Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd E. Dole.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C. A. Davies

6 - Adroddiad 2018/19 Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Addysg a Gwasanaethau Plant - Adolygiad o'r Ddarpariaeth Bresennol ar gyfer Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chyfleoedd Chwarae.

8 - Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032

Personol - gweithredu meithrinfa i blant.

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 17EG IONAWR 2022 pdf eicon PDF 419 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2022 yn gofnod cywir.

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

6.

ADRODDIAD GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT 2018/19- ADOLYGIAD O'R DDARPARIAETH BRESENNOL AR GYFER ADDYSG BLYNYDDOEDD CYNNAR, GOFAL PLANT A CHYFLEOEDD CHWARAE. pdf eicon PDF 344 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd C. A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod]

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i'r Adroddiad Argymhellion, a gyflwynwyd gan Gadeirydd Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, ynghylch yr adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer Addysg y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chyfleoedd Chwarae.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant, yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2018, wedi cytuno i sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen i gynnal adolygiad o'r ddarpariaeth ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae. Lluniodd y Gr?p yr argymhellion sydd yn yr adroddiad ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd dan sylw mewn cyfres o gyfarfodydd rhwng Mai 2018 a Chwefror 2019. Cyflwynwyd yr adroddiad a'r argymhellion i Aelodau'r Cabinet ar 7 Hydref 2019, ond gofynnodd yr Aelodau am ragor o fanylion ynghylch y goblygiadau o ran cyllid, polisi ac ati. Ar 19 Ebrill 2021 darparwyd diweddariad i'w ystyried. Cam gweithredu o'r cyfarfod hwnnw oedd datblygu papur ar wahân yn cynnwys rhagor o wybodaeth mewn perthynas â'r adolygiad o'r trefniadau derbyn i ysgolion.

 

Cwmpas a nodau'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen oedd:

 

1. Adolygu darpariaeth y Cyfnod Sylfaen

2. Adolygu safon y ddarpariaeth

3. Adolygu'r ddarpariaeth o gyfleoedd chwarae

4. Adolygu'r ddarpariaeth o ofal plant

5. Y Cynnig Gofal Plant 30 awr

6. Polisi Derbyniadau Ysgolion Sir Gaerfyrddin

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant wybod i'r Cabinet fod Llywodraeth Cymru, yn ystod yr adolygiad, wedi cyhoeddi y byddai Cynnig Gofal Plant Cymru gyfan i blant 3 a 4 oed yn cael ei gyflwyno ledled Sir Gaerfyrddin o fis Ionawr 2019. Mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, ac mae'r argymhellion a wnaed yn adlewyrchu hyn.

 

Cadarnhaodd y swyddogion, pe byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, y byddai cynnig yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn yr haf a byddai ymgynghoriad ynghylch y polisi diwygiedig yn cael ei gynnal yn yr hydref.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Argymhellion Gr?p Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Craffu Addysg a Phlant ynghylch adolygu Polisi Derbyniadau Addysg Sir Gaerfyrddin.

7.

STRATEGAETH 10 MLYNEDD YR ADRAN ADDYSG pdf eicon PDF 417 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Strategaeth 10 mlynedd yr Adran Addysg. Mae'r strategaeth hon yn nodi'r weledigaeth ar gyfer y rôl y byddai'r gwasanaethau addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

 

Nodwyd bod y Strategaeth yn darparu'r canlynol:

·         trosolwg o feddwl strategol dros y 10 mlynedd nesaf.

·         gweledigaeth ar y cyd, datganiadau cenhadaeth a blaenoriaethau.

·         cyfeiriad sicr.

·         cipolwg ar yr edau euraidd o ran polisïau rhyngwladol, cenedlaethol a chorfforaethol

·         y prosesau a'r dogfennau Cynllunio Busnes wedi'u rhoi mewn cyd-destun.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ynghylch y canlynol:

 

7.1      cytuno bod y Strategaeth a'r 20 Darn Diben yn bodloni'r amcanion y cytunwyd arnynt a dyheadau'r Cabinet ar gyfer y Gwasanaethau Addysg.

7.2      cytuno ynghylch fersiwn derfynol Strategaeth 10 mlynedd yr Adran Addysg i'w lansio a'i chyhoeddi.

8.

2022-2032 CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG pdf eicon PDF 436 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd C. A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod]

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin, a phrif bwrpas y cynllun yw manylu ar sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu cyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn eu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.  Nod y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yw hyrwyddo cynnydd yn nifer y bobl o bob oed sy’n medru defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle.

 

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gyfrwng allweddol ar gyfer creu system gynllunio well ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.  Bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn darparu dull i Lywodraeth Cymru fonitro'r ffordd y mae'r Awdurdod yn ymateb ac yn cyfrannu at weithredu amcanion y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant fod y broses ymgynghori wedi'i chynnal dros gyfnod o 8 wythnos rhwng 4 Hydref a 29 Tachwedd 2021.  Cafwyd 862 o sylwadau mewn ymateb i'r ymgynghori ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r fersiwn diwygiedig o'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

9.

STRATEGAETH YNNI RANBARTHOL DE-ORLLEWIN CYMRU pdf eicon PDF 495 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Strategaeth Ynni Ranbarthol De-orllewin Cymru.  Nodwyd bod y strategaeth wedi'i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru a'i chefnogi gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Cafodd ei datblygu gan Gr?p Craidd Ynni De-orllewin Cymru, sef is-gr?p fforwm Cyfarwyddwyr Rhanbarthol y pedwar awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru, gyda chymorth ychwanegol gan Banel Cynghori a rhanddeiliaid rhanbarthol.

 

Amcan cyffredinol y strategaeth oedd datblygu llwybr strategol sy'n nodi ymyriadau allweddol i gyflawni uchelgeisiau'r rhanbarth ar gyfer datgarboneiddio ei system ynni.  Roedd senario ar gyfer Gweledigaeth Ynni wedi'i fodelu i nodi llwybr datgarboneiddio posibl a fyddai'n rhoi'r rhanbarth ar y trywydd iawn i sicrhau system ynni sero-net erbyn 2050.

 

Nodwyd bod chwe blaenoriaeth ranbarthol yn cefnogi'r weledigaeth:

·         Effeithlonrwydd ynni

·         Cynhyrchu trydan

·         Systemau clyfar a hyblyg

·         Datgarboneiddio gwres

·         Datgarboneiddio trafnidiaeth

·         Cydgysylltu rhanbarthol

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Materion Gwledig y byddai'n dymuno gweld y logos sy'n hyrwyddo'r pedwar Awdurdod Lleol sy'n rhan o'r strategaeth yn fwy amlwg yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

9.1     mabwysiadu Strategaeth Ynni Ranbarthol De-orllewin Cymru,

9.2     dirprwyo awdurdod i Swyddogion wneud addasiadau teipio neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb Strategaeth Ynni Ranbarthol De-orllewin Cymru.

10.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

11.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

12.

CRONFA CODI'R GWASTAD LLYWODRAETH Y DU - CANOL TREF CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 11 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am fusnes a materion ariannol penodol. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn, yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn tanseilio sefyllfa'r Cyngor mewn trafodaethau dilynol ac yn effeithio'n andwyol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar wybodaeth mewn perthynas â phrosiect strategol allweddol a fyddai'n defnyddio eiddo segur yng nghanol tref Caerfyrddin unwaith eto.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ar y canlynol:

 

12.1    cymeradwyo'r bwriad i brynu'r eiddo yng nghanol tref Caerfyrddin a nodwyd yn yr adroddiad ar y telerau y cytunwyd arnynt dros dro.

12.2.   adirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Adfywio a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cabinet dros Adfywio ac Adnoddau, i gwblhau'r telerau prynu a chwblhau'r pryniant.

12.3    dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Adfywio a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, mewn ymgynghoriad ag Aelodau'r Cabinet dros Adfywio ac Adnoddau, i ddyfarnu cam un y broses adeiladu (Penodi contractwr llwyddiannus a'u tîm dylunio cysylltiedig) a fydd yn cynnwys cynnal yr holl arolygon angenrheidiol, cael adroddiadau ac ymchwiliadau gofynnol a datblygu'r dyluniad cychwynnol i gael caniatâd cynllunio a chymeradwyo rheoliadau adeiladu.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau