Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Vaughan Owen.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ann Davies

6.             6. Y Cynllun Strategol  Cymraeg mewn Addysg 2022-2032

 

Mae’r Cynghorydd Davies yn rheoli meithrinfa i blant sy’n gweithredu strategaeth y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y CABINET A GYNHALWYD AR 11 EBRILL 2022 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2022 yn gofnod cywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

2022-2032 CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r fersiwn diwygiedig o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2023. Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ddogfen statudol y mae'n ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru ei chynhyrchu.

 

Diben Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2022-2032 yw manylu ar sut y cyflawnir canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg a hyfforddiant sy’n ymateb, mewn modd a gynlluniwyd, i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, cyfrwng allweddol ar gyfer creu system gynllunio well ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, yn fodd i Lywodraeth Cymru fonitro’r ymateb a’r cyfraniad at weithredu amcanion y Strategaeth.

 

Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru, yn ei hadborth, yn cefnogi gweledigaeth, trywydd a dyheadau Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i allu cyflwyno’r Strategaeth derfynol i Lywodraeth Cymru cyn y dyddiad cau ar 24 Mehefin (sydd bellach wedi’i ymestyn i 4 Gorffennaf).

 

Consensws y Cabinet oedd ei bod yn bwysig hyrwyddo cynnydd yn nifer y bobl o bob oed i allu defnyddio’r Gymraeg mewn modd hyderus gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnwys y fersiwn diwygiedig o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2032 yn dilyn adborth gan Lywodraeth Cymru a chyflwyno'r Strategaeth derfynol i Lywodraeth Cymru cyn y dyddiad cau ar 24 Mehefin (sydd bellach wedi'i ymestyn i 4 Gorffennaf).

 

 

7.

CAM-DRIN DOMESTIG,POLISI TRAIS DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar y Polisi Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol a oedd wedi'i ddiweddaru.  Roedd y Polisi wedi'i ddiweddaru yn unol â nodau ac amcanion yr Awdurdod a'r ddeddfwriaeth bresennol - Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a'r Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 newydd.

 

Dywedwyd bod y polisi wedi'i ddatblygu ar ôl ymgynghori'n gynnar â chydweithwyr ym maes diogelwch cymunedol a rolau rhanbarthol VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn cyd-fynd â'u meysydd arbenigedd.  Yn ogystal, roedd y polisi wedi'i ysgrifennu gan ddefnyddio iaith niwtral o ran rhywedd i gydnabod ymrwymiad y Cyngor i gydnabod, parchu a chefnogi dewisiadau bywyd ei weithwyr mewn ffordd anfeirniadol a chynhwysol.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet, gan fod gweithio gartref yn parhau i fod yn nodwedd yn strategaeth y Cyngor 'Ffyrdd Gwell o Weithio', y byddai mabwysiadu 'Absenoldeb Diogel' yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor o ran sut y gellir cynnal y cymorth wrth i weithwyr weithio mewn ffyrdd gwahanol.  Roedd y Polisi'n cynnwys darparu Absenoldeb Diogel a fyddai'n darparu hyd at 10 diwrnod o'r gwaith â thâl, a hynny ar wahân i absenoldeb arbennig neu absenoldeb salwch i unrhyw un a oedd yn dioddef cam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1 bod y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol sy'n dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i fynd i'r afael â phob math o drais a cham-drin, gan gynnwys cam-drin domestig, trais domestig a thrais rhywiol yn cael ei gymeradwyo a'i fabwysiadu;

 

7.2 cytuno ar ddarparu hyd at 10 diwrnod o 'Absenoldeb Diogel' â thâl i gynorthwyo dioddefwyr i adael eu partneriaid, dod o hyd i gartrefi newydd a helpu i amddiffyn eu hunain ac unrhyw blant dibynnol o ganlyniad i gam-drin domestig, trais domestig neu drais rhywiol.

 

8.

CYNRYCHIOLAETH AR GYRFF ALLANOL pdf eicon PDF 343 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Sylwer: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd A Davies yn y cyfarfod, cymerodd ran yn y drafodaeth a phleidleisiodd ar yr eitem hon.]

 

O ganlyniad i'r etholiadau llywodraeth leol diwethaf, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i restr o Gyrff Allanol er mwyn penderfynu a ddylai'r Cyngor benodi /parhau i benodi ar y cyrff hynny.  Cyflawnwyd adolygiad cychwynnol o'r rhestr o gyrff allanol i ganfod statws cyfredol y sefydliadau presennol ac roedd enwebiadau wedi'u cynnwys fel atodiad i'r adroddiad yn Atodiad A.

 

Fel rhan o'r dull adolygu i gynrychiolwyr adrodd yn ôl ar waith pob corff allanol, ceisiai’r adroddiad gyflwyno dull 'adrodd yn ôl' trwy gwblhau ffurflen - adroddiad blynyddol cynghorwyr ar gyrff allanol 2022/23 fel y'i hatodwyd i'r adroddiad yn Atodiad D.

 

Yn ogystal â'r adroddiad, rhoddwyd gwybod i'r Cabinet fod Gr?p Plaid Cymru wedi enwebu'r Cynghorydd Emlyn Schiavone a bod y Gr?p Annibynnol wedi enwebu'r Cynghorydd Jane Tremlett ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

8.1     Penodi Aelodau i gyrff allanol y Cabinet yn dilyn Etholiadau Llywodraeth Leol 2022 fel y manylir arnynt yn Atodiad A a'r enwebiadau a ddarparwyd ar lafar yn y cyfarfod;

 

8.2     ei fod yn ofynnol i'r aelodau a benodir i wasanaethu ar gyrff allanol adrodd yn ôl ar gyfarfodydd y cyrff hynny drwy lenwi'r ffurflen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad D.

 

 

9.

PANELAU YMGYNGHOROL I'R CABINET pdf eicon PDF 391 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion am y panelau ymgynghorol a sefydlwyd gan y weinyddiaeth flaenorol i adrodd ar faterion amrywiol a gwahoddwyd y Bwrdd i adolygu diben, swyddogaethau ac aelodaeth y panelau ac i benderfynu ar ba rai yr oedd am ei gadw ac unrhyw banelau newydd yr oedd yn dymuno eu sefydlu.

 

Nododd Aelodau'r Cabinet fod Panel Ymgynghorol y Gwasanaethau Tai, Panel Cyswllt y Compact, y Panel Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Pobl Dduon Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a'r Panel Cludiant Ysgol, a sefydlwyd gan y Cabinet blaenorol, wedi cwblhau eu gwaith ac y byddent felly'n cael eu diddymu.

 

Dywedwyd er mwyn osgoi unrhyw oedi wrth benodi aelodau i fod yn rhan o'r panelau ymgynghorol, y gofynnwyd am enwebiadau gan Arweinwyr y grwpiau gwleidyddol a atodwyd fel Atodiad A i'r adroddiad.

 

Mewn perthynas â'r Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Liam Bowen yn y Cyn- gyngor yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022 a gyfeiriwyd at y Cabinet; “Mae’r Cyngor hwn yn galw ar y Cabinet i hyrwyddo ei ymrwymiad trwy ddatgan argyfwng natur a sefydlu panel ymgynghorol trawsbleidiol i gefnogi dull yr awdurdod hwn o newid yn yr hinsawdd ac argyfwng natur ac ymgorffori mabwysiadu Datganiad Caeredin”, gofynnwyd i’r Cabinet a yw’n dymuno cytuno i sefydlu'r panel yn ffurfiol ac os felly byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y cabinet ar y cylch cyfeirio ac aelodaeth a awgrymir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1     Penodi'r Panelau Ymgynghorol i'r Cabinet fel y manylir arnynt yn Atodiad 1 o'r adroddiad;

 

9.2.    sefydlu Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol ar Newid yn yr Hinsawdd a bod adroddiad yn cynnwys y cylch gorchwyl a’r aelodaeth a awgrymir  yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cabinet.

 

 

10.

PENODI I GWMNÏAU SY'N EIDDO I'R CYNGOR pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys enwebiadau mewn perthynas â dau gwmni sy'n eiddo i'r Cyngor y mae'n eu gweithredu. Mae'r trefniadau Llywodraethu ar gyfer y ddau Gwmni, sef CWM Environmental Ltd. a Llesiant Delta Wellbeing Ltd yn destun rôl oruchwylio gan y Cyngor. Roedd yr adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gadarnhau'r penodiadau fel y nodwyd yn yr adroddiad i fod yn rhan o'r byrddau hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1  penodi'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth , Gwastraff a Seilwaith yn gynrychiolydd y Cyngor ar Fwrdd Cyfranddalwyr CWM Environmental.

 

10.2. penodi'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r 3 aelod canlynol i Gr?p Llywodraethu Llesiant Delta Wellbeing Ltd:-

 

·      Y Cynghorydd Deryk Cundy (Llafur)

·      Y Cynghorydd Alex Evans (Plaid Cymru)

·      Y Cynghorydd Hazel Evans (Plaid Cymru)

 

 

11.

UNRHYW FATER ARALL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau