Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 22ain Mai, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C.A. Davies

5.2  Cwestiwn gan Havard Hughes i'r Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio;

Mae'r Cynghorydd Davies yn berchen ar dir sy'n croesi Llwybr Dyffryn Tywi.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFODYDD Y CABINET A GYNHALWYD AR 24AIN EBRILL 2023 pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod dau o gwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.1

CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"O dan gynlluniau ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i gynllunio newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhagweld y bydd 68% o weithlu Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty newydd. Mae hyn yn cyfateb i 2,625 aelod o staff, yn seiliedig ar niferoedd 2022. Ysbyty Glangwili yw un o gyflogwyr mwyaf Caerfyrddin.

O ystyried bod gan y Cyngor gyfrifoldebau dros ein trefi, pa effaith ydych chi'n credu y bydd hyn yn ei chael ar dref Caerfyrddin?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"O dan gynlluniau ar gyfer yr Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi'i gynllunio newydd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhagweld y bydd 68% o weithlu Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cael ei drosglwyddo i'r ysbyty newydd. Mae hyn yn cyfateb i 2,625 aelod o staff, yn seiliedig ar niferoedd 2022. Ysbyty Glangwili yw un o gyflogwyr mwyaf Caerfyrddin. O ystyried bod gan y Cyngor gyfrifoldebau dros ein trefi, pa effaith ydych chi'n credu y bydd hyn yn ei chael ar dref Caerfyrddin?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

Diolch Mr. Evans.  Fel y gwyddoch, y Bwrdd Iechyd fydd yn penderfynu ynghylch ailstrwythuro gofal ysbyty yn Ne-orllewin Cymru wrth gwrs, ac, yn y pen draw, os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru.  Mae'n glir bod gennych ddiddordeb amlwg yn y mater hwn, a byddwn yn awgrymu efallai ei fod yn werth i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r Bwrdd Iechyd yn ei gylch.              

 

Fodd bynnag, mae hwn yn fater sy'n amlwg o ddiddordeb i'r boblogaeth leol, gan fod Glangwili wedi bod, a bydd yn parhau i fod, yn rhan bwysig o wead y dref. Yn wir mae aelodau etholedig lleol yng Nghaerfyrddin wedi ymgyrchu ers tro i  gadw a datblygu Ysbyty Glangwili - a dweud y gwir, lansiwyd ac arweiniwyd yr  ymgyrch i wneud hynny gan gynghorwyr lleol Plaid Cymru yn y dref - dau sydd bellach yn aelodau Cabinet ac sy'n eistedd yn y siambr y bore 'ma.                       

 

Pan dorrodd y newyddion am y bwriad i ad-drefnu'r ddarpariaeth ysbyty ym mis Mawrth 2018, galwodd y Cynghorydd Alun Lenny, Maer y Dref ar y pryd, gyfarfod    cyhoeddus a threfnu deiseb ar-lein a ddenodd dros 5,000 o enwau mewn byr iawn o amser.  Cefnogwyd hyn gan bob plaid ar y Cyngor Tref, a oedd dan arweiniad Plaid.   

 

Cafodd y Cynghorydd Gareth John y dasg wedyn gan gr?p Plaid Cymru ar y cyngor sir i baratoi ymateb manwl i'r ymgynghoriad gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ynghylch trawsnewid gwasanaethau clinigol. O ganlyniad, ym mis Mehefin 2018, cyflwynwyd ymateb manwl 14 tudalen i'r Bwrdd. Wrth ddadlau achos Glangwili, tynnodd sylw at y ffaith bod bron i hanner (48%) poblogaeth ardal y Bwrdd Iechyd yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a bod Glangwili wedi'i leoli'n agos iawn i ganol y sir.

 

Yn wir, y llynedd galwodd cynghorwyr tref Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin a'r Aelod o'r Senedd Adam Price ar y Bwrdd Iechyd i amddiffyn gwasanaethau a'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili, fel rhan o unrhyw ad-drefnu gofal iechyd yn Ne-orllewin Cymru.  

 

Fodd bynnag, fel y gwyddoch, rydym bellach mewn sefyllfa lle mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried 3 safle y tu allan i dref Caerfyrddin ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd, serch bod y safleoedd arfaethedig o fewn ffiniau'r sir.

 

Rwy'n deall bod yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud gwaith pellach (a'i fod yn bwriadu gwneud hynny) i ddeall yn well effaith economaidd ei newidiadau arfaethedig i'r ddarpariaeth ysbyty fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

CWESTIWN GAN HARVARD HUGHES I'R CYNGHORYDD ANN DAVIES, YR AELOD CABINET DROS FATERION GWLEDIG A PHOLISI CYNLLUNIO

“Yn ei ymateb fel ymgynghorwr statudol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y risg 'y byddai llifogydd yn effeithio ar rannau sylweddol o lwybr Beicio Dyffryn Tywi' ac mae'n gofyn am Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd. Pryd fydd hyn yn cael ei gwblhau ac ar gael i'r cyhoedd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd C.A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

“Yn ei ymateb fel ymgynghorwr statudol, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at y risg 'y byddai llifogydd yn effeithio ar rannau sylweddol o lwybr Beicio Dyffryn Tywi' ac mae'n gofyn am Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd. Pryd fydd hyn yn cael ei gwblhau ac ar gael i'r cyhoedd?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Ann Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio :-

“Rwyf eisoes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon gan fy mod yn ffermio ac yn berchen ar dir ar hyd Dyffryn Tywi, ac felly mae gen i fuddiant personol ym Mhrosiect Llwybr Beicio Dyffryn Tywi. Rwyf heb ofyn am ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau gan fy mod yn teimlo fy mod yn rhy agos i'r llwybr sy'n mynd yn uniongyrchol drwy ein tir. Rwy'n gadael y siambr neu unrhyw bwyllgor pan caiff y prosiect hwn ei drafod, ac ni fyddaf yn gadael heddiw gan na ellir cael trafodaeth ar y mater oherwydd fy muddiant. Ond gallaf ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cwestiwn a rhoi gwybod i chi fod eich cwestiwn wedi'i gyfeirio i'r adran berthnasol a fydd yn ymateb i chi'n ysgrifenedig. Ond ni allaf drafod y mater hwn. Diolch yn fawr.”

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.

 

6.

CYFLWYNO DEISEB

 

Nodyn: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 50 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.

 

“Rydym ni'r rhai sydd wedi llofnodi isod yn gofyn am weithredu ar unwaith gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gynllunio, ariannu ac adeiladu toiledau yn Nwyrain Harbwr Porth Tywyn a Gorllewin Harbwr Porth Tywyn. Deiseb i ddatrys absenoldeb toiledau cyhoeddus digonol a hygyrch yn Harbwr Porth Tywyn.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9 o gyfarfod y Cyngor ar 10 Mai 2023, croesawodd y Cadeirydd i'r cyfarfod Mrs. Katherine Start a oedd wedi cael gwahoddiad i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol ynghylch toiledau yn Harbwr Porth Tywyn ac i annerch y Cabinet yn ei chylch:

 

“Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin weithredu ar unwaith i gynllunio, i ariannu ac i adeiladu toiledau yn nwyrain Harbwr Porth Tywyn ac yng ngorllewin Harbwr Porth Tywyn. Deiseb i unioni'r diffyg toiledau cyhoeddus digonol a hygyrch yn Harbwr Porth Tywyn.”

 

Amlinellodd Mrs. Start i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, trosglwyddodd Mrs. Start y ddeiseb yn ffurfiol i'r Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y ddeiseb a chyflwyno adroddiad am y materion a godwyd i'r Cabinet maes o law. 

 

7.

POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9.1 o gyfarfod y Cyngor ar 28 Medi 2022, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad ar y sylwadau oedd wedi dod i law yn ystod y cyfnod ymgynghori dilynol ar y Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo. Roedd chwe ymateb/sylw wedi dod i law fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, a dywedwyd nad oedd yr un ohonynt wedi gofyn am welliant penodol i'r Polisi drafft, ac felly argymhellwyd mabwysiadu hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR y dylid mabwysiadu'r  Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo drafft.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 28 Chwefror 2023, o ran 2022/2023.  Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6.159k ac yn rhagweld gorwariant o £470k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·       setliadau cyflog a drafodir yn genedlaethol (heb eu penderfynu hyd yn hyn) ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd, ac nid oedd y llywodraeth wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer hyn;

·       gorwariant mewn meysydd gwasanaeth o achos galw cynyddol ynghyd â llai o gyllid grant o gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn enwedig yn y Gwasanaeth Anableddau Dysgu a Phlant;

·       gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol;

·       tanwariant cyllido cyfalaf oherwydd oedi o ran y cynllun a llai o angen i fenthyca.

 

Rhagwelwyd byddai tanwariant o £850k ar gyfer 2022/23 o ran y Cyfrif Refeniw Tai. Byddai hyn yn cael ei adolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1 Derbyn adroddiad Monitro'r Gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

 

8.2 O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus. 

 

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 28 Chwefror 2023 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet.

 

Fel rhan o gylch monitro mis Rhagfyr roedd £56,878k wedi cael ei drosglwyddo i'r blynyddoedd i ddod ac wedi'i gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf newydd 2023-2028, a olygai bod cyllideb waith y gronfa gyffredinol yn agosach i'r alldro a ragwelir ar gyfer y flwyddyn. Nid yw'r cyllidebau Cyfrif Refeniw Tai yn newid.

 

Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £54,673k o gymharu â chyllideb net weithredol o £93,787k gan roi £39,115k o amrywiant.  

 

Roedd rhai cyllidebau wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant gwirioneddol o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo, a grantiau newydd oedd wedi dod i law yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.

  

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1     bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf yn cael ei dderbyn;

 

9.2. bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.

 

10.

STRATEGAETH HYBU 2023-28 pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg arfaethedig 2023-28 y bu'n ofynnol i'r Cyngor ei llunio a'i chyhoeddi yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg. Roedd y strategaeth 5 mlynedd yn nodi sut bwriadai'r Cyngor hyrwyddo'r Gymraeg a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn Sir Gaerfyrddin.

 

Diolchwyd i Fforwm Strategol y Gymraeg y Sir, sef prif gyfrwng cynllunio'r Strategaeth yn ogystal â chraffu arni, am ei gyfraniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg arfaethedig 2023-28 i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r Iaith ar draws Sir Gaerfyrddin.

 

11.

POLISI AR DDYFARNU GRANTIAU A'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Polisi arfaethedig ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg i'r Cyngor er mwyn sicrhau cysondeb ar draws cynlluniau grant. Roedd y Polisi wedi cael ei baratoi er mwyn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011). Roedd hysbysiad cydymffurfio Cyngor Sir Caerfyrddin yn nodi bod yn rhaid iddo 'lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau' sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried pa effaith fydd dyfarnu grant yn ei chael ar 'gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg', a 'pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg'. Roedd y Polisi yn manylu ar ymrwymiad y Cyngor i roi Grantiau yn unol â'r Safonau ac yn esbonio'r ffordd y byddai'r Cyngor yn trosglwyddo'r dyletswyddau hyn i'r ymgeiswyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi arfaethedig ar Ddyfarnu Grantiau a'r Gymraeg.

12.

CYNLLUN RHEOLI ASEDAU CORFFORAETHOL 2023-2028 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol arfaethedig 2023-2028 a'i ddiben oedd dal ar lefel uchel oblygiadau asedau materion eiddo oedd gan wasanaethau a achoswyd gan wahanol ffactorau megis newidiadau mewn agendâu lleol a chenedlaethol, pwysau ariannol a newidiadau i anghenion cleientiaid. Lle bo'n briodol, roedd gofynion eiddo manwl amrywiol wasanaethau wedi eu cofnodi yng Nghynlluniau Rheoli Asedau y Gwasanaeth. Roedd y Cynllun hefyd yn rhoi trosolwg o bortffolio asedau'r Cyngor nad ydynt yn ymwneud â thai o ran costau rhedeg, cynaliadwyedd a phroblemau cynnal a chadw, gan arwain at gynllun gweithredu i gwmpasu'r cynlluniau o sylwedd sy'n gysylltiedig ag eiddo.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Crynodeb a Chynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2023-2028.

 

13.

BEICIO I'R GWAITH A BENTHYCIADAU I BRYNU CEIR pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a roddai ddiweddariad yn dilyn adolygiad o gynllun presennol yr Awdurdod o ran Beicio i'r Gwaith a Benthyciadau i Brynu Ceir.

 

Roedd y Cynllun Beicio i'r Gwaith wedi'i sefydlu 11 mlynedd yn ôl a bernid ei fod wedi dyddio bellach.  Roedd technoleg well yn y diwydiant beicio nid yn unig wedi arwain at gostau prynu uwch ar gyfer beiciau ffordd traddodiadol ond roedd yr opsiwn i brynu beiciau trydan newydd hefyd yn fwy deniadol.

 

Roedd y cynllun Benthyciadau i Brynu Ceir (Cymorth â Phrynu Car) wedi bod ar waith ers 1998. Roedd wedi'i gynnwys yn Amodau Gwasanaeth y Cyngor a byddai angen ymgynghori â'r Undebau Llafur cydnabyddedig ar unrhyw newid i'r cynllun presennol neu unrhyw fwriad i gael gwared arno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

13.1 cynyddu'r terfyn ar gyfer prynu beiciau ac ategolion o dan y Cynllun Beicio i'r Gwaith o £1,000 i £3,500;

 

13.2 ymestyn cyfnod y cytundeb o dan y Cynllun Beicio i'r Gwaith o'r 12 mis presennol i 24 mis ar gyfer pryniannau o fwy na £1,000;

 

13.3 oherwydd costau a chwyddiant cynyddol, bydd uchafswm y benthyciad ymlaen llaw o dan y cynllun benthyciadau i brynu ceir yn cynyddu o £7,350.00 i £9,999.00 o 1 Gorffennaf 2023.

 

14.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

15.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NIDDYLID CYHOEDDI’RADRODDIADAU SY’NYMWNEUD Â’R
MATERION CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH
EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O
ATODLEN12A IDDEDDF LLYWODRAETHLEOL 1972FEL Y’I
DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT
WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y CABINETAR
ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL
Â’RDDEDDF, IYSTYRIED YMATER HYNYN BREIFAT,
GORCHMYNNIRI’R CYHOEDDADAEL YCYFARFOD YNYSTOD
TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

16.

LLAIN 1 PARC ADWERTHU TROSTRE, LLANELLI

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 15 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 16 Rhagfyr 2019, rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar geisiadau gan ddatblygwr y safle uchod i  

·       ymestyn y cytundeb tir am gyfnod pellach o 12 mis;

·       ystyried gostyngiad pellach yn y pris prynu i adlewyrchu costau annormal eithriadol annisgwyl;

·       cynnwys darn pellach o dir o fewn ardal y brydles i fynd i'r afael â materion ecolegol sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL beidio ag ystyried y cais am ostwng y prisprynu.