Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 26ain Ebrill, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian M Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Ar yr adeg hon cyfeiriodd y Cadeirydd at y digwyddiad yng nghanolfan ailgylchu Nant-y-caws a gwahoddodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Hazel Evans wybod i'r Bwrdd fod tân wedi cychwyn yng nghanolfan ailgylchu Nant-y-caws, Caerfyrddin ddydd Sadwrn 24 Ebrill 2021. Cafodd y larwm ei seinio am oddeutu 3.30pm, gan rybuddio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a gyrhaeddodd ac a lwyddodd i reoli'r tân yn llwyddiannus. Rhoddwyd gwybod ei fod yn dân sylweddol a oedd wedi digwydd yn y Cyfleuster Adennill Deunyddiau, lle mae'r bagiau glas sy'n cynnwys gwastraff y gellir ei ailgylchu yn cael eu cymryd i'w didoli. Yn ffodus, ni chafodd neb ei anafu o ganlyniad i'r digwyddiad gan fod y tân wedi digwydd ar ôl shifft.

 


 

 

Yn ogystal, dywedodd y Cynghorydd Evans ei bod yn braf nodi bod CWM Environmental Ltd wedi cadw'r sefyllfa dan reolaeth yn unol â'i weithdrefn tân. Ar hyn o bryd roedd y cwmni'n gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Tân a byddai ymchwiliad i'r achos yn cael ei wneud cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi ymweld â'r safle i asesu'r sefyllfa.

 

Er mwyn diogelu'r amgylchedd lleol, rhoddwyd y cynllun rheoli d?r ar waith yn llwyddiannus i ymdrin â'r d?r ffo drwy chwistrellu d?r i reoli'r tân. Cafodd y d?r ei reoli a'i ddal yn y morlyn ar y safle.

 

Cymerodd y Cynghorydd Evans y cyfle hwn i ddiolch yn ddiffuant i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, CWM Environmental Ltd a swyddogion y Cyngor am eu hymateb cyflym o ran ymdrin â'r sefyllfa hon. Mae ein timau mewnol, ynghyd â CWM Environmental Ltd, hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl ar y cyhoedd.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Glynog Davies

10.          10 - Canol Tref Llanelli - 8/12 Stryd Vaughan.

 

Mae gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol yn yr eiddo cyfagos.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 12FED EBRILL, 2021 pdf eicon PDF 382 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 12 Ebrill, 2021 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CYLCH GWAITH BWRDD CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gydsyniad y Bwrdd i argymell i'r Cyngor fod Cylch Gwaith Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei ddiwygio gyda'r bwriad o'i ymgorffori yng Nghyfansoddiad y Cyngor.

 


Rhoddwyd gwybod bod Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed yn bodoli ochr yn ochr â Phwyllgor y Gronfa Bensiwn a'i fod yn cynorthwyo'r Awdurdod Gweinyddu i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau a'r gofynion a osodir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Roedd hefyd yn helpu i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei lywodraethu a'i weinyddu'n effeithiol ac yn effeithlon.

 

Roedd y Cylch Gwaith a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 19 Ionawr 2015 i ddechrau, sef pryd y sefydlwyd Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed, wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu'r arferion presennol a chynigiwyd y newidiadau canlynol yn yr adroddiad:

 

·       Gall y Bwrdd gytuno i gyflwyno adroddiadau i'r Pwyllgor Pensiynau lle bo hynny'n briodol.

 

·       Yn flaenorol, gellid ymestyn dyddiadau tymhorau aelodau'r Bwrdd am gyfnod pellach o 3 mis oherwydd amgylchiadau eithriadol. Mae hyn wedi cael ei ddiwygio i hyd at flwyddyn.

 

·       Yn flaenorol, gallai Cadeirydd y Bwrdd fynd i gyfarfodydd y Pwyllgor fel arsylwr, ond, mae'r Cylch Gwaith wedi cael ei ddiweddaru i ganiatáu i'r Cadeirydd adrodd yn ffurfiol i'r Pwyllgor ar faterion y Bwrdd.

 

·       Yn flaenorol, gallai Cadeirydd y Pwyllgor fynd i gyfarfodydd y Bwrdd fel arsylwr, ond, diweddarwyd hyn er mwyn caniatáu i Gadeirydd y Pwyllgor adrodd yn ffurfiol i'r Bwrdd lle bo angen.

 

·       Mae 7 aelod o'r Bwrdd, ac nid oedd gan y Cadeirydd hawl i bleidleisio yn flaenorol. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer pleidlais gyfartal, ond bellach bydd y Cadeirydd yn cael pleidleisio mewn sefyllfa lle ceir pleidlais gyfartal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod Cylch Gwaith Bwrdd Cronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei ddiwygio fel y nodir yn yr adroddiad a'i gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor. 

 

 

7.

DATBLYGU HEN SAFLE GRILLO, PORTH TYWYN pdf eicon PDF 458 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gydsyniad y Bwrdd i waredu hen safle Grillo a Safle 6, Porth Tywyn, drwy weithdrefn gaffael agored, er mwyn darparu cynllun preswyl ynghyd â dibenion masnachol posibl.

 

Nododd y Bwrdd fod y safle datblygu 12.9 erw, a amlygwyd yn Atodiad 1, ynghlwm wrth yr adroddiad yn elfen allweddol o ddyheadau adfywio'r Cyngor ar gyfer Porth Tywyn ac yn rhan o Brif Gynllun Porth Tywyn. Yr amcan ar gyfer y Prif Gynllun oedd sicrhau llesiant Porth Tywyn a'r ardaloedd cyfagos yn y dyfodol drwy greu datblygiadau preswyl, hamdden a chyflogaeth, a fyddai'n hyrwyddo Porth Tywyn fel lle i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

 


 

 

Yn ogystal, byddai'r safle yn rhan o gam cyntaf y datblygiad hwn drwy adfywio tir llwyd, er mwyn darparu oddeutu 320 o gartrefi newydd a chyfleusterau hamdden a manwerthu posibl. Nododd y Bwrdd y byddai oddeutu 2.28 erw o dir ar safle cyfagos arall yn cael ei gyflwyno fel yr ail gam yn ddiweddarach i ddarparu oddeutu 40 o unedau preswyl, a hynny ar lan y glannau.

 

Mynegwyd bod yn bwysig cefnogi'r economi leol drwy annog busnesau lleol i dendro cyn belled â phosibl wrth ddilyn y rheolau caffael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo gwaredu hen safle Grillo a Safle 6, Porth Tywyn, drwy weithdrefn gaffael agored, er mwyn darparu cynllun preswyl ynghyd â dibenion masnachol posibl.

 

 

8.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

10.

CANOL TREF LLANELLI - 8/12 STRYD VAUGHAN

Cofnodion:

[Sylwer: Ar ôl datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach, cymerodd y Cynghorydd Davies ran yn y broses o drafod a phenderfynu ar yr adroddiad].

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl am gynnig i gaffael 8/12 Stryd Vaughan, Llanelli yn unol â'r telerau a bennir. Byddai'r eiddo, sydd mewn man manteisiol yng nghanol tref Llanelli, yn hwyluso dyheadau'r Awdurdod i adfywio'r dref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cynnig i gaffael 8/12 Stryd Vaughan, Llanelli yn unol â'r telerau a bennir yn yr adroddiad.