Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.D. Evans.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A.    Davies

9 - Diweddaru Rhaglen Gyfalaf 2022/23

Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn mynd drwy dir ei fferm.

 

3.

COFNODION - 31AIN HYDREF 2022 pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2022 yngywir, ar yr amod y nodir bod y Cynghorydd Deryk Cundy yn bresennol  yn y cyfarfod. 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

POLISI RHYDDID GWYBODAETH pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried Polisi Rhyddid Gwybodaeth diwygiedig arfaethedig a fyddai'n sefydlu'r egwyddorion sy'n sail i ddull Cyngor Sir Gaerfyrddin o hyrwyddo llywodraeth agored ac atgyfnerthu ei ymrwymiad i fod yn agored. Roedd y ddogfen wedi'i chymeradwyo'n wreiddiol fel y Côd Ymarfer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth ar 14 Mai 2013 ac roedd wedi mynd ymhell y tu hwnt i'w ddyddiad adolygu. Roedd y Polisi diwygiedig yn adlewyrchu nodweddion allweddol Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf), gan gynnwys y categorïau gwybodaeth eithriedig a bennir yn y ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Rhyddid Gwybodaeth diwygiedig.

 

7.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018-2033 AIL FERSIWN ADNEUO DRAFFT pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn Cofnod 7.2 o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad yn nodi'r ail fersiwn adneuo drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig drwy nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd y tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033 ynghyd â set o bolisïau a darpariaethau cynhwysfawr a manwl - gan gynnwys dyraniadau penodol i safle ar gyfer tai a chyflogaeth yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol ac ystyriaethau gofodol eraill. Gofynnwyd am gymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi'r CDLl Adneuo a dogfennau ategol fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos gan ddechrau yn Rhagfyr 2022/Ionawr 2023.

Nodwyd bod y CDLl Diwygiedig Adneuo, ynghyd â dogfennau ategol eraill, yn ddogfennau a fyddai'n dod i'r amlwg ac yn cael eu datblygu hyd at y pwynt lle byddai'r cynllun yn cael ei gyhoeddi. Roedd hyn yn adlewyrchu argaeledd rhai darnau o dystiolaeth ac amserlenni a oedd yn gysylltiedig â pharatoi'r cynllun ac yn sicrhau y byddai'r Cynllun yn cynnwys yr wybodaeth fwyaf cyfredol adeg ei gyhoeddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

7.1 cymeradwyo cynnwys yr ail Fersiwn Adneuo Drafft o Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 - 2033 (a dogfennau atodol) at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol;

 

7.2 cymeradwyo i gyflwyno'r Fersiwn Drafft o'r Canllawiau Cynllunio Atodol ynghylch Cilfach Byrri ac Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr i'w fabwysiadu yr un pryd â'r CDLl Diwygiedig;

 

7.3 nodi'r Nodyn Briffio Drafft ar yr Adroddiad Twf Economaidd a Thai sy'n cael ei lunio a chytuno ar yr Opsiwn Twf diwygiedig a argymhellir;

 

7.4 rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud unrhyw addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder o ran ystyr.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Awst 2022/2023. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £4,930k gyda gorwariant o £4,804k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod. Ar lefel uchel, roedd hyn o ganlyniad i gyfuniad o'r canlynol:

 

·       setliadau cyflog a drafodir yn genedlaethol (heb eu penderfynu hyd yn hyn) ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd, ac nid yw cyllid ychwanegol gan y llywodraeth ar gyfer hyn yn hysbys ar hyn o bryd.  Amcangyfrifon lefel uchel yw y gallai hynny fod yn £7.1m yn uwch na'r gyllideb;

·       gorwario mewn meysydd gwasanaeth sy'n cael eu harwain gan fwy o alw ynghyd â llai o arian grant wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol, yn enwedig Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Plant;

·       gostyngiad parhaus mewn incwm masnachol, gan gynnwys meysydd parcio, canolfannau hamdden a phrydau ysgol;

·       tanwariant o ran cyllido cyfalaf oherwydd oedi gyda chynlluniau a llai o angen i fenthyg.

 

Nodwyd bod yr Awdurdod, fel rhan o broses pennu cyllideb 2022/23, wedi cytuno ar gyllideb wrth gefn gwerth £3m yn ystod y flwyddyn a gedwir yn ganolog ar hyn o bryd a oedd yn gwrthbwyso'n rhannol y pwysau cyffredinol a nodwyd uchod.

 

Nodwyd bod y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld gorwariant o £27k ar gyfer 2022/23, i'w ariannu trwy gyfraniad gan gronfeydd wrth gefn. Byddai hynny'n cael ei adolygu wrth i'r materion sylweddol a nodwyd ddod yn gliriach o safbwynt ariannol. Nodwyd hefyd mai'r Cyfrif Refeniw Tai fyddai'n ariannu'n uniongyrchol y cynigion cyflog a drafodir yn genedlaethol ar lefelau llawer uwch na'r hyn a gyllidebwyd, a allai ar lefel uchel, fod £0.5m yn fwy na'r hyn a gyllidebwyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1     Derbyn adroddiad monitro'r gyllideb, a nodi'r sefyllfa gyllidebol a'r camau unioni priodol a gymerwyd;

 

8.2     O ran gorwariant sylweddol ar feysydd penodol o'r gyllideb, bydd y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu'n feirniadol yr opsiynau sydd ar gael iddynt er mwyn mynd i'r afael â'r effaith barhaus.

 

9.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2022/23 pdf eicon PDF 101 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon ac nid oedd yn bresennol yn ystod ystyriaeth o'r eitem na'r bleidlais.]

 

Cafodd y Cabinet adroddiad a oedd ynamlinellu'r sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer rhaglen gyfalaf 2022/23, fel yr oedd ar 31 Awst 2022 gan fanylu ar y prosiectau newydd i'w nodi a'u cymeradwyo gan y Cabinet. Dywedwyd y rhagwelwyd gwariant net adrannol o £78,293k o gymharu â chyllideb net weithredol o £148,731k gan roi -£70,438k o amrywiant. Roedd hyn yn ailwerthusiad sylweddol o'r alltro a ragwelir i'r hyn a adroddwyd yn dilyn Monitro Mehefin yn bennaf oherwydd ailbroffilio a llithriant yn rhaglen y Fargen Ddinesig, Llwybr Dyffryn Tywi, y Rhaglen Moderneiddio Addysg a'r Rhaglen Cyfrif Refeniw Tai. Yn rhannol, roedd peth o'r llithriant o ganlyniad i faterion capasiti contractwyr.

 

Roedd y gyllideb net yn cynnwys rhaglenni cyfalaf gwreiddiol y Cyfrif Refeniw Tai a'r Gronfa Gyffredinol a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth, 2022 a llithriant o 22/21. Nodwyd bod rhai cyllidebau hefyd wedi cael eu diwygio yn unol â’r gwahaniaethau yn y dyraniadau grant o gymharu â'r dyraniadau disgwyliedig pan gafodd y rhaglen ei chymeradwyo a grantiau newydd a gafwyd yn ystod y flwyddyn hyd yn hyn.

 

Nodwyd bod Atodiad B yn manylu ar y prif amrywiannau ym mhob adran.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1     bod yr adroddiad ar ddiweddaru'r rhaglen gyfalaf 2022/23 yn cael ei dderbyn;

 

9.2. bod y prosiectau newydd, fel yr oeddent yn yr adroddiad, yn cael eu nodi a'u cytuno.

 

10.

NODI BOD Y GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD MICHAEL THOMAS YN LLE'R CYNGHORYDD SHELLY GODFREY-COLES AR Y FFORWM DERBYNIADAU ADDYSG

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y Gr?p Llafur wedi enwebu'r Cynghorydd Michael Thomas yn lle'r Cynghorydd Shelly Godfrey-Coles ar y Panel Rhianta Corfforaethol.

 

11.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau