Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Revised Final Budget Date 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y tywydd garw iawn a gaed ledled Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos blaenorol, pan achosodd glaw trwm lifogydd mewn tai, busnesau ac ar briffyrdd. Soniodd am y cynlluniau a roddwyd ar waith gan y Cyngor ac asiantaethau partner wrth baratoi at y tarfu, a chanmolodd holl staff y Cyngor a'r asiantaethau am eu hymdrechion wrth ymateb i'r llifogydd. Cyfeiriodd hefyd at ddigwyddiadau o'r fath yn cael eu gweld yn amlach o achos newid yn yr hinsawdd, a chrybwyllodd yr angen am gael polisïau cenedlaethol i fynd i'r afael â'r materion hyn. Dywedodd fod y Bwrdd Gweithredol yn gwneud sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch hyn.  

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd /    Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. Evans

 

3 – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror – Cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir y Model

Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Fwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi

H. Evans

8 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2021/22 tan 2023/24 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2021/22

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

H. Evans

9 - Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2021-24

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR 8FED CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Datganodd y Cynghorydd H. Evans fuddiant yn ystod y cyfarfod ar y drafodaeth yn ymwneud ag Ysgol y Model a gadawodd y cyfarfod wrth i hynny gael ei ystyried)

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Evans at ei datganiad o fuddiant a gofnodwyd yng nghofnod 2 a gofynnodd am ei newid i "Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Fwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi"

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021, gan eu bod yn gywir, yn amodol ar y newid uchod.

 

Ar ôl cymeradwyo cofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror, yn amodol ar y newid uchod, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod dau fater wedi codi ers hynny y byddai'r Bwrdd Gweithredol efallai'n dymuno rhoi ystyriaeth frys iddynt.

 

Roedd y cyntaf yn ymwneud â Chofnod 6 y cyfarfod ar y cynnig i newid natur y ddarpariaeth yn Ysgol y Model, a'r ohebiaeth oedd wedi dod i law gan gorff llywodraethu'r ysgol yn hysbysu'r Awdurdod nad oeddent, fel llywodraethwyr, wedi cael gwybod yn iawn am y cynnig.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant er bod y cynnig wedi'i drafod gyda Chadeirydd Corff Llywodraethu'r ysgol a'r Pennaeth, ei bod yn edrych yn debyg nad oedd aelodaeth ehangach y Corff Llywodraethu, na staff ehangach yr ysgol, yn gwbl ymwybodol o'r cynnig. O ystyried hynny, mynegodd farn efallai na ddylai'r awdurdod fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad os nad oedd y rhan fwyaf o'r Corff Llywodraethu neu'r staff yn ymwybodol o'r cynnig. Cynigiodd felly, i fod yn deg, fod y Cyngor yn rhoi'r gorau i'r cynnig (a oedd i fod i ddechrau'r diwrnod hwnnw - 22 Chwefror, 2021) er mwyn caniatáu amser i ymgysylltu'n llawn â'r Corff Llywodraethu a'r Staff.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr ail eitem yn ymwneud â'r Rhybudd o Gynnig a oedd wedi cael ei ystyried gan y Cyngor ar 10 Chwefror 2021 ar briodoldeb cynnal ymgynghoriadau ar faterion fel darpariaeth addysg yn ystod pandemig, a oedd wedi'i gyfeirio at y Bwrdd Gweithredol i'w ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, er bod y Rhybudd o Gynnig hwnnw i'w ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 1 Mawrth 2021, fod Llywodraeth Cymru, ar brynhawn 10 Chwefror, yn dilyn cyfarfod y Cyngor, wedi ymestyn y newidiadau dros dro i ofynion penodol y Cod Trefniadaeth Ysgolion am gyfnod pellach, er mwyn galluogi ymgynghoriadau i barhau er gwaethaf y pandemig. Wedi hynny, ar 15 Chwefror, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau diwygiedig ar "Ymgynghori ar Gynigion Trefniadaeth Ysgolion yn ystod Pandemig", a byddai angen i'r Bwrdd Gweithredol ystyried y dogfennau hynny pan fyddai'n trafod y Rhybudd o Gynnig. Gan fod gan y Cyngor rai ymgynghoriadau a oedd wedi dod i ben mewn gwirionedd ar 21 Chwefror, ac yng ngoleuni'r drafodaeth oedd ar fin digwydd ynghylch y Rhybudd o Gynnig, fe awgrymodd efallai fod y Bwrdd yn barnu mai annheg oedd cau ymgynghoriadau tra bo mater byw i'w drafod. Cynigiodd felly fod y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ar yr ymgynghoriadau hynny yn cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

6.

STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 - 2023/24 pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ynghylch Cyllideb Refeniw 2021/2022 ac yn darparu'r ffigurau mynegiannol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024. Hefyd roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb gan roi diweddariad ynghylch dilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad amodol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion gafwyd i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Amlinellodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i'r Bwrdd nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 2 Mawrth 2021. Gan ystyried cyhoeddi'r setliad terfynol yn hwyr, dywedodd fod elfennau allweddol o ragdybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi'u hadolygu ac wedi rhoi rhywfaint mwy o gyfle i'r awdurdod ailedrych ar rai o gynigion gwreiddiol y gyllideb.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad amodol, a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn nodi bod cyllid Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 3.8% ar gyfartaledd ar setliad 2020/21, ac mai dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 3.8% (£10.466m). Er bod y setliad hwnnw wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn ei gyllideb ar gyfer nifer sylweddol o wasgfeydd chwyddiant a rhai na ellid eu hosgoi, roedd dal angen gwneud arbedion, ac er bod y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi cynnwys gohirio swm sylweddol o arbedion i'r blynyddoedd i ddod, oherwydd effaith covid, roedd wedi darparu ar gyfer y newidiadau yng nghyllideb 2021/22, ond byddai dal angen gwneud newidiadau sylweddol pellach dros y blynyddoedd i ddod.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w gyhoeddi ar 2 Mawrth 2021, a dywedodd fod yr adroddiad yn ceisio awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr, a'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 3 Mawrth 2020. Fodd bynnag, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol wrth i wybodaeth gliriach fod ar gael, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £10m at y gyllideb. Roedd y dilysiad mwyaf sylweddol yn ymwneud â thâl, a oedd wedi caniatáu ar gyfer 2.5% bob blwyddyn.  Fodd bynnag, nid oedd hynny'n berthnasol i athrawon, a oedd yn cael eu cwmpasu gan drefniadau tâl ar wahân o fewn cylch gwaith Llywodraeth Cymru, gyda dyfarniad 2020 yn gynnydd o 3.1%, gyda'r effaith ran-flynyddol yn rhagdybiaeth gyson o 2.5% ar gyfer unrhyw ddyfarniadau yn y dyfodol, a oedd yn cael ei gydnabod yn risg allweddol i'r gyllideb.

 

Atgoffwyd y Bwrdd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn seiliedig ar setliad amodol y gyllideb, newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol ynghylch dyfarniadau cyflog yn y dyfodol ac effaith oedi yn y rhaglen gyfalaf, fod rhywfaint o gyfle i wneud newidiadau i'r strategaeth, a'i fod wedi cytuno'n flaenorol i leihau'r cynnydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2021/22 - 2025/26 pdf eicon PDF 455 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2021/22 hyd at 2025/2026. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.

 

Nododd y Bwrdd mai £258m oedd gwariant gros arfaethedig y rhaglen gyfalaf dros gyfnod o bum mlynedd, a'r bwriad oedd i'r Cyngor Sir gyllido £122.5m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, derbyniadau cyfalaf, arian wrth gefn, a'r grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £135m oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol. Roedd swm o £4m rhwng blynyddoedd 4 a 5 heb ei ddyrannu am y tro, a byddai'n cael ei ddefnyddio wrth i gostau a chyllid arall gael eu crisialu wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Atodiad A i'r adroddiad yn manylu ar y rhaglen lawn, a ariannwyd yn llawn am y pum mlynedd, ac yn darparu potensial ar gyfer buddsoddiad pellach ym mlynyddoedd 4 a phump o ystyried y cronfeydd o £4m a oedd heb eu dyrannu eto ar gyfer y blynyddoedd hynny

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er bod llawer o'r buddsoddiadau yn yr adroddiad yn gyfarwydd, gan gynnwys y rhaglen ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, roedd wedi bod yn bosibl ychwanegu buddsoddiad at gynlluniau a oedd yn cael eu hystyried yn bwysig i'r sir er mwyn ymateb i'r pandemig Covid-19. Roedd y rhain yn cynnwys:-

 

·       Adfywio Economaidd – Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (£1.2m); Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol (£1m); Cronfa Mentrau Gwledig (£500k) ac £1m ar gyfer cynllun twf y 'Deg Tref', a oedd yn galluogi'r awdurdod i ddenu buddsoddiad sylweddol gan y sector preifat i'r sir. Yn ogystal, byddai'r £500k a gymeradwywyd yn 2020/21 ar gyfer datgarboneiddio ystâd y Cyngor yn cael ei ddefnyddio bellach ar gyfer Grantiau Menter Ynni Adnewyddadwy i fusnesau i weithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad preifat yn yr ardal honno a lleihau ôl troed carbon y sir;

·       Seilwaith – Cronfa Dd?r Trebeddrod (£1m), llwybr arfordir Morfa Bacas (£300k); gosod goleuadau cyhoeddus newydd yn lle'r hen rai (£400k y flwyddyn o 2024/25) ac ymrwymiad o £300k i fuddsoddi mewn ffermydd sy'n eiddo i'r Cyngor ar gyfer 2024/24;

·       Gwasanaethau Cymunedol – ymrwymiad parhaus i gefnogi buddsoddiad mewn diwylliant yn Oriel Myrddin a chefnogaeth barhaus i dai sector preifat yn 2024/25 ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl;

