Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C.A. Davies

11 - Diweddariad Cynnydd ynghylch Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin

Llwybr beicio yn mynd trwy'r fferm y mae ei g?r yn ei rheoli;

Y Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

W. Walters - Prif Weithredwr

13 - Adolygiad o'r Ffioedd Etholiad sy'n daladwy yn Etholiadau'r Cyngor Sir ac Etholiadau Cynghorau Tref/Cymuned;

Swyddog Canlyniadau;

C. Moore - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol

13 - Adolygiad o'r Ffioedd Etholiad sy'n daladwy yn Etholiadau'r Cyngor Sir ac Etholiadau Cynghorau Tref/Cymuned;

Efallai y bydd yn cael ei gyflogi gan y Swyddog Canlyniadau i gefnogi'r etholiadau;

N. Daniel - Pennaeth TGCh

 

13 - Adolygiad o'r Ffioedd Etholiad sy'n daladwy yn Etholiadau'r Cyngor Sir ac Etholiadau Cynghorau Tref/Cymuned;

Dirprwy Swyddog Canlyniadau.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR Y 14EG CHWEFROR, 2022 pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 14eg Chwefror 2022 gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

BLAENGYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020-23 pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, bu'r Cabinet yn ystyried Blaengynllun arfaethedig Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2020-2023. Mae'n ofyniad statudol bod y Cyngor yn paratoi ac yn adrodd bob tair blynedd am y modd y cyflawnwyd ei ddyletswydd Deddf yr Amgylchedd i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cadernid ecosystem.

Diolchwyd i'r Tîm Bioamrywiaeth am ei waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 cymeradwyo Blaengynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin 2020-23;

6.2 cymeradwyo'r camau gweithredu a nodir yn y Blaengynllun ac ymrwymo i'w cyflawni ar draws gwasanaethau perthnasol Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

7.

ADOLYGIAD O BOLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 426 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Polisi Hapchwarae diwygiedig arfaethedig a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses ymgynghori ac adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol. Roedd Pwyllgor Trwyddedu'r Cyngor wedi ystyried yr adroddiad ac wedi penderfynu'n unfrydol argymell i'r Cabinet ei fod yn cael ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR gymeradwyo'r Polisi Hapchwarae diwygiedig.

 

8.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID NATUR Y DARPARIAETH YN YSGOL Y FELIN pdf eicon PDF 430 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2021 rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Gwrthwynebu a oedd yn crynhoi'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law, ac ymatebion yr Awdurdod Lleol iddynt, i'r Hysbysiad Statudol i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin i addysg cyfrwng Cymraeg o 1 Medi 2022.

 

O fod yn fodlon nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, y gwrthwynebiadau ac unrhyw ymatebion i'r hysbysiad yn yr adroddiad gwrthwynebu, 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR weithredu'r cynnig i newid natur darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Felin i addysg cyfrwng Cymraeg, o 1 Medi 2022, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol.

 

 

9.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I NEWID YSTOD OEDRAN YSGOL SWISS VALLEY O 4-11 I 3-11 pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 8 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2021 dywedwyd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r Hysbysiad Statudol i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Swiss Valley o 4-11 oed i 3-11 oed.

 

O fod yn fodlon nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR weithredu'r cynnig i newid ystod oedran Ysgol Gynradd Swiss Valley o 4-11 oed i 3-11 oed o 1 Medi 2022, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Statudol.

 

 

10.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I AD-DREFNU AC AILFODELU GWASANAETHAU CYMORTH YMDDYGIAD YN YSGOL RHYDYGORS I WELLA'R DDARPARIAETH AR GYFER PLANT A PHOBL IFANC pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2021 dywedwyd nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r Hysbysiad Statudol i ad-drefnu ac ailfodelu'r Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.

 

O fod yn fodlon nad oedd unrhyw gynigion perthnasol eraill; a bod y cynnig statudol wedi bod yn destun ymgynghoriad a gafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion a'i fod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, ac ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori, ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR weithredu'r cynnig i ad-drefnu ac ailfodelu'r Gwasanaethau Cymorth Ymddygiad yn Ysgol Rhyd-y-gors er mwyn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl.

 

11.

CYNLLUN ADFER A CHYFLAWNI ECONOMAIDD SIR GAERFYRDDIN DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 564 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Ailadroddodd y Cynghorydd C. A. Davies ei datganiad o fuddiant.]

 

Gan gyfeirio at gofnod 8 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol [y Cabinet bellach] a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2021, bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad, a chafodd gyflwyniad, yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran cyflawni canlyniadau allweddol Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin.

 

Nodwyd bod y dangosyddion presennol yn awgrymu nad oedd y rhagolygon economaidd ar gyfer Sir Gaerfyrddin mor ddifrifol ag a ragwelwyd yn flaenorol pan oedd y Cynllun Adfer Economaidd yn cael ei ddatblygu. Fodd bynnag, roedd ffydd, a oedd yn cael ei chefnogi gan weithgarwch a gyflawnwyd hyd yn hyn a gweithgarwch arfaethedig, fod modd cyflawni canlyniadau uchelgeisiol cyffredinol y Cynllun. Byddai'r holl gyfleoedd i dynnu cyllid allanol ychwanegol i lawr, gan gynnwys cyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn cael eu harchwilio i ychwanegu gwerth at weithgarwch sydd eisoes wedi'i gynllunio neu sy'n cael ei gyflawni i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd twf economaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

12.

AILDDATBLYGU'R HEN FARCHNAD NWYDDAU LLANDEILO, HEN NEUADD Y FARCHNAD pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar y ddarpariaeth barcio ddiwygiedig arfaethedig a oedd yn gysylltiedig ag ailddatblygu'r hen farchnad nwyddau, Llandeilo (yr hen neuadd y farchnad), gan na fu'n bosibl caffael tir cyfagos, a'r cynnydd yng nghostau'r prosiect oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Roedd cais wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gyllid grant ychwanegol o £300,000 tuag at y prosiect. Roedd y cynnydd hwn mewn cyllid grant wedi cael ei gymeradwyo ar lafar ac roedd disgwyl cadarnhad ysgrifenedig a fyddai'n golygu bod cyfraniad y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol yn cynyddu i £1,700,000 o £1,400,000. Yn unol â dyraniad presennol y rhaglen gyfalaf, roedd y Cyngor yn parhau i gyfrannu £2,462,600 i gefnogi cyfanswm cost amcangyfrifedig y prosiect o £4,162,600

 

Rhagwelwyd y byddai'r cynllun yn cael ei gwblhau ac y byddai modd defnyddio'r adeilad erbyn mis Tachwedd 2022.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

12.1 nodi na fydd y tir ar gyfer y maes parcio yn cael ei brynu mwyach gan na fu'n bosibl cytuno ar delerau gyda'r tirfeddiannwr;

 

12.2 nodi y gofynnwyd am swm ychwanegol o £300,000 gan raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun ac y cytunwyd ar hwn ar lafar.

 

13.

ADOLYGIAD O'R FFIOEDD ETHOLIAD SY'N DALADWY YN ETHOLIADAU'R CYNGOR SIR AC ETHOLIADAU CYNGHORAU TREF/CYMUNED pdf eicon PDF 417 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd Wendy Walters a Noelwyn Daniel wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; roeddent wedi ailddatgan y buddiannau hyn ac nid oeddent yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.  Ailadroddodd Chris Moore ei ddatganiad o fuddiant ond arhosodd yn y cyfarfod.)

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ynghylch y ffioedd sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau mewn perthynas â'r etholiadau lleol sydd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

13.1 bod y ffioedd sy'n daladwy i'r Swyddog Canlyniadau, sy'n cynnwys taliadau i'r rhai sy'n ymgymryd â rôl Dirprwy Swyddogion Canlyniadau a phersonél allweddol eraill sy'n ymwneud â chynllunio a goruchwylio etholiadau'r Cyngor Sir a Chynghorau Tref / Cymuned, fel a ganlyn:

 

a) £170.00 am bob etholiad sy'n cael ei ymladd;

b) £56.61 am bob etholiad nad yw'n cael ei ymladd;

 

13.2 Awdurdodi'r Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau'r Cyngor, i wneud y canlynol:

 

a) gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi pobl i gynorthwyo â'r Etholiadau Lleol;

b) pennu lefel y ffioedd a'r taliadau i'r rhai a gyflogir ar ddyletswyddau'r Etholiad, cyn belled â bod y cyfanswm sy'n daladwy o fewn yr adnoddau a bennwyd i dalu am gost yr etholiadau hyn;

 

13.3 nodi y bydd unrhyw gostau ar gyfer etholiadau Cynghorau Tref/Cymuned yn cael eu had-dalu'n llawn.

 

14.

PENTRE AWEL pdf eicon PDF 865 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bentre Awel gan gynnwys caffael contractwr ar gyfer Parth 1. Roedd yr adroddiad yn nodi: 

· cynnydd o ran dylunio Parth 1 a chost fwyafswm y gwaith adeiladu;

· cynnydd o ran sicrhau tenantiaid ar gyfer Parth 1;

· cynnydd o ran datblygu dyluniad Parth 3;

· cynnydd cysylltiedig gan gynnwys rhwydweithio ag ysgolion a pholisi'r Trydydd Sector.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

14.1 nodi adroddiad y broses a gynhaliwyd i ddatblygu cam cyntaf y contract dylunio ac adeiladu dau gam i gyflawni Parth 1 Pentre Awel;

 

14.2 derbyn y gost fwyafswm (£14.2m) ar gyfer y gwaith adeiladu a ddarperir gan Bouyges UK a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr gytuno ar yr amlen gost derfynol a chadarnhau fforddiadwyedd mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau;

 

14.3 nodi'r cynnydd o ran sicrhau cytundebau tenantiaeth a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gytuno i symud ymlaen i'r gwaith adeiladu o ran cael sicrwydd addas o incwm rhent a nodi bod y gwaith Arloesi a Datblygu Busnesau, ac felly'r lle cragen a chraidd sy'n cael ei ddatblygu, yn cael ei wneud cyn y cynlluniau terfynol ac felly mewn perygl;

 

14.4 cymeradwyo'r polisi sy'n nodi'r egwyddorion sydd i'w mabwysiadu ar gyfer cynnwys sefydliadau'r Trydydd Sector ym Mhentre Awel;

 

14.5 nodi'r cynnydd ar draws parthau eraill a thrafodaethau ac effaith cysylltiedig tu hwnt i ffiniau uniongyrchol y prosiect.

 

15.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau