Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224 088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.    Lenny

6. Strategaeth Arloesi Lleol

Mae perthynas agos yn gweithio i gwmni a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 14 TACHWEDD 2022 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2022 yn gywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

STRATEGAETH ARLOESI LLEOL pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Lenny wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bod ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi a phleidlais yn cael ei chynnal yn ei chylch].

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad ar gynigion y Cyngor i fabwysiadu Strategaeth Arloesi Lleol i gefnogi adferiad ac ailstrwythuro economi Sir Gaerfyrddin drwy gyfleoedd arloesi ym meysydd Arloesi Digidol, Iechyd, yr Economi Sylfaenol a'r Economi Gylchol. 

 

Roedd y strategaeth yn manylu ar y rhagolygon o ran arloesedd ar gyfer Sir Gaerfyrddin yng nghyd-destun y sefyllfa bolisi ar wahanol lefelau, ynghyd â'r fframwaith lleol a rhanbarthol ar gyfer arloesi.

 

Cyfeiriwyd at y ffigurau a gyflwynwyd ar dudalennau 37 a 39 yr adroddiad ynghylch y sector amaethyddiaeth, a allai newid o ganlyniad i'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi'r adroddiad mewn perthynas â'r cynllun ffermio cynaliadwy ar ôl Brexit.

 

Pwysleisiwyd i'r aelodau fod y newid tuag at ddull model busnes economi gylchol yn fodd o wella effeithlonrwydd o ran adnoddau, cydweithio a chystadleurwydd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1

Cymeradwyo'r Strategaeth Arloesi Lleol.

 

6.2

Cytuno ar y pedwar cyfle arloesi a nodwyd yn y strategaeth, yn y meysydd canlynol: Digidol; Iechyd a Llesiant; yr Economi Sylfaenol; a'r Economi Gylchol.

 

6.3

Bod y swyddogion yn archwilio'r cyfleoedd arloesi ymhellach i'w gweithredu lle bo modd.

 

7.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2022 I MEDI 30AIN 2022 pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 30 Medi 2022.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y dangosydd cysylltiad â'r gyfradd log wedi cael ei gynyddu o 125.00% i 150.00% er mwyn darparu ar gyfer lefel uwch barhaus balansau buddsoddiadau'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Diweddaru ar weithgareddau Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 1 Ebrill 2022 i 30 Medi 2022, gan gynnwys newidiadau i'r terfynau o ran cysylltiad â'r gyfradd log, yn cael ei gymeradwyo.

8.

FFIOEDD A THALIADAU CYN-YMGEISIO Y CORFF CYMERADWYO DRAENIO CYNALIADWY (SAB) pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i alluogi'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) i godi ffioedd, o dan adran 93 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003, am gyngor ac arweiniad cyn ymgeisio, ynghylch proses ymgeisio'r SAB. 

 

Cydnabuwyd y byddai cyflwyno cynllun codi tâl yn sicrhau bod y SAB yn gadarn ac yn wydn yn economaidd i reoli cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd statudol wrth symud ymlaen.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i Reoliad 2A, Atodlen 4 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 2016, a atodir i'r adroddiad, a oedd yn nodi'r taliadau a fyddai'n cael eu cymhwyso gan y SAB.  Nododd y Cabinet y byddai gweithredu'r cynllun codi tâl arfaethedig yn cynnig dull teg a thryloyw sy'n gyson â llawer o awdurdodau lleol eraill Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1

 

Bod y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) yn cael codi ffioedd am gyngor ac arweiniad cyn ymgeisio, ynghylch proses ymgeisio'r SAB.

 

8.2

Bod y ffioedd yn cael eu cymhwyso ar unwaith.

 

9.

AILDDOSBARTHU'R A476 CROSS HANDS pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cabinet fod Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands wedi ei chwblhau yn ddiweddar a'i bod yn darparu cyswllt mwy uniongyrchol rhwng Cefnffordd yr A48 yn Cross Hands a'r A476 i'r gogledd o bentref Gors-las.

 

Nododd y Cabinet y manteision a geir o ran lleihau tagfeydd, yn ogystal â hwyluso mynediad i safleoedd presennol a safleoedd a ddatblygir yn y dyfodol. Yn unol â hynny, gofynnwyd am gymeradwyaeth y Cabinet i ddynodi'r Ffordd Gyswllt Economaidd newydd yn rhan o'r A476 ac ailddosbarthu rhan o'r A476 bresennol drwy bentref Gors-las yn ffordd dosbarth B. Bydd yr ailddosbarthiad hwn yn galluogi gosod arwydd i'r llwybr tua'r gogledd o'r A48 ar hyd yr A476 i Landeilo o'r gyffordd aml-lefel i'r dwyrain o Cross Hands yn hytrach na drwy'r gylchfan bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod ailddosbarthiad yr A476 yn cael ei gymeradwyo.

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

12.

STRATEGAETH DERBYNIADAU CYFALAF

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).  Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na’r budd i’r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaetha geir ynddo gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio'n sylweddol fuddiannau masnachol y Cyngor mewn trafodaethau yn y dyfodol ac yn golygu y byddai perygl o ostyngiad mewn derbyniadau cyfalaf.

 

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a roddai ddiweddariad a chynigion manwl mewn perthynas â derbyniadau cyfalaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

12.1

Derbyn yr adroddiad.

 

12.2

Bod yr argymhellion, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad, yn cael eu cymeradwyo.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau