Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

8 - Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin

Mae gan aelodau'r teulu fusnesau yn Sir Gaerfyrddin

E. Dole

9 - Cyllid Grant Adfywio ar gyfer y Dyfodol

Mae gan aelodau'r teulu fusnesau yn Sir Gaerfyrddin

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

3.1

24AIN O FAI 2021 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Mai, 2021, i nodi eu bod yn gywir.

 

 

 

3.2

1AF O FEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Mehefin 2021 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

POLISI TELEDU CYLCH CYFYNG Y CYNGOR pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am i'r Bwrdd gymeradwyo'r polisi corfforaethol newydd yn ymwneud â systemau teledu cylch cyfyng sy'n eiddo i'r cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos bod gan y Cyngor ar hyn o bryd fwy na 90 o systemau teledu cylch cyfyng a thros 600 o gamerâu yn ei safle, ynghyd â 79 cerbyd gyda thua 250 o gamerâu ac oddeutu 25 o gamerâu gwisg. Mae adrannau'r Cyngor yn defnyddio dyfeisiau camera gwyliadwriaeth ar gyfer amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys camerâu yn ei safle a'i feysydd parcio yn ogystal ag ar y briffordd, offer camerâu fideo a wisgir ar y corff, dronau a system adnabod rhifau cofrestru cerbydau yn awtomatig.

 

Amlinellodd yr adroddiad fod gan y Cyngor ddyletswydd, o dan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012, i roi sylw priodol i Gôd Ymarfer Camerâu Gwyliadwriaeth a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref yn 2013 a oedd yn ymwneud â chamerâu teledu cylch cyfyng mewn mannau cyhoeddus. Roedd yr adroddiad yn manylu ar 12 egwyddor arweiniol y Côd a fyddai'n sicrhau bod rhesymau clir dros bob camera, bod y camerâu yn cael eu defnyddio mewn modd cymesur a thryloyw, bod systemau yn cael eu cynnal yn effeithiol ac y gallent ddarparu delweddau o ansawdd da

 

Nododd y bwrdd fod y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddynodi Uwch-swyddog Cyfrifol i ddarparu ymagwedd gorfforaethol at ei gyfrifoldebau o dan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012. Roedd y rôl hon yn cael ei chyflawni gan Bennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol.

 

Yn ogystal â gweithredu polisi'r Cyngor ar gyfer teledu cylch cyfyng, roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am feysydd gwaith yn y dyfodol. Nodwyd bod cais ar gyfer adnodd pwrpasol 12 mis i arwain ar gyflawniad y gwaith hwn, mewn cydweithrediad â swyddogion arweiniol yr adrannau, i'r Gr?p Llywio Rheoli Risg yn llwyddiannus a byddai'r swydd bellach yn cael ei hysbysebu.

 

 

Roedd y Bwrdd yn fodlon ar nodi bod y Polisi wedi cael ei ddatblygu i sicrhau bod yr holl wasanaethau perthnasol yn cydymffurfio â'r Côd Ymarfer er mwyn sicrhau dull cyson o ran casglu, storio, defnyddio a gwaredu data sydd wedi'i gofnodi ar y system teledu cylch cyfyng.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1.     Bod y polisi corfforaethol newydd mewn perthynas â systemau teledu cylch cyfyng sy'n eiddo i'r Cyngor yn cael ei gymeradwyo;

6.2.     Bod Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu swyddogion arweiniol yr adrannau i helpu i weithredu'r polisi;

6.3.     Argymell i ysgolion y dylent fabwysiadu egwyddorion y polisi hwn.

 

 

 

7.

HYRWYDDO CAFFAEL BLAENGAR pdf eicon PDF 400 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl am hyrwyddo caffael blaengar ac yn cynnwys argymhellion mewn perthynas â hyn.

 

Yn wreiddiol, cynlluniwyd cyfleoedd caffael blaengar o dan brosiect caffael bwyd sector cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, a ariannwyd drwy gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru. Er ei fod yn dal i gael ei gefnogi drwy'r gwaith hwn, roedd sefyllfa COVID-19 wedi rhoi mwy o ffocws ac ysgogiad a chafwyd cyfle i ehangu cwmpas gwreiddiol y prosiect o fwyd yn unig i gwmpasu holl wariant caffael y Cyngor. Roedd gan y gwaith hwn gysylltiad agos iawn â chynllun adfer economaidd y Cyngor ac mae caffael blaengar yn un o themâu allweddol y cynllun hwnnw.

 

Roedd yr adroddiad a'r argymhellion yn benodol i'r Cyngor hwn ac roedd holl feysydd gwariant caffael y Cyngor wedi'u hystyried. Roedd swyddogion wedi gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol a oedd wedi cyflawni'r gwaith gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:

 

·       Adolygiad Strategol;

·       Adolygiad o'r dystiolaeth gan gynnwys dadansoddiad o'r economi leol; dadansoddiad o wariant; dadansoddiad o fylchau;

·       Ymgysylltu â rhanddeiliaid;

·       Adolygu a datblygu pecynnau cymorth sy'n bodoli eisoes;

·       Cynllun Gweithredu Hyrwyddo Caffael Blaengar.

 

Nododd y Bwrdd y 9 argymhelliad allweddol o'r adroddiad CLES a oedd yn cynnwys camau a awgrymwyd i wneud cynnydd yn erbyn yr argymhellion.

 

Roedd yr adroddiad yn awgrymu sefydlu gweithgor gyda chynrychiolaeth o dimau caffael, datblygu economaidd a pholisi corfforaethol y Cyngor, gyda chyfraniad a chymorth gan wasanaethau perthnasol eraill y Cyngor ac aelodau perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol i ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach. Byddai hyn yn ategu ac yn gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith caffael a datblygu economaidd newydd o ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynigwyd fel rhan o brosiect caffael bwyd y sector cyhoeddus.

 

Yn ogystal, byddai unrhyw newidiadau i bolisi a rheoliadau cyfredol y Cyngor o ganlyniad i'r gwaith pellach hwn yn cael eu cyflwyno yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1   Cymeradwyo'r 9 argymhelliad allweddol yn yr adroddiad i'w datblygu ymhellach a byddai unrhyw newidiadau i bolisi a rheoliadau cyfredol o ganlyniad i'r gwaith pellach hwn yn cael eu cyflwyno yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

 

7.2. Cefnogi ymagwedd Sir Gaerfyrddin yn gyntaf gyffredinol at wariant y Cyngor o dan £25K lle bynnag y bo modd.

 

7.3. Cytuno i sefydlu gweithgor swyddogion y Cyngor gyda chynrychiolaeth o wasanaethau caffael, datblygu economaidd a pholisi corfforaethol a gwasanaethau eraill y Cyngor ac aelodau perthnasol y Bwrdd Gweithredol fel y bo'n briodol. Bydd hyn yn ategu ac yn gweithio ochr yn ochr â rhwydwaith caffael a datblygu economaidd newydd o ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynigir fel rhan o brosiect caffael bwyd y sector cyhoeddus.

 

 

8.

CYNLLUN ADFER A CHYFLAWNI ECONOMAIDD SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth berthnasol am y Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd y cynllun yn nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi adferiad economi Sir Gaerfyrddin yn sgil effeithiau cymdeithasol ac economaidd y pandemig COVID-19 a Brexit.

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu bod y wybodaeth a gasglwyd yn dangos bod yr Awdurdod a'r economi leol yn wynebu cyfnod eithriadol o anodd yn ystod y 24 mis nesaf gan fod effeithiau argyfwng Covid-19 yn rhoi pwysau ar swyddi a galw.

 

Diben y cynllun oedd nodi'r blaenoriaethau tymor byr a'r camau cyntaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, sy'n diogelu swyddi a busnesau yn Sir Gaerfyrddin.

 

Nododd y Bwrdd ei fod yn hanfodol bod ymateb y Cyngor yn cyd-fynd ag anghenion busnesau a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, gan fanteisio ar gyfleoedd i gyflymu newid er mwyn galluogi llwyddiant yn economi'r dyfodol.

 

Daeth adolygiad annibynnol o'r Cynllun Adfer Economaidd Drafft a'r 11 thema a ddatblygwyd pan oedd ton gyntaf y pandemig ar ei gwaethaf i'r casgliad bod y Cyngor ar y trywydd iawn ond bod angen i ni ganolbwyntio ar ein blaenoriaethau, herio'r ffyrdd presennol o weithio i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i fusnesau a'i gwneud mor syml â phosibl i gefnogi adferiad a thwf yn yr economi.

 

Gan gyfeirio at dudalen 24 yr adroddiad a'r paragraff 'Twf sy'n deg, yn gyfartal ac yn cefnogi'r Gymraeg a diwylliant Cymru', cynigwyd ac eiliwyd y cynnig i newid y geiriad i ddarllen; At hynny, er mwyn cydnabod y ddynameg newidiol sy'n ymwneud â lle mae pobl yn dewis byw a gweithio, byddwn yn annog busnesau ledled y sir i werthfawrogi a defnyddio'r Gymraeg”.

 

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i reolaeth ariannol ddarbodus y Cyngor gan alluogi'r Cyngor i roi cymorth i'r economi yn ystod caledi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr effaith y mae Covid-19 yn ei chael ar economi, busnesau a chymunedau Sir Gaerfyrddin;

 

8.2 cymeradwyo'r cynllun adfer a chyflawni economaidd arfaethedig yn amodol ar gynnwys y newid a nodwyd uchod i dudalen 24 yr adroddiad;

 

8.3 rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf bob chwarter am berfformiad yn erbyn camau gweithredu’r cynllun cyflawni i'r Bwrdd Gweithredol.

 

 

9.

CYLLID GRANT ADFYWIO AR GYFER Y DYFODOL. pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am gyllid sydd ar gael a allai helpu i gyflwyno Cynllun Adfer Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin a cheisiwyd cadarnhad gan y Bwrdd Gweithredol o'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer cyflawni'r gwaith a oedd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

Nododd y Bwrdd fod y Rhaglen Trawsnewid Trefi newydd wedi'i haddasu i roi ffocws ehangach ar ganol trefi gan alluogi cyllid i gwmpasu amrywiaeth o brosiectau a restrir yn yr adroddiad.

 

Roedd y Rhaglen Trawsnewid Trefi newydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ei chwmpas ac felly argymhellwyd felly bod y cyllid newydd yn cwmpasu'r trefi canlynol; Llanelli, Rhydaman, Caerfyrddin, Porth Tywyn, Cydweli, Cwmaman, Cross Hands, Hendy-gwyn ar Daf, Talacharn, Sanclêr, Castellnewydd Emlyn, Llanybydder, Llandeilo a Llanymddyfri.

 

Argymhellwyd cynnwys Chwarter Bach yn y rhestr o drefi. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

Darparodd yr adroddiad wybodaeth fanwl am y fethodoleg arfaethedig ar gyfer rhyddhau cyllid adfywio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1 cefnogi'r fethodoleg arfaethedig ar gyfer gweinyddu'r cyllid grant adfywio ar gyfer y dyfodol sy'n cynnwys:

·Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid - Sir Gaerfyrddin

·Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin

·Cronfa Cychwyn Busnes

·Cronfa Tyfu Busnes

·Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

·            Cronfa Cymorth Sgiliau Busnes

·            Cyllid 10 Tref

·Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (yn flaenorol Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio yn flaenorol (TRI))

9.2   bod Chwarter Bach yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Trawsnewid Trefi newydd.

 

 

10.

ADRODDIAD CYNNYDD YNGHYLCH SEFYDLU CYD-BWYLLGOR CORFFORAETHOL DE-ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r gofyniad i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod dirprwyedig i swyddogion gychwyn trafodaethau gyda'r awdurdodau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn datblygu protocolau addas ar gyfer trefniadau'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn Ne-orllewin Cymru.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gosod gofyniad i Gyd-bwyllgorau Corfforaethol gael eu sefydlu, a bod Rheoliadau'n cael eu gwneud gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar 17 Mawrth 2021 i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru. Cafodd y swyddogaethau canlynol eu rhagnodi gan Weinidogion Llywodraeth Cymru fel rhai a oedd o fewn maes gorchwyl y Cyd-bwyllgor Corfforaethol:

 

1. Swyddogaeth llesiant economaidd;

2. Datblygu polisïau trafnidiaeth a pharatoi cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol;

3. Paratoi cynlluniau datblygu strategol.

 

Byddai llywodraethu yn elfen allweddol o Gyd-bwyllgorau Corfforaethol ac mae'n rhaid ystyried nifer o ffactorau gan Gyd-bwyllgorau Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1 nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud a'r camau nesaf sydd angen eu cymryd mewn perthynas â'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru;

 

10.2 dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, i gytuno ar gais am fenthyciad ar gyfer cyllid grant sy'n cael ei wneud i Lywodraeth Cymru er mwyn sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru a derbyn unrhyw gynnig grant allai gael ei wneud gan Lywodraeth Cymru (boed yn cael ei wneud i'r Cyngor hwn neu i Gyngor arall sy'n cymryd rhan yng Nghyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru);

 

10.3 dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr gychwyn trafod gyda'r Awdurdodau hynny a fydd wedi'u cynnwys yng Nghyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i ddatblygu cynigion ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru;

 

10.4 cyflwyno adroddiad pellach yn nodi'r diweddaraf o ran cynnydd.

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau