Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|||||||||||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2020 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||
GORCHMYNION DATBLYGU LLEOL CANOL TREF CAERFYRDDIN A CHANOL TREF RHYDAMAN PDF 596 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Gorchmynion Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin a Chanol Tref Rhydaman. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y rôl bosibl y gallai Gorchmynion Datblygu Lleol ei chwarae fel rhan o gynigion adfywio ehangach yng nghyd-destun Canol y Dref, yn enwedig o ran Caerfyrddin a Rhydaman wrth gefnogi'r Fenter Lleoedd Llewyrchus a sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll effeithiau economaidd COVID-19. Roedd y cynigion hefyd yn rhoi sylw dyledus i Gynllun Adfer Corfforaethol y Cyngor a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru – 'Adeiladu Lleoedd Gwell’.
Nodwyd bod Gorchymyn Datblygu Lleol yn rhoi cyfle i Awdurdod Cynllunio Lleol symleiddio'r broses gynllunio drwy ddileu'r angen i ddatblygwyr/ymgeiswyr gyflwyno cais cynllunio i'r Awdurdod ac i gyflwyno cynigion datblygu fel cais am Orchymyn Datblygu Lleol, gan ganiatáu i awdurdod weithredu'n rhagweithiol mewn ymateb i amgylchiadau lleol penodol yn ei ardal ddaearyddol.
Cyfeiriwyd at y cynnig i gynnwys rhan isaf Heol Awst, Caerfyrddin yn rhan o'r Gorchymyn Datblygu Lleol ar gyfer Canol Tref Caerfyrddin. Mynegwyd barn y dylid cynnwys y stryd honno yn ei chyfanrwydd yn y cynnig drafft a bod argymhelliad i'r perwyl hwnnw'n cael ei wneud i'r Cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o ran materion brys.
|