Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Vaughan Owen.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 17 HYDREF 2022 pdf eicon PDF 88 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

GOBLYGIADAU DEDDF RHENTU CARTREFI (CYMRU) 2016 pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cabinet adroddiad ar oblygiadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a oedd yn gofyn i beidio â defnyddio mwyach y tenantiaethau rhagarweiniol a'r hyn sydd wedi'u holynu o dan y Ddeddf.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet o 1 Rhagfyr 2022, y byddai pob tenantiaeth a roddir gan landlordiaid yng Nghymru yn newid i fod yn ddeiliaid contract o dan drefn gyfreithiol newydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi.  Roedd y Ddeddf yn disodli'r ddeddfwriaeth dai ar denantiaethau a basiwyd gan Senedd y DU a byddai'r Ddeddf yn cyflwyno dim ond dau fath o 'gontract meddiannaeth' - un ar gyfer y sector rhentu preifat ac un ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol - yn lle'r gwahanol fathau o denantiaethau a thrwyddedau sy'n bodoli ar hyn o bryd.

 

Nodwyd y byddai'r Ddeddf yn dod â hawliau newydd ac ychwanegol at ei gilydd i ddeiliad y contract, gan osod gofynion ar y landlord i weithredu o fewn amserlen resymol i geisiadau a sicrhau bod eiddo'n addas i fyw ynddo.

 

Rhoddodd Aelodau'r Cabinet ystyriaeth i brif oblygiadau'r Ddeddf fel yr oeddent wedi'u crynhoi yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1 na fyddai'r Cyngor, o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, yn rhoi

contractau meddiannaeth safonol ragarweiniol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

 
6.2 bod penderfyniad blaenorol y Cyngor i weithredu trefn tenantiaeth ragarweiniol yn cael ei diddymu, a hynny ar unwaith.

 

 

7.

DIWEDDARIAD AR GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DU pdf eicon PDF 114 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cabinet adroddiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Ers i'r adroddiad gael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Gorffennaf 2022, a oedd yn nodi egwyddorion cyffredinol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd wrth baratoi ar gyfer y rhaglen fuddsoddi newydd.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith, er bod y rhaglen wedi'i strwythuro o amgylch cynllun rhanbarthol, gydag Arweinydd Rhanbarthol (Cyngor Sir Abertawe), byddai'r cynllun yn cael ei roi ar waith ar lefel leol.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y dulliau cyflwyno arfaethedig canlynol:

 

• Prif brosiectau

• Prosiectau annibynnol

• Prosiectau a gomisiynwyd

 

Cafodd cwmpas y ddarpariaeth ar gyfer pob un o'r prif brosiectau arfaethedig ei atodi i'r adroddiad yn Atodiad 1.

 

O ran rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Gaerfyrddin, nododd Aelodau'r Cabinet fod y Gronfa wedi darparu tua 4% o’r adnoddau ar gyfer ariannu cymorth gweinyddol ar gyfer y rhaglen ac y byddai angen capasiti ychwanegol ar gyfer yr Awdurdod Lleol Arweiniol (Cyngor Abertawe) er mwyn darparu adnoddau ar gyfer cyflawni ei swyddogaeth reoli ranbarthol. Felly, byddai'r rhan fwyaf o'r gyllideb weinyddol o 4% yn cael ei defnyddio i ddarparu capasiti yn y timau rheoli lleol.

 

Daethpwyd i'r casgliad bod llawer iawn o gynnydd wedi'i wneud ers cyflwyno'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol i Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Wrth ddisgwyl am gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth y DU, roedd y gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle a bod modd i'r ddarpariaeth ddechrau yn dilyn derbyn cymeradwyaeth Llywodraeth y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1 bod y camau a gymerwyd hyd yn hyn i alluogi'r Sir i elwa ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael eu cymeradwyo;

 

7.2 bod y prif brosiectau arfaethedig yn cael eu cymeradwyo;

 

7.3 bod y gwaith o sefydlu Tîm Rheoli'r Rhaglen a fydd yn gyfrifol am gyflawni'r Rhaglen ar lefel leol yn cael ei gymeradwyo.

 

 

8.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau