Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 16eg Rhagfyr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 2il RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2024 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2023/24 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL MABWYSIEDIG SIR GAERFYRDDIN (2006 - 2021) pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Adroddiad Monitro Blynyddol 2023/24 yn ymwneud â Chynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin (2006-2021), a oedd wedi'i baratoi'n unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005.

 

Rhoddodd yr Adroddiad Monitro Blynyddol drosolwg o berfformiad y CDLl yn ystod y cyfnod adrodd mewn perthynas â chyfres o ddangosyddion monitro. Yn unol â dyletswydd statudol y Cyngor, roedd yr Adroddiad Monitro Blynyddol wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac roedd ar gael i'w ddarllen ar wefan y Cyngor erbyn 31 Hydref 2021. Cyhoeddwyd yr Adroddiad Monitro Blynyddol ynghyd ag ymgynghoriad anffurfiol i roi cyfle i bartïon â diddordeb roi sylwadau ar y materion allweddol a godwyd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet y byddai'r canfyddiadau a'r dystiolaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o baratoi CDLl diwygiedig 2018-2033.  Yn hyn o beth, nodwyd bod y CDLl Diwygiedig wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w archwilio, a bod y sesiynau gwrandawiad wedi dechrau ym mis Hydref 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

6.1

bod yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Sir Gaerfyrddin yn cael ei gymeradwyo;

 

6.2

bod y canfyddiadau a'r dystiolaeth a gynhwysir yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn cael eu defnyddio i lywio'r gwaith o baratoi CDLl diwygiedig 2018-2033;

 

6.3

bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i swyddogion wneud addasiadau teipio neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol.

 

7.

ADRODDIAD CYFUN AR GYFER STRATEGAETHAU DRAFFT AR SEILWAITH GWYRDD A GLAS A RHANDIROEDD A THYFU CYMUNEDOL pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i strategaethau drafft ar Seilwaith Gwyrdd a Glas a Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol.

 

Roedd y Strategaethau Drafft yn nodi'n unigol weledigaethau strategol oedd yn cydnabod gwerth atebion seiliedig ar le ac ar natur ar gyfer mynd i'r afael â materion llesiant cyfredol (ac atal materion llesiant y dyfodol) yn ein cymunedau, ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Cyngor.

 

Roedd strategaeth Seilwaith Gwyrdd a Glas yn darparu gweledigaeth drawsnewidiol ar gyfer sicrhau darpariaeth o asedau naturiol a lled-naturiol y sir yn y dyfodol ac roedd yn canolbwyntio ar 9 amcan o dan y themâu pobl, lle a natur i greu amgylchedd oedd yn adlewyrchu dyheadau a gwerthoedd cymunedau i sicrhau dyfodol cynaliadwy, cynhwysol a llewyrchus.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod y Strategaeth Rhandiroedd a Thyfu Cymunedol Ddrafft wedi'i pharatoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a'i bod yn nodi 4 amcan i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i drigolion gymryd rhan mewn tyfu, gan gynnwys dull partneriaeth drwy'r Bartneriaeth Tir Cyhoeddus ar gyfer Tyfu Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

7.1

cymeradwyo'r Strategaethau Drafft, a nodir yn yr adroddiad, at ddibenion ymgynghori'n ffurfiol â'r cyhoedd;

 

7.2

awdurdodi swyddogion i ddiweddaru neu i ddiwygio unrhyw fân newidiadau ffeithiol, argraffyddol neu ramadegol sy'n angenrheidiol i wella eglurder a chywirdeb y Strategaethau Drafft.

 

8.

SYLFAEN TRETH Y CYNGOR 2025-26 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn manylu ar gyfrifiadau Sylfaen y Dreth Gyngor mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2025-26.  Penderfynodd y Cyngor ar 8 Rhagfyr, 2004 fod cyfrifiad Sylfaen y Dreth Gyngor yn cael ei ddynodi'n swyddogaeth weithredol.

 

Mae'n ofynnol i'r Cyngor Sir bennu, bob blwyddyn, Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer ardal y Cyngor a Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer pob cymuned o fewn ei ardal, at ddibenion pennu lefel y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1

bod y cyfrifiadau o ran pennu Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad A o'r adroddiad, yn cael eu cymeradwyo;

 

8.2

bod Sylfaen y Dreth Gyngor o £77,243.48 mewn perthynas ag ardal y Cyngor Sir, yn cael ei gadarnhau;

 

8.3

bod y sylfeini treth perthnasol yng nghyswllt ardaloedd y Cynghorau Cymuned a Thref unigol, fel y manylwyd arnynt yn nhabl 2 yr adroddiad, yn cael eu cadarnhau;

 

8.4

bod cynnydd o 50% i 100% yn y premiwm ail gartrefi yn cael ei gymeradwyo, a'i fod yn dod i rym o 1 Ebrill  2025 ymlaen.

 

9.

MASNACHFREINIO BYSIAU pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud i ddatblygu cynigion ar gyfer rhwydwaith masnachfreinio bysiau yn y dyfodol.

 

Nododd yr adroddiad y bwriedir cyflwyno deddfwriaeth drawsnewidiol i'r Senedd yn 2025, er mwyn galluogi masnachfreinio lle byddai gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol. Yna gallai gweithredwyr bysiau wneud cais am gontractau i redeg gwasanaethau yn ôl y manylebau hyn.  Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet y byddai masnachfreinio bysiau yn cael ei gyflwyno mewn camau rhanbarthol, gyda de-orllewin Cymru yn cael ei gynnig fel y rhanbarth cyntaf ar gyfer cyflwyno hyn yn 2027.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL symud ymlaen i gynllunio manwl ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd.

10.

AILDDATBLYGU HEN GARTREF PRESWYL PLAS Y BRYN, CWMGWILI pdf eicon PDF 510 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad am y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag ailddatblygu hen Gartref Preswyl Plas y Bryn yng Nghwmgwili.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r strategaeth gyffredinol mewn perthynas â datblygu cartrefi gofal yng ngoleuni'r galw a'r pwysau o ran cyflenwi sy'n effeithio ar wasanaethau gofal cymdeithasol a'r angen am ddull strategol o lunio'r farchnad i sicrhau gwasanaethau gofal a chymorth i ddiwallu anghenion demograffig Sir Gaerfyrddin.

 

Adolygodd y Cabinet sefyllfa bresennol yr Awdurdod, y goblygiadau ariannol a'r camau nesaf mewn perthynas â'r ailddatblygiad i gyflawni'r weledigaeth gyffredinol o gefnogi pobl i fyw a heneiddio'n dda a galluogi'r Cyngor i arloesi'n haws i roi cynnig ar fodelau gofal newydd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet am y trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y prosiect, a'r cais am gyllid cysylltiedig i Gronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Gofal Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygu Achos Amlinellol Strategol/Achos Busnes Amlinellol cyfunol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1

bod y prosiect drwy broses gwneud cais ar gyfer Cronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Gofal Llywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo;

 

10.2

bod yr ymrwymiad i'r gofyniad am gyllid cyfatebol a bennir gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau grant Cronfa Integreiddio ac Ailgydbwyso Gofal yn cael ei gymeradwyo. 

 

11.

STRATEGAETH COED A CHOETIR AR GYFER CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i strategaeth oedd yn mynd i'r afael â chyfrifoldebau'r Awdurdod o ran rheoli coed a choetir ar gyfer Sir Gaerfyrddin.  Roedd y strategaeth hefyd yn gosod uchelgais ar gyfer y cynnydd mewn coed a gorchudd coetir ar draws ystâd y cyngor yn unol ag argymhellion Pwyllgor Hinsawdd y DU.

 

Roedd cynllun gweithredu yn cefnogi'r strategaeth, a fyddai'n cael ei reoli drwy weithgor swyddogion rhyngadrannol/bwrdd cyflawni i gyflawni'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ac i gefnogi Gr?p Adolygu Defnydd Tir Strategol y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1

bod y cynnydd o ran datblygu'r strategaeth a'r targedau a gynigir yn cael eu cymeradwyo;

 

11.2

bod y gwaith o sefydlu bwrdd cyflawni/gr?p swyddogion rhyngadrannol i gyflawni'r camau a nodwyd yn y strategaeth yn cael ei gymeradwyo;

 

11.3

bod y Strategaeth yn cael ei hadolygu yn 2028.

 

12.

SIARTER AR GYFER TEULUOEDD SYDD WEDI DIODDEF PROFEDIGAETH YN SGIL TRASIEDI GYHOEDDUS pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi dioddef Profedigaeth yn sgil Trasiedi Gyhoeddus i'w hystyried a oedd yn darparu fframwaith oedd yn anelu at gefnogi teuluoedd  oedd wedi colli anwyliaid mewn trychinebau cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r chwe egwyddor sydd wedi'u hymgorffori yn y siarter a oedd yn cynrychioli ymrwymiad i drin yn drugarog ac yn deg deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn trychinebau cyhoeddus ac yn gosod cynsail ar gyfer sut y gallai cymdeithasau gefnogi'n well y rhai yr effeithir arnynt gan drasiedïau mawr. Llofnodwyd y siarter gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar ran pob un o'r 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn unol â'r argymhelliad sy'n deillio o adolygiad 2017 o brofiadau teuluoedd Hillsborough.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1

bod y Siarter yn cael ei mabwysiadu yn ei chyfanrwydd;

 

12.2

bod y Cyngor yn ymrwymo i ddod yn sefydliad sy'n ymdrechu i weithio yn unol ag egwyddorion chwe phwynt y Siarter.

 

13.

CYTUNDEB CYDWEITHIO NEWYDD AR GYFER GWEITHLU ADDYSG RHANBARTHOL (PARTNERIAETH) pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i drosglwyddo o Gytundeb Cyfreithiol Partneriaeth i gytundeb cydweithio newydd ar gyfer gweithlu addysg rhanbarthol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod trefniadau rhanbarthol i gefnogi'r gwaith o gyflawni gwelliannau addysgol yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd gan Bartneriaeth drwy Gytundeb Cyfreithiol a ddaeth i rym o 2022, gan greu Cyd-bwyllgor rhwng Awdurdodau Lleol Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe. Rhoddwyd gwybod bod cymal 20 o'r Cytundeb Cyfreithiol yn caniatáu i'r Partïon derfynu'r trefniadau presennol yn unol â thelerau y cytunir arnynt ar y cyd. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y camau a gymerwyd i adolygu'r trefniadau presennol a'r cynnig i ymrwymo i gytundeb cydweithio newydd a fydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2025 ymlaen.

 

Cyfarfu Cyd-bwyllgor Partneriaeth ar 18 Hydref 2024 i gytuno ar gostau rhedeg newydd a nodi'r cynnig i leihau'r trefniadau llywodraethu. Yn ogystal, nodwyd y byddai'r broses o wneud penderfyniadau i drosglwyddo o fodel cydbwyllgor i gytundeb cydweithio newydd yn fater i bob Cyngor cyfansoddol Partneriaeth. Yn unol â hynny, gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet mewn perthynas â'r trefniadau yn y dyfodol.

 

Mewn diweddariad i'r Cabinet, cyfeiriwyd at Atodlen 2 y cytundeb cydweithio (Costau Cyflawni Partneriaeth) lle rhoddwyd gwybod bod costau'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth arfaethedig wedi cynyddu o £30,600 i £38,770 ers cyhoeddi dogfennaeth y cyfarfod, ac roedd Cyfraniad yr Awdurdod Lleol ar gyfer 2024-2025 wedi cynyddu o £40,680 i £41,100.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

13.1

Ar y cyd â Chyngor Abertawe a Chyngor Sir Penfro, bod y Cytundeb Cyfreithiol presennol ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Partneriaeth yn cael ei derfynu o 31 Mawrth 2025 ymlaen;

 

13.2

bod y Cytundeb Cydweithio drafft i ddisodli'r Cytundeb Cyfreithiol presennol sy'n weithredol o 1 Ebrill 2025 yn cael ei gymeradwyo;

 

13.3

Bod y Cyfarwyddwr Addysg, ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, yn cael eu hawdurdodi i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol pellach i'r Cytundeb Cydweithio; gydag awdurdodiad wedi'i ddirprwyo i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundeb ar ran y Cyngor, ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth gyfreithiol ategol sy'n angenrheidiol i hwyluso'r trefniadau cydweithio newydd.

 

13.4

Nodi y bydd terfynu'r Cytundeb Cyfreithiol yn arwain at ddiddymu Cyd-bwyllgor Partneriaeth a'r Gr?p Cynghorwyr Craffu ar y Cyd o 1 Ebrill 2025

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

16.

CYFLE I GAFFAEL TIR YN PIBWRLWYD, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod rhif 15 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod oherwydd gallai ddatgelu'r wybodaeth hon danseilio sefyllfa'r Cyngor mewn unrhyw drafodaethau presennol a rhai yn y dyfodol ynghylch yr Harbwr, ar draul y pwrs cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gaffael tir ym Mhibwr-lwyd, Caerfyrddin. Cyflwynwyd gwelliant i argymhelliad 2 yr adroddiad mewn ymateb i wybodaeth a ddaeth i'r amlwg ers cyhoeddi dogfennaeth y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad, ar yr amod bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Swyddog Adran 151, y Prif Weithredwr a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau i gytuno ar y pris prynu, fel y rhoddwyd gwybod amdano yn y cyfarfod.