Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 25ain Ionawr, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr Aelod

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

E. Dole

5 - Pleidlais adnewyddu Ardal Gwella Busnes (AGB) Llanelli

Wedi cynrychioli'r Cyngor ar y Gr?p AGB.

 

 

3.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

PLEIDLAIS ADNEWYDDU ARDAL GWELLA BUSNES (AGB) LLANELLI pdf eicon PDF 576 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd E. Dole wedi datgan buddiant nad oedd yn rhagfarnol yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gefnogaeth i 'Ymlaen Llanelli' gynnal pleidlais adnewyddu ar gyfer Ardal Gwella Busnes (AGB) Llanelli am dymor newydd o 5 mlynedd, o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2026.

Ers ei dechrau roedd yr AGB wedi ceisio gwella Llanelli fel lle i bobl fyw ac ymweld ag ef. Yn ystod ail gyfnod cyflawni pum mlynedd arfaethedig yr AGB, amcangyfrifir y byddai £456,095 yn cael ei gasglu drwy ardoll o 1.25% ar werth ardrethol eiddo masnachol yn ardal gyflawni'r AGB a fyddai'n cael ei ailfuddsoddi mewn prosiectau a gwasanaethau a fyddai o fudd i fusnesau yng nghanol y dref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1 cefnogi bod 'Ymlaen Llanelli' yn cynnal pleidlais ffurfiol ynghylch a yw busnesau ardrethol cymwys y dref yn dymuno adnewyddu Ardal Gwella Busnes Llanelli am ail dymor o 5 mlynedd, o 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2026;

5.2 rhoi cefnogaeth i egwyddor ail dymor arfaethedig yr AGB a phleidleisio o ran ei 24 eiddo ardrethol sy'n eiddo i'r Cyngor ac yr effeithir arnynt o fewn y parth AGB (amcangyfrif o gost flynyddol yr ardoll yw £14,841.25 ynghyd â chwyddiant o 2% y flwyddyn);

5.3 cytuno ar egwyddor ymgymryd â chasglu ardoll yr AGB fel y nodwyd yn y Cytundeb Gweithredol ar ran 'Ymlaen Llanelli' am gost o tua £3,494.98 y flwyddyn;

5.4  cymeradwyo'r Datganiad o Wasanaethau Sylfaenol ar gyfer Cwmni'r AGB, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad;

5.5   enwebu'r Cynghorydd E. Dole i fod ar Fwrdd Cwmni'r AGB;

5.6 cytuno i reoli proses bleidleisio'r AGB heb ffi ar ran 'Ymlaen Llanelli’. 

 

6.

CYNLLUN ARGYFWNG BYSIAU 2 LLYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 442 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi'r cyd-destun ehangach, y cefndir a'r rhesymau dros Gynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES) Llywodraeth Cymru ac yn gofyn am gytundeb y Bwrdd Gweithredol i ymuno â chynllun BES2.   Roedd angen y cynllun i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnal. Byddai unrhyw ostyngiad yng nghyllid BES2 nad yw'n cael ei gyflenwi drwy gynnydd mewn refeniw tocynnau yn rhoi pwysau ar unrhyw gontractau bysiau cymorthdaledig y Cyngor.  Pwysleisiwyd na fyddai'r diwydiant bysiau yn goroesi'r argyfwng heb gymorth BES2 ac y byddai llawer o lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu colli.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 cytuno ag egwyddorion cytundeb BES 2 i sicrhau cymorth ariannol (amodol) i'r sector bysiau ac i sefydlu perthynas â'u hawdurdod arweiniol rhanbarthol a'u llofnodwr, sy'n sicrhau bod yr arian brys parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdod ac yn cael ei ddarparu ar ei ran. 

6.2 nodi'r gofyniad i'r cytundeb cyfreithiol presennol ar gyfer y Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau gael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r gofynion ar gyfer cytundeb BES2;

6.3 ystyried adroddiad pellach maes o law ar gynigion diwygio ehangach o ran bysiau sy'n ymwneud â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol yn dilyn cyfarfod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ag Aelodau'r Bwrdd Gweithredol a'r Gweinidog ar ddechrau 2021.

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 361 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2020, o ran 2020/2021. Roedd y sefyllfa gyllidebol yn cydnabod y pwysau ychwanegol sylweddol a roddwyd ar yr Awdurdod wrth ymateb i bandemig Covid-19. 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £1,226k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £2,426k ar lefel adrannol.  Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen yn deillio o gyfuniad o gostau ychwanegol na ellid eu hadennill o ganlyniad i weithgarwch Covid-19, incwm a ildiwyd o ran gwasanaethau a oedd wedi cau yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol ac a oedd yn parhau i gael llai o refeniw, na chaiff ei ad-dalu'n llawn o bosibl gan Lywodraeth Cymru, a chynigion arbedion arfaethedig a oedd naill ai wedi cael eu lleihau neu eu gohirio oherwydd y pandemig neu nad oedd modd eu cyflawni o bosib oherwydd gweithrediadau gwasanaethau presennol.

Roedd yr Awdurdod yn parhau i gyflwyno hawliad caledi misol i Lywodraeth Cymru am wariant Covid-19 ychwanegol. Er bod y rhan fwyaf o'r costau'n cael eu had-dalu, roedd rhai'n cael eu hystyried yn anghymwys, yn enwedig y rheiny sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau lleol.

Yng ngoleuni'r gorwariant sylweddol a ragwelwyd ar lefel adrannol, gofynnwyd i Brif Swyddogion a Phenaethiaid Gwasanaeth adolygu'r opsiynau a oedd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau yr oedd Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd R. James wedi gofyn am ganiatâd yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 11.1 i ofyn cwestiwn mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd James at y cynnig yn y gyllideb ddrafft i arbed tua £1m yn y rhaglen rhesymoli ysgolion a gofynnodd pryd y byddai mwy o fanylion am ddyfodol y ddarpariaeth addysg yn Sir Gaerfyrddin ar gael.

 

Ymatebodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau drwy ddweud bod yr adroddiad gerbron y Bwrdd yn ymwneud â chyllideb y flwyddyn gyfredol a bod y gyllideb ddrafft yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd a byddai aelodau'n cael cyfle i godi materion fel yr uchod yn ystod y cyfnod ymgynghori hwnnw. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod nifer o gynlluniau'n cael eu harchwilio a oedd yn cynnwys buddsoddi mewn adeiladau ysgolion ledled y sir. Ymhlith y cynigion sy'n rhan o'r ymgynghoriad ar y gyllideb ar hyn o bryd roedd adolygiad o ôl troed ysgolion cynradd y sir a buddsoddiad mewn darparu darpariaeth addysg fwy cynaliadwy.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.1     Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol.

7.2   Bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt yn feirniadol i gyfyngu ar y gorwariant a ragwelwyd ar gyllidebau, yn ogystal â chydnabod y pwysau y mae Covid-19 wedi'u rhoi ar gyllideb gyffredinol yr Awdurdod.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2020/21 pdf eicon PDF 415 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa  gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2020/21 fel yr oedd ar 31 Hydref, 2020, ac yn nodi cyfres o drosglwyddiadau y gofynnwyd i'r Bwrdd Gweithredol eu cymeradwyo. 

 

Yn adrannol, dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net o £51,198k o gymharu â chyllideb net weithredol o £114,351k gan roi -£63,153k o amrywiant.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at un trosglwyddiad yr oedd angen ei gymeradwyo a’r cynlluniau ychwanegol canlynol, a oedd wedi cael cyllid uniongyrchol, i'r Rhaglen Gyfalaf:-

 

­   Tai'r Sector Cyhoeddus;

­   Grantiau Gwella Mynediad i Hawliau Tramwy;

­   Parc Gwledig Llyn Llech Owain.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1     Derbyn adroddiad diweddaru'r rhaglen gyfalaf.

8.2     Cymeradwyo'r trosglwyddiadau y manylir arnynt yn yr adroddiad.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.