Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 17eg Hydref, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martmin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. H. John.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. 

 

3.

COFNODION - 3YDD HYDREF 2022. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Hydref, 2022 yn gofnod cywir.

 

[SYLWER: O ran cofnod 4 - 'Cwestiynau â Rhybudd gan yr Aelodau' - eglurodd y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio, y byddai'r cofnodion yn ymwneud ag adroddiad terfynol y Panel Gorchwyl a Gorffen - Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor yn hytrach na'r adroddiad ei hun. Ychwanegodd fod y Cynghorydd Tina Higgins wedi cael gwybod am y mater.  

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

CYNLLUN CARBON SERO NET - ADRODDIAD CYNNYDDA pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnydd yr awdurdod tuag at ddod yn awdurdod lleol Carbon Sero Net erbyn 2030 yn unol â Cham Gweithredu NZC-28 o'r Cynllun Gweithredu Sero Net a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 12Chwefror 2020 [gweler cofnod 8.1] a oedd yn gofyn am adroddiadau perfformiad blynyddol. Nodwyd bod yr ail Adroddiad Cynnydd hwn yn ddogfen gymharol fanwl gan y byddai Cynllun Carbon Sero Net diwygiedig yn cael ei gyhoeddi erbyn 31 Mawrth 2023 a fyddai'n cynnwys canllawiau a datblygiadau diweddar sy'n ymwneud â Charbon Sero Net, ynghyd â'r Argyfwng Natur a gafodd ei ddatgan gan y Cyngor Sir ar 9 Chwefror 2022 (gweler cofnod 10.2).

Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd wedi cymeradwyo'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 4 Hydref 2022. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 cymeradwyo Adroddiad Cynnydd y Cynllun Carbon Sero Net;

 

6.2 bod awdurdod yn cael ei roi i Swyddogion wneud addasiadau teipio neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb Adroddiad Cynnydd y Cynllun Carbon Sero Net.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad y gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir yn 2021/22. Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r perfformiad yn ystod 2021/22, ynghyd ag asesiad ynghylch darpariaeth yn y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu heriau blwyddyn na welwyd ei thebyg o'r blaen oherwydd COVID-19 ac yn tynnu sylw at y meysydd hynny oedd i gael eu datblygu yn y flwyddyn gyfredol.

 

Roedd gofyniad statudol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adrodd yn flynyddol wrth y Cyngor ar ddarparu gwasanaethau a pherfformiad yn ogystal â chynlluniau ar gyfer gwella'r ystod gyfan o wasanaethau cymdeithasol. Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 5 Hydref 2022.

 

Talwyd teyrnged unwaith eto i staff sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn ystod cyfnod a fu'n heriol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2021/22 yn cael ei gymeradwyo.

 

8.

CYMERADWYO STRATEGAETH DEMENTIA PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a luniwyd mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid yn y trydydd sector yn ogystal â phobl â dementia, eu gofalwyr, ac aelodau o'r teulu ledled Cymru.

 

Roedd y strategaeth yn cefnogi sawl amcan allweddol yn y Cynllun Corfforaethol, ac Amcan Llesiant y Cyngor i gefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny. Byddai cymeradwyo'r Strategaeth, a oedd hefyd wedi'i hystyried a'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gyfarfod ar 5 Hydref 2022, yn galluogi gwasanaethau i gael eu darparu yn unol ag anghenion y gymuned.

 

Gofynnwyd am gymeradwyaeth Cyngor Sir Caerfyrddin o'r strategaeth a oedd yn mynd drwy'r broses ddemocrataidd yng Ngheredigion a Sir Benfro ar yr un pryd. Roedd eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Strategaeth Dementia Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cael ei chymeradwyo.

 

9.

ASESIAD POBLOGAETH AC ADRODDIAD YNGHYLCH SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD PARTNERIAETH GOFAL GORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn crynhoi'r dull a ddefnyddiwyd i lunio Asesiad Poblogaeth Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a'r Adroddiad ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ac yn manylu ar y canfyddiadau allweddol a'r broses gyhoeddi er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Bu'n rhaid cyhoeddi Asesiadau Poblogaeth unwaith ym mhob cylch etholiadol llywodraeth leol. Cafodd yr Asesiad Poblogaeth cyntaf ei lunio ym mis Mawrth 2017, ac roedd y manylion yn cael eu hadnewyddu yn ystod 2022. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor atodol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ynghylch llunio Asesiadau Poblogaeth 2022 a oedd yn cynnwys yr angen i hefyd lunio Adroddiad ar wahân ynghylch Sefydlogrwydd y Farchnad.

 

Byddai'r ddwy ddogfen (a fyddai'n llywio Cynllun Ardal Gorllewin Cymru ac yn llywio amcanion comisiynu rhanbarthol a lleol) yn cael eu cyhoeddi gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ar y porth data ar-lein ar gyfer y rhanbarth. Cartref - Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (wwcpdata.org.uk).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod canfyddiadau'r adroddiadau llawn yn cael eu cefnogi ynghyd â'r dull a ddefnyddiwyd wrth eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.

10.

NODI BOD Y GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORWYR MICHAEL THOMAS A DOT JONES YN LLE'R CYNGHORWYR SHELLY GODFREY-COLES AC ANTHONY LEYSHON AR Y PANEL RHIANTA CORFFORAETHOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Michael Thomas a'r Cynghorydd Dot Jones yn lle'r Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles a'r Cynghorydd Anthony Leyshon ar y Panel Rhianta Corfforaethol.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.