Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb
|
||||||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2024 yn gofnod cywir.
|
||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
||||||||||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
||||||||||||||||||||||
STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2025/26 I 2027/28 PDF 101 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol. Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am broses y gyllideb, setliad dros dro presennol Llywodraeth Cymru ac amserlen y setliad terfynol ac yn clustnodi'r gwasgfeydd dilysu a'r gwasgfeydd cyllidebol y byddai'n rhaid i'r Aelodau roi sylw iddynt wrth bennu cyllideb refeniw'r flwyddyn nesaf. Bydd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ar y gyllideb a fydd yn cael ei chynnal yn ystod Ionawr.
Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau digynsail sy'n wynebu pob Awdurdod Lleol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
6.1 bod y Strategaeth Gyllideb tair blynedd 2025/26 i 2027/28 yn cael ei chymeradwyo a bod y strategaeth yn cael ei defnyddio i gefnogi ymgynghori ynghylch y gyllideb ac yn sail i lunio’r cynigion terfynol ar gyfer y gyllideb;
6.2 Nodi’r gostyngiadau yn y gyllideb / cynigion arbedion yn Atodiad A, a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r ymgynghoriad;
6.3 nodi'r swm heb ei ddyrannu o £320k yn y strategaeth gyfredol yn 2025/26, a fydd yn cael ei ystyried ymhellach ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad fel y nodir ym mharagraff 2025 o'r adroddiad.
|
||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2025/26 I 2029/30 PDF 99 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2025/26 i 2029/30, a oedd yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill. Byddai adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd ag unrhyw ddiweddariadau, yn llywio adroddiad cyllideb terfynol y Rhaglen Gyfalaf i'w gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor Sir ym mis Chwefror 2025.
Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet y byddai'r rhaglen yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol ar 31 Ionawr, 2025.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL :
7.1 bod yr adroddiad yn cael ei nodi a'i gymeradwyo fel y rhaglen gyfalaf dros dro at ddibenion ymgynghori;
7.2 bod yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol ar 31 Ionawr, 2025.
|
||||||||||||||||||||||
CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2025/26 PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr H.A.L. Evans, P.M. Hughes a D. Price y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad oedd yn darparu Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2025-28 a Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin. Ar ddechrau pob blwyddyn, mae cynllun busnes yn cael ei lunio sy'n egluro gweledigaeth yr Awdurdod a'r rhaglenni buddsoddiadau tai tair blynedd i gynnal a chadw ein stoc a darparu mwy o dai fforddiadwy.
Roedd Atodiad A, a atodwyd i'r adroddiad, yn darparu'r Gyllideb Cyfrif Refeniw arfaethedig ar gyfer 2025/26.
Roedd Atodiad B, a atodwyd i'r adroddiad, yn darparu'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2025/28.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR 8.1 cynyddu'r rhent tai cyfartalog 2.7% (£2.85) fesul preswylfa yr wythnos oddi mewn i derfynau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y cynnydd ar gyfer tenantiaid sy'n is na'r rhenti targed). Mae hyn yn creu Cynllun Busnes cynaliadwy, yn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ac yn cyflawni ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai; 8.2 parhau â'r cynnydd mwyaf posibl o £1 a ganiateir ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti arfaethedig ar gyfer pob math o stoc; 8.3 cynyddu rhenti garejis 2.7% o £9.60 i £9.86 a sylfeini garejis o £2.22 i £2.28; 8.4 rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael budd o wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny; 8.5 cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gweithfeydd trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhent;
8.6 cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am2025/28 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2026/27 A 2027/28), fel y nodwyd yn Atodiad A;
8.7 cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2025/26 a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2026/27 hyd at 2027/28, fel y'u nodwyd yn Atodiad B.
|
||||||||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES 2025-28 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Gan eu bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr H.A.L. Evans, P.M. Hughes a D. Price y cyfarfod cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynigion diweddaraf ar gyfer cyllidebau refeniw a chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2025/2028. Hefyd mae'r Adroddiad yn amlinellu sut y bydd rhenti tai yn cynyddu ar gyfer 2025/26.
Nododd yr adroddiad fod yr incwm a gafwyd o renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill yn galluogi'r awdurdod i lunio rhaglen fuddsoddi sy'n fwy na £282m (Cyfalaf - £114m a Refeniw - £168M) i ddarparu gwasanaethau dros y tair blynedd nesaf.
Nodwyd yn y cynllun ei fod yn seiliedig ar gynnydd rhentrhagamcanol i 2.7% ar gyfer 2025/26, yn unol â Pholisi Rhent presennol Llywodraeth Cymru a osodwyd gan gyfradd chwyddiant Medi o 1.7%. Byddai'r rhan fwyaf o denantiaid yn derbyn cynnydd cyfartalog mewn rhent o 2.62%, ac mae'r cynnydd hwn ymhell o fewn terfynau fforddiadwyedd tenantiaid.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
</AI9>
|
||||||||||||||||||||||
CYNLLUN GOSTYNGIADAU'R DRETH GYNGOR 2025/26 PDF 196 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad yn manylu ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (a gyflwynwyd yn lle Budd-dal y Dreth Gyngor ym mis Ebrill 2013) am 2025/26.
Cyflwynwyd y cynllun safonol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14 ac (gyda gwelliannau cyfyngedig) ar gyfer 2014/15 a'r blynyddoedd dilynol. Er ei fod yn gynllun Cymru gyfan, mae'n ofynnol i Gynghorau unigol gan y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn ffurfiol erbyn 31 Ionawr bob blwyddyn. Manylwyd ar yr ardaloedd cyfyngedig lle rhoddir disgresiwn lleol a'r polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor mewn perthynas â'r disgresiwn hynny yn yr adroddiad.
Yn amodol ar gymeradwyo a gweithredu'r rheoliadau ar 24 Ionawr, 2025;
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
10.1 mabwysiadu'n ffurfiol Gynllun safonol Cymru Gyfan ar gyfer Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a ddarperir yn a. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013. 10.2 gweithredu'r ffigurau uwchraddio blynyddol (a ddefnyddir wrth gyfrif hawliadau) a diwygiadau technegol eraill, a gynhwysir yn Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Diwygio Amrywiol) (Cymru) 2025 sydd i ddod i rym ar 24 Ionawr 2025 ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2025; 10.3 parhau i arfer ei ddisgresiwn o ran elfennau disgresiynol cyfyngedig y cynllun rhagnodedig, fel y'u hamlinellir yn y Crynodeb Gweithredol.
|
||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR PDF 217 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2024, o ran 2024/25.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £19.2m gan gynnwys cyllidebau ysgolion, ac yn rhagweld gorwariant o £8.7m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.
Roedd y gorwariant a ragwelwyd yn parhau i fod yn sylweddol ac roedd wedi cynyddu ar lefel adrannol. Roedd yn hanfodol i Brif Swyddogion a Phennaeth Gwasanaeth adolygu'r opsiynau sydd ar gael iddynt i gymryd camau brys a sylweddol i fynd i'r afael â'r effaith barhaus ar draws adrannau ac ysgolion. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd.
|
||||||||||||||||||||||
DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2024/25 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2024/25, fel yr oedd ar 31 Hydref 2024 gan fanylu ar y prosiectau newydd a'r trosglwyddiadau ariannol.Nododd Atodiad A i'r adroddiad wariant net a ragwelir o £105,895k o gymharu â chyllideb net weithredol o £132,866k, gan roi amrywiad -£26,972k.
Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn a llithriad o 2023/24. Roedd rhai o'r cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn a’r trosglwyddiadau ariannol a gymeradwywyd.
Roedd Atodiad B i'r adroddiad yn nodi'r prif amrywiadau ym mhob adran.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
12.1 bod yr adroddiad diweddaru ar Raglen Gyfalaf 2024/25 yn cael ei dderbyn;
12.2 nodi'r prosiectau newydd, fel y manylwyd yn yr adroddiad a'u cytuno, i'w hariannu o danwariant ffioedd cyfalaf y flwyddyn gyfredol.
|
||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad, a oedd yn nodi cynigion i ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft - Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ar seilwaith Gwyrdd a Glas, a atodwyd i'r adroddiad. Roedd y Canllawiau Cynllunio Atodol wedi'u paratoi i gefnogi gweithrediad y CDLl Diwygiedig ac yn adlewyrchu gwelliannau diweddar a wnaed i Bennod 6 o Argraffiad 12 Polisi Cynllunio Cymru.
Roedd dogfennau'r Canllawiau Cynllunio Atodol drafft yn rhoi eglurder ychwanegol ar feysydd polisi thematig penodol i gefnogi'u gweithrediad, yn darparu arweiniad, ac yn ymhelaethu ar bolisïau a darpariaethau'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig adeg ei fabwysiadu. Roedd pob Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ymwneud â maes polisi penodol o fewn y CDLl Mabwysiedig a Diwygiedig, ond yn canolbwyntio ar Arfarniad o Gynaliadwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:
13.1 cymeradwyo'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft, a nodir yn yr adroddiad, at ddibenion ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd;
13.2 darparu'r awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiweddaru neu newid unrhyw fân newidiadau ffeithiol, teipograffig neu ramadegol |
||||||||||||||||||||||
LLYTHYR BLYNYDDOL YR OMBWDSMON 2023/2024 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2023/24 Cyngor Sir Caerfyrddin ynghyd â'r daflen ffeithiau a'r data cysylltiedig.
Nodwyd bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi llythyr i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru bob blwyddyn ar ffurf taflen ffeithiau a data ategol i'w cynorthwyo i adolygu perfformiad.
Nododd y Cabinet fod gwall teipio yn y daflen grynodeb. Angen i’r Cabinet wneud penderfyniad, dylai fod wedi darllen OES.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon 2023/24 Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
||||||||||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|
||||||||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD THE REPORTS RELATING TO THE FOLLOWING ITEMS ARE NOT FOR PUBLICATION AS THEY CONTAIN EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007. IF, FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST, THE CABINET RESOLVES PURSUANT TO THE ACT TO CONSIDER THESE ITEMS IN PRIVATE, THE PUBLIC WILL BE EXCLUDED FROM THE MEETING DURING SUCH CONSIDERATION. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
||||||||||||||||||||||
UWCHGYNLLUN NANTYCAWS Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 16 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o ddatgelu gwybodaeth fusnes ac ariannol yn ymwneud â'r Cyngor a Cwm Environmental a thrwy hynny niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol yn ymwneud â safle Nant-y-caws a weithredir gan Cwm Environmental.
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o Brif Gynllun Nant-y-caws a ddatblygwyd i ddarparu gweledigaeth.
Cafodd y weledigaeth ar gyfer y Prif Gynllun ei fframio o amgylch y 4 thema ganlynol i adlewyrchu nodau craidd y prosiect ac i ddarparu cyfleoedd ar gyfer buddion ehangach gan gynnwys natur, mynediad i'r cyhoedd a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o egwyddorion economi gylchol:
· Ynni Adnewyddadwy · Gwella Ecosystem · Rheoli Gwastraff · Cartref i'r Economi Gylchol yng Nghymru
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.
|