Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 19eg Mehefin, 2023 9.30 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Price, y Cadeirydd, a oedd wrthi’n ymwneud â mater arall yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Davies

55       5 - Cwestiynau â Rhybudd gan y Cyhoedd

Mae'r llwybr beicio yn mynd drwy dir y mae ei theulu'n berchen arno ac yn ei ffermio. Personol a rhagfarnol

A. Davies

          15 - Cronfa Cymunedau Cynaliadwy

Mae un o'r ceisiadau wedi cael ei gyflwyno gan Gr?p yn ei ward. Personol a rhagfarnol

G. Davies

          15 - Cronfa Cymunedau Cynaliadwy

Mae un o'r ceisiadau wedi cael ei gyflwyno gan Gr?p yn ei ward. 

L.D. Evans

          11 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2022/23

Mae ei merch yn athrawes.

P.M. Hughes

          15 - Cronfa Cymunedau Cynaliadwy

Mae un o'r ceisiadau wedi cael ei gyflwyno gan Gr?p yn ei ward.

A. Vaughan-Owen

11   111 – Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2022/23

Mae ei wraig yn bennaeth ysgol.

A.  Vaughan-Owen

    1     15 - Cronfa Cymunedau Cynaliadwy

Mae'n aelod o nifer o grwpiau sydd wedi gwneud ceisiadau.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR YR 22AIN O FAI, 2023 pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Mai 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd A. Davies y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried a chyn i benderfyniad gael ei wneud yn ei chylch.]

 

Dywedodd y Cadeirydd fod un cwestiwn wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.1

CWESTIWN GAN MR HAVARD HUGHES I'R CYNG. EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai prynu gorfodol fod yn opsiwn ‘pan fetho popeth arall' yn dilyn negodi i werthu tir yn wirfoddol. Ac eto ymddengys fod Gorchymyn Prynu Gorfodol y Cyngor mewn perthynas â Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn berthnasol i'r llwybr cyfan o Felin-wen i Landeilo.  Heb ofyn am ddatgelu enwau unigol, a wnewch chi roi sicrwydd i'r cyhoedd bod negodiadau wedi'u dechrau mewn perthynas â'r tir oedd ei angen ar gyfer y Llwybr Beicio a chadarnhau faint - os o gwbl - o werthiannau gwirfoddol sydd wedi'u sicrhau y tu allan i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai prynu gorfodol fod yn opsiwn 'pan fetho popeth arall' yn dilyn negodi i werthu tir yn wirfoddol. Ac eto ymddengys fod Gorchymyn Prynu Gorfodol y Cyngor mewn perthynas â Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn berthnasol i'r llwybr cyfan o Felin-wen i Landeilo. Heb ofyn am ddatgelu enwau unigol, a wnewch chi roi sicrwydd i'r cyhoedd bod negodiadau wedi'u dechrau mewn perthynas â'r tir oedd ei angen ar gyfer y Llwybr Beicio a chadarnhau faint - os o gwbl - o werthiannau gwirfoddol sydd wedi'u sicrhau y tu allan i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.” 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch gwneud Gorchmynion Prynu Gorfodol ac yn cydnabod disgwyliad Gweinidogion Cymru bod yn rhaid i'r Awdurdodau Caffael ddangos eu bod wedi cymryd camau i gaffael yr holl dir a hawliau sydd wedi’u cynnwys yn y gorchymyn prynu gorfodol drwy gytundeb lle bynnag y bo modd. Wrth gydgasglu lleiniau a theitlau lluosog bydd y sicrwydd o ran amseriad a’r dull gweithredu cyson a gynigir gan orchymyn prynu gorfodol yn fuddiol.  Serch hynny, mae'r Cyngor fel yr Awdurdod Caffael yn ymwybodol o'r angen i fabwysiadu arferion da drwy gynnig cyfle i'r partïon yr effeithir arnynt ymrwymo i gytundeb i werthu'n wirfoddol lle maent yn barod i wneud hynny. Bwriedir i orchymyn prynu gorfodol, yn ôl ei natur, sicrhau bod y tir sydd ei angen i weithredu cynllun yn cael ei gydgasglu lle na ellir ei gaffael drwy gytundeb. Fodd bynnag, ni all Awdurdod Caffael aros nes bod negodiadau wedi chwalu cyn dechrau’r broses prynu gorfodol.  Bydd amser gwerthfawr wedi cael ei golli.  Felly, o ystyried yr angen i gyflawni'r cynllun mewn modd amserol i gydymffurfio â gofynion y Swyddfa Cyllid Ffyniant Bro, ystyrir ei bod yn synhwyrol, o ystyried faint o amser sydd ei angen i gwblhau'r broses prynu gorfodol a nifer y lleiniau o dir y mae angen eu cydgasglu ar gyfer y llwybr, i'r Cyngor Sir gychwyn gweithdrefn ffurfiol. Bydd hyn yn rhedeg ochr yn ochr â negodiadau parhaus.  Mae'r broses prynu gorfodol yn caniatáu cynnwys tir sydd eisoes yn eiddo i'r Awdurdod Caffael mewn gorchymyn prynu gorfodol i sicrhau teitl cyfreithiol llawn.  Mae'r Cyngor, cyn dechrau'r broses, wedi ymgynghori a negodi â'r holl dirfeddianwyr, gan gynnwys pob trydydd parti y gallai'r cynnig effeithio ar ei hawliau.   Mae pum parsel tir eisoes wedi'u sicrhau a daethpwyd i gytundeb drwy negodi ynghylch chwe pharsel arall.   Mae dechrau gweithdrefn prynu gorfodol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gyflawni'r cynllun o'r cychwyn cyntaf.   Dangosodd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ynghylch creu'r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig gefnogaeth aruthrol gan y cyhoedd ar gyfer ei gyflawni.  Felly, mae'r Cyngor yn hyderus bod ymdrechion wedi'u gwneud i gaffael y tir drwy gytundeb lle bynnag y bo modd, ond ni fydd yr holl dir yn cael ei gaffael yn y modd hwn, felly o ganlyniad nid oes dewis realistig arall ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

6.

SYSTEM IECHYD A GOFAL I ORLLEWIN CYMRU: PA MOR BELL, PA MOR GYFLYM? pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu'r ymateb yng Ngorllewin Cymru i fwrw ymlaen â'r broses integreiddio.  Yn benodol, roedd yr papur yn amlinellu cyfle yn Sir Gaerfyrddin i ddatblygu a gweithredu system iechyd a gofal ar gyfer pobl h?n yn seiliedig ar 'yr hyn sy'n bwysig' i'r boblogaeth hon a'r hyn a fydd yn addas i'r diben nawr ac yn y dyfodol. Roedd y papur hefyd yn ystyried sut i gysoni â'r Ddogfen Drafod Weinidogol sy'n dwyn y teitl 'Yn Bellach, Yn Gyflymach' a disgwyliadau'r ddogfen honno.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1 cydnabod yr adroddiad, y cyfle a'r sefyllfa gyfredol;

6.2cymeradwyo'r cynnig a'r cynllun lefel uchel.

 

7.

BYRDDAU DIOGELU PLANT AC OEDOLION CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021-2022. pdf eicon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru 2021/22 a oedd yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn erbyn y canlyniadau a bennwyd gan CYSUR a CWMPAS fel rhan o Gynllun Strategol Blynyddol ar y cyd. 

 

Mae'r ddwy flynedd flaenorol wedi achosi heriau digynsail i'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol a'i bartneriaid yn ei ymdrechion i ymateb i heriau pandemig byd-eang COVID-19, wrth sicrhau bod dinasyddion Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu hamddiffyn rhag profi niwed, camdriniaeth neu esgeulustod. Roedd yr adroddiad blynyddol eleni yn amlinellu rhai o'r prif gyflawniadau ac yn dangos sut y cawsant eu cyflawni yn erbyn yr amcanion a bennwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiad parhaus i gyflawni'r agenda Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol sy'n rhoi Trosolwg o Amcanion a Chyflawniadau Bwrdd Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2021/22.

 

8.

DEISEB AM DDIOGELWCH FFYRDD - HEOL Y LLEW DU, CROSSHANDS pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar yr ymateb i'r ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Rhagfyr 2022 ynghylch diogelwch ffyrdd ar hyd Heol y Llew Du yn Cross Hands.

 

Yng nghyfarfod y Cyngor dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.

 

Ers hynny mae swyddogion y Gwasanaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth wedi cynnal ymchwiliad ac mae'r canfyddiadau wedi'u nodi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 nodi cynnwys yr adroddiad;

8.2 gwrthod cais y deisebwyr am arafu traffig yn Heol y Llew Du;

8.3 gwrthod cais y deisebwyr am newidiadau i'r gyffordd groesgam yn Heol y Llew Du;

8.4 bod swyddogion yn gweithio i ddylanwadu ar gydymffurfiaeth gyrwyr â therfynau cyflymder ar hyd Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands;

8.5 cynnal Archwiliad Diogelwch Ffyrdd Cam 4 maes o law;

8.6 hysbysu'r deisebwyr yn unol â hynny.

 

 

9.

DEISEB HARBWR PORTH TYWYN I CYNGOR LLAWN - ADRODDIAD DIWEDDARU. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yn Harbwr Porth Tywyn, yn dilyn deiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor llawn ar 25 Ionawr 2023 gan Gyfeillion Marina Porth Tywyn (FBPM).

 

Nodwyd bod swyddogion sy'n cynrychioli'r adrannau Adfywio, Cyllid a Hamdden yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â Rheolwr Gyfarwyddwr The Marine Group, lle mae pryderon gweithredol wedi cael eu codi a'u trafod ac yn parhau i gael eu codi a'u trafod. Mae swyddogion hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd â Chadeirydd FBPM.

 

Mae'r Cyngor Sir yn rhannu nod datganedig FBPM o fod eisiau cyfleuster diogel, gweithredol a deniadol sydd o fudd gwirioneddol i ddefnyddwyr yr harbwr a'r gymuned gyfan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

9.1 nodi'r sefyllfa o ran rhwymedigaethau prydles Burry Port Marina Ltd (BPML) mewn perthynas â rheoli'r Harbwr;

9.2 nodi sefyllfa Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â chyfrifoldebau landlord am brydles yr ased a'r ymgysylltu parhaus gan swyddogion â rheolwyr BPML.

 

10.

CYNLLUN TRECHU TLODI. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried y Cynllun Trechu Tlodi a oedd yn amlinellu ymagwedd y Cyngor tuag at fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â thlodi.

 

Mae'r Cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr agenda trechu tlodi ehangach, a nodir camau allweddol dros y 12 mis nesaf a fydd yn cefnogi ymateb y Cyngor i'r argyfwng costau byw presennol. Bydd y Cynllun hwn yn cael ei adolygu pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Tlodi Plant, a ddisgwylir o fewn y 12 mis nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Trechu Tlodi y Cyngor 2023.

 

11.

POLISI CYFLOGAU ATHRAWON ENGHREIFFTIOL 2022/23. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

[NODER:  (1) Gan iddynt ddatgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr L.D. Evans ac A. Vaughan-Owen y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried a chyn i benderfyniad gael ei wneud yn ei chylch.    (2) Yn absenoldeb y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd, cafodd ei gynnig, ei eilio a'i gytuno y byddai'r Cynghorydd A. Lenny yn cadeirio'r cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried.]

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am Bolisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol diweddaraf 2022/23.

 

Mae'r polisi wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys tâl mis Medi 2022 fel y nodir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022. Mae newidiadau eraill yn cynnwys adolygu'r egwyddor pro-rata ar gyfer lwfansau TLR 1 a 2 a’r Gwyliau Banc ychwanegol i nodi angladd Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth a choroni Ei Fawrhydi y Brenin Siarl III a olygai fod yn rhaid i athrawon fod ar gael i weithio am 193 diwrnod / 1258.5 o oriau yn lle'r 195 diwrnod arferol.

 

Er mwyn cydymffurfio â gofynion Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol gael polisi tâl sy'n nodi sut y gwneir penderfyniadau cyflog,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2022/23 cyn iddo gael ei ddosbarthu i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

13.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINET AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

14.

FFORDD GYSWLLT GORLLEWIN CAERFYRDDIN - CYTUNDEB TIRFEDDIANWYR A DIGOLLEDU - GWEITHRED AMRYWIO.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth yn cael effaith andwyol ar gyllid cyhoeddus drwy danseilio sefyllfa'r Cyngor o ran trafod telerau yn y trafodiad hwn a thrafodiadau tebyg eraill.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi manylion am Weithred Amrywio mewn perthynas â Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin.  

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Weithred Amrywio.

 

 

15.

CRONFA CYMUNEDAU CYNALIADWY

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Gan iddynt ddatgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorwyr A. Davies, G. Davies, P.M. Hughes ac A. Vaughan-Owen y cyfarfod cyn i'r eitem hon gael ei hystyried a chyn i benderfyniad gael ei wneud yn ei chylch.]

 

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 13 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd gallai datgelu'r wybodaeth danseilio sefyllfa'r sefydliadau dan sylw mewn perthynas â sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn yr un maes gweithgaredd.

 

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o geisiadau a gyflwynwyd o dan y Gronfa Cymunedau Cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

15.1

dyfarnu cyllid i'r prosiectau a nodir yn Nhabl 2 fel yr argymhellwyd gan y Panel Cyllido;

15.2

 

15.3

cymeradwyo cyllid ar gyfer yr 11 prosiect ychwanegol a nodir yn Nhabl 3, yn amodol ar gymeradwyaeth y Bartneriaeth Adfywio.

Trosglwyddo cyllid ychwanegol o £1m i’r Gronfa Cymunedau Cynaliadwy 0 rannau eraill o’r rhaglen SPF.