Atodiad 1.
O ran rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin, nododd Aelodau'r Cabinet fod y Gronfa wedi darparu tua 4% o’r adnoddau ar gyfer ariannu cymorth gweinyddol ar gyfer y rhaglen ac y byddai angen capasiti ychwanegol ar gyfer yr Awdurdod Lleol Arweiniol (Cyngor Abertawe) er mwyn darparu adnoddau ar gyfer cyflawni ei swyddogaeth reoli ranbarthol. Felly, byddai'r rhan fwyaf o'r gyllideb weinyddol o 4% yn cael ei defnyddio i ddarparu capasiti yn y timau rheoli lleol.
Daethpwyd i'r casgliad bod llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud ers cyflwyno'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol i Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Wrth ddisgwyl am gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth y DU, roedd y gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle a bod modd i'r ddarpariaeth ddechrau yn dilyn derbyn cymeradwyaeth Llywodraeth y DU.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
7.1 bod y camau a gymerwyd hyd yn hyn i alluogi'r Sir i elwa ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael eu cymeradwyo;
7.2 bod y prif brosiectau arfaethedig yn cael eu cymeradwyo;
7.3 bod y gwaith o sefydlu Tîm Rheoli'r Rhaglen a fydd yn gyfrifol am gyflawni'r Rhaglen ar lefel leol yn cael ei gymeradwyo.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|