Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 13eg Gorffennaf, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Nodyn: Rhith-gyfarfod. Gall aelodau'r cyhoedd weld y cyfarfod yn fyw trwy wefan yr Awdurdod. Os oes angen cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg arnoch yn ystod y cyfarfod, ffoniwch y rhif ar yr agenda. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P.M. Hughes.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

G. Davies

(mynegodd ddatganiad o ddiddordeb ar wahân o dan eitem 8)

8 – Gostyngiadau Rhent i Denantiaid Busnes

Mae'n Gyfarwyddwr cwmni sydd mewn adeilad sy'n berchen i Gyngor Sir Caerfyrddin.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 29 MEHEFIN 2020 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2020, gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

 

6.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

8.

TENANTIAID BUSNES - GOSTYNGIADAU RHENT

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 7 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yn yr achos hwn mae'r budd i'r cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn, yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn achosi niwed i'r busnesau y mae'r adroddiad yn berthnasol iddynt, gan danseilio'u safle yn y farchnad ac o bosibl rhoi swyddi mewn perygl ac achosi niwed i'r economi leol.

 

[SYLWER: Ar yr adeg hon yn y cyfarfod, roedd y Cynghorydd G. Davies wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon, arhosodd yn y cyfarfod wrth i’r eitem gael ei hystyried a phleidleisiodd.]

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol, fel y nodwyd yn flaenorol yn ei gyfarfod ar 29 Mehefin 2020, fod pandemig COVID 19 wedi cael effaith negyddol sylweddol ar yr economi fusnes yn Sir Gaerfyrddin.  O ystyried y tebygolrwydd y byddai busnesau'n parhau i gael trafferthion ariannol yn y dyfodol rhagweladwy, bu’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi opsiynau manwl i'r Awdurdod ar gyfer parhau i gynorthwyo gyda gostyngiadau rhent i'w denantiaid busnes. 

 

Gan fod gan Gyngor Sir Gaerfyrddin bortffolio busnes sylweddol gydag un o'r cyfraddau tenantiaeth uchaf yng Nghymru, bu'r Aelodau hefyd yn ystyried y goblygiadau refeniw posibl i'r Awdurdod fel y'u nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cynnig gostyngiad rhent o 50% i denantiaid busnes y Cyngor ar gyfer mis Gorffennaf a gostyngiad pellach o 25% ar gyfer mis Awst.  Byddai'r gostyngiad yn berthnasol dim ond i'r tenantiaid hynny sy'n gallu dangos tystiolaeth o galedi, a gaiff ei asesu ar sail gostyngiad o 50% mewn trosiant ar gyfer mis Gorffennaf.