Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Mawrth, 1af Mehefin, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

3.

EFFAITH CREDYD CYNHWYSOL A COVID-19 AR ÔL-DDYLEDION RHENT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.

4.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

5.

STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL 2021-2024 pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar fabwysiadu Strategaeth Trawsnewid Digidol ar gyfer y cyfnod 2021-2024. Nodwyd bod y Strategaeth, a fyddai'n disodli strategaeth 2017-20, yn seiliedig ar y cynnydd a wnaed dros y pedair blynedd diwethaf, roedd yn manylu ar flaenoriaethau a dyheadau digidol strategol y Cyngor ac yn amlinellu'r hyn yr oedd angen ei wneud i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin ddigidol dros y tair blynedd nesaf.

 

Nodwyd bod y Strategaeth yn rhoi eglurder ynghylch:-

·       Y weledigaeth ddigidol ar gyfer Sir Gaerfyrddin

·       Beth yw Strategaeth Trawsnewid Digidol

·       Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin

·       Meysydd Blaenoriaeth allweddol

·       Y prosiectau allweddol a'r deilliannau sydd i'w cyflawni

·       Yr Adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r weledigaeth ddigidol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021-2024.

6.

ACHREDIAD YMGYRCH Y RHUBAN GWYN pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch y Cyngor yn ymgeisio o’r newydd am achrediad gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben.  Nodwyd bod yr Achrediad blaenorol, a dderbyniwyd ym mis Awst 2018, bellach wedi dod i ben ac er mwyn adnewyddu’r achrediad roedd y Cyngor wedi paratoi Cynllun Gweithredu i'w gyflwyno a chael ei gymeradwyo gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn. Drwy gefnogi'r ymgyrch a chodi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, byddai'r Cyngor yn gweithio i fynd i'r afael â phob math o gam-drin a thrais, nid yn unig gan ddynion yn erbyn menywod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

6.1

Cefnogi cais y Cyngor am statws y Rhuban Gwyn;

6.2

Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu i'w gyflwyno i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i sicrhau achrediad, gan ddangos ymrwymiad y Cyngor i ddod â thrais gan ddynion yn erbyn menywod i ben;

6.3

Cefnogi'r ymrwymiad a'r cyfranogiad sy'n ofynnol gan swyddogion ar draws y cyngor i roi'r Cynllun Gweithredu ar waith.

 

7.

EFFAITH CREDYD CYNHWYSOL A COVID-19 AR ÔL-DDYLEDION RHENT pdf eicon PDF 641 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar effaith Credyd Cynhwysol a Covid-19 ar ôl-ddyledion rhent Tai Cyngor. Nododd y Bwrdd mai nod yr adroddiad oedd:-

·       Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefel yr ôl-ddyledion rhent gan denantiaid y Cyngor;

·       amlinellu cynlluniau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i liniaru'r effaith a chefnogi tenantiaethau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;

·       ceisio cymeradwyaeth i gynnal achos llys lle mae pob cam arall i ymgysylltu a chefnogi tenantiaethau wedi methu.

 

Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai wedi tynnu sylw'r Bwrdd at lefel yr ôl-ddyledion rhent a nodwyd ar dudalen 65 yr adroddiad sef £1.537m ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21, a dywedodd y dylid cywiro'r ffigur a nodi £1.193m, sef cynnydd o £69k o'i gymharu â blwyddyn ariannol 2019/20.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

7.1

Nodi lefel bresennol yr ôl-ddyledion rhent ac effaith Credyd Cynhwysol a COVID-19;

7.2

Nodi'r cymorth sy'n cael ei ddarparu i liniaru effeithiau Credyd Cynhwysol a COVID-19;

7.3

Cadarnhau y bydd y cymorth ariannol yn cael ei ymestyn o £100,000 i £200,000 i helpu tenantiaid sy'n cael anawsterau, lle mae COVID-19 a chaledi ariannol arall wedi effeithio ar eu hincwm;

7.4

Cadarnhau i ailgychwyn camau gorfodi a dechrau cychwyn achos llys lle mae pob dull arall o ymgysylltu a chefnogi tenantiaid wedi methu.

 

8.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

9.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y BWRDD, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

10.

DATBLYGIAD PRESWYL AR DIR YNG NGORLLEWIN CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 9 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai gael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch gwaredu tir sy’n eiddo i’r Cyngor yng Ngorllewin Caerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

10.1.

gymeradwyo gwaredu'r tir datblygu preswyl yng Ngorllewin Caerfyrddin drwy weithdrefn gaffael agored i alluogi darparu cynllun preswyl deiliadaeth gymysg.

10.2 

Rhoi awdurdod dirprwyedig i Benaethiaid Adfywio a Chartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, mewn ymgynghoriad ag Aelodau perthnasol y Bwrdd Gweithredol, i drafod a chofnodi telerau priodol ar gyfer gwerthu'r tir a chaffael y cartrefi rhent cymdeithasol ar ôl hynny