Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 13eg Medi, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 26 GORFFENNAF 2021 pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

POLISI TRIN DATA PERSONOL pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y 'Polisi Trin Data Personol' newydd a fyddai'n disodli'r 'Polisi Trin Gwybodaeth Bersonol' a'r 'Polisi Rhoi Gwybod am Achosion o Dorri Rheoli ac Ymateb Iddynt’', ac roedd y ddau bolisi wedi mynd y tu hwnt i'w dyddiadau adolygu ac roedd angen eu diweddaru.  Nododd Aelodau'r Cabinet fod y polisi newydd yn adlewyrchu'r newidiadau mewn arferion gwaith, y defnydd o TG newydd a phenderfyniadau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Trin Data Personol'.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-21 pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-21, a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021-24, a oedd yn manylu ar sut yr oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ac wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Penodol Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y Cynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig a'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-24, a oedd fel a ganlyn:-

 

1.    Bod yn gyflogwr arweiniol

2.    Mae anghenion a hawliau pobl â Nodweddion Gwarchodedig yn llywio dyluniad gwasanaethau

3.    Cymunedau diogel a chydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal

4.    Gwella mynediad i'n gwasanaethau a'n hamgylchedd.

 

Gan edrych yn ôl ar effaith y pandemig ar gymunedau a dinasyddion Sir Gaerfyrddin, dywedwyd y byddai sylw dyledus yn cael ei roi i'r cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a Dyletswyddau'r Sector Cyhoeddus ac y byddai’r grwpiau gwarchodedig yn cael eu cynnwys yn y broses o ailadeiladu ac adfer gwasanaethau.  At hynny, tynnwyd sylw at y ffaith mai 2020-21 oedd blwyddyn gyntaf y Cyngor o weithredu ei Galendr Hybu Amrywiaeth a Chydraddoldeb a'r Faner a'r protocol goleuo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2020-21 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol o ran yr iaith Gymraeg a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2020-21. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd er gwaethaf y rhwystrau ymarferol a achoswyd yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd astudiaethau achos a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ddulliau dysgu ar-lein arloesol newydd a oedd wedi'u rhoi ar waith yn llwyddiannus yn dilyn y cyfleoedd newydd a ddaeth i law o ganlyniad i'r pandemig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2020-21.

 

 

9.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR - 2020/2021 pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw'r Cyngor a oedd yn rhoi sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn i aelodau mewn perthynas â 2020/21.

 

Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19 yn ogystal â'r gefnogaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y ffigurau alldro terfynol yn dangos tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £1,434k.  Ar ôl ystyried y tanwariant ar daliadau cyfalaf a'r symudiad mewn cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a chronfeydd wrth gefn Adrannol, roedd y sefyllfa net ar gyfer yr Awdurdod yn golygu tanwariant o £814k.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion ar y gwariant a'r incwm mewn perthynas â Covid-19.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod y tanwariant yn deillio o gyfuniad o'r cyllid grant ychwanegol sylweddol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn, a oedd hefyd yn cynnwys cyllid o tua £5m ar gyfer ysgolion.  Y costau ychwanegol yn gysylltiedig â COVID19 a'r incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.  Roedd gwasanaethau wedi cael eu hatal neu eu lleihau oherwydd y cyfyngiadau symud a'r angen i gadw pellter cymdeithasol yn ogystal â swyddi gwag staff.

 

Nododd yr Aelodau hefyd fod lefelau casglu'r Dreth Gyngor yn is wrth gymharu â'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, er bod modd defnyddio'r cyllid penodol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gostyngiad hwn.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai a oedd ynghlwm i'r adroddiad yn Atodiad B yn rhagweld y byddai tanwariant o £3,0603K ar gyfer 2020/21. Dywedwyd bod hyn o ganlyniad i ostyngiad cyffredinol yn y galw oherwydd COVID19, gyda dim ond gwasanaethu brys a gwasanaethau deddfwriaethol yn cael eu cyflawni am gyfnodau sylweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw y Cyngor ar gyfer diwedd blwyddyn 2020/21 yn cael ei dderbyn.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR - 1 EBRILL 2021 - 30 MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2021, o ran 2021/2022.  Er bod maint ymateb COVID19 yn lleihau, roedd sefyllfa'r gyllideb yn cydnabod y pwysau ariannol parhaus a wynebir gan yr Awdurdod yn ogystal â'r cymorth ariannol ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld tanwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £285k gyda thanwariant o £508k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.  Dywedwyd bod hyn o ganlyniad i gyfuniad o gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd a gafodd ei ad-dalu i raddau helaeth o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.  Hefyd, effeithiwyd ar rai gwasanaethau oherwydd iddynt gael eu hatal neu oherwydd y cyfyngiadau symud a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn chwarter 1.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet, o ran cyllidebau Ebrill-Mehefin, fod cyfanswm o £6 miliwn o ran gwariant ychwanegol a cholli incwm wedi'i hawlio o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.

 

Tynnwyd sylw'r Cabinet at y ffaith bod lefelau casglu'r Dreth Gyngor yn parhau i fod yn is na'r lefelau y cyllidebwyd ar eu cyfer, a byddai hyn yn  parhau i gael ei gael ei fonitro'n agos gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, yn enwedig wrth i'r cynllun ffyrlo ddod i ben.

 

Wrth nodi bod y gorwariant a ragwelwyd o £273k yn y Gwasanaethau Hamdden a Diwylliant, a bod adennill incwm a gollwyd yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru tan 30 Medi 2021, dywedwyd bod staff wrthi'n datblygu syniadau arloesol er mwyn hyrwyddo ac annog y cyhoedd i ddychwelyd i gyfleusterau hamdden ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn cynyddu refeniw incwm.

 

Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £1,476k ar gyfer 2021/22. Darparwyd manylion am hyn yn Atodiad B a oedd ynghlwm i'r adroddiad.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

10.1   Bod adroddiad monitro'r gyllideb yn cal ei dderbyn ac ystyriaeth yn cael ei roi i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

10.2   Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'i roi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

 

11.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2021/22 pdf eicon PDF 411 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2021/22 ar 30 Mehefin, 2021. 

 

Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £91,568k o gymharu â chyllideb net weithredol o £130,490k gan roi -£38,922k o amrywiant. Nododd Aelodau'r Cabinet fod yr amrywiant a oedd yn cael ei ragweld ar hyn o bryd yn ymwneud yn bennaf ag oedi gyda datblygiad Pentre Awel a rhai datblygiadau ysgol oherwydd y cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â phandemig COVID19.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys y Cyfrif Refeniw Tai gwreiddiol a'r Gronfa Gyffredinol, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth, llithriad o 2020/21.  Nodwyd bod rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Diweddariad y Rhaglen Gyfalaf 2021/22.

 

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2020-2021 pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2020-21.

 

Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2020-21 ar 3 Chwefror 2020.  Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2020-21.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn mabwysiadu’r Adroddiad Blynyddol 2020/21 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys.

 

 

13.

ARDAL TY-ISA/HEOL YR ORSAF pdf eicon PDF 622 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion y Cyngor ar gyfer Ardal Tyisha/Heol yr Orsaf yn Llanelli. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y gwaith a wnaed hyd yma, gan gynnwys dymchwel y fflatiau gwag yn y 4 "T?", ynghyd ag amlinellu blaenoriaethau allweddol eraill ar gyfer symud y rhaglen newid yn ei blaen.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am Lanelli, y weledigaeth ar gyfer Tyisha, tai ac adfywio Tyisha yn ogystal â gwybodaeth am y dyluniad a sut i gyflwyno barn a syniadau.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod ardal Tyisha yn Llanelli yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y cynlluniau ar gyfer datblygiad arfaethedig Pentre Awel a Chanol Tref Llanelli.  Nodwyd bod un o amcanion allweddol y cynnig yn anelu at ddatblygu cynllun trawsnewidiol i fynd i'r afael â'r materion sylweddol sy'n effeithio ar gymuned Tyisha a gwneud yr ardal yn lle bywiog i fyw a gweithio ynddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

13.1

nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma, a'i gymeradwyo, gan gynnwys dymchwel a chlirio safle’r "4 T?;

 

13.2

cymeradwyo'r blaenoriaethau allweddol wrth symud ymlaen

 

13.3

cytuno ar yr ymarfer rhagarweiniol i brofi'r farchnad a'r llyfryn marchnata cysylltiedig;

 

13.4

cytuno ar drefniadau llywodraethu'r rhaglen ar gyfer y dyfodol.

 

 

14.

CARTREFI CROESO pdf eicon PDF 541 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar gwmni Cartrefi Croeso, sef Cwmni Tai Lleol y Cyngor, a sefydlwyd yn 2018 i gefnogi'r Cyngor i ddarparu cartrefi fforddiadwy i'w gwerthu a'u rhentu gan sicrhau amrywiaeth o opsiynau i'w helpu i gyflawni ei ymrwymiad tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion a dyheadau tai fforddiadwy, gan gefnogi twf economaidd ac adfywio strategol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd a wnaed gan gwmni Cartrefi Croeso hyd yma ac yn mynd i'r afael â rôl y cwmni yn y dyfodol yn sgil yr amgylchiadau a oedd wedi codi yn dilyn sefydlu'r cwmni yn y lle cyntaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn esbonio sut y byddai'r Cyngor bellach yn arwain ar bob datblygiad tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg yn y dyfodol o ganlyniad i ddatblygu sgiliau a chapasiti yn sylweddol ar gyfer y dyfodol.  Byddai hyn yn caniatáu darparu cartrefi fforddiadwy newydd a fyddai'n parhau i gyfrannu’n sylweddol at adferiad economaidd y Sir, ar ôl COVID.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried y dull arfaethedig ar gyfer y dyfodol a fyddai'n galluogi'r Cyngor i arwain ar bob datblygiad tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg. Byddai'r dull hwn yn galluogi'r Cyngor ei hun i fanteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd ariannu, gan gynllunio, comisiynu a darparu'r holl dai fforddiadwy a ddarperir ledled y sir yn strategol.  Nododd Aelodau'r Cabinet y byddai'r opsiwn hwn yn lleihau costau parhaus y Cwmni yn sylweddol.  Er mwyn sicrhau bod cyfle i ddefnyddio'r Cwmni pe bai angen yn y dyfodol, ac os ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny, cynigiodd yr adroddiad y dylai Cartrefi Croeso gael ei ddynodi yn gwmni segur ond parhau i fodoli ar gofrestr y cwmnïau yn Nh?'r Cwmnïau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

14.1

Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran datblygiadau tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg Cartrefi Croeso;

 

14.2

Cadarnhau bod y Cyngor yn ymgymryd â'r holl ddatblygiadau tai fforddiadwy deiliadaeth gymysg yn y dyfodol a bod Cartrefi Croeso, fel cwmni, yn cael ei ddynodi yn segur ond yn parhau i fodoli ar gofrestr y cwmnïau yn Nh?'r Cwmniau;

 

14.3

Gweithredu'r broses gyfreithiol ar gyfer Cartrefi Croeso i roi'r gorau i fasnachu ond cael ei gadw fel Cwmni "segur", rhag ofn bydd y Cyngor am werthu cartrefi drwy'r cyfrwng hwn rywbryd yn y dyfodol;

 

14.4

Caniatáu i'r Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ac yn unol â'r trefniadau dirprwyo presennol, i weithredu ar ran y cyfranddaliwr (y Cyngor) mewn perthynas â'r Cytundeb Cyfranddaliwr.

 

 

15.

MESURAU MANNAU CYHOEDDUS COVID-19 pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnig opsiynau ynghyd ag argymhellion ar fesurau a gyflwynwyd mewn ymateb i bandemig Covid-19 yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

 

Nododd yr Aelodau Cabinet fod ymgynghoriad wedi’i gynnal gyda’r cyhoedd a busnesau rhwng 16 Tachwedd 2020 a 4 Ionawr 2021 a hynny ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid. Crynhowyd y prif ganfyddiadau yn adroddiad llawn yr ymgynghoriad a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.

 

Nodwyd bod llawer o'r newidiadau i'r mannau cyhoeddus wedi'u hategu drwy gyfrwng gorchmynion cyfreithiol a ddrafftiwyd naill ai dros dro neu ar sail arbrofol a oedd yn ddilys am hyd at 18 mis o ddechrau mis Awst 2020 gyda'r newidiadau canlynol yng nghanol y trefi yn cael eu rhoi ar waith:-

 

· Terfynau Cyflymder - Gorchmynion Dros Dro

· Newidiadau parcio - Gorchmynion Arbrofol

· Gwahardd Gyrru a Mynediad - Gorchmynion Dros Dro

 

Terfynau Cyflymder - Gorchmynion Dros Dro: Mae ymyriadau rheoli traffig o ran gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cynnig diogelwch ar y ffyrdd hirdymor a buddion teithio llesol ac roeddent yn unol â deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau cyflymder o 20mya mewn ardaloedd trefol.  Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid gwneud y gorchmynion terfyn cyflymder dros dro presennol, a oedd yn dod i ben ym mis Ionawr 2022, yn barhaol drwy broses statudol y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig fel y nodir yn atodlen 1 yr adroddiad.

 

Newidiadau parcio - Gorchmynion Arbrofol:  Roedd nifer o’r newidiadau i ardaloedd parcio wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac awgrymodd yr adroddiad y dylai rhain fod yn barhaol, ac fe’u rhestrir yn Atodlen 2 yr adroddiad. Serch hynny, dylid dileu rhai eraill nad oedd wedi bod mor llwyddiannus. Fe’u rhestrir yn Atodlen 3 yr adroddiad. 

 

Gwahardd Gyrru a Mynediad - Gorchmynion Dros Dro:  Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r opsiynau mewn perthynas â Rheoli Traffig (Mynediad yn Unig) a Cherddwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

15.1 bod y terfynau cyflymder a nodir yn Atodlen 1 yn cael eu hyrwyddo fel terfynau cyflymder parhaol.

 

15.2 bod y mannau parcio a nodir yn Atodlen 2 fel Gorchmynion Arbrofol yn cael eu cadarnhau fel rhai parhaol a bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn cael eu llunio yn unol â hynny.

 

15.3 bod y mannau parcio yng Nghaerfyrddin yn cael eu dileu fel y nodir yn Atodlen 3

 

15.4 bod y gorchymyn traffig 'Mynediad yn Unig' dros dro ar Heol y D?r, Caerfyrddin yn cael ei hyrwyddo fel un parhaol ac yn cael ei orfodi.

 

15.5 bod y mesurau i gerddwyr yng nghanol trefi Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu dileu gan nad oes eu hangen mwyach am resymau sy'n gysylltiedig â Covid (Opsiwn 2).

 

 

 

Cyn dirwyn y cyfarfod i ben, ac yn dilyn caniatâd y Cadeirydd, cyhoeddodd y Cynghorydd Tremlett fod y Cyngor Sir a Llesiant Delta ar ddydd Mercher, 8 Medi, 2021 wedi ennill y wobr Arian ar y cyd yn y categori Arloesi ar gyfer y Rhaglen Connect yng Ngwobrau Rhagoriaeth Trawsnewid y Sector Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llundain. Mynegodd yr Arweinydd ei longyfarchiadau i'r tîm  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 15.