Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 14eg Chwefror, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Davies a W. Walters (y Prif Weithredwr)

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.A.L. Evans

6 - Cynllun Cyflawni Pum Mlynedd - Adfywio a Datblygu Tai (2022-2025)

Ei chwaer yn Brif Weithredwr Cymdeithas Tai

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 31AIN IONAWR 2022 pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2022 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

ADFYWIO A DATBLYGU TAI - CYNLLUN CYFLAWNI PUM MLYNEDD (2022 - 2027) pdf eicon PDF 725 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Bu'r Cabinet yn ystyried y Cynllun Cyflawni Adfywio a Datblygu Tai a oedd yn nodi cynlluniau'r Awdurdod i helpu i adeiladu dros 2,000 o dai ychwanegol ar draws y Sir yn ystod y pum mlynedd nesaf. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r Cynllun yn adeiladu ar lwyddiant y cynlluniau darparu tai fforddiadwy presennol, yn cefnogi twf economaidd drwy fuddsoddi dros £300m mewn cymunedau ac yn cefnogi'n uniongyrchol y camau gweithredu yn y Cynllun Adfer Economaidd, gan gefnogi busnes, pobl a lleoedd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

7.1

Cadarnhau y bydd y Cynllun Cyflawni - Adfywio a Datblygu Tai yn helpu i ddarparu dros 2,000 o dai i'w rhentu a'u gwerthu yn y Sir dros y pum mlynedd nesaf, gan ddiwallu anghenion tai, ysgogi adferiad a thwf economaidd, a chefnogi Egwyddorion Carbon Sero-net y Cyngor;

7.2

Cytuno bod yr awdurdod i gaffael tir ac adeiladau nad ydynt yn eiddo i'r Cyngor a nodwyd yn y Cynllun Cyflawni - Adfywio a Datblygu Tai, ynghyd ag unrhyw dir a/neu adeiladau eraill a fyddai'n ychwanegu gwerth at flaenoriaethau a dyheadau’r Cyngor o ran Tai ac Adfywio, yn cael ei ddirprwyo i’r Pennaeth Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Tîm Strategol Tai ac Adfywio;

7.3

Cytuno y byddai'r Cynllun yn chwarae rhan allweddol o ran cynyddu'r cyflenwad o dai rhent cymdeithasol yn ein cymunedau, gan gynnwys tai sy'n addas ar gyfer:

·       Cartrefi anghenion cyffredinol;

·       Llety arbenigol â chymorth i bobl ag anghenion cymhleth a;

·       Llety hyblyg y gellir ei addasu'n hawdd i bobl h?n.

7.4

Cadarnhau y bydd datblygiadau deiliadaeth gymysg, sy'n cynnwys tai ar gyfer rhent cymdeithasol, perchentyaeth cost isel a gwerthu ar y farchnad agored yn cael eu cefnogi trwy'r cynllun cyflawni hwn, gan greu cymunedau cytbwys, cryf a gwydn;

7.5

Cytuno y byddai'r Cynllun yn cynnwys darparu atebion o ran tai deiliadaeth gymysg hyblyg, arloesol newydd sy'n diwallu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio;

7.6

Cytuno y byddai'r Cynllun yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno safleoedd adfywio strategol y Cyngor trwy ddarparu mwy o dai i'w rhentu a'u gwerthu, gan gynnwys:

·       Adfywio Canol Trefi;

·       Trefi a phentrefi gwledig;

·       Pentref Gwyddor Bywyd Pentre Awel a;

·       Tyisha.

7.7

Cadarnhau y byddai’r tai a gefnogir trwy'r cynllun yn cael eu darparu gan ddefnyddio ystod o ddulliau cyflawni sy'n cynnig hyblygrwydd, graddfa a chyflymder;

7.8

Cytuno y byddai'r gwaith o ddarparu tai ledled y sir yn y cynllun yn dilyn yr ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy, gan adeiladu wardiau yn y Sir yn ardaloedd nodedig, sy'n cysylltu'n ddaearyddol ac yn ddiwylliannol.

 

7.

CYNLLUN RHEOLI ANSAWDD YR AMGYLCHEDD LLEOL 2022 - 2026. pdf eicon PDF 460 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad ar Gynllun Rheoli Ansawdd yr Amgylchedd Lleol 2022-2026, gan gynnwys y cynllun gweithredu, a oedd yn manylu ar gyfeiriad rheoli sbwriel y Cyngor yn y sir am y pedair blynedd nesaf. Roedd yn dangos sut y byddai sbwriel yn cael ei reoli a thrwy hynny gyfrannu at Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor, gan roi pwyslais arbennig ar Amcan Llesiant 10 – Amgylchedd Iach a Diogel; gofalu am yr amgylchedd ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Rheoli Ansawdd yr Amgylchedd Lleol 2022-2026 ar gyfer Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Cynllun Gweithredu Ansawdd yr Amgylchedd Lleol.   

 

8.

STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2022-2025 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cabinet yn ystyried y fersiwn wedi’i diwygio a’i diweddaru o Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2022-2025. Roedd y strategaethau yn nodi blaenoriaethau strategol y Cyngor i ategu'r gwaith o ddarparu dysgu digidol dros y 3 blynedd nesaf, ynghyd â chyfeiriad y technolegau digidol a fyddai'n cael eu haddasu gan y Cyngor i ategu'r holl wasanaethau digidol a gwireddu ei weledigaeth o fod yn "Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol”.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2022-2025.

9.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN Y CAMAU NESAF A CHYTUNDEB CYFLAWNI DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 550 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch cynnydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Diwygiedig ac, yn arbennig, effaith cyfres o ffactorau, materion a chanllawiau ar gynnydd a/neu gynnwys y Cynllun yn y dyfodol. Wrth fanylu ar y meysydd hynny, cynigiodd yr adroddiad gyfres o gamau nesaf a gofynnodd am gymeradwyo'r argymhellion i baratoi CDLl Adneuo Diwygiedig pellach i fynd i'r afael â'r goblygiadau sy'n deillio o'r materion a nodwyd a'u lliniaru a sicrhau ei fod yn cydymffurfio'n weithdrefnol ac yn 'gadarn' gan alluogi ei fabwysiadu.

 

Cyfeiriodd y Cabinet at ganllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar effaith amgylcheddol ffosffadau mewn cyrsiau d?r ar gyfer y 9 Ardal Cadwraeth Arbennig afonol yng Nghymru, a'r materion arwyddocaol yr oedd hynny'n eu codi o ran cyflawni datblygiad a chynnydd Cynlluniau Datblygu Lleol y mae'r canllawiau ffosffad yn effeithio arnynt gan atal yr ymgynghoriad a'r Cynllun rhag gwneud unrhyw ddatblygiad pellach. Croesawodd y Cabinet sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Tywi i fynd i'r afael â ffosffadau a pharatoi Cynllun Rheoli Maetholion.

 

Cyfeiriwyd hefyd at gynllun carbon sero-net y Cyngor erbyn 2030 gan nodi bod y Cyngor wedi arwain y gwaith o ddatblygu carboniadur drafft i'w ddefnyddio ledled Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

 

9.1

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiwygio amserlen y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig a chytuno ar ei gynnwys gyda Llywodraeth Cymru;

9.2

Ystyried cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r angen i baratoi ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo cyfunol a dogfennau cysylltiedig;

9.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ar y cyd â'r Aelod Cabinet dros Gynllunio sefydlu Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Tywi, datblygu ei gylch gwaith a pharatoi Cynllun Rheoli Maetholion;

9.4

Ar y cyd â chyrff cyhoeddus allweddol eraill, ymuno â'r bwrdd aelodaeth ar gyfer Bwrdd Rheoli Maetholion Afon Teifi, Afon Cleddau ac Afon Gwy.

 

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.