Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 2ail Rhagfyr, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C.A. Jones

8 – Ymchwiliad Adran 8 Cyngor Sir Caerfyrddin i lifogydd yn 34 eiddo yn Llansteffan dros gyfnod y flwyddyn newydd 2023/24

 

Yn byw yn yr ardal y mae'r llifogydd yn effeithio arni

A. Lenny

8 – Ymchwiliad Adran 8 Cyngor Sir Caerfyrddin i lifogydd yn 34 eiddo yn Llansteffan dros gyfnod y flwyddyn newydd 2023/24

 

Mae aelodau agos o'r teulu wedi dioddef llifogydd yn yr ardal.

 

3.

I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 18 TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2024 yn gywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

STRATEGAETH LEOL AR GYFER RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet i'w hystyried Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor a luniwyd yn unol â gofynion Adran 10.7 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r holl Awdurdodau Lleol gyhoeddi eu strategaeth a'u cynllun rheoli perygl llifogydd lleol. Roedd y Strategaeth wedi'i chefnogi gan gynllun mwy tactegol sy'n egluro sefyllfa'r awdurdod o ran rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol a'i nodau ar gyfer 2030 a sut y bydd yn eu cyflawni.

 

Nododd y Cabinet mai'r cynllun oedd yr ail strategaeth a luniwyd o dan y Ddeddf (yr un cyntaf ym mis Mai 2013) a'i phrif ddibenion oedd:

 

1.

Nodi'r asesiad strategol o berygl llifogydd yn Sir Gaerfyrddin lle'r oedd 12,600 o gyfeiriadau mewn perygl o lifogydd

2.

Ffurfioli a chytuno ar y nod strategol i leihau nifer yr anheddau a'r busnesau sydd mewn perygl o lifogydd.

3.

Ffurfioli pum nod strategol a sut maent yn cyd-fynd â'r nodau cenedlaethol:

·         Moderneiddio a datblygu dull thematig sy'n seiliedig ar risg o reoli perygl llifogydd a rheoli'r arfordir.

·         Dod yn gyfoethog o ran data a gwybodaeth i hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau.

·         Hyrwyddo dulliau o reoli llifogydd yn naturiol, draenio cynaliadwy ac atebion seiliedig ar natur;  

·         Addysgu, cynghori a grymuso ein cymunedau i ddod yn fwy cydnerth. 

·         Cynorthwyo cymunedau i addasu a hyrwyddo hyn a gweithio mewn partneriaeth.  

4.

Cytuno ar y 10 mesur a nodir yn yr adroddiad a fydd yn ei dro yn cyflawni'r 5 nod strategol uchod

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARYMELL I'R CYNGOR fod Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei chymeradwyo.

7.

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu Strategaeth Toiledau Lleol 2024/26 yr Awdurdod a'r camau gweithredu cysylltiedig a gafodd eu llunio yn unol â Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, a oedd yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth toiledau lleol ar gyfer ei ardal. Nodwyd, er nad oedd dim gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus, ac nad oedd y ddyletswydd i baratoi strategaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus, roedd yn ofynnol iddynt gymryd agwedd strategol at sut y gallai'r cyfleusterau hyn gael eu darparu a'u defnyddio gan y boblogaeth leol. Wrth wneud hynny, disgwylir y byddai awdurdodau lleol yn ystyried amrywiaeth lawn o opsiynau ar gyfer sicrhau bod cyfleusterau ar gael i'r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Strategaeth Toiledau Lleol 2024/26 yn cael ei chymeradwyo.

8.

YMCHWILIAD ADRAN 19 CYNGOR SIR CAERFYRDDIN I LIFOGYDD YN 34 EIDDO YN LLANSTEFFAN DROS GYFNOD Y FLWYDDYN NEWYDD 2023/24. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Gadawodd y Cynghorwyr C. Jones ac A. Lenny, a oedd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, Siambr y Cyngor tra bod y Cabinet yn ystyried y mater).

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a luniwyd yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Llifogydd a D?r 2010, ar ganlyniad ymchwiliad a gynhaliwyd i lifogydd oddeutu 34 o eiddo yn Llansteffan o ganlyniad i 2 storm dros gyfnod blwyddyn newydd 2023/24. Nodwyd bod 10 cam gweithredu yn sgil yr ymchwiliad yn ymwneud â Rheoli Perygl Llifogydd, yn ogystal â 6 argymhelliad yn ymwneud â Gwytnwch Cymunedol, ac 11 cam gweithredu yn ymwneud â Gweithredu a Chynnal a Chadw ac y byddai'r Cyngor yn rheoli'r gwaith o gyflawni'r camau gweithredu hyn drwy'r gr?p prosiect amlasiantaeth y byddai'n parhau i fod yn gadeirydd arno yn y tymor byr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo. 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2023/24 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2023-24 ar  Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 a luniwyd o dan ddarpariaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 lle'r oedd yn ofynnol oddi gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei Amcanion Llesiant. Yn ogystal, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, roedd dyletswydd ar y Cyngor i adrodd ar ei berfformiad ar ffurf dull hunanasesu. Nod yr adroddiad oedd bodloni'r ddau ofyniad hynny mewn un ddogfen.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ar y sail ganlynol ar gyfer pob Amcan Llesiant, yn ogystal â'r blaenoriaethau Thematig a Gwasanaeth:

 

  • Trosolwg o gynnydd – yn rhoi trosolwg cryno o'n cynnydd yn erbyn y mesurau trosfwaol ar gyfer pob Amcan Llesiant, gan gysylltu hyn â phwysigrwydd yr amcan hwnnw.
  • Yn gryno – mae'n rhoi trosolwg o'n cynnydd yn erbyn pob un o'n meysydd blaenoriaeth Thematig a Gwasanaeth.
  • Sut ydym ni'n ei wneud? - yn rhoi dadansoddiad o'r cynnydd a wnaed yn erbyn ein mesurau allweddol fel y manylir yn y Gyfres Ddata Gorfforaethol. Darperir trosolwg manwl o'r holl fesurau yn Atodiad 5.
  • Cynnydd yn erbyn Canlyniadau – yn darparu cynnwys ar weithgarwch o bob rhan o'r sefydliad sy'n ymwneud â'r canlyniad hwnnw neu'n mynd i'r afael ag ef.
  • Oes unrhyw un ar ei ennill? - mae'r adran hon yn darparu astudiaethau achos neu straeon newyddion da yn ymwneud â'r 'Felly Beth?’. Y ffocws yw tynnu sylw at y gwahaniaeth rydym wedi'i wneud i fywydau ein preswylwyr a'n defnyddwyr gwasanaeth trwy ein gweithgaredd.
  • Sut allwn ni wneud yn well? – mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r meysydd a nodwyd i'w gwella ac yn 'cau'r ddolen’. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I’R CYNGOR fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023-2024 yn cael ei gymeradwyo.

10.

ASESIAD PERFFORMIAD PANEL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a baratowyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn gosod dyletswydd ar gynghorau i drefnu i banel gynnal asesiad lefel sefydliad, corfforaethol, o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod rhwng dau etholiad cyffredin yn olynol o gynghorwyr i'r cyngor, o'r graddau y mae'r cyngor yn bodloni ei ofynion perfformiad, fel y'u diffinnir yn ôl i ba raddau y mae'r cyngor yn gwneud y canlynol:

 

  • mae'n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol;
  • mae'n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol; ac
  • mae ganddo drefniadau llywodraethu effeithiol ar waith ar gyfer sicrhau'r uchod.

 

Nododd y Cabinet, yn unol â gofynion y Deddfau, fod dogfen gwmpasu wedi'i pharatoi yn darparu cyflwyniad i Sir Gaerfyrddin, a'r Cyngor ac ystyried unrhyw heriau a amlygwyd yn yr hunanasesiad gan gynnwys, canfyddiadau o'r adroddiadau archwilio, arolygu neu reoleiddwyr diweddar. Byddai'r ddogfen gwmpasu yn llywio dewis y Panel i gynnal yr asesiad ynghyd â Chylch Gorchwyl manwl ar gyfer yr asesiad, y byddai'r Panel a'r Cyngor wedyn yn cytuno arno. Cynigiwyd y byddai'r CPA yn cael ei gynnal yn Sir Gaerfyrddin rhwng 10 a 13 Mehefin 2025.

 

Gofynnwyd i'r Cabinet, wrth ystyried yr adroddiad, ychwanegu'r argymhelliad ychwanegol canlynol i'w ystyried gan y Cyngor:

 

“Cymeradwyo bod yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr wedi dirprwyo awdurdod i gadarnhau penodiad y Panel a'r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr asesiad yn dilyn trafodaeth gyda rhanddeiliaid perthnasol”

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

10.1

Nodi'r gofynion ar gyfer yr Asesiad Perfformiad Panel

10.2

Cytuno ar Ddogfen Gwmpasu Sir Gaerfyrddin

10.3

Cytuno ar yr amserlenni ar gyfer ymgymryd â'r Asesiad Perfformiad Panel a gynigir ar gyfer Mehefin 2025

10.4

Cymeradwyo bod yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr wedi dirprwyo awdurdod i gadarnhau penodiad y Panel a'r Cylch Gorchwyl ar gyfer yr asesiad yn dilyn trafodaeth â rhanddeiliaid perthnasol.

 

11.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2024 I MEDI 30AIN 2024. pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried yr Adroddiad ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill 2024 i 30 Medi 2024.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

12.

RHYBUDD GYNNIG MASNACH DEG pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet, yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 11 Medi 2024, yn ystyried adroddiad ar y Rhybudd o Gynnig yn y cyfarfod yn ymwneud â Masnach Deg lle penderfynwyd:

  • “Ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi Masnach Deg a'r ymgyrch Masnach Deg yn Sir Gaerfyrddin.
  • Cydnabod a dathlu cyflawniadau trefi Masnach Deg yn ein sir, sydd wedi bod yn ganolog wrth eiriol dros Fasnach Deg a phrynwriaeth foesegol.
  • Cefnogi Pwyllgor Llywio Masnach Deg, i oruchwylio a chydlynu gweithgareddau a mentrau Masnach Deg ar draws Sir Gaerfyrddin.
  • Penodi Aelod Cabinet yn Hyrwyddwr Masnach Deg, a fydd yn mynd ati i hyrwyddo ac eiriol dros egwyddorion a mentrau Masnach Deg o fewn y Cyngor a'r gymuned ehangach.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cabinet, mewn ymateb i'r penderfyniad, y cynigiwyd y canlynol:

 

  1. Bydd y Cyngor yn adolygu ei drefniadau presennol ac yn ceisio ailddatgan ei ymrwymiad
  2. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r Gr?p Masnach Deg amlasiantaeth cymunedol (fel y nodir isod) ac yn cefnogi hyrwyddo arfer da a chyflawniadau
  3. Mae Pwyllgor Masnach Deg amlasiantaeth cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin eisoes yn bodoli a chynigir bod y Cynghorydd Aled Vaughan Owen (os cytunir ei benodi'n Hyrwyddwr Masnach Deg) yn ymuno â'r gr?p hwn ac yn sicrhau cysylltiadau â gwasanaethau perthnasol y Cyngor. 
  4. Bod y Cynghorydd Aled Vaughan Owen yn cael ei benodi'n Hyrwyddwr Masnach Deg y Cyngor.

 

UNANIMOUSLY RESOLVED that:

12.1

Mae'r Cyngor yn adolygu ei drefniadau presennol ac yn ceisio ailddatgan ein hymrwymiad

12.2

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r Gr?p Masnach Deg amlasiantaeth cymunedol (fel y nodir isod) ac yn cefnogi hyrwyddo arfer da a chyflawniadau. 

12.3

Mae'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen (os cytunir ei benodi'n Hyrwyddwr Masnach Deg) yn ymuno â Chymunedau Masnach Deg amlasiantaeth cymunedol ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac yn sicrhau cysylltiadau â gwasanaethau perthnasol y Cyngor. 

12.4

Bod y Cynghorydd Aled Vaughan Owen yn cael ei benodi'n Hyrwyddwr Masnach Deg y Cyngor.

 

13.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.