·       Adran yr Amgylchedd - parhau i gefnogi Gwelliannau Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a chynlluniau diogelwch ar y ffyrdd i mewn i 2025/26. Byddai cyllid y Cyngor ar gynnal a chadw priffyrdd yn parhau i gael ei gryfhau yn 2021/22 drwy'r Grant Adnewyddu Ffyrdd a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ;

·       Ystâd y Cyngor – cyllid ychwanegol i waith hanfodol i Neuadd y Sir (£500k) a gwaith iechyd a diogelwch i D? Elwyn (£700k)

·       Yn ogystal â'r pecyn adfer yn 2021/22, cefnogwyd y gyllideb Adfywio gan fuddsoddiad ychwanegol pellach yng Nghronfa Prosiect y Strategaeth Trawsnewid yn 2025/26,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2021/22 - 2023/24 A LEFELAU RHENTI TAI 2021/22 REFENIW A CHYFALAF pdf eicon PDF 349 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2021/22 i 2023/24. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 2 Chwefror 2021, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddai £64m pellach wedi cael ei wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 blynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £56m pellach yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £49m dros y 3 blynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy, ar ben y gwariant presennol o £45m hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol hon. Byddai'r Strategaeth hefyd yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled y sir, a hynny drwy wahanol atebion gan gynnwys ein rhaglen adeiladau newydd (fel Teras Glanmor, Porth Tywyn a Dylan, y Bynea) a'r cynllun prynu'n ôl.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu  yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYNLLUN BUSNES SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (STSG+) 2021-24 pdf eicon PDF 399 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy 2021-2024, a phrif bwrpas y cynllun oedd:

 

·       Egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid

·       Dangos bod yr incwm a gafwyd gan denantiaid a'r ffynonellau cyllid eraill yn darparu rhaglen gyfalaf o £107m dros y tair blynedd nesaf i:

o   Adeiladu dros 400 o dai fforddiadwy;

o   Gwella a chynnal a chadw'r stoc bresennol

o   Datblygu safonau newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni a symud tuag at gartrefi carbon niwtral

·       Dangos sut y gallai'r rhaglenni buddsoddi mewn tai helpu i ysgogi'r economi a'i hadfer yn dilyn Covid-19

·       Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2021/22, sy’n cyfateb i £6.2m.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai fod yr adroddiad wedi'i rannu i'r pedair thema allweddol ganlynol gyda'r nod o symud pethau ymlaen am y tair blynedd nesaf:-

 

1.     Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr;

2.     Thema 2 – Buddsoddi mewn Tai a'r Amgylchedd, yn cynnwys datblygu Safon Ansawdd Tai Cymru newydd, gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes drwy Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, a safon uwch o ran effeithlonrwydd ynni yn nhai'r Cyngor;

3.     Thema 3 – Darparu 500 yn fwy o dai drwy fuddsoddi £60m yn y pedair blynedd nesaf ynghyd â datblygu Uwch-gynllun Tai Fforddiadwy ac Adfywio 10 mlynedd newydd erbyn hydref 2021;

4.     Thema 4 – Yr economi sylfaenol, manteision cymunedol a chaffael drwy ymateb yr awdurdod i Covid-19 drwy ddatblygu ymhellach ymagwedd y Cyngor at gaffael er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud popeth posibl i gyfrannu at ffyniant yr economi leol ac yn gwella ei ffocws ar werth cymdeithasol a chyfoeth cymunedol

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

9.1

Cadarnhau gweledigaeth STSG+, rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, y rhaglen ariannol a'r rhaglen gyflawni dros y tair blynedd nesaf;

9.2

Cyflwyno Cynllun Busnes 2021/22 i Lywodraeth Cymru;

9.3

Nodi'r egwyddorion sydd wrth wraidd symud tuag at gartrefi carbon niwtral a datblygu strategaeth datgarboneiddio i gefnogi hyn;

9.4

Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a'i hadfer yn dilyn pandemig Covid-19.

 

 

 

10.

POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2021-22 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu'n derfynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

10.1

Bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2021-22 a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo.

10.2

Bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

 

 

 

 

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

13.

TENANTIAID BUSNES - CONSESIWN RHENT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd y prawf budd i'r cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn achosi niwed i'r busnesau y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad, gan danseilio'u safle yn y farchnad ac o bosibl rhoi swyddi mewn perygl ac achosi niwed i'r economi leol.

 

Gan gyfeirio at gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020, ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad diweddaru ar y gostyngiad rhent a roddwyd i'w denantiaid busnes o ganlyniad i bandemig Covid 19 ac a ddylid ymestyn y cynllun hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnig gostyngiad rhent o 50% i denantiaid busnes y Cyngor ar gyfer y cyfnod chwarter rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Mawrth 2021, i'w asesu yn ôl caledi, a'i roi i'r rhai roedd ei angen fwyaf arnynt, a bod angen i fusnesau cymwys wneud cais am ostyngiad erbyn dyddiad penodol, a chadarnhau unrhyw gymorth grant a gafwyd eisoes.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau