Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 3ydd Gorffennaf, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 19EG MEHEFIN 2023. pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

POLISI DIGOLLEDU AR GYFER DEILIAID CONTRACTAU (TENANTIAID). pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Polisi Digolledu ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid) a oedd yn amlinellu dull yr Awdurdod o ddelio ag achosion pryd y gallai fod yn briodol digolledu tenant sydd wedi dioddef colled neu anghyfleustra oherwydd methiant yn y gwasanaeth.  Bydd y polisi yn arwain swyddogion wrth ddelio â thenantiaid y cyngor gan sicrhau dull cyson.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Digolledu ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid).

 

7.

POLISI ADENNILL COSTAU AM WAITH ATGYWEIRIO AR GYFER DEILIAID CONTRACTAU (TENANTIAID). pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Polisi Adennill Costau am Waith Atgyweirio ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid) a oedd yn nodi'r meini prawf pryd byddid yn codi tâl ar denant (deiliad contract) am atgyweiriadau y maent hwy'n gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb tenantiaeth (Contract).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Adennill Costau am Waith Atgyweirio ar gyfer Deiliaid Contractau (Tenantiaid).

 

8.

ADRODDIAD GRWP GORCHWYL A GORFFEN CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH (DU, ASIAIDD A LLEIAFRIFOEDD ETHNIG). pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Yn ei gyfarfod ar 27 Gorffennaf 2020 (gweler cofnod 8), ar ôl i'r Cyngor gymeradwyo'r ddau Rybudd o Gynnig ar hiliaeth yn Sir Gaerfyrddin ar 12 Chwefror 2020 (7.1) ac 8 Gorffennaf 2020 (7.1), roedd y Cabinet o'r farn y dylid mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan bob Cynnig ar y cyd â'i gilydd a chymeradwyodd sefydlu Panel Ymgynghorol Gorchwyl a Gorffen a oedd yn wleidyddol gytbwys i wrando ar lais cymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig yn Sir Gaerfyrddin.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen a gasglwyd dros gyfnod o flwyddyn rhwng 2020 a 2021. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'r sefyllfa a'r wybodaeth a oedd ar gael i'r Gr?p bryd hynny. Cytunodd y Gr?p ar yr argymhellion yn yr adroddiad yn ei gyfarfod olaf ym mis Gorffennaf 2021. 

 

Ers mis Mai 2020 mae cyflymder y newid o ran anghydraddoldeb hiliol wedi cynyddu'n sylweddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith ar lefel genedlaethol ac ym mis Mehefin 2022 cyhoeddodd ei Gweledigaeth ar gyfer Cymru Wrth-hiliol a sut y byddai'n mynd ati i gyflawni hyn drwy Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Hefyd, ym mis Hydref 2021, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i wneud addysgu hanes a phrofiadau pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn orfodol yng nghwricwlwm ysgolion. Wrth ystyried yr adroddiad roedd yn amlwg bod mentrau cenedlaethol wedi mynd y tu hwnt i uchelgais y Gr?p, ond mae rhai argymhellion yn benodol i Gyngor Sir Caerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1      bod argymhellion 1-17 ac argymhelliad 20 y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, fel y nodir yn yr adroddiad yn cael ei derbyn;

 

8.2      gofyn i swyddogion adolygu argymhellion 18 a 19, o ystyried y goblygiadau cost posibl.

 

9.

CAIS I'R GRONFA DDATBLYGU. pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa ddiweddaraf y Gronfa Ddatblygu ac yn gofyn am gymeradwyo cais diweddar i roi swm o £150,000 i ariannu Cwrs Golff Bach newydd wedi'i seilio ar thema ar Safle Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1      cymeradwyo rhoi swm o £150,000 ar gyfer Cwrs Golff Bach newydd wedi'i seilio ar thema ar Safle Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn, gan greu mwy o incwm;

9.2      bod yr ad-daliad am y cynllun uchod yn para dros gyfnod o bedair blynedd;

9.3      bod y taliadau'n dechrau yn 2024/25

 

10.

CYNLLUN CREU LLEOEDD PORTH TYWYN. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Porth Tywyn a luniwyd i ategu Cynlluniau Twf y Deg Tref a'r cynlluniau adfer Covid-19 ar gyfer prif drefi Sir Gaerfyrddin. Byddai cyhoeddi'r Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Porth Tywyn yn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r prif drefi a'r trefi eilaidd eraill ar draws y sir.

 

Dylid nodi bod y cynllun yn adlewyrchu'r sefyllfa ym mis Mai 2022. Mae’r cynllun yn ddigon hyblyg i adlewyrchu anghenion a gofynion newidiol posibl y dref a gellir ei ddiwygio o bryd i'w gilydd gan dîm y dref. Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu gyda rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal i nodi cyfleoedd a oedd yn cysoni'r cynigion adfer ar gyfer canol y dref â dyheadau adfywio yr harbwr gan sicrhau bod Porth Tywyn yn y sefyllfa orau i fanteisio i'r eithaf ar effaith gwaith adfywio arfaethedig yn yr ardal leol.

 

Wrth lunio'r Cynllun Creu Lleoedd, cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned ac roedd eu cyfraniad wedi helpu i nodi 15 o Gyfleoedd Prosiect Creu Lleoedd yn yr ardal a fyddai'n helpu i wireddu'r dyheadau ar gyfer Porth Tywyn, a nodwyd y rhain yn yr adroddiad.

 

Petai’r Cabinet yn cymeradwyo'r cynllun, byddai swyddogion yn cynnal cyfarfod i randdeiliaid allweddol ym Mhorth Tywyn i gyflwyno'r cynllun terfynol ac yn ceisio ffurfio gr?p i symud y cynllun ymlaen, gan fanteisio, lle bynnag y bo'n bosibl, ar ffrydiau cyllido perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Creu Lleoedd Porth Tywyn.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.