Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Tremlett.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR Y 27AIN MEDI, 2021. pdf eicon PDF 422 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021, gan eu bod yn gywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2019/21 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin a fabwysiadwyd, a oedd wedi'i baratoi'n unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005. Er gwaethaf barnu bod cynnydd wedi'i wneud o ran gweithredu llawer o bolisïau ac amcanion y Cynllun a fabwysiadwyd, roedd elfennau a rhannau ohono nad oeddent yn cael eu cyflawni yn ôl y bwriad. Roedd Pandemig Covid-19 a'r cyfyngiadau cysylltiedig wedi ychwanegu at y broblem. Yn hyn o beth, roedd yn anochel bod rhai o ganfyddiadau'r Adroddiad hwn yn adleisio'r heriau a brofwyd gan rai sectorau a chymdeithas.

Yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, byddai'r Adroddiad yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2021. Byddai ymgynghoriad anffurfiol yn cyd-fynd â hyn a fyddai'n rhoi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd. Er nad oedd yn ofyniad statudol, roedd ymgynghoriad o'r fath yn gyfle pwysig i gyflwyno sylwadau, a lle bo'n briodol, i'r sylwadau hynny gyfrannu at gynnwys Adroddiadau Monitro Blynyddol dilynol.Byddai cynnwys yr Adroddiad Monitro Blynyddol presennol, ynghyd â chynnwys y tair dogfen flaenorol, yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol  Diwygiedig 2018 – 2033 a'i sylfaen dystiolaeth gysylltiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, ac awdurdodi swyddogion i wneud newidiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen i wella ei eglurder a'i gywirdeb.

 

7.

STRATEGAETH WASTRAFF I'R DYFODOL. pdf eicon PDF 674 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Strategaeth Wastraff arfaethedig Sir Gaerfyrddin 2021-2025, a oedd yn manylu ar yr ystyriaethau, y mesurau a'r strategaeth arfaethedig ar gyfer gwella'r gwasanaeth casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd yn y dyfodol, er mwyn cyflawni'r mesurau a nodwyd yn strategaethau Llywodraeth Cymru 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' a 'Mwy nag Ailgylchu'. Er bod y model gwasanaeth presennol wedi galluogi'r Awdurdod i ragori ar y targed statudol o 64%, barnwyd bod angen newid pellach i gyrraedd y targed ailgylchu o 70% o 2024/25, y targed disgwyliedig o 80% erbyn 2030 a darparu sylfaen ar gyfer gwelliannau i sicrhau dim gwastraff erbyn 2050.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 cymeradwyo'r cyfeiriad a bennwyd ar gyfer y gwasanaeth, sef ateb dros dro ac yna newid mwy hirdymor i'r gwasanaeth, gan gynnwys y cynigion interim canlynol:

·     symud i gasgliadau ailgylchu wythnosol;

·     newid i gasgliadau gwastraff gweddilliol bob tair wythnos;

·     casglu gwydr ar wahân wrth ymyl y ffordd (bob 3 wythnos am y tro);

 

7.2   dechrau prynu'r cerbydau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer yr ateb dros dro;

 

7.3   datblygu'r rhaglen o newid mwy hirdymor i'r gwasanaeth er mwyn symud yn 2024

·        i gasgliadau ailgylchu sy'n cydymffurfio â "Glasbrint" Llywodraeth Cymru

·       ailgylchu gwydr wythnosol fel rhan o ddull casglu didoli wrth ymyl y ffordd;

·       casglu deunydd ychwanegol – tecstilau, Offer Domestig Bach a batris.

 

8.

EFFAITH PWYSAU CENEDLAETHOL O RAN GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL. pdf eicon PDF 567 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cabinet, o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, fod gan Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i gynghori Cynghorwyr ynghylch - ymysg pethau eraill - yr heriau, y risgiau a'r amgylchiadau lle roedd materion staffio'n effeithio ar allu'r awdurdod i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, ac i friffio'r Prif Weithredwr a'r Cynghorwyr ynghylch materion oedd yn debygol o achosi pryder ymhlith y cyhoedd a strategaethau i ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny.

Yn unol â hynny, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar yr heriau oedd yn  wynebu Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn deillio o'r pandemig COVID-19, effaith hyn ar drigolion Sir Gaerfyrddin, a rhai o'r camau oedd yn cael eu cymryd i leihau'r effaith honno. Er bod y pwysau ar ei fwyaf yn y gwasanaethau i bobl h?n, roedd yr adroddiad yn nodi hefyd bwysau ym meysydd Iechyd Meddwl, Anableddau Dysgu a'r Gwasanaethau Plant. Roedd yr adroddiad yn nodi y byddai unrhyw risgiau sylweddol yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn ofalus a byddid yn adrodd yn eu cylch lle bo'r angen. Sicrhawyd y Cabinet fod y sefyllfa'n cael ei rheoli'n lleol ond roedd yn anochel yn effeithio ar ansawdd y gofal roedd unigolion yn ei gael a darpariaeth gyffredinol y gofal hwnnw. Nodwyd bod gan yr Awdurdod system gadarn o adrodd, gwneud penderfyniadau a rheoli ar waith ar ffurf llinellau corfforaethol clir ac arweinyddiaeth wleidyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi cynnwys yr adroddiad a'r goblygiadau a'r camau allweddol oedd yn cael eu cymryd.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau