Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Y Cynghorydd/    Swyddog

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Cyng. A. Davies

9 - Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr;

Yn rhedeg Airbnb mewn ail gartref fel rhan o'i busnes fferm;

Cyng. H. Evans

9- Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr;

Mae gan aelod o'r teulu ail gartref;

Cyng. L.D. Evans

9 - Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr;

Mae gan aelod o'r teulu ail gartref;

Cyng. P. Hughes

9 - Ail Gartrefi a Llety Gwyliau Tymor Byr;

Mae gan aelod o'r teulu ail gartref;

W.S. Walters

14 - Effaith Covid-19 ar Gontractwyr – Gwaith Mawr;

Mae ei g?r yn gweithio i gontractwr;

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR Y 17EG GORFFENNAF 2023. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2022-2023. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ar gyfer Rheoli'r Trysorlys, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer 2022-23.

 

Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd ar gyfer 2022-23 ar 2 Mawrth 2022.  Rhestrodd yr adroddiad blynyddol y gweithgareddau a gynhaliwyd yn 2022-23.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2022-23 yn cael ei fabwysiadu.

 

7.

RHAGOLYGON Y GYLLIDEB REFENIW. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Ragolygon Cyllideb Refeniw'r Cyngor yn dilyn y cyfarfod y Cyngor ym mis Mawrth 2023 lle cytunwyd ar ei Gynllun Ariannol Tymor Canolig ar sail yr amcangyfrifon a'r ymrwymiadau a oedd yn hysbys ar y pryd a'i lunio yng nghyd-destun setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, gan gynnwys setliad dangosol ar gyfer blwyddyn 2 o’r cynllun ac amcangyfrifon ar gyfer mewnbynnau allweddol eraill.  Ar adeg y gosod y gyllideb nodwyd y risg o chwyddiant, ac yn benodol ei effaith ar setliadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, yn ogystal â'r cynnydd mewn costau gofal a gomisiynwyd, sy'n gysylltiedig â chynnydd yn y cyflog byw sylfaenol. Fodd bynnag, roedd newidiadau ychwanegol i'r amgylchedd allanol a fyddai'n cael effaith sylweddol ar y gyllideb wrth symud ymlaen yn cynnwys y canlynol:

 

·       Mae cyfradd chwyddiant bellach yn amlwg yn gostwng, er bod rhagolygon yn dal i fod yn ansicr iawn;

·       Sefyllfa sydd heb ei datrys ynghylch cynnig cyflog NJC Ebrill 2023 (manylion isod), gyda chynnig y Cyflogwyr eisoes yn cael ei amcangyfrif £3m yn uwch na'r ffigurau cyllidebol cyfredol;

·       Risg o anghydfod pellach ynghylch cynnig Athrawon Medi 2023 (wedi'i ddiwygio i 5% ar adeg ysgrifennu – manylion isod);

·       Prisiau ynni llai sydd nid yn unig yn lleihau ein costau corfforaethol, ond maent hefyd wedi lleihau cost mecanwaith cap prisiau Llywodraeth y DU, gan wella cyllid cyhoeddus. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

bod y rhagolwg cyllidebol cychwynnol yn cael ei dderbyn;

7.2

bod y dull arfaethedig o glustnodi'r arbedion angenrheidiol yn cael ei gymeradwyo;

7.3

bod y dull arfaethedig o ymgynghori ynghylch y gyllideb yn cael ei nodi.

 

8.

CAIS I'R GRONFA DATBLYGU. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa ddiweddaraf y Gronfa Ddatblygu ac yn gofyn am gymeradwyo cais diweddar i roi swm o £175,000 i ariannu lleiniau ychwanegol â thrydan ym Mharc Gwledig Pen-bre a fyddai'n creu rhagor o incwm. Cynigwyd bod yr ad-daliad ar gyfer y cynllun uchod yn para dros bedair blynedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 cymeradwyo rhoi swm o £175,000 ar gyfer ariannu lleiniau ychwanegol â thrydan ym Mharc Gwledig Pen-bre, gan greu mwy o incwm;

 

8.2 bod yr ad-daliad am y cynllun uchod yn para dros gyfnod o bedair   blynedd;

 

8.3   bod y taliadau'n dechrau yn 2024/25.  

 

 

 

9.

AIL GARTREFI A LLETY GWYLIAU TYMOR BYR. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr A. Davies, H. Evans, L.D. Evans a P. Hughes wedi datgan buddiant personol yn yr eitem hon yn gynharach ac felly gadawsant y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod a'r bleidlais ddilynol.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn nodi ffordd ymlaen posibl mewn perthynas ag ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr a datblygu dull polisi cynllunio a fydd yn tynnu sylw at yr ystyriaethau sylfaenol a'r dulliau posibl i reoli'r newid defnydd digyfyngiad rhwng y dosbarthiadau defnydd newydd o eiddo. Wrth lunio'r ffordd ymlaen, mae'r adroddiad yn nodi cyfres o gamau fel rhan o ddull fesul cam o ystyried a gweithredu dull polisi newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Sir Gaerfyrddin.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1 nodi cynnwys yr adroddiad hwn a chefnogi'r camau canlynol;

 

9.2 mabwysiadu'r dull fesul cam a nodwyd wrth ddatblygu ymateb a arweinir gan bolisi;

 

9.3 cymeradwyo datblygiad pellach y sylfaen dystiolaeth fel yr amlinellir yn yr adroddiad.  

 

10.

MATERION YSTÂD WLEDIG Y CYNGOR SIR. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ymhellach i gofnod 14 o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2023, rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth ar ddau fater cyfredol yn ymwneud â phortffolio Ystâd Wledig y Cyngor sef plannu coed a chreu coetiroedd ar dir y Cyngor a sefydlu Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn Fferm Bremenda Isaf, Llanarthne. Byddai'r cyntaf yn helpu i gyflawni nodau'r Cyngor ynghylch atafaelu carbon  mewn perthynas â'i ymrwymiad Carbon Sero Net a'i amcanion Argyfwng Natur, a byddai'r olaf yn cyflawni nodau'r Cyngor ynghylch cynhyrchu bwyd lleol, cefnogi mentrau gwledig a galluogi arallgyfeirio ar ei Ystâd Fferm at ddibenion sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1 bwrw ymlaen â phlannu coed a chreu coetiroedd ar dir y Cyngor;  

 

10.2 bwrw ymlaen â'r Prosiect Datblygu Systemau Bwyd yn Fferm Bremenda Isaf, Llanarthne.  

 

 

11.

NODI BOD GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU’R CYNGHORYDD MEINIR JAMES I GYMRYD LLE’R CYNGHORYDD HAZEL EVANS AR Y GRWP LLYWODRAETHU LLESIANT DELTA.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod Gr?p Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd Meinir James yn lle'r Cynghorydd Hazel Evans ar y Gr?p Llywodraethu Llesiant Delta 

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD.

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem canlynol yn cael ei ystyried, gan fod yr adroddiada yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf. 

 

 

14.

EFFAITH COVID-19 AR GONTRACTWYR - GWAITH MAWR.

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Prif Weithredwr, Wendy S. Walters, wedi datgan buddiant personol yn yr eitem a gadawodd y cyfarfod tra oedd y Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.]

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn cael effaith andwyol ar gyllid cyhoeddus drwy danseilio sefyllfa'r Cyngor o ran trafod telerau yn y trafodiad hwn a thrafodiadau tebyg eraill.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn gofyn am benderfyniad i ddiwygio darpariaethau cytundebol yn unol â Chanllawiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu. Roedd yr adroddiad yn manylu ar y goblygiadau ariannol, y risgiau a'r goblygiadau cyfreithiol i'r amrywiol opsiynau oedd ar gael.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Opsiwn 2 fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau