Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Emlyn Dole

9.             9 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

 

Mae'n berchen ar Salon trin gwallt a llety gwyliau

Hazel Evans

10.          9 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

11.           

Mae gan aelod agos o'i theulu fusnes yn y Sir.

Philip Hughes

12.          9 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

13.           

Mae'n berchen ar Westy Gwely a Brecwast yn y Sir.

Jane Tremlett

14.          9 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

15.           

Mae ganddi fusnes yn y Sir.

Linda Evans

16.          9 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23

17.           

Mae gan aelod agos o'i theulu fusnes yn y Sir.

 

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

3.1

21 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 431 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2022 yn gywir.

 

 

3.2

28 CHWEFROR 2022 pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2022 yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

YMESTYN GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS (GORCHMYNION CŴN SIR GAERFYRDDIN) pdf eicon PDF 476 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad mewn perthynas ag ymestyn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus presennol a oedd yn dod i ben ddiwedd mis Mehefin am 3 blynedd arall.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet bod y Gorchymyn Gwreiddiol, yn amodol ar nifer o eithriadau a chyfyngiadau, yn ei gwneud yn ofynnol i bobl:-

 

·       Godi baw eu c?n ar yr holl dir cyhoeddus yn y Sir.

·       Rhoi a chadw eu c?n ar dennyn drwy gyfarwyddyd.

·       Peidio â mynd â'u ci ar unrhyw fannau chwarae caeedig i blant yn y Sir na gadael i'w ci fyned i nac aros ar unrhyw fannau o'r fath.

 

Roedd cyfnod ymgynghori wedi'i dargedu ar ymestyn y Gorchymyn wedi'i gynnal gyda nifer o ymgyngoreion statudol a rhanddeiliaid perthnasol eraill, ac roedd rhestr wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.  Dywedwyd bod 43 o ymatebion wedi dod i law gydag 85% o'r ymatebwyr hynny yn cefnogi ymestyn y Gorchymyn presennol am gyfnod o 3 blynedd.


 

Nododd Aelodau’r Cabinet fod nifer o ymatebwyr wedi cyflwyno sylwadau ac awgrymiadau drwy’r ymarfer ymgynghori a bod y sylwadau a’r ymatebion wedi’u hatodi i’r adroddiad yn Atodiad 8 yr adroddiad yn ogystal ag ymateb cynhwysfawr gan y Kennel Club a Dogs Trust a oedd hefyd wedi’i atodi i'r adroddiad yn atodiadau 5 a 6 yn y drefn honno.

 

Roedd yr adroddiad yn ceisio ymestyn hyd Gorchymyn 2016 a fyddai’n golygu bod angen gwneud Gorchymyn Estyn newydd, ac roedd Gorchymyn drafft wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad 2. Dywedwyd y byddai'r Awdurdod, yn amodol ar ymgynghoriad ar wahân, yn gallu ystyried rheolaethau ac amodau ychwanegol i'w hychwanegu at y Gorchymyn presennol yn y dyfodol a bod ymarfer ymgysylltu'n cael ei gynnal ar hyn o bryd i geisio barn ehangach.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1     fod hyd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli C?n) Cyngor Sir Caerfyrddin 2016 yn cael ei ymestyn am gyfnod pellach o 3 blynedd o 1  Gorffennaf 2022 ymlaen;

 

6.2   bod y Cyngor yn gwneud Gorchymyn Estyn i weithredu'r estyniad uchod;

6.3   cymeradwyo Gorchymyn 2016 gyda geiriad addas i adlewyrchu’r ffaith fod hyd gorchymyn 2016 wedi’i ymestyn.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 376 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021, o ran 2021/2022.  Er bod maint yr ymateb Covid-19 yn lleihau, roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ariannol parhaus a wynebwyd gan yr Awdurdod yn ogystal â'r cymorth ariannol ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £3,702k gyda thanwariant o £2,901k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.  Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·      costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru;

·      roedd rhai gwasanaethau yn dal i fod wedi’u hatal neu eu heffeithio oherwydd y cyfyngiadau symud a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn Chwarter 1;

·      Defnyddio rhywfaint o danwariant yr arian cyfalaf, oherwydd rhai pwysau sylweddol ar gyllidebau prosiectau cyfalaf yn ystod y flwyddyn, a gymeradwywyd fel rhan o adroddiad ar wahân.

 

Dywedodd Aelodau’r Cabinet fod y rhagolwg blwyddyn gyfan yn parhau i fod yn sensitif os bydd sefyllfa'r pandemig yn gwaethygu yn y dyfodol, yn enwedig pe bai angen ailgyflwyno cyfyngiadau cyhoeddus. Ymhellach, roedd cyfanswm o tua £13 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'i hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn (Ebrill – Medi).

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,826k ar gyfer 2021/22. Darparwyd manylion am hyn yn Atodiad B a oedd ynghlwm i'r adroddiad.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.1      Dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd.

7.2       Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau oedd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod effaith barhaus mesurau Covid-19 ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

 

8.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2021/22 pdf eicon PDF 357 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021/22, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2021 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Dywedwyd bod gwariant net adrannol o £56,526k yn cael ei ragweld o gymharu â chyllideb net weithredol o £104,923k gan roi -£48,397k o amrywiant.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, 2021 a llithriad o 2021/21 a newidiadau a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 25 Hydref, 2021.  Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo.

 

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1     fod yr adroddiad ar ddiweddaru rhaglen gyfalaf 2021/22 yn cael ei dderbyn;

8.2.    bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.

 

 

9.

CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2022/23 pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Noder: Gan iddyn nhw ddatgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, ailadroddodd y Cynghorwyr E. Dole, H.A.L. Evans, L.D. Evans, P.M. Hughes, J. Tremlett eu datganiadau ac fe adawon nhw'r cyfarfod trwy gydol y drafodaeth a'r pleidleisio ar yr eitem hon.]

 

Ar y pwynt hwn, gan fod yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi gadael y cyfarfod yn dilyn eu Datganiadau o Fuddiant, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y cabinet benodi'r Cynghorydd David Jenkins yn Gadeirydd dros dro ar gyfer yr eitem hon.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am fabwysiadu cynllun rhyddhad ardrethi a oedd ar gael i Awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.  Roedd yr adroddiad yn argymell bod y Cabinet yn mabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi 2022/23 ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i’r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i gynyddu’r gostyngiad i 100%. Roedd y cynllun hwn hefyd yn berthnasol yn 2021/22 ac yn ogystal â’r sector manwerthu cafodd ei ymestyn i gynnwys y sectorau hamdden a lletygarwch er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

 

Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y byddai'n darparu cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys yn 2022-23.  Nod y cynllun oedd darparu cymorth ar gyfer eiddo cymwys a oedd yn cael eu defnyddio drwy gynnig gostyngiad o 50% ar y bil ardrethi annomestig ar gyfer eiddo, i bob safle cymwys.

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu’r mathau o fusnes yr oedd yn eu hystyried yn briodol ar gyfer y cynllun rhyddhad hwn, yn ogystal â’r rhai nad oeddent yn eu hystyried yn briodol. Roedd y rhestr anghyflawn o fathau o fusnes wedi’i hatodi i’r adroddiad yn Atodiad A.

 

Dywedodd Aelodau'r Cabinet, ei bod yn briodol i’r cynllun gael ei fabwysiadu’n ffurfiol, gan mai mesur dros dro oedd hwn ac y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu’r rhyddhad drwy ad-dalu Awdurdodau Lleol sy’n defnyddio eu pwerau disgresiwn o dan Adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1      fabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a lletygarwch 2022/23;

 

9.2     bod rhyddhad yn cael ei roi  yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru;

9.3      bod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn penderfynu ynghylch unrhyw geisiadau nad ydynt o fewn cwmpas penodol y canllawiau neu y bydd angen rhoi ystyriaeth benodol iddynt.


 

 

 

10.

GARDD FOTANEG GENEDLAETHOL CYMRU pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: O'r pwynt hwn, Cadeiriodd y Cynghorydd Emlyn Dole weddill y cyfarfod.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth yngl?n â threfniadau benthyciad/prydles presennol, a ddaeth i ben ar 30 Medi 2021.  Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn y trefniadau am 6 mis pellach ar yr un amodau â'r cytundebau presennol tra bo'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn cwblhau'r strwythur ar gyfer ad-dalu'r benthyciad.

 

Dywedodd y Cabinet fod gan y Cyngor Sir hanes hir o gefnogi’r Ardd ers dechrau’r prosiect yn y 1990au. Roedd yr adroddiad yn rhoi rhestr o benderfyniadau blaenorol yn dyddio’n ôl i 2005 mewn perthynas â’r cymorth ariannol gan gynnwys Comisiwn y Mileniwm a Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol hyfyw a hirdymor i’r Ardd ac roedd yn berthnasol i drafodaethau heddiw.

 

Dywedwyd bod y Gerddi yn 2020 wedi cael trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â dod o hyd i ateb cynaliadwy i ddyfodol hirdymor parhaus y Gerddi. Roedd y drafodaeth hon wedi parhau drwy gydol cyfnod presennol y benthyciad ac roedd yn dal i fynd rhagddi, er ei bod wedi’i gohirio er mwyn blaenoriaethu’r ymateb i Covid.

 

Roedd y Cytundeb Benthyciad, a lofnodwyd yn wreiddiol yn 2005, yn cynnwys cytundeb opsiwn Amodol ychwanegol a oedd yn darparu ar gyfer trosglwyddo’r ffermdai o’r enw Gorswen, Alltgoch, Pantwgan a Bryncrwys (rhydd-ddaliadol) i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn amodol ar ad-dalu’r cyfan o'r benthyciad.  Yn ogystal, er mwyn i’r Ardd ddatblygu ymhellach, roedd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn awyddus i gael budd rhydd-ddaliadol y ffermdai. Dywedwyd bod cyfanswm y benthyciad ar hyn o bryd yn £1,350,000 ac nad oedd llog arno hyd yn hyn.

 

Dywedwyd ei bod yn debygol y byddai’r Gerddi mewn sefyllfa i ad-dalu’r benthyciad yn llawn i’r Cyngor Sir erbyn 31 Mawrth 2022 trwy becyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig bod y Cabinet yn ymestyn y benthyciad yn ffurfiol i 31 Mawrth 2022, er mwyn gweithredu'r cytundeb opsiwn.

 

Dywedodd aelodau'r Cabinet eu bod yn cefnogi datblygiad pellach yr Ardd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1    ymestyn benthyciad di-log yr Awdurdod i’r Ardd am 6 mis pellach hyd at 31 Mawrth 2022 (gan gynnwys y cytundeb opsiwn ar y ffermdy);

 

10.2.   caniatáu i'r Ardd barhau i feddiannu tri o'r pedwar ffermdy ar sail tenantiaeth am 6 mis ychwanegol hyd at 31 Mawrth 2022;

10.3.   nodi bod disgwyl i'r Benthyciad gael ei ad-dalu’n llawn cyn 31 Mawrth 2022.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau