Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y tywydd garw iawn a gaed ledled Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar pan achosodd gwynt a glaw trwm ddifrod i dai, busnesau ac ar briffyrdd. Soniodd am y cynlluniau a roddwyd ar waith gan y Cyngor ac asiantaethau partner wrth baratoi at y tarfu, a chanmolodd holl staff y Cyngor a'r asiantaethau am eu hymdrechion wrth ymateb i'r sefyllfa. Adroddwyd am nifer o achosion o ddifrod gan gynnwys cau ffyrdd, difrod i adeiladau a chwtogi ar wasanaethau. Roedd canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, parciau gwledig a theatrau ar gau, ond roedd y mwyafrif wedi ailagor.
Ar ran y Cabinet, diolchodd yr Arweinydd i swyddogion a chontractwyr a oedd wedi gweithio bob awr o'r dydd a'r nos i glirio ffyrdd, troi'r p?er ymlaen, a chefnogi aelodau'r gymuned sy'n agored i niwed.
|
|||||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||||||||||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||||||||
STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2022/23 i 2024/25 PDF 563 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r cynigion diweddaraf ar gyfer y Strategaeth Cyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 a'r ddwy flynedd ariannol ganlynol.
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.
Amlinellodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau nifer o ffactorau a oedd yn dylanwadu ar y gyllideb, gan gynnwys y ffaith na fyddai'r setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru yn dod i law tan 1 Mawrth 2022. Gan ystyried cyhoeddi'r setliad terfynol yn hwyr, dywedodd fod elfennau allweddol o ragdybiaethau a dyraniadau'r gyllideb wedi'u hadolygu ac wedi rhoi rhywfaint mwy o gyfle i'r awdurdod ailedrych ar rai o gynigion gwreiddiol y gyllideb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod manylion llawn y setliad amodol, a oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, yn nodi bod cyllid Llywodraeth Leol ar sail Cymru gyfan wedi cynyddu 9.4% ar gyfartaledd ar setliad 2021/22, ac mai dyraniad Sir Gaerfyrddin oedd 9.2% (£311.597m).
Er bod y setliad hwnnw wedi galluogi'r awdurdod i ddyrannu cyllid yn ei gyllideb ar gyfer nifer sylweddol o wasgfeydd chwyddiant a rhai na ellid eu hosgoi, roedd dal angen gwneud arbedion.
Roedd y gyllideb ddrafft gychwynnol wedi cynnwys swm wrth gefn o £3.5m mewn perthynas â chostau parhaus a refeniw masnachol a gollwyd. Cadwyd y swm hwn yn y gyllideb derfynol a phwysleisiwyd mai dyma'r risg fwyaf o hyd i'r cyllidebau wrth symud ymlaen.
Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w gyhoeddi ar 1 Mawrth 2022, a dywedodd fod yr adroddiad yn ceisio awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â'r Arweinydd, y Prif Weithredwr, a'r Aelod Cabinet dros Adnoddau, wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i Strategaeth y Gyllideb cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 2 Mawrth 2022. Fodd bynnag, nodwyd bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wedi gwneud rhai addasiadau i rai o'r ffigurau eraill yn yr adroddiad, fel rhan o'r drefn arferol wrth i wybodaeth gliriach fod ar gael, gyda chyfanswm y dilysiad presennol yn ychwanegu rhyw £16.2m at y gyllideb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros adnoddau fod y gyllideb yn cynnal y cyflog tybiedig o 4% o lwfans ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gyfer y Cyd-gyngor Cenedlaethol yn ogystal â staff addysgu, a dyma'r dilysiad mwyaf sylweddol o hyd a gynhwyswyd yn y rhagdybiaethau. Roedd hyn yn unol â disgwyliadau cyffredinol a chydnabu fod chwyddiant yn cynyddu'n llawer uwch na 5%.
Nodwyd bod newidiadau i rai o'r rhagdybiaethau allweddol megis cynnydd mewn prisiau ynni, a rhyddhau cyfraniad cyfalaf datblygu economaidd y llynedd yn rhoi cyfle i wneud rhai newidiadau ac amlygwyd y canlynol:
Atgoffwyd y Cabinet gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, yn seiliedig ar setliad amodol y gyllideb, fod rhywfaint o gyfle ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF BUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2022/23 - 2026/27 PDF 419 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [NODER: Roedd y Cynghorydd C.A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am Raglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) 2022/23 hyd at 2026/2027. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen gyfalaf.
Byddai'r rhaglen newydd yn gweld buddsoddiad o £275m dros bum mlynedd. Byddai'r rhaglen yn cael ei chefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r cyngor ei hun. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y rhaglen yn cynnwys dau brosiect trawsnewidiol newydd. Y cyntaf yw hwb gwerth £19.6m yng nghanol Canol Tref Caerfyrddin a'r ail yw buddsoddiad gwerth £19m i gwblhau Llwybr Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Fel rhan o'r prosiect, byddai £366k ar gael i uwchraddio'r ddarpariaeth parcio. Byddai cyllid ychwanegol o £16m hefyd ar gael ar gyfer Parth 1 datblygiad Pentre Awel yn Llanelli, gan ddwyn cyfanswm y buddsoddiad yn y prosiect i £87m.
Dywedwyd wrth y Cabinet, yn ogystal â'r uchod, fod cefnogaeth barhaus i'r canlynol:
Byddai creu dyfarniad blynyddol newydd o £250k yn dechrau yn 2022/23 ar gyfer seilwaith draenio priffyrdd yn helpu i wneud y rhwydwaith priffyrdd yn fwy gwydn yn wyneb tywydd garw yn y dyfodol ac yn lleihau perygl llifogydd. Gwelwyd hefyd y bwriad i barhau â'r dyraniad blynyddol o £66k i Hawliau Tramwy a Chilffyrdd yn 2026/27.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai buddsoddiadau pellach yn cael eu gwneud ar draws y rhaglen:
Er mwyn lliniaru effaith y diffyg cymorth gan Lywodraeth Cymru yn benodol ar gyfer buddsoddi mewn priffyrdd, dywedwyd wrth y Cabinet fod y rhaglen yn cynnwys £2.4m o arian newydd a ariannwyd o gronfeydd wrth gefn y cyngor. Byddai hyn yn ychwanegol at y ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||
CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI (REFENIW A CYFALAF) A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2022/23 PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi]
Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2022/23 i 2024/25. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 31 Ionawr 2022, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.
Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o tua £231m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin i denantiaid ac, yn fwy diweddar, hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol hon, roedd £83m pellach wedi'i wario ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid. Dros y 3 blynedd nesaf roedd disgwyl i £64m pellach gael ei wario ar gynnal a gwella'r stoc tai.
Roedd y gyllideb hefyd yn darparu cyllid o tua £56m dros y 3 blynedd nesaf i gynnal y Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy a £56m i gefnogi'r Rhaglen Tai Fforddiadwy.
Atgoffwyd y Cabinet, ers 2015, ei fod yn ofynnol i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a oedd yn golygu bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o'r rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol. Er i'r polisi hwnnw ddod i ben yn 2018/19, a bod polisi interim wedi'i roi ar waith ar gyfer 2019/20, roedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21 am gyfnod o 5 mlynedd o 2020/21, a oedd yn cynnwys rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd prif elfennau'r polisi hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd hyd at 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi o hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI+1%.
Dywedwyd wrth y Cabinet fod gosod y rhent o fewn polisi presennol y Llywodraeth, yn cydnabod yr angen i osod y rhent ar lefel fforddiadwy i denantiaid, gan gyflawni'r dyheadau a cheisio sicrhau bod yr ymrwymiad blaenorol i denantiaid trwy weithredu'r polisi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7. |
|||||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES Y CYFRIF REFENIW TAI 2022-25 RHAGLEN BUDDSODDI MEWN TAI SIR GAERFYRDDIN PDF 402 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi]
Bu'r Cabinet yn ystyried Cynllun Busnes 2022-25 y Cyfrif Refeniw Tai Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a phrif bwrpas y cynllun oedd: · Egluro gweledigaeth a manylion y Rhaglen Buddsoddiadau Tai dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau gwella stoc tai, y rhaglen adeiladu tai newydd, cynlluniau i ddod yn awdurdod carbon sero-net, a'r hyn y mae'n ei olygu i'r tenantiaid. · Cadarnhau bod yr incwm a gafwyd gan denantiaid a'r ffynonellau cyllid eraill yn darparu rhaglen gyfalaf o £120m dros y tair blynedd nesaf i: o Gwella a chynnal a chadw'r stoc bresennol o Cefnogi'r gwaith o ddarparu dros 2,000 o dai newydd mewn cymunedau o Cefnogi Egwyddorion Carbon Sero-net y Cyngor, gan greu cartrefi sy’n defnyddio ynni yn effeithlon, lleihau allyriadau carbon a hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy i denantiaid o Helpu i ysgogi twf ac adferiad economaidd yn dilyn pandemig Covid 19 o Helpu i greu cymunedau cynaliadwy cryf - lleoedd lle mae pobl yn falch o allu eu galw'n gartref iddyn nhw. · Cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyflawni'r rhaglen buddsoddiadau tai a thai cyngor newydd dros y tair blynedd nesaf · Llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2022/23, sy’n cyfateb i £6.2m.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai fod yr adroddiad wedi'i rannu i'r pum thema allweddol ganlynol gyda'r nod o symud pethau ymlaen am y tair blynedd nesaf:-
1. Thema 1 – Cefnogi Tenantiaid a Phreswylwyr; 2. Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi a'r Cyffiniau; 3. Thema 3 - Darparu rhagor o dai 4. Thema 4 – Datgarboneiddio'r Stoc Dai 5. Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||||||||||
POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2022-23 PDF 334 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Atgoffwyd y Cabinet fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu'n derfynol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-
|
|||||||||||||||||||
POLISI CYFLOGAU ATHRAWON ENGHREIFFTIOL 2021/22 PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorwyr L.D. Evans a P. Hughes Griffiths wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y ddau y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi. Roedd Noelwyn Daniel hefyd wedi datgan buddiant yn y mater ac wedi gadael y cyfarfod]
Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Bolisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol a oedd wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys tâl mis Medi 2021 fel y nodir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2019.
Atgoffwyd y Cabinet ei bod yn ofynnol i'r holl ysgolion fabwysiadu polisi cyflogau a oedd yn nodi ar ba sail yr oedd yn pennu cyflogau Athrawon a'r dyddiad erbyn pryd y byddai'n pennu'r adolygiad blynyddol o gyflogau Athrawon a hefyd sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag achwyniadau Athrawon ynghylch eu cyflog. Caiff y ddogfen hon, Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, ei diweddaru bob blwyddyn, a gallai hyn arwain at ddiwygio'r Polisi Cyflogau Enghreifftiol a gynigir i ysgolion. Mae'r Polisi Cyflogau enghreifftiol diwygiedig wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys tâl mis Medi 2021 fel y nodir yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2021; ac i egluro’r sefyllfa o ran y brif raddfa gyflog pum pwynt, a'r berthynas rhwng perfformiad a datblygiad cyflog ar draws pob graddfa gyflog. Roedd y Polisi hefyd yn ystyried effaith yr ?yl banc ychwanegol i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022 ar flwyddyn academaidd 2021/2022, a oedd yn golygu bod yn rhaid i athrawon fod ar gael i weithio am 194 diwrnod /1258.5 awr yn lle'r 195 diwrnod / 1265 awr arferol o amser cyfeiriedig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol 2021/22 cyn iddo gael ei ddosbarthu i'r ysgolion er mwyn i'w Cyrff Llywodraethu ei fabwysiadu'n ffurfiol.
|
|||||||||||||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|