Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB / MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Wendy Walters, y Prif Weithredwr, a Jake Morgan, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol, yn hwylus ar hyn o bryd a dymunodd wellhad buan iddynt.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION - 28AIN MAWRTH 2022 PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet oedd wedi ei gynnal ar 28ain Mawrth 2022 gan eu bod yn gywir.
|
|
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodaeth ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Rhagfyr 2021.
Pwysleisiwyd bod lefel bresennol y buddsoddiad yn sylweddol uwch na'r disgwyl ar hyn o bryd gyda balans o £181.1m wedi'i fuddsoddi ar 8 Ebrill 2022. Gydag arian pellach yn ddyledus yn y tymor byr i gynnwys ail daliad y Grant Cynnal Refeniw ar gyfer Ebrill 2022 (£20.1m), y grant costau byw (11.05m), taliadau ar gyfer y grant gweithwyr gofal cymdeithasol (£7.1m) a chyllid ychwanegol ar gyfer prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe (£23m), rhagwelwyd y byddai'r sefyllfa o ran arian parod yn uwch na therfynau parti i gontract presennol yr Awdurdod.
Yng ngoleuni'r uchod, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol o'r farn ei bod yn ddoeth defnyddio ei bwerau dirprwyedig i gynyddu'r terfynau ar rai partïon i gontract gan sicrhau y gellid buddsoddi'r arian yn ddiogel. O ganlyniad, byddai'n cynyddu cyfleuster y Swyddfa Rheoli Dyledion o £100m i £125m, a Chronfeydd y Farchnad Arian o £5m i £10m fesul parti i gontract (cedwir 5 Cronfa'r Farchnad Arian ar hyn o bryd). Ystyriwyd y dylai'r newidiadau hyn roi'r gallu i'r Awdurdod reoli lefel uwch y buddsoddiad a ragwelir sy'n ofynnol dros yr wythnosau nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
6.1 bod yr Adroddiad ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2021 yn cael ei dderbyn;
6.2 cefnogi'r camau sydd i'w cymryd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â'r cynnydd i derfynau y parti i gontract;
6.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR ei fod yn cadarnhau'r penderfyniad uchod [6.2] pan fydd yn derbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys i'w gymeradwyo maes o law.
|
|
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|