Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 29ain Gorffennaf, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Davies.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H. A. L. Evans

11. Y Rhaglen Deg Tref - Castellnewydd Emlyn

 

Mae'n aelod o Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn.

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 17EG MEHEFIN 2024 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2024 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod dau gwestiwn â rhybudd wedi cael eu cyflwyno.

4.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau i gynlluniau i adeiladu'r ysgol arbennig y mae mawr ei hangen yn Llanelli oherwydd pwysau ariannol.

 

"Mae hyn yn siomedig iawn i'r disgyblion presennol, y rhieni, y staff addysgu a'n cymuned. Barn teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin yw nad oes digon o gymorth ADY ar hyn o bryd; felly wrth i'r Cyngor dynnu’n ôl ar ôl saith mlynedd o gynllunio, beth yw'r cynllun newydd ar gyfer gwella addysg ADY ar draws Sir Gaerfyrddin?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau i gynlluniau i adeiladu'r ysgol arbennig y mae mawr ei hangen yn Llanelli oherwydd pwysau ariannol. Mae hyn yn siomedig iawn i'r disgyblion presennol, y rhieni, y staff addysgu a'n cymuned. Barn teuluoedd yn Sir Gaerfyrddin yw nad oes digon o gymorth ADY ar hyn o bryd; felly wrth i'r Cyngor dynnu’n ôl ar ôl saith mlynedd o gynllunio, beth yw'r cynllun newydd ar gyfer gwella addysg ADY ar draws Sir Gaerfyrddin?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Fel y gwyddoch, o ystyried y costau eithriadol yn sgil chwyddiant sy'n gysylltiedig â'r tendr gwreiddiol ar gyfer Heol Goffa, bu'n rhaid i'r Cyngor adolygu'r sefyllfa.

 

Yn dilyn cyfarfod cadarnhaol rhwng y Cyngor a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa ar 9 Gorffennaf, mae ymrwymiad wedi cael ei wneud i weithio ar y cyd er mwyn datblygu cynllun i ddarparu'r cyfleusterau gorau un ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli.

 

Gydag anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa yn flaenllaw ym meddyliau pawb, bydd adolygiad annibynnol allanol o'r ddarpariaeth ADY bresennol yn Llanelli yn dechrau yn ystod y tymor ysgol nesaf, yn hydref 2024. Bydd yr adolygiad hwnnw'n ystyried barn dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid ehangach, ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr adroddiad hwnnw, yr ydym yn disgwyl iddo nodi ystod o opsiynau i'r cyngor eu hystyried.

 

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi bod yr Awdurdod Lleol wedi buddsoddi'n sylweddol mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol dros y 7 mlynedd diwethaf, pan drafodwyd y posibilrwydd o gael Heol Goffa newydd am y tro cyntaf. Yn wir, mae lleoedd arbenigol wedi cynyddu o 322 yn 2017, i 465 yn 2024.

 

Fel y gwyddoch, cafodd yr Awdurdod Lleol ei arolygu'n ddiweddar gan ESTYN, gyda chwestiwn allweddol 'Pa mor llwyddiannus yw'r awdurdod lleol wrth sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn cael eu nodi'n gynnar a bod darpariaeth addas ar waith i ddiwallu’r anghenion hynny?'

 

Cadarnhaodd canfyddiadau'r arolygiad cadarnhaol iawn y canlynol, ac rwy'n dyfynnu:

 

"Ar lefel strategol, mae uwch-swyddogion yn cynllunio’r ddarpariaeth arbenigol yn
briodol. Er enghraifft, yn ddiweddar, mae’r awdurdod wedi buddsoddi’n sylweddol
mewn darpariaeth ychwanegol i gefnogi dysgwyr ag ADY yn dilyn cynnydd yn nifer y disgyblion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Dros gyfnod o ddeuddeg mis, maent wedi cynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael mewn lleoliadau arbenigol ar draws nifer o safleoedd.

 

Mae gan yr awdurdod berthnasoedd gweithio cynhyrchiol gydag ysgolion a
darparwyr eraill.

 

Mae gan swyddogion ddealltwriaeth gadarn o anghenion penodol plant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Maent yn trefnu ystod o ddarpariaeth addas ar eu cyfer. Mae swyddogion wedi ymrwymo'n llwyr i egwyddorion y ddeddfwriaeth newydd ac maent yn arwain yn gadarn ar y broses o drawsnewid y ddarpariaeth ar gyfer ADY. Mae ganddynt weledigaeth glir sy'n seiliedig ar ymarferion sy'n rhoi pwyslais priodol ar farn unigolion. Mae hyn yn sicrhau bod darpariaeth yn rhoi ystyriaeth addas i ddyheadau ac anghenion disgyblion.

 

Mae'r awdurdod yn darparu llinell gyfeirio uniongyrchol ddefnyddiol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.1

4.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

“A allai'r Arweinydd roi diweddariad ynghylch pa gynnydd mae'r Cyngor wedi'i wneud o ran darparu ysgol newydd i Ysgol Dewi Sant?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“A allai'r Arweinydd roi diweddariad ynghylch pa gynnydd mae'r Cyngor wedi'i wneud o ran darparu ysgol newydd i Ysgol Dewi Sant?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Fel y gwyddoch, mae datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Dewi Sant yn flaenoriaeth i'r weinyddiaeth hon ac mae'r gwaith i wireddu hyn yn parhau.

 

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn Llywodraeth Cymru, CNC ac asiantaethau eraill i sicrhau safle ar gyfer yr ysgol newydd. Mae ein swyddogion wedi dilyn ystod o opsiynau o ran safle, gan werthuso pob un ynghyd â'r gost amcangyfrifedig.

 

Dylwn nodi fod hyn yn ystod cyfnod o gyllidebau cyfalaf heriol a chostau cynyddol, fodd bynnag rydym yn symud ymlaen â'r cynlluniau ar gyfer datblygu'r ysgol newydd.

 

Unwaith y bydd y safle a ffefrir yn cael ei gadarnhau, byddwn yn cyfarwyddo swyddogion i ddatblygu'r cynlluniau ymhellach, a dilyn proses Llywodraeth Cymru i gael mynediad at y cyllid Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ac ymgymryd ag unrhyw broses statudol sy'n ofynnol mewn perthynas â'r cynllun.

 

Os bydd pethau'n mynd eu blaen yn ôl y drefn, rydym yn gobeithio cyflwyno adroddiad i'r Cabinet cyn diwedd y flwyddyn yn amlinellu'r opsiynau ar gyfer y safle a ffefrir a'r llinell amser arfaethedig.”

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH DDIGIDOL 2024-2027 pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet Strategaeth Ddigidol ddrafft 2024-27 y Cyngor i'w hystyried a oedd yn nodi ei flaenoriaethau a'i ddyheadau digidol strategol dros y 3 blynedd nesaf i gyflawni gweledigaeth yr Awdurdod ar gyfer 'Sir Gaerfyrddin sydd wedi’i galluogi’n ddigidol'.

 

Roedd y strategaeth hon yn dangos ymrwymiad parhaus yr Awdurdod i wella gwasanaethau cyhoeddus, gwella llesiant trigolion, meithrin amgylchedd sy'n ffafriol i fusnesau, a bywiogi'r economi leol.

 

Roedd y strategaeth yn canolbwyntio ar 5 blaenoriaeth allweddol sy'n cyd-fynd â nodau llesiant lleol a chenedlaethol yn y meysydd canlynol:

 

·       Gwasanaethau Digidol

·       Pobl a Sgiliau

·       Data a Gwneud Penderfyniadau

·       Technoleg ac Arloesi

·       Cymunedau Digidol a'r Economi

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod y strategaeth yn darparu sylfaen ddigidol i fodloni'r galwadau presennol, ac yn hwyluso dyfodol cynaliadwy. Byddai cynnydd y Strategaeth yn cael ei adolygu ac adroddir yn ei chylch bob blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Ddigidol Ddrafft 2024-2027.

7.

STRATEGAETH AR GYFER RHEOLI GLASWELLTIR I BRYFED PEILLIO AR YSTÂD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2024-29 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn atodiad i strategaeth ddrafft ar gyfer Rheoli Glaswelltir i Bryfed Peillio 2024-29 ar ystâd Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

Roedd y strategaeth yn nodi ymrwymiad argymelledig y Cyngor i fabwysiadu arferion rheoli tir sy'n denu pryfed peillio ar dir a reolir gan y Cyngor, fel y bo'n briodol, ac a oedd yn adlewyrchu'r camau sy'n cael eu cymryd ledled Cymru i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn pryfed peillio.

 

Roedd y strategaeth yn cynrychioli newid yn y dull o ddarparu gwasanaethau gweithredol ar gyfer rheoli glaswelltir er mwyn cyflawni amcanion datganiad gweledigaeth y Cabinet. Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet am bwyntiau amlwg y strategaeth, a oedd yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer rheoli ardaloedd glaswelltir a dull cydlynol o ran ymgysylltu â pherchnogion, defnyddwyr a rheolwyr tir. Yn ogystal, byddai'r dull diwygiedig yn galluogi'r Awdurdod i ddangos gwell tystiolaeth o'i ddyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo mabwysiadu'r Strategaeth ar gyfer Rheoli Glaswelltir i Bryfed Peillio 2024-29 ar ystâd Cyngor Sir Caerfyrddin.

8.

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad, gyda dogfennau atodol wedi'u diweddaru ynghlwm, a oedd yn nodi cynigion i ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin (CDLl) 2018-2033 mewn perthynas â'r canlynol:

 

·       Plastro, Rendro ac Inswleiddio Adeiladau Traddodiadol: Canllawiau ar gyfer Cynaliadwyedd

·       Canllaw Dylunio Blaen Siopau Sir Gaerfyrddin 2022

·       Ardaloedd Cadwraeth: Canllaw hanfodol i'w gwella

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod dogfennau'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft yn rhoi eglurder ychwanegol ar feysydd polisi thematig penodol i gefnogi'u gweithrediad, yn darparu arweiniad, ac yn ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig adeg ei fabwysiadu. Roedd pob Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â maes polisi penodol o fewn y CDLl Mabwysiedig a Diwygiedig, ond yn canolbwyntio ar Dreftadaeth Adeiledig a Chadwraeth. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

8.1

cymeradwyo'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft, a nodir yn yr adroddiad, i'w cyhoeddi at ddibenion ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd;

 

8.2

rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiweddaru neu newid unrhyw wallau o ran ffeithiau, teipio neu ramadeg.

 

9.

STRATEGAETH GWASTRAFF SIR GAERFYRDDIN - CYNLLUN GWEITHREDU GLASBRINT pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad ar Gynllun Gweithredu Glasbrint Strategaeth Wastraff y Cyngor sy'n nodi'r camau gweithredu, yr ystyriaethau a'r penderfyniadau sy'n ofynnol i drosglwyddo i fethodoleg gasglu glasbrint ailgylchu Llywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn cofnod 9 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023, cafodd y Cabinet y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar Strategaeth Wastraff y Cyngor ar gyfer 2021-2025 a nododd fod yr Awdurdod wedi cyrraedd ei darged ailgylchu o 70% o drwch blewyn ar gyfer 2024/2025. Cyfeiriwyd at y cosbau ariannol sylweddol a fyddai'n cael eu rhoi pe bai'r Awdurdod yn methu â chyrraedd y targedau ailgylchu statudol. Ar ben hynny, wrth ystyried rhwymedigaethau moesol yr Awdurdod i leihau ei ôl troed carbon, roedd y Cabinet yn cydnabod yr ymdrechion a wnaed hyd yma i symud tuag at system sy'n seiliedig ar egwyddorion economi gylchol.

 

Yn unol â hynny, er mwyn cyrraedd y targed disgwyliedig o 80% erbyn 2030, mynd i'r afael â materion halogi a darparu gwasanaeth cost-effeithiol, roedd yn ofynnol i'r Cyngor roi ail gam ei Strategaeth Wastraff ar waith a fyddai'n cyflwyno system gasglu newydd i gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau gwastraff, a chyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru. 

 

Rhoddwyd ystyriaeth i'r rhesymeg a'r gyfres o opsiynau, yr oedd pob un ohonynt wedi'u harchwilio'n llawn gan aelodau'r cabinet yn flaenorol, o ran seilwaith a lleoliad gwasanaeth, cyfluniad a chaffael cerbydau, patrymau gwaith gweithredol, a ffrydiau ac amlder casglu gwastraff, fel y manylwyd arnynt yn y Strategaeth Wastraff – Cynllun Gweithredu Glasbrint. Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet y byddai'r cynigion yn cael eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd sydd i'w gynnal ar 31 Gorffennaf 2024.

 

Yn amodol ar brosesau ymgynghori perthnasol, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gytuno ar y canlynol:

 

9.1

symud ymlaen â'r Depo Canolog ar gyfer lleoliad y gwasanaeth (Adeilad Modiwlaidd Opsiwn 2 fel y manylir yn yr adroddiad).

 

9.2

symud ymlaen ag ymgynghoriad mewn perthynas ag wythnos waith 4 diwrnod arfaethedig.

 

9.3

gweithredu casgliadau gwastraff gweddilliol bob pedair wythnos, yn amodol ar ymgysylltu pellach â'r Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd.

 

9.4

cytuno ar y cyfluniad glasbrint llawn ar gyfer y ffrydiau casglu ailgylchu.

 

9.5

bwrw ymlaen â chaffael cerbydau ym mis Gorffennaf 2024 yn seiliedig ar y gofynion a nodir yn yr adroddiad.

 

9.6

defnyddio 9 Cerbyd Adfer Adnoddau Allyriadau Isel Iawn.

 

9.7

amserlen gweithredu ar gyfer y newidiadau - Mehefin 2026.

 

9.8

parhau i ddatblygu datrysiad ar gyfer canoli neu gydleoli uned cynnal a fflyd gorfforaethol.

 

9.9

bod y diffyg cyllid o £4,905,017 yn cael ei ariannu drwy'r arbedion a fydd yn cael eu cynhyrchu o'r ddwy flynedd gyntaf o weithredu'r glasbrint. 

 

10.

POLISI PATRWM GWEITHIO RHAGWELADWY pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn atodiad i bolisi a gweithdrefn Patrwm Gweithio Rhagweladwy drafft a oedd yn manylu ar weithdrefn y Cyngor ar gyfer rheoli cais statudol gan gyflogai neu weithiwr am batrwm gwaith mwy rhagweladwy yn unol â Deddf Gweithwyr (Telerau ac Amodau Rhagweladwy) 2023 fel y nodir yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 a ddaw i rym 1 Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Polisi a'r Weithdrefn Patrwm Gweithio Rhagweladwy.

11.

CYNLLUN DEG TREF - CASTELL NEWYDD EMLYN pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd H.A.L Evans y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Yn dilyn cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Mai 2024 (gweler cofnod 8), rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i gais yn gofyn am gymorth ariannol gan y Rhaglen Deg Tref.

 

Roedd y cais a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn ar ran tîm Cynllun Twf yr ardal yn gofyn am gyllid i gefnogi ailddatblygu'r hen Lys yng Nghastellnewydd Emlyn yn ganolfan gymunedol. Roedd y cais hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith rhagarweiniol sy'n ofynnol ar gyfer yr Amffitheatr arfaethedig yng Nghastellnewydd Emlyn a fyddai'n rhan o Gam 2 y prosiect.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r cais a wnaed gan Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn am gyllid o £55,340 o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

12.

CRONFA DATBLYGU CYFALAF Y DEG TREF pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried ceisiadau yn gofyn am gymorth ariannol o Gronfa Datblygu Cyfalaf y Deg Tref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1

cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am grantiau o Gronfa Gyfalaf y Deg Tref yn amodol ar bridiant cyfreithiol a phrisiad ffurfiol:

 

Yr Ymgeisydd

Gwobr

Thel Group ltd

£50,000

Andrew Islwyn Davies

£35,288

Sian Foster

£50,000

Sian Foster

£50,000

Montague Fox ltd T/A Emlyn Kitchens

£75,546

 

 

12.2

rhoi cyfle pellach i'r ceisiadau canlynol ddatblygu eu cynigion fel y manylir yn yr adroddiad:

 

Yr Ymgeisydd

Y swm y gofynnir amdano

John and Rosa Dawson

£250,000

Eirian and Nicola Edwards

£50,000

Stuart Thomas

£75,546

Olew Solutions Ltd

£50,000

 

13.

CRONFA GYFALAF RHAGLEN DEG TREF - HENDY-GWYN AR DAF pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried cais yn gofyn am gymorth ariannol o Gronfa Gyfalaf y Rhaglen Deg Tref.

 

Roedd y cais a gyflwynwyd gan Gyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf ar ran tîm Cynllun Twf yr ardal yn gofyn am gyllid i brynu ac adnewyddu'r Stiwdio sy'n adeilad gwag nas defnyddir yng nghanol y dref. Bwriad y cynllun oedd cefnogi entrepreneuriaeth yn ardal Hendy-gwyn ar Daf a darparu cyfleoedd datblygu busnes a chreu swyddi a hefyd cynnig swyddfeydd i Glerc y Dref. Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod trafodaethau hefyd yn parhau gyda Network Rail o ran sicrhau 25 o leoedd parcio ger gorsaf Hendy-gwyn ar Daf. Yn unol â hynny, cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ychwanegu argymhelliad pellach y dylid sicrhau cyfleusterau parcio gwell mewn trafodaethau gyda Network Rail i gefnogi'r cais.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

13.1

Cymeradwyo'r cais a wnaed gan Gyngor Tref Hendy-gwyn am gyllid o £150,000 o gronfa gyfalaf y Deg Tref a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy'r Angor Gwledig.

 

13.2

I gefnogi'r cais, dylid sicrhau cyfleusterau parcio gwell mewn trafodaethau gyda Network Rail.

 

 

14.

CYTUNDEBAU PARC Y SCARLETS pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i gais gan Scarlets Regional Ltd i ymestyn ac ailstrwythuro'r benthyciad sy'n weddill gyda'r Awdurdod.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet am delerau'r benthyciad fel y nodir yn yr adroddiad. Wrth ystyried safbwynt presennol y Cyngor, dywedwyd wrth y Cabinet fod y benthyciad yn ddyledus ar 31 Mawrth 2023, ond roedd Scarlets Regional Ltd wedi nodi nad oedd yn gallu ad-dalu'r benthyciad mewn un cyfandaliad ar yr adeg honno. Yn hyn o beth, nodwyd yn yr adroddiad yr effaith sylweddol ar y Clwb yn deillio o'r pandemig coronafeirws, o ran costau, a oedd yn cynnwys chwyddiant uchel a cholled sylweddol mewn incwm. 

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sicrwydd i'r Cabinet nad oedd y benthyciad llog yn unig presennol wedi arwain at unrhyw golled ariannol i drethdalwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin; yn hytrach, bu trethdalwyr ar eu hennill gan fod y llog a dalwyd gan y Scarlets wedi bod yn ffafriol i'r awdurdod. Roedd yr ad-daliadau blynyddol gwirioneddol ar gyfer 2022-23 a 2023-24 yn £152k a £188k yn y drefn honno.

 

O ystyried effaith economaidd sylweddol y Clwb ar y Sir, ystyriwyd bod ei gynaliadwyedd yn hanfodol. Dywedwyd bod cynllun adfer wedi'i roi ar waith a bod y Cyngor wedi cysylltu â'r Clwb i nodi ffordd addas ymlaen, er mwyn gallu ad-dalu'r benthyciad a sicrhau cynaliadwyedd y Clwb. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR i

gymeradwyo i ailstrwythuro'r benthyciad ar y sail ganlynol:

 

14.1

Mae cyfnod y benthyciad yn cael ei ymestyn am 15 mlynedd o 1 Ebrill 2023, ar sail ad-daliad, gan ohirio taliadau am 3 blynedd. Y gwerth yw £2.616m.

 

14.2

Bydd ad-daliad y Prif Fenthyciad yn dechrau ar 1 Ebrill 2026 ar sail rhandaliadau cyfartal, gyda'r gwerth yn £218,000 y flwyddyn.

 

14.3

Mae'r llog yn parhau i fod yn daladwy ac mae'n cael ei godi ar gyfradd o 2.2% yn uwch na chyfradd sylfaenol banc.

 

15.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

16.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

17.

SAFLE CANOLFAN ADDYSG AWYR AGORED PENTYWYN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 16 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am safle Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn.

 

Yn unol â'r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

17.1

priodoli safle Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn (POEC) i'r Cyfrif Refeniw Tai (HRA) er mwyn hwyluso datblygiad tai cymdeithasol defnydd cymysg.

 

17.2

cydnabod yr angen i ail-fuddsoddi derbyniadau cyfalaf o safle presennol Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn er mwyn darparu cynnig Addysg Awyr Agored wedi'i ail-bwrpasu, sy'n gweithredu o Barc Gwledig Pen-bre.

 

18.

CRONFA DATBLYGU EIDDO - PDF

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r bobl a'r busnesau a enwir yn yr adroddiad dan anfantais annheg mewn perthynas â'u cystadleuwyr masnachol.

 

Tynnwyd sylw'r Cabinet at yr argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad. Yn hyn o beth, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am gywiriad i'r geiriad yn y fersiwn Gymraeg o argymhellion yr adroddiad a ddylai fod wedi adlewyrchu argymhellion yr adroddiad Saesneg.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried cais prosiect yn gofyn am gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin - Y Gronfa Datblygu Eiddo, a oedd darparu cymorth ariannol i ddatblygwyr tuag at adeiladu adeiladau diwydiannol a masnachol er mwyn creu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r prosiect a gyflwynwyd i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin – Cronfa Datblygu Eiddo fel y manylir yn yr adroddiad.

19.

LLAIN 3, PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 16 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r Awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Hydref 2023 (gweler cofnod 18) rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth fanwl am y cynllun datblygu ar Lain 3 Parc Adwerthu Trostre. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i symud ymlaen a dychwelyd at gynnwys gwreiddiol y cynllun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fwrw ymlaen â gwaredu Llain 3, Parc Adwerthu Trostre, Llanelli, yn unol â'r telerau a nodir yn yr adroddiad.