Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies a J. Tremlett.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 4 GORFFENNAF 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r Protocol, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Dot Jones i ofyn y cwestiwn a baratowyd ganddi mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Dot Jones;

 

Mewn perthynas â chofnod 9, Panelau Ymgynghorol y Cabinet, "Beth oedd casgliad y panel gorchwyl a gorffen a'r panel ymgynghorol ar gyfer cludiant ysgol?"

 

Ymateb gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

 

"Bwriedid i'r Panel hwn gael ei sefydlu ychydig cyn i Bandemig COVID ddechrau yn 2020 yn dilyn adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol ar 25 Ionawr 2020 ar newid cenedlaethol i Reoliadau Mynediad i Gerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a oedd yn effeithio ar wasanaethau a ddarparwyd gan weithredwyr masnachol ar gyfer teithiau i'r ysgol. Penderfynodd y Bwrdd Gweithredol wneud y canlynol:

 

1)      Gwella Polisi Seddi Gwag yr Awdurdod i hepgor y tâl blynyddol cyfredol o£50, o 1 Medi 2019;

 

2)      Parhau i fynd ar drywydd Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth i newid y defnydd o'r Rheoliadau Mynediad i Gerbydau’r Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn caniatáu i weithredwyr bysiau barhau i ddefnyddio bysiau ar lwybrau bysiau ysgol a weithredir ar sail fasnachol;

 

3)      Sefydlu Panel Ymgynghorol y Bwrdd Gweithredol, gan gynnwys 6 aelod, ar sail drawsbleidiol, ynghyd ag Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, i edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â chludiant o'r Cartref i'r Ysgol gan adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.

 

Yn dilyn y cyfarfod ym mis Ionawr 2020, cafwyd trafodaeth genedlaethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Cyhoeddodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am eithriad cyffredinol ar gyfer gwasanaethau cludiant ysgol ac wedi ysgrifennu hefyd at yr Adran Drafnidiaeth i geisio cael eglurhad pellach ynghylch eithriadau presennol ac eithriadau yn y dyfodol.

 

Fodd bynnag, gan fod Pandemig COVID wedi effeithio ar y wlad ym mis Mawrth 2020, ni wnaeth y panel ymgynghorol gyfarfod a gwnaed gwaith cenedlaethol pellach. Dechreuodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn 2020 gan ymestyn yr adolygiad yn 2021. Ym Mis Mawrth 2022, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru: "Nid oedd amser o fewn y weinyddiaeth bresennol i ddechrau proses ffurfiol i newid y Mesur cyn i'r cyfnod cyn yr etholiad ddechrau. Felly byddai angen ystyried yr opsiynau ar gyfer y camau nesaf yn Nhymor nesaf y Senedd.


 

O ystyried bod y Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn rhoi'r sail ar gyfer darpariaeth cludiant ysgol, mae'n briodol aros am ganlyniad yr adolygiad cenedlaethol pan ddaw hyn i'r amlwg yn ystod tymor y Senedd hon. Yn amlwg, bydd cynigion o'r adolygiad cenedlaethol yn destun ymgynghoriad a byddant yn symud drwy'r broses ddemocrataidd arferol.

 

Fel Cyngor, mae angen i ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ynghylch beth yw'r camau nesaf o ran yr adolygiad o bellteroedd cludiant ysgolion ac os gwneir newidiadau, bod cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i Gynghorau ledled Cymru er mwyn darparu capasiti ychwanegol.

 

Rwy'n ymwybodol bod yr Arweinydd yn gobeithio cyfarfod â Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, i drafod y mater. Hoffwn bwysleisio hefyd fy mod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

DATGANIAD GWELEDIGAETH Y CABINET 2022 - 2027 pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn atodiad i Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027. Wrth gyflwyno'r datganiad gweledigaeth 5 mlynedd, eglurodd yr Arweinydd, yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol (Mai 2022), fod y Cabinet newydd wedi ymrwymo i gyhoeddi datganiad gweledigaeth cyn y Strategaeth Gorfforaethol oedd i'w gyhoeddi yn yr Hydref.

 

Dywedwyd y byddai'r adroddiadau a'r argymhellion perthnasol ynghylch prosiectau a rhaglenni penodol yn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno drwy'r broses ddemocrataidd dros y pum mlynedd nesaf.

 

Roedd y datganiad yn nodi'r trywydd y mae'r Cabinet hwn am ei ddilyn a chanolbwyntio arno i wneud gwahaniaeth ar draws y Sir dros y 5 mlynedd nesaf. Nodwyd y byddai'r gwaith yn cynnwys cysylltu â phartneriaid i gryfhau'r economi, cynyddu ffyniant, a buddsoddi mewn tai, addysg, diwylliant, seilwaith a'r amgylchedd.

 

Nodwyd y byddai canlyniadau'r Arolwg Trigoliona'r Arolwg Staff yn rhan annatod o ddatblygiad llwyfannau polisi'r Cabinet yn y dyfodol. Yn ogystal, pwysleisiwyd, er mwyn mireinio ymhellach y datganiad gweledigaeth, fod deialog trawsbleidiol gyda'r holl Aelodau yn cael ei groesawu a bod nifer o gyfarfodydd eisoes wedi'u trefnu dros yr haf.

 

Rhoddwyd cyfle i bob Aelod Cabinet oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno'r weledigaeth ar gyfer eu portffolio.

 

Yn unol â'r Protocol, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Rob James i ofyn y cwestiwn yr oedd wedi'i baratoi mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Rob James:

 

“Wrth ddarllen y ddogfen weledigaeth, mae'n debyg iawn i restr hir iawn o bethau i'w gwneud neu ddatganiadau cyffredinol megis; gweithio gyda chyrff allanol a deall yr hyn y gellir ei wneud i gefnogi preswylwyr. Byddai hyd yn oed Cyngor o dan arweiniad y Ceidwadwyr yn dweud hynny, mae'n brin iawn o fanylion ac mae'n debyg iawn i'r cynllun 'Symud Ymlaen, y 5 mlynedd nesaf', rwy'n credu sy'n cael ei adnabod yn y Cyngor fel y cynllun 96 pwynt. Yn wir, mae hwn yn gynllun sydd â 113 o bwyntiau, felly fy mhrif gwestiwn yw;

Sut rydym yn disgwyl i'r cyhoedd roi eu barn ar ddogfen sy'n brin o fanylion a nodau mesuradwy? Nid yw'n dweud pa ddyfodol yr hoffech chi ar gyfer addysg, nid yw'n dweud sut y byddech chi'n ceisio integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, nid yw'n dweud sut y byddwch chi'n ceisio adeiladu'r economi ar gyfer y dyfodol. Fel disgrifiodd y Cynghorydd Lenny, nid breuddwyd gwrach ydyw, nid yw mewn gwirionedd yn ymdrin ag unrhyw beth sy'n ymwneud â ffyniant na phwysau chwyddiant ar y gyllideb neu os byddech chi'n gallu cyflawni'r addewidion hyn mewn gwirionedd."

 

Ymateb gan yr Arweinydd:

 

“Rwy'n credu efallai bod camddealltwriaeth sylfaenol ar eich rhan o ran ble rydym arni ar hyn o bryd a pha rôl y mae'r datganiad gweledigaeth hwn yn ei chwarae o ran bwydo i'n Strategaeth Gorfforaethol. Byddwn i wedi gobeithio bod holl Aelodau'r Cyngor hwn wedi derbyn y neges yn glir, oherwydd roeddwn i wedi bod yn ei ddweud yn gyson am y 2 fis diwethaf. Mewn gwirionedd, rwy'n cofio cwrdd â chi'r tro cyntaf ar ôl yr etholiad, a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

DIWRNODAU PARCIO AM DDIM MEWN TREFI pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y goblygiadau o ran cost ac adnoddau amrywio'r trefniadau presennol ar gyfer diwrnodau parcio am ddim ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael i barhau â'r fenter parcio am ddim.

 

Dywedwyd mai nod polisi parcio am ddim y Cyngor oedd cynyddu nifer yr ymwelwyr mewn trefi drwy ddarparu parcio am ddim yn ei feysydd parcio talu ac arddangos ar hyd at bum diwrnod gwahanol bob blwyddyn i gefnogi digwyddiadau neu ymgyrchoedd ym mhob tref. Ar hyn o bryd, cyflwynwyd ceisiadau am y diwrnodau parcio am ddim ar-lein ac mae'n rhaid iddynt gael cefnogaeth y Cyngor Tref a'r Gr?p Rheoli Canol Tref priodol. Yn dilyn ymgynghoriad mewnol, cafodd y ceisiadau eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan yr Aelod Cabinet.

 

Nododd y Cabinet, yn seiliedig ar adroddiadau annibynnol a gomisiynwyd fel rhan o fenter Deg Tref y Cyngor, fod cynrychiolwyr trefi gwledig wedi ceisio cynyddu nifer y diwrnodau parcio am ddim y tu hwnt i'r 5 diwrnod parcio am ddim y flwyddyn sydd gan y Cyngor ar waith ar hyn o bryd.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r holl opsiynau oedd ar gael, cynigiwyd cymeradwyo opsiynau 5 a 6 yr adroddiad, ac eiliwyd y cynnig hwn.

 

Yn unol â'r Protocol, gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Rob James i ofyn y cwestiwn yr oedd wedi'i baratoi mewn perthynas â'r eitem hon.

 


Cwestiwn gan y Cynghorydd Rob James:

 

"Rwy'n si?r y byddai'r Cabinet yn cytuno â mi ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i fusnesau lleol, a chredaf y bu dadlau ers amser maith bod parcio am ddim yn fecanwaith posibl ar gyfer hybu busnesau lleol fel cymorth. Fel y gwelwch yn yr adroddiad, mae amrywiad mawr hefyd lle cynhyrchodd Tref Caerfyrddin yn benodol 70% o'r holl daliadau parcio ar gyfer y Sir gyfan. A fyddai'r Cabinet yn fodlon gweithio gyda ni i weld a allwn ni ddatblygu cynnig am barcio am ddim am 1 awr mewn meysydd parcio penodol ar draws y Sir i sicrhau y gallwn gefnogi'r busnesau lleol wrth i chi gyflwyno'r cynllun peilot hwn. Rwy'n credu y byddai parcio am ddim am 1 awr yn bolisi syml iawn a byddai'r cyhoedd yn ei ddeall yn iawn, ni fyddai anghysondeb o ran gwahanol ddyddiau ac amseroedd gwahanol, ac rwy'n credu y byddai'n cynyddu nifer yr ymwelwyr â'r trefi mewn gwirionedd.”

 

Er ei fod yn derbyn y cwestiwn y tro hwn, gofynnodd yr Arweinydd i gwestiynau gael eu cyflwyno yn y dyfodol yn unol â gofynion y Protocol ynghylch Presenoldeb Aelodau Anweithredol mewn Cyfarfodydd Ffurfiol y Cabinet.

 

Ymateb gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

 

“Mae'r Cyngor wedi parhau i gefnogi busnesau lleol a chanol trefi dros sawl blwyddyn, cyn, yn ystod a thu hwnt i'r pandemig. Wrth ymgynghori â phob canol tref, mae'r Cyngor wedi darparu pum diwrnod parcio am ddim i gefnogi digwyddiadau, ac mae'r Cyngor wedi darparu cymorth pellach gyda chyfnodau parcio am ddim estynedig yn ystod yr wythnos ym mhob tref. Darperir parcio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

POLISI ENWI STRYDOEDD A RHIFO EIDDO pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i'r rhybudd o gynnig a phenderfyniad dilynol y Cyngor ar 13 Hydref 2021 [gweler cofnod rhif 9.1], rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu gwybodaeth am y Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo Drafft a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.

 

Roedd y polisi yn darparu fframwaith er mwyn i Gyngor Sir Caerfyrddin weithredu'r swyddogaeth Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo yn effeithiol ac yn effeithlon er budd trigolion Sir Gaerfyrddin, y gwasanaethau brys, busnesau ac ymwelwyr â'r sir. Yn ogystal, roedd y polisi yn sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu'r pwerau a'r dyletswyddau deddfwriaethol perthnasol hynny, gan gynnwys Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 ac Adrannau 17 i 19 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (1925).

 

Nodwyd mai nod y Polisi oedd darparu cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr a pherchnogion eiddo presennol wrth ystyried datblygiadau newydd, newydd, addasu eiddo neu leiniau mewnlenwi unigol, yn ogystal â newid enw eiddo presennol. Roedd hefyd yn ganllaw i Gynghorau Tref a Chymuned yngl?n â'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithredu'r Swyddogaeth Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo a'r protocolau ar gyfer pennu'r enwau swyddogol ar strydoedd a rhifau eiddo.

 

Roedd Aelodau'r Cabinet yn falch o gael nodi fod y polisi yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo'r Gymraeg, ac mewn perthynas ag enwau strydoedd ac eiddo, byddai'n hyrwyddo a mabwysiadu enw Cymraeg a oedd yn gyson â threftadaeth a hanes yr ardal.

 

Yn ogystal, nododd y Cabinet y byddai ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal ar ôl cael cymeradwyaeth gan y Cyngor, ac y byddai unrhyw sylwadau a dderbynnir yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor eu hystyried cyn i'r polisi gael ei fabwysiadu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

8.1      bod y Polisi Enwi Strydoedd a Rhifo Eiddo Drafft yn cael ei gymeradwyo am gyfnod o 28 diwrnod o ymgynghori cyhoeddus;

 

8.2      bod unrhyw sylwadau a dderbynnir i'r ymgynghoriad, ynghyd ag argymhellion swyddogion, yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor i'w trafod.

 

 

9.

CYMUNEDAU CYNALIADWY SIR GAERFYRDDIN AR GYFER DYSGU (CCSGD) (Y RHAGLENMODERNEIDDIO ADDYSG YN FLAENOROL) ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin (y Rhaglen Moderneiddio Addysg gynt) - Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet ar adliniad i'r Rhaglen Gyfalaf i hwyluso gwaith brys i gynyddu nifer y lleoedd arbenigol i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol / Anhwylder sbectrwm awtistig.

 

Nodwyd bod mater brys mewn perthynas â darpariaeth Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig wedi codi oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cabinet wneud addasiad (trosglwyddiad) i'r rhaglen gyfalaf er mwyn mynd i'r afael â'r angen brys hwn.

 

Nododd y Cabinet nad oedd dim darpariaeth ar hyn o bryd yn y dyraniad cyfalaf yn benodol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASD) ym Mand A neu B o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin (Rhaglen Moderneiddio Addysg gynt). Cyfanswm cost y gyllideb i wneud y gwaith brys ar gyfer Medi 2022 fel yr amlinellir yn yr adroddiad oedd £1.76 miliwn ac o ystyried bod costau'r gyllideb yn sylweddol, roedd angen cymeradwyo'r trosglwyddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo trosglwyddiad yn y rhaglen gyfalaf i ganiatáu i'r gwaith brys hwn gael ei wneud ar frys

 

 

10.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

12.

LLYWODRAETH Y DU: Y GRONFA FFYNIANT BRO, CYNNIG LLANELLI

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon o bosibl yn niweidio buddiannau busnesau sy'n meddiannu'r safle dan sylw ar hyn o bryd ac yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor wrth geisio caffael tir ar gyfer y prosiect.

 

<TRAILER_SECTION>

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am Etholaeth Llanelli a cheisiadau am gyllid ar gyfer Trafnidiaeth a oedd wedi'u paratoi i'w cyflwyno i gylch 2 Rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y ceisiadau i'w cyflwyno o ran Etholaeth Llanelli a cheisiadau am gyllid ar gyfer Trafnidiaeth , fel y manylir yn yr adroddiad, ar gyfer cylch 2 Rhaglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn cael eu cymeradwyo.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau