Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 11eg Ebrill, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB / MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Wendy Walters, y Prif Weithredwr, a Jake Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, yn hwylus ar hyn o bryd a dymunodd wellhad buan iddynt.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 28AIN MAWRTH 2022 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet oedd wedi ei gynnal ar 28ain Mawrth 2022 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2021 I RHAGFYR 31AIN 2021 pdf eicon PDF 376 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Rhagfyr 2021.

 

Pwysleisiwyd bod lefel bresennol y buddsoddiad yn sylweddol uwch na'r disgwyl ar hyn o bryd gyda balans o £181.1m wedi'i fuddsoddi ar 8 Ebrill 2022. Gydag arian pellach yn ddyledus yn y tymor byr i gynnwys ail daliad y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Ebrill 2022 (£20.1m), y grant costau byw (11.05m), taliadau ar gyfer y grant gweithwyr gofal cymdeithasol (£7.1m) a chyllid ychwanegol ar gyfer prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe (£23m), rhagwelwyd y byddai'r sefyllfa o ran arian parod yn uwch na therfynau parti i gontract presennol yr Awdurdod.

 

Yng ngoleuni'r uchod, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol o'r farn ei bod yn ddoeth defnyddio ei bwerau dirprwyedig i gynyddu'r terfynau ar rai partïon i gontract gan sicrhau y gellid buddsoddi'r arian yn ddiogel. O ganlyniad, byddai'n cynyddu cyfleuster y Swyddfa Rheoli Dyledion  o £100m i £125m, a Chronfeydd y Farchnad Arian o £5m i £10m fesul parti i gontract (cedwir 5 Cronfa'r Farchnad Arian ar hyn o bryd). Ystyriwyd y dylai'r newidiadau hyn roi'r gallu i'r Awdurdod reoli lefel uwch y buddsoddiad a ragwelir sy'n ofynnol dros yr wythnosau nesaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

6.1 bod yr Adroddiad ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2021 yn cael ei dderbyn;

 

6.2 cefnogi'r camau sydd i'w cymryd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â'r cynnydd i derfynau y parti i gontract;

 

6.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cadarnhau'r penderfyniad uchod [6.2] pan fydd yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys i'w gymeradwyo maes o law. 

 

7.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.