Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer:

·       Y Cynghorydd M. Stephens oedd wedi llywyddu'r cyfarfod yn absenoldeb y Cynghorydd E. Dole.

 

·       Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor yn dilyn derbyn cais,  byddai newid yn nhrefn yr agenda, gydag Eitem 11 yn cael ei chyflwyno i'w hystyried ar ôl Eitem 6 ar yr Agenda.  Er hwylustod, mae'r cofnodion yn adlewyrchu trefn y materion ar agenda'r cyfarfod.]

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Dole a'r Cynghorydd J. Tremlett.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ann Davies

7.             7 - Hierarchaeth Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus

 

Mae'r Cynghorydd Davies yn berchen ar dir sy'n cynnwys llwybrau cyhoeddus.

 

Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Wendy Walters

(Prif Weithredwr)

9. Y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Gyfalaf 2021/22

Mae ei g?r yn gweithio i un o'r contractwyr sy'n gysylltiedig ag un o'r prosiectau y cyfeirir ato yn yr adroddiad.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR Y 11 HYDREF 2021 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

LLOFNODI CYFAMOD Y LLUOEDD ARFOG pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu Cyfamod Cymunedol diwygiedig a oedd yn ymrwymiad partneriaeth gydag ystod o bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, a lofnodwyd yn wreiddiol gan y Cyngor yn 2013.  Cafodd y Cyfamod diwygiedig a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad ei ddatblygu i fod yn Gyfamod y Lluoedd Arfog a gefnogir gan sefydliadau unigol. 

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig y dylai'r Cyngor ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i Gymuned y Lluoedd Arfog,  byddai hefyd yn gyfle i adnewyddu ymrwymiadau'r Cyngor tuag at fesurau mwy priodol, ac i gael eu cydnabod yn ffurfiol yn genedlaethol.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod pob cyngor yn cael ei annog i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ac roedd 15 o'r 22 Cyngor yng Nghymru, ynghyd â rhai o'r llofnodwyr partner ar y Cyfamod Cymunedol eisoes wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Yn ogystal, nododd y Cabinet fod Cymuned y Lluoedd Arfog yn dathlu ei 10fed pen-blwydd yn 2021 ac felly cynigwyd yn yr adroddiad fod y Cyngor yn cynnal digwyddiad i lofnodi'r Cyfamod yn swyddogol ac i goffáu'r pen-blwydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

6.1      bod y Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog drwy lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi'i ddiweddaru;

 

6.2      bod y Cyngor yn cynnal digwyddiad i lofnodi'r Cyfamod yn swyddogol ac i goffáu 10 mlynedd ers sefydlu Cyfamod y Lluoedd Arfog.

 

7.

HIERARCHAETH RHWYDWAITH HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS pdf eicon PDF 334 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar yr Hierarchaeth Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a oedd yn nodi dull datblygedig, cyson, â rhesymau da i'w ategu, ar gyfer blaenoriaethu adnoddau ar gyfer cynnal a chadw, gwella a gorfodi’r rhwydwaith.  Byddai mabwysiadu'r hierarchaeth yn helpu i gyflawni nifer o'r amcanion a geir yng Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin 2019-2029.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig bod y Cabinet yn mabwysiadu'r Hierarchaeth Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus a ddatblygwyd yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo mabwysiadu'r Hierarchaeth Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

 

8.

MANIFFESTO GWEITHREDU DROS YR HINSAWDD GLOBAL GOALKEEPERS SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 370 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Faniffesto Gweithredu er budd yr Hinsawdd, Gôl-geidwaid Byd-eang Sir Gaerfyrddin a oedd yn darparu gwybodaeth am y Camau Gweithredu o ran y Maniffesto Gweithredu er budd yr Hinsawdd ac yn cynnwys gwybodaeth am brosiectau fel y Global Walk, prosiect rhyngwladol tair blynedd a oedd yn canolbwyntio ar ysgogi pobl ifanc i gefnogi Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.

 

Dywedwyd bod 12 ysgol uwchradd ynghyd â dwy ysgol gynradd yn Sir Gaerfyrddin yn 2019/20 wedi cymryd rhan i fynd i'r afael â Nod Datblygu Cynaliadwy 13: Gweithredu er budd yr Hinsawdd.  Roedd yr athrawon wedi derbyn hyfforddiant yn ogystal â phecyn adnoddau dwyieithog.  Roedd y disgyblion a oedd yn llysgenhadon – 'Global Goalkeepers' - wedi codi ymwybyddiaeth am newid yn yr hinsawdd, arwain ar weithredoedd yn eu cymunedau ac wedi cwrdd i rannu a dathlu eu gwaith gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y 'Global Walk' blynyddol.

 

Nododd aelodau'r Cabinet mai Sir Gaerfyrddin oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru a oedd yn rhan o raglen a ariannwyd gan yr UE a fu'n gweithio mewn partneriaeth â Dolen Cymru Lesotho a oedd yn rhan o'r Cynllun Carbon Sero-net dan arweiniad y Swyddog Partneriaethau Rhyngwladol yn yr adran Addysg a Phlant.

 

Roedd yr adroddiad yn rhestru 8 ymrwymiad Maniffesto ac yn rhoi gwybodaeth am sut y byddent yn cael eu cyflawni.  Mewn ymateb i Ymrwymiad Maniffesto 3; sefydlu 'corff ymgynghori ar weithredu er budd yr hinsawdd' – cynigiodd yr adroddiad y dylid sefydlu'r Corff Ymgynghori o dan ymbarél y Cyngor Ieuenctid.  Nododd yr Aelodau y byddai'r aelodaeth yn cael ei thrafod yn y cyfarfod cyntaf er mwyn caniatáu i gynrychiolwyr o’r ysgolion leisio eu barn wrth lunio'r Corff Ymgynghori.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1  i gymeradwyo Maniffesto Gweithredu er budd yr Hinsawdd Gôl-geidwad Byd-eang Sir Gaerfyrddin,

8.2 sefydlu 'corff ymgynghori ar weithredu er budd yr hinsawdd' (mewn ymateb i Ymrwymiad Maniffesto 3 a nodir yn yr adroddiad).

 

 

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2021/22 pdf eicon PDF 365 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd Mrs Wendy Walters wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried)

 

Derbyniodd y Cabinet adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021/22, fel yr oedd ar 31 Awst 2021 gan fanylu ar y  trosglwyddiadau ariannol, prosiectau newydd ac ailbroffilio'r rhaglen gyfalaf a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet.

 

Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £76,230k o gymharu â chyllideb net weithredol o £130,893k gan roi -£54,663k o amrywiant.

 

At hynny, roedd nifer o amgylchiadau allanol wedi arwain at bwysau cyllidebol ar sawl prosiect, ynghyd â phecyn o arian ac argymhellion newydd ar gyfer trosglwyddo ac ailbroffilio'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd i ddarparu ar gyfer y gwaith y manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet y grynodeb ynghylch ailbroffilio fel y dangosir yn y tablau yn Atodiad Bii yr adroddiad ac y byddai'r cyllid ar gyfer y prosiectau yn cael ei adolygu fel rhan o'r ymarfer i bennu a chymeradwyo'r rhaglen bum mlynedd newydd ar gyfer 2022/23-2026/27.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1    bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei    dderbyn;

9.2. cytuno ar y trosglwyddiadau, y prosiectau newydd a'r ailbroffilio fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

 

10.

SAFLEOEDD CYFLOGAETH GWLEDIG - CYTUNDEB CYD-FENTER pdf eicon PDF 409 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad a ddatblygwyd i fodloni'r galw am fannau cyflogaeth diwydiannol gwledig fel y nodwyd yn y cynllun Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin Wledig, Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru a Chynlluniau Twf y Deg Tref.

 

Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin fel awdurdod arweiniol ar gyfer y prosiect wedi datblygu cynigion cysyniad ar ran partneriaid awdurdodau lleol Rhanbarthol y De-orllewin a Llywodraeth Cymru a fyddai'n mynd i'r afael â phrinder lle cyflogaeth addas.  Y canlyniad oedd cynnig drafft i ddatblygu dull deuol fel a ganlyn:

 

·       Adeiladu lle cyflogaeth newydd drwy gyfrwng pedwar cytundeb menter ar y cyd unigol rhwng pob awdurdod a Llywodraeth Cymru.

 

·       Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol gydweithredol ranbarthol i gynorthwyo datblygwyr masnachol a/neu berchen-feddianwyr gyda chymorth cyllid llenwi bwlch i ddarparu lle cyflogaeth ychwanegol ar safleoedd strategol allweddol.

 

Dywedwyd wrth Aelodau'r Cabinet bod Llywodraeth Cymru yn ceisio prynu tir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar ystâd ddiwydiannol Beechwood gyda'r bwriad o ddatblygu lle cyflogaeth fel rhan o'i hymrwymiad ariannol i'r fenter ar y cyd.  Mae'r safle arfaethedig yn Beechwood, a ddangosir mewn coch ar y map lleoliad sydd wedi’i atodi, y tu allan i gytundeb cyd-fenter bresennol Beechwood, fel y dangosir mewn glas ar y map gan Lywodraeth Cymru ond roedd bob amser wedi cael ei glustnodi ar gyfer cynlluniau ehangu yn y dyfodol.

 

Ynghyd â'r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad, bu Aelodau'r Cabinet yn ystyried telerau drafft y fenter ar y cyd ynghyd â'r strategaeth ddatblygu a'r map lleoliad sydd wedi'u hatodi i'r adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1 bod trefniant i sefydlu Cyd-fenter gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo’n ffurfiol gyda'r nod o ddarparu unedau diwydiannol i fodloni'r galw yn unrhyw un o'r deg tref wledig yn Sir Gaerfyrddin;

 

10.2 bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Adfywio a Phennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Adfywio, i gwblhau'r Cytundeb Menter ar y Cyd.

 

10.3 cytuno i werthu llain o dir ar safle cyflogaeth Beechwood, Llandeilo i Lywodraeth Cymru i alluogi Llywodraeth Cymru i gyflwyno datblygiad diwydiannol o dan drefniant arfaethedig y fenter ar y cyd.

 

10.4 cytuno i ymrwymo'r swm o tua £50k o'r gwerthiant tir yn Beechwood fel cyfraniad cychwynnol Cyngor Sir Caerfyrddin tuag at drefniadau'r Cyd-fenter.

 

10.5   cytuno i neilltuo hyd at £1 miliwn o flwyddyn 2 Cronfa Gyfalaf y Prosiectau Trawsnewid Strategol i gyfateb i fuddsoddiad cychwynnol o £1m gan Lywodraeth Cymru i'r fenter ar y cyd ar gyfer datblygu safleoedd cyflogaeth wledig.

 

 

11.

YMATEB I LLIFOGYDD MEWN ARGYFWNG - TREFNIADAU DIGWYDDIADAU STORM pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad ar yr Ymateb i Lifogydd Mewn Argyfwng - Trefniadau Digwyddiadau Storm.  Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth fanwl am sut mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn delio â digwyddiadau stormydd sy'n achosi llifogydd eang ac yn ymateb iddynt ac yn cynnwys y camau y gellid eu disgwyl gan y Cyngor.

 

Yn ogystal, darparodd yr adroddiad wybodaeth am y camau gweithredu o ran yr ymateb brys a oedd yn cynnwys y cyfnod cynllunio cyn y stormydd, y cyfnod ymateb uniongyrchol a'r cyfnod adfer yn dilyn y stormydd, ynghyd â'r gwaith glanhau. Cyfeiriwyd hefyd at agweddau ehangach yr ymateb yn ystod y cyfnod adfer ar ôl y digwyddiad.

 

 

Gofynnodd yr adroddiad i'r Cabinet ystyried a chymeradwyo'r egwyddorion arfaethedig ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau llifogydd yn ystod argyfwng fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Er bod y Cyngor yn gwneud cymaint ag y gall o fewn ei gyfrifoldeb diffiniedig, mynegodd Aelodau'r Cabinet fod yr adroddiad hwn yn dangos yn glir i'r cyhoedd fod nifer o sefydliadau, asiantaethau ac awdurdodau partner eraill sydd hefyd yn gyfrifol am ddelio â pherygl llifogydd a stormydd a'u rheoli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i gymeradwyo'r egwyddorion a nodwyd yn yr adroddiad ar gyfer ymateb i lifogydd yn ystod y cam ymateb i argyfwng fel a ganlyn:

 

a.   rhaid blaenoriaethu ymateb sylfaenol y Cyngor pan fo stormydd o ran y risg i fywyd, risg o anaf a risg i asedau strategol, gan ystyried ei rwymedigaethau mewn perthynas ag asedau sy'n eiddo i'r Cyngor a chyfrifoldebau statudol ehangach sy'n ymwneud â'r amgylchiadau.

 

b.   bydd y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Dyfed Powys ac ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor i benderfynu ar ei ymateb drwy nodi ei amcanion, ei strategaeth gyffredinol a'i flaenoriaethau fel y bo'n briodol.

 

c.   Bydd achosion o lifogydd mewnol yn cael blaenoriaeth dros lifogydd mewn gerddi ac adeiladau allanol, yn enwedig lle credir bod asedau'r Cyngor yn ffactorau sy’n cyfrannu at hyn. Dylid nodi yn gyffredinol nad yw cyrsiau d?r yn eiddo i'r Awdurdod na Chyfoeth Naturiol Cymru.Fel arfer, cyfrifoldeb tirfeddianwyr glannau afon yw cyrsiau d?r o'r fath.

 

d.   Bydd perchnogion tai a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol yn cael eu hannog i wneud paratoadau cyn digwyddiadau storm er mwyn lliniaru maint difrod y llifogydd i'w heiddo eu hunain.

 

e.   Er bod y Cyngor yn fodlon rhoi rhybudd i fusnesau am stormydd sydd ar y ffordd yn seiliedig ar y rhagolygon y mae'n ei dderbyn, ni ellir dibynnu ar y Cyngor yn hyn o beth fel y brif ffynhonnell wybodaeth gan na all y Cyngor ddarparu gwasanaeth ffurfiol sy'n rhybuddio am lifogydd. Anogir busnesau a deiliaid tai i ymuno â systemau rhybuddio Cyfoeth Naturiol Cymru lle bo hynny ar gael.

 

f.     Aelwydydd a Busnesau - bydd maint y cymorth corfforol a ddarperir yn syth ar ôl digwyddiad llifogydd, os yw'n briodol, yn cael ei bennu ar sail graddfa, natur a difrifoldeb digwyddiad o'r fath. Pennir hyn gan Gr?p Rheoli Aur y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.

12.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